Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
L/yfrau Crhoeddedig acArgraffedig yn Swyddfa'r Cymro Dolgellau. Esboniad i Blant ar Efengyl Marc (E—VIII). CAN Y PARCH H. LEFI JONES CROESOR PRIS CEINIOG. I'w cael oddiwrthyr Swyddfa'r Cymro.' -=. GWERSLYFR AR Hanes Moses, Jostia, Samson 1 a Sanitte!, I Maes Llafur i'r Plant odan i6eg oed yn Ysgolion J Sabbothol y imethodis-tiaid 'Calfinaidd yn Lleyn ac Eifxoriydd, Ebrill, 1915-Mawrth, 1916. I Gany •„ ■. PARCH W T ELLIS, B.X.B.I). r" rORTHMAlX)Vt. p RIS, DWY GEINIOG. Gwersi Esboniadol ar yr Epistol at vr Hebreaid. GAN. Y j Parch. T. E. DAVIES, Abertawe. Pris mewn Amlen.Bapur, is. 6c. mewn Llian, 2s. Trwy'r Post, is. 8c. a 2s. 2c. I'w cael oddiwrth yr A wdwr- FFYNONE TERRACE, ABERTAWE.
BIRMINGHAM.
News
Cite
Share
BIRMINGHAM. Priodas W. Parry, Ysw., Talybryn, Bwlch, Brych- einiog, yn Birmingham.—Daethai ein cyfaiM calon- nog a'i ddewisiol ddarpar wraig, sef Miss Morris, o Maenerst Court, Brycheiniog, i fyny i Birmingham' i fyned drwy y seremoni ddyddorol o ymbriodi, yn ol mae' ndebyg, berswad ei werthfawr chwaer ef, Mrs. Thomas, a'i chwaer hefyd y wraig rinweddol a chyfrifol1 imrs. Principal Prys, M.A. Y mae Mrs. Thomas a'i hoffus briod Mr. J. 0. Thomas, yn byw yn eu 'cartref llawn, clyd, a swynol a elwir Rose- leigh,' yn Bristol Road, a'u tri 0. blant addawol— dau o feibion ac un ferch. Y bwriad cyntaf ydoedd fod y briodas i gymeryd lie yng nghapel y M.C. Suffolk St., ond trodd allan yn hwyrach fod Suffolk Street ychydig fesuriad allan .o'r cylch neu derfyn cyfreithiol; ac nas gellid ei ehynnal yno ac maiyn Selly Oak y rhaid gweithredu. Rhanbarth boblog o'r Birmingham helaethedig ydyw Selly Oak, ac yno, yng nghapel y Wesleyaid Seisonig yr aed drwy y seremoni'yn gyfreithiol am jn.30 am., Ebrill v 2gain diweddaf. Ymddangosai'r gweinidog 'Parchedig yn awyddus i brynu yr amser,' ac eglurai i ni ym- hellach ei reswm am hynny, a dywedai hynny, er dymunoyn dda, ac o galondid i'r par ieuanc,—' fod arno eisieu myned i Colwyn Bay, i dalu ymweliad a'i wraig oedd yno yn adgryfhau iechyd, ac hefyd i ddathlu yno eu silverwedding ar y dydd hwnnw.' Fel y dywedwyd, yn Roseleigh y dathlwyd y briodas. Nid oedd y parti yn lluosog, er yn ddethou- edig. Heblaw y par ieuanc, sef Mr. 'Parry a Miss. Morris, ynghyda 'Master Emrys Parry (yr hynaf o ddau o feibion) daethai ei brawd a'i wraig, sef Mr. a Mrs. o Gymru, ynghyda'r teulu yn 'Roseleigh.' Ac un arall, nas gall1 y byd lai bellach na'i alw yn henafgwr profedig, yr hwn hefyd a safai wrth ochr y priodfab, megis ag y safai 'Mrs. Morris wrth ochr y briodferch. Yn fuan wedi dychwelyd o Selly Oak, cafwyd y brecwast yn Roseleigh a phwy o neb teulu, o galon ac o fedr am baratoi gwledd a bwrdd hafal i deulu Roseleigh ? Ac ar ddymuniad penodol y priodfab, dygwyd y cwbl ymlaen mor ddir- westol a bwrdd y brenin. Eto, ar awgrym y priod- fab (oherwydd amgylchiad lied ddiweddar), nid oedd llwnc-destun i fod, i greu dim ysgafnder neu rial- twch, eithr tawelwch prydferth a sanctaidd. Yn unig, galwodd gwr y ty ar yr henafgwr i roddi, yn ol ei ddoethineb a'i brofiati ef—' dipyn o gyngor inni.' Ufuddhawyd i hynny, os