Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

-"-_---. NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. Nid pavvb wyr mae'n ddiau fod yna gysyllt- iad ag-os rhwng C'astell Brenhinol Windsor a Chymru, canys adeiladwyd Capel prydferth St. George yn y lie cyntaf yn ol cynllun Inigo Jones, yr archadeiladydd Cymreig' adnabyddus ac enwog. ->»$*■- — --+- Ni raid i Gymru heddyw g-ywilyddio o'i meibion: mewn unrhyw gylch, canys safant ysg- wydd yn ysgwydd1 a'r goreuon. Gwelir ei chyn- yrchion hyd yn oed yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain. Ymhlith y darluniau enwog yno y mae naw o waith Richard Wilson, un o sylfaen- wyr y Royal Academy, ac un o Landscape Painters enwoca'r deyrnas. -ó- -+, Danfonodd LIenor o fri gyfansoddiad i Eis- teddfod Genedlaethol Bangor i'r beirniaid, ond erbyn dyddiad: cynhaliad yr eisteddfod nid oedd yn sicr o'r ffug-enw ddefnyddiodd, a phan v clywodd enw'r bud'dugwr nid oedd ganddo wel- edigaeth eglur, a thrwy rhyw sylw o eiddo'r Beirniad y deallodd yn sicr mai efe enillodd y 11 awry f. Dywedir mai temtasiwn fawr i bregethwr yw pregethu hen bregeth, a thrueni mawr fyddai peidio pregethu ambell un drosodd a throsodd drachefn. Ond nid doeth o, leiaf gwneud hyn yn, lleoedd amlycaf y bobl yn enwedig pan y disgwylir llawer o'r un pobl yno i wrando. Da wrth dipyn o newid bwyd. -+- Ail-agorwyd Capel Cruglas, Abertawe, ar ol t, ei adhewyddiad y Saboth cyn y diweddaf, ac yn awr y mae yn un o'r capeli glanaf yn, yr ar- dal, ac er fod y draul yn ymddangos yn, bur drum ar y cychwyn, trwy ychydig ymdrech ac aberth cafwyd modd i dalu'r biliau i gyd ddiwrnod yr agoriad. --4>- Mae bwrdd cenhadol y m etlio(listilid, yn Unol Dalaethau America yn anfon Mr. Lewis Evans, ChicagHo, i India fel cenhadwr lleygol y mis nes- af. Biydd ei briod yn myned allan gydag ef. Hefyd trefnir i sicrhau athrawes o Calcutta i lafuno yn y maes cenhadol. Mae y Dirprwywyr o dan Ddeddf Datgysyllt- Jad yr Eglwys yng Nghymru wedi lledaenu papurau yn, gofyn am fanylion am eiddo yr Eg- hvys yng ngwahanol blwyfi Cymru, y papurau 1 w dychwelyd i Swyddfa y Dilrprwywyr erbyn yr 2ofed o Dachwedd y fhvyddyn hon. Dywed Y Llan fod hyn yn myned yn gro-es i orchymyn y Cyfrin-Gyngor. Ond teg yw dweyd mai n casglu gwybodaeth yn unig y mae'r Dirprwy- wyrerbyn y daw'r Ddeddf i weithrediad. Ac nid yw hyimy yn groes i archeb y cyngor. -+- ,-+- -+- Llawenydd mawr yw'r newydd fod Mabon i bob ymddangosiad wedi cael adnewyddiad .lechyd ac wedi adfeddiannu llawer o'i nerth, ac yn gallu ail-ymaflyd yn ei ddyledswyddau sen- eddol. Amheuthyn oedd ei weled yn Nhy'r Cyffredin, yr wythnos ddiweddaf wedii bod yn absennol am gryn ysbaid. Mawr hyderir y gedl etc gymryd ei le vn y cvfwng- fel arwein- ydd ei bobl. b -&- --q- Ar ryw obvg y mae dylamvad arweimvyr y Gweithwyr Glofaol yn bur fawr, ond ar olw,gf arall corsennau ydynt yn ysgwyd gan wynt heb neb yn malio ond ychydig danynt. Nid cynt nag" y cytunir ar ('elerau ac y concrir un anhawster nag y loddir bod ,i anhawsterau eraill, a g'res- yn i'r eithaf yw y cymerir mantais annheg a'r amseroedd enbyd fel hyn .i fynnu ein holl iawn- derau ar draul peryglu diogelwch y wlad. zD uav cnw da Cymru i w aradwvdd. -e'M'{ 