Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Cwestiwn G-orfodaeth.

Y Sefyllfa Wleidyddol.

14-r. Lloyd George.

"X Rhagymadrodd."

Effeithiau'r Datganiad.

Mr. Lloyd George yn Ateb.

Airaith. y rrifweinidog.

Adolygiad Arglwydd Kitchener.

News
Cite
Share

Adolygiad Arglwydd Kitchener. Yr un dydd yn Nhy"r Arglwyddi, yr oedd Arglwydd Kitchener yn adolygu gorffennol y rhyfel. Calonogol a gobeithiol oedd ei gyweir- nod yntau, er mai'r agwedd filwrol oedd ei faes arbennig ef. Nid oedd yn yr adolwg fawr o ddim nad ydym yn gyfarwydd a hwy trwy'r papurau; eto tynnodd dau osodiad o'i eiddo sylw cyffredinoi, sef ei ddatg'aniad fod Ger- mani bron ymhen ei thennyn yn y dwyrain; ac y gall ei holl fuddugoliaethau yno droi allan yn y pen draw i fod yn ddim ,gwell na gorch- fygiadau mewn rhith. Mae"r newyddion di- weddaraf o'r rhan ogleddol o'r ymgyrch yn ad- rodd am ychwaneg o lwyddiant i'r Germaniaid, fel yr ofna rhai fod hyd yn oed Kitchener yn rhy obeithiol. Ond arhoser cyn barnu; gall y sefyllfa newid yn raddol, fel y mae eisoes wedi gwneud yn Galicia. Drachefn, wrth son am y Dardanels, dywedodd fod arwyddion, fod gwrthsafiad y Twrc yn gwanychu, a'u hysbryd yn amlwg yn torri .i lawr. Hyderwn y profa dwy broffwydoliaeth Arglwydd Kitchener yn wir.

Y Rhyfel.

Wythnos y Gyllideb.