nad yn y mesur hir ar y mesur byr dwh: Yn ddilynol i hynny, aed i'r grounds helaethion a blodeuog i eistedd o flaen yr arlunydd. Yn ffodus, yr ydoedd Rhagluniaeth wedi agor mynwes natur, y boreu hwnnw'n llawn, i'n croesawu—gwely, o fil o Tulips pedwar lliw wrth ein heisteddle! Aeth y parti yn gyfan i ddanfon y par ieuanc mewn tri modur i orsaf y G.W.R. erbyn 4 o'r gloch, i fynd efo'r tren i Torquay i dreulio eu mis mel. Ac am 5 o'r gloch dychwelodd Mr. a Mrs. Morris ynghyda Master Parry, yn eu modur am Frycheiniog. Y mae Mr. Parry yn adnabyddus i Fethodistiaeth ymhell o gartref, fel gwr haelionus iawn a mawrfrydig ryfeddol, heblaw llenwi cylch cartref fel blaenor yn y capel, a ch-efnogydd parod a'i lais, ac a'i boced, bob symudiad daionus, &c., yn grefyddol, ac yn wladol, &c., ac nid ami' yr etyl terfynau Enwad nac ardal ddim arno. A llon- gyfarchwn ef ar ei ddewisiad o igiydmar bywyd, sydd mewn oedran aeddfed, o synwyr cryf, a chrefyddol1- der dwfn. Da gennym weled ei fod, er yn ieuanc, wedi etifeddu, ac yn dlyn llwybrau ei dad hyglodus a'i nodedig fam—Mr. a imrs. J. Parry, Talybryn. Y mae Miss 'Morris hefyd (sef Mrs Parry 'bellach) hithau o hen gyff a gwerth Methodistaidd adnabydd- us yn y fro honno. Gwir iawn v cana Tafolog, pan ddywed yn ei gan glodwiw i'r Fodrwy briodaoJ, Y fodrwy briodasol sydd I'r enfys yn tebygu; 'Pan y tywylla cwmwli prudd Anghydfod wybr y teulu, Y fodrwy'n enrys aur a roed I atgoffa'r cyfamod3 Gan doddi'r pleidiau yn ddioed Yn ddiddig un mewn cymod." Ac Eben Fardd Uno hyd farw anadferol-a fedr Y Fodrwy ddaearol: Yn y fodrwy anfeidxol Uner y ddau—hon yw'r ddol." Yn y 'Ddol' hon, caffer iMr. ta 'Mrs. Parry, a'r teulu am byth, wedi oesddedwydd hir. T.J.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GENI, PRIODI A MARW. G EN EDIG AETH AU. Hughes.—Ebrill 24, priod Mr. Charles Elfyn Hughes, 'Swyddfa'r Faner, Dinbych ar fab (cyntaf- anedig). PRIODASAU. Davies—Abercromby.—Mai 5, yng nghapel M.C. Pencaenewydd, gan y Parch. W. Jones, M.A., Fourcrosses, Mr. John Moreton Davies, Angorfa, Pencaenewydd, Eifionydd, a Miss Ellen Aber- cromby, Norwood'Grove, Liverpool Davies—Andrews.—EbriOl 29ain, yng nghapel M.C. Dyffryn, Llandyrnog, gan y Parchn. J. D. Jones, Gellifor, a J. D. Owen, Bodfari, yn cael eu cyn- orthwyo gan Mr. 'Morris (cofrestrydd), Mr. Charles Davies, Geinas Mills, Bodfari, ger Dinbycl a. Miss Lizzie Andrews, merch hynaf Mr. David Andrews, Penywern, iLlandyrnog, ger Dinbych. I., Ev,ans-Ðiavies.- EbriH 22ain, yng nghapel .M.C. Laird Street, Birkenhead, gan y Parch. T. J. Row- lands, M.A., B.D., Mr. Robert Evans (ieu.) Llech- wedd, Llandrillo, a Miss Jemima Davies, trydydd ferch Mr. Henry Davies, Ty iCapel, M.C., Llan- dyrnog, Dyffryn Clwyd. Hughes—Jones.—Mai 4ydd, yn Ebenezer, Four- crosses, gan y Parch. W. Jones, M.A., Mr W. O. Hughes, Nyffryn, Llaniestyn, a Miss Mary Jones, Carnguwch. Fawr, nith y diweddar Barch. J. R. Jones, Maelgwyna iMon. Jones—Roberts.—Ebrill 28, yng nghapel yr Annibyn- wyr Albion, Southampton, Mr. William Owen Jones, ail fab Mr. William Jones, Y.H., Penbryn- isaf, Talsarnau, a Miss Laura Roberts, nerch ieu- engaf Mr. a Mrs. John Roberts, Tregwylan. Owen—Thomas.