'C""111M:8111!' Arwyddodd Mr. Ellis Griffith, yr aelod dros Fon, ddeiseb at Mr. Asquith yn, gofyn iddo dderbyn dirprwyaeth o blaid g-orfodaeth fil wr- ol. Dywedir fod Mr. Lloyd George o blaid gorfodaeth, hefyd. --+- -+- Yn ei lyfr ar "Ryferthwy Iwrop," ceir gair gan Dr. Roberts, Caerwys, ar ei brofiad o'i ar- hosiad yn Germani. Wedi cael cyfle i ddeall gwir deimlad y Germaniaid at Brydain, dywed nad oedd yn un syndod iddo weled yr Almaen yn cymryd y cleddyf i fyny yn ein herbyn. "Oblegid ni all un amheuaeth fod nad daros- twng" Prydain ydoedd yr amcan mawr mewn golwg gan awdurdodau'r AImaen. "Os ydyw yn ddyledswydd ar ddyn ac ar genedl i amddi- ffyn, y gwan, ac i wrthwynebu angiiyfiawnder, yna dywedwn fod gwrthwynebiad Prydain i'w lwyr gyfiawnhau, a'n bod yn gwneuthur gwas- anaeth i Dduw trwy roddi ein holl alluoedd ar waith er sicrhau bud'dugoliaeth." -0$-- Pan sonnir yn LJundain am y Gymanfa Gyff- redinol ddiweddaf fe gyfeirir yn arbennig, ond odid, at anerchiad grymus y Parch. R. R. Rob- erts, Bi.A., Ll.B., Caer, yng' nghyfarfod y bobl ieuainc fel un y bydd ei ddylanwad yn fawr a pharhaol ar y rhai a'i clywsant. Y mae Mr. Roberts wedi addaw myned1 i Willesden Green nos Iau, y 14eg o'r imis nesaf i draddodi an- erchiad, ar destun o'r un nodwedd, ac y mae'n ddiameu y byddi yn dda gan laweroedd o Gym- ry Llundain gael y cyfle o wrando ar y gwr athrylithgar eto. Y mae Mr. O. Morgan Owen, Charing. Cross, wedi addaw, yn garedig, a chymryd y gadair yo, y cyfarfod. -+- -+- -+- Hyfryd iawri yw gweled eglwys yn credu'r goreu am ei gweinidog, ac ychydig o lwydd ellir ei d(lis,wyl ar wahan i hynny. Priodol od- iaeth yw cyngor yr Hybarch Robert Jones, Uanllyfni, "Amddiffynwch o. Os ydi o yn game mae'r cythraul yn siwr o saethu ato fo. Tydi"r cythraul ddim mor wirion a saethu at ryw frain a phiogod o ddynion,, a rh'w greadur- iaid diwerth felly. Ond os yd'i'r bachgen yma yn, game, mi g-eisith y diafol i ore i'w saethu fo. 'Rydw i yn game, y mae'r gwr drwg wedi saethu llawer ergyd ata i. Ond saethed i waetha, mi fydda i wedi mynd allan o'r coed y mae gyno fo license saethu yn bur fuan." Dangos ei hun yn wan wnaeth Bwrdd Gwarcheidwaid Llanelwy yn ddiweddar yn ol hanes ymddangosodd yn y "Cymro" pan ddaeth cais oddiiwrth dafarnwr am gael un o fechgyn yr undeb i'w wasanaeth. Daeth cais i'r un perwyl at y Bwrdd yn Undeb C'onwy dro yn ol, asicrheid fod y teulu geisiaii y bachgen i'w gwasanaeth yn garedig a pharchus. Nid oedd neb yn amheu hynny, ond ni theimliid fod y fas- nach yn un barchus iawn, a gwrthodwyd y cais trwy fwyafrif. -4- Traddodwyd darlith yn Soar, ger Tregaron, prynhawn dydd Gwener y iofed cyfisol gan yr Athro Joseph Jones, B.ID., Aberhonddu. Daeth torf luosog ynghyd i wrando yr Athro yn I ymdrin, ar pwnc, '"Dyled Gwareiddiad i fan genhedloedd." Llywyddwyd mewn dull d'e- heuig gan Mr. John Rowland, Y.H., M.V.O. Cyfaill calon i'r achos yn Soar yw efe. Ni fu cyfarfod o'r -math hwn erioed! o'r blaen yn Soar, a golygfa ddyddorol oedd gweld y dorf yn wyr a gwragedd yn dod bob un ar ei ferlyn i wrando y ddarlith. Nid gormod aberth oedd' ganddynt adael y cynhaeaf a dod i'r addoldy erbyn hanner awr wedi pedwar i glywed rhywbeth am nerth oenhedloedd bychain. Hoff yw"r athro o'r pwnc hwn, ac ni chlybuwyd ef erioed yn traethu yn fwy effeithiol nag 1 wyr a gwragedd Soar ar y liiynydd. "=a.'I-41 Mae yr ychwanegiadauat adeiladau helaeth ysgol sir Aberystwyth ynifon a bod yn barod. Costiant dros dair mil o bunnau. Disgwylir Lady Sheffield i'w hagor. I-+- -+- Dyma ffordd gwarcheidwaid y tlodion yng Nghaerfyrddin i gynhilo rhoddi coffi a bara a chaws i'r tlodion ganol dydd yn lie cig a thatws. Faint o'r gwarcheidwaid eu hunain, tybed ? fu- asai yn barod i fyned o dan y ddeddf newydd yna ? -+- -+- "Modified Eisteddfod" sydd i'w chynnal yn Aberystwyth yn 1916. Wrth hyna y golygir Eisteddfod; tri diwrnod, heb bafilion. Bwriedir ei chynnal mewn pabell fawr, a disgwylir Mr. Lloyd George yno. -+- -+- Of air y rhaid galw am 9s. neu 10s. y bunt oddiar y rhai a arwyddasant y bond at dalu treul iau Eisteddfod Bangor. Ni wneir fawr o sylw o'r apel am danysgrifiadau. -+- -+- Aeth Patrick O'Neill, 65, Hadli ild Street, Old Trafford, Manchester, i Dreffynnon wrth ei faglau dydd Mercher diweddaf. Aeth i'r ffynnoil, a daeth nerth yn ol i'w aelodau, a cherddodd adref heb ei faglau. Dyna hanes syml y wyrth ddiweddaf a gyflawnwyd yn y Ffynnon. -+- -+- Pum' mil y flwyddyn yw y draul o symud gweinidogion, y Wesleya,id o'r naill gylchdaith i'r llall. Er fod y swm yn edrych yn fawr, o'i gymharu ar hyn a werir gan y Methodistiaid Cafinaidd ar deithio wythnosol, nid yw ond bychan --4- Mae amryw o'r aelodau Cymreig yn barod i droi eu cyflogau yn ol "os na bydd hynny yn gwneud gwahaniaeth poenus rhyngddynt hwy a dynion eraill." Da iawn gennyf weled fod gofal am deimladau eu gilydd yn ras mor am- lwg yn hanes yr aelodau Cymreig. Nidi felly y mae wedi bod; ond mae'r tiycl yn gwella. -+- Galwyd sylw gan frawd o weinidog gyda'r Methodistiiaid ymM wrdd Gwarcheidwaid Con- wy at drymder llethol y trethi. Crect: ef yn gryf mewn gwelliannau cymdeithasol ond teimlai fod yn llawn bryd i arfer gwyliadwriaeth a chynil- deb. Mynegodd deimlad miloedd yn y wlad, ac ni fyddaii yn rhyfedd gweled gorfodaeth yn z!5 cael ei harfer i sicrhau darbodaeth. -4- Gwelais yn, ddiweddar rai gweilllidogion ieu- ainc wedi llwyr eillio eu hwynebau, ac nid oedd- wn ar unwaith yn eu hadnabod heb eu mous- tache. Nid yw hyn yn awgrym o gwbl eu bod yn nesau at eglwysyddiaeth neu babyddiaeth, ond credaf y gwnaed y cyfnewidiad i ddibenion areithyddiaeth, ac y mae llawer i'w ddweyd dros hyn. Anfynych y gwelid "cuffs" gan I Y bregethwr mwyaf areithydd-ol Cymru gan yr ys- tyriai eu bod yn rhwystr iddo yn ei symudiadau. Bu Mr. Haydn Jones, A.S., yn agor ysgol- dy newydd hardd Glyndyfrdwy, a chyfiawn- haodd y gwario mawr sydd ar ysgoldai drwy ddweyd mai y plant yw gobaith y dyfodol. Mae'r rhyfel yn gwneud yn bwysicach nag erioed fod gofal priodol yn cael ei gymryd o'r plant. Ond nid' yn erbyn hynny y cwynir. Cwyn y trethdalwyr yw fod gormod: yn cael ei wario ar adeiladau, a rhy fach ar y plant. Goferir am awyr iach ond nid ar awyr iach yn unig y bydd byw plant. Dyna'r gwyn a glywir ym Meirion a llawer lie arall, a da yw gweled Mr. Haydn Jones yn ei hateb. Lied ddistaw yw'r aelod dros Feirion wedi bod er ys tro. Ond mae'n amlwg ei fod yn para yn ellro.