—Eibrill' 30, yng. nghapel Waterloo, Liverpool, gan y'Parch. William Henry, Mr. T. E. Owen, 62, Eaton Avenue, Litherland, Liverpool1, a Miss Mary Thomas, merch Mrs. Thomas, Ty'ny- ffordd, Ystradmeurig. MARWOLAETHAU. Davies.—Ebrill1 20, yn 76 mlwydd oed, iMr. William Davies, llyfrwerthwr, Glynceiriog.. Davies.—Ebrill 27, yn 75 mlwydd oed, Mrs. Eliza- beth Davies, priod Mr. Daniel Davies; Trisant. Cymerodd yr angladd le y dydd Sadwrn dilynol, y Parchn. T. Mason Jones, W. Richards, Llanon, a D. Lewis, yn gwasanaethu. Ellis.-M,ai 5, yn 74 mlwydd oed, Mr. Samuel Ellis, Stone House, Lanfaircaereinion. Hughes.—Ebrill 28, yn 35 mlwydd oed, Mrs. Hughes, annwyl briod Mr. Robert Hughes, Glyn Cottage, Llanynys. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y 'Parchn. O. G. Griffith, Peniel, Pierce Owen, Rhewl, a John Roberts, Bolton. Hughes.—Mai i, yn 86 mlwydd- oed, Mrs. Rees., gweddw y Parch. Evan iRees, gweinidog gyda'r Wesleyaid, 'Penrhyndeudra.eth¡. Yr oedd ei sel' yn fawr at bob achos da. Cymerai ddyddordeb mawr 'yn y iCenhadaethau a'r Sefydliadau dyngarol. Yr oedd yn ffrynd mawr i Spurgeon, ac yr oedd wedi gwneud yn rheol i roddi pob tair ceiniog wen yn y bocs at Sefydliad !Dr. Barnardo. Casglodd rai degau o bunnau felly i'r sefydliad rhagorol hwn, a gellid dweyd iddo gyfrannu yn helaeth at wa- hanol sefiydliadau crefyddol. Bu yng ngwasanaeth Arglwydd J. Russell, a meddai atgofio-n dyddorol am dano. Cafodd ergyd o'r parlys a bu farw yn sydyn. Cymerodd ei hangladd le dydd Mawrth, ym mynwent yr eglwys. Gwasanaethwyd gan y Parch. H. D. Jones, Gorphwysfa, a'r Parch. J. Hughes, Gorphwysfa. Jones.—Mai i, yn 44 mlwydd oed, Mrs. Susannah Jones, annwyj briod Mr, D. T. Jones, 26, Maesy- coed, Dinbych. Jones.—Ebrill 22, yn 29 mlwydd oed, Mr. John Jones, Rhandir, Bylchau, ger Dinbych, aelod ffyddlawn o eglwys Penycefn. jo,nes.Mai i, yn 73 mlwydd oed, yn Nantiesyn, Aberdyfi, Sarah, gweddw Mr. John Jones, Blaenau Ffestiniog, a mam P. C. John Jones, Æala. Jones.— Ebrill 26, yn 92 mlwydd oed, Mr. Edward Jones, Grapes Hotel, Maentwrog, aelod ffyddlon o eglwys y Methodistiaid. Jones.—'Mai 3ydd yn dra sydyn (Mrs. Jones, priod Mr. William Jones, 25, Water 'St., Penmaenmawr. Gadawodd weddw a saith o blant bychain. Roberts.—Ebrill 27, yn 67 mlwydd oed, Mr. Robert Roberts, Ty'nyfynwent, Llanrwst, blaenor yn eg- lwys Melinycoed. Roberts.—Mawrth 13, yn Cambria, Wis., yn 75 ml. oed, Mr. James W. Roberts, ibrodor o Sir Feirion- ydd. Roberts.—Ebrill 28, yn 83 mlwydd oed, Miss Margar- et Roberts, Hen Felin, Llaneilian, Mon, nith ferch brawd i'r 'Parch. William Roberts, Amlwch. Thomas.—ytbrill1 30, yn 57 mlwydd oed, Mrs. Thomas, Post Office, Abergynolwyn, gweddw Mr. John R. Thomas, gynt ysgolfeistr yn Abergynolwyn. >
MARWOLAETiH MR. WILiLIAM JONES,…
News
Cite
Share
MARWOLAETiH MR. WILiLIAM JONES, A.S. Drwg genym hysbysu marwolaeth Mr. William Jones, yr aelod s.eneddol dros. Arfon, yr hyn a gym- erdd Ie ddydd Saboth diweddaf, ar ol cystudd maith, ym Mangor. Cymerai yr angladd le yn. Llangefni, ddydd Mercher. Bydd erthygl air Mr. Jones, ei gymeriad a'i waith, yn y rhifyn nesaf.
Y GYMRAES:
News
Cite
Share
Y GYMRAES: Cyhoeddiad Misol i Ferched Cymru. DAN OLYGI AETH OERIDWEN PERIS, PRIS CEINIOG Y MIS. CYNWYSIAID RHIFYN MAI, 1915. Blodeuvn ar Fedd Miss Margaret E. Marsh', Bos- combe, g,an IMiss Ellen IHughes, Llianengan. Rhag- s Dyfeill,a,ch-,Rut-h a Boaz, gan y Parch. R. Williams, M.A., Glan Conwy. Adolygiad—Corigl y Plant. 'Pechodau yn galw am Geryddon- Yr Americawnr a'r Golygydd. Fesul Tamaid. Ystori:. Miajria Martin- eau, pen. 1., gan A wen Mon a. Luther a Phregeth yr Aderyn. Y rhiai a hunasant—Miss Alice Thomas, Coedllai (gyda darkin), Mrs. Margaret Jones, Pant- goleu, Rhostryfan. ",Di.a-rh.ebion' Nlf, 'ai-Adnod v Mis. Merch y Mynydd, gan J. Owen, Hodffordd. Siarad- wch Gymraeg a mi, gan Dewi Caron. Modrwy Cyfeillgarwch, gan (Nathan Wyn. Undeb DiTwest- ol1 Merched Gogledd Cymru.
YLLADMERYDD :
News
Cite
Share
YLLADMERYDD Cronicl yr Ysgol Sabothol. DAN OL YGIAETH Y Parchn. E van Dtvies, Trefriw; T. E. Davies, Abertawe, a D Jenkins, Ysw., Mus. Bac. PRIS DWY GEINIOG. CVXWYSIAD RUU'VN MAI, 1915. Nodiadau Amrywiol, gan Parch. Evan Davies, Tre- friw,Y Pharise-aid, a't 1S,a,duceaid, Savmau y Phari- seaid, Dychweliad yr Iddewon i Wlad 'Caniaan, Gwir- ionedd mawr Cristionogaeth. Y Dewis. Goreu, gan y Parch. T. E. IDavies, Abertawe. Diwinyddiaeth, gan y Parch. W. E. Prytherch, Abertawe. Yr Ysgol Sul, gan Capt. Thdrhas Owen, Tydweiliog. Gwersi Undeb yr Ysgolion Sabothol'—Ail Epis,tol Paul at y Corinthiaid, gan y Parch. T. E. Davies, Abertawe. Gwyrthiau lesu Grist, igan y Parch. Evan Davies, Trefriw Nodiadau ar Lyfrau Ton Cariad Crist," gan Mr. Pencerdd Williams, Llangollen. v
AT EIN GOHEBWYR.
News
Cite
Share
Y GORLAN: Cofn,,dydd Misol dan naiwdd Eglwys Charing Cross Road, Llundain. DAN OL YGIAETH Y Parch* Peter Hughes. Griffiths, PRIS CEINIOG. Drwy y Post is. 6c. yn flynyddol ¡,r. CY.YWYSIAD RHIFYN MAI, 1915. Arall; Undeb Ysgolion Sabothol M.C. Llundain; Gwaldys Eluned Cloch y Llan; Gitanjali; The ¡Peril of Materialism (Registry Office; War Difficulties Cyf. 772, "Aed Newyddion Iach- awdwriaeth." Cyf. 213, "Peraidd Ganodd Ser y Bore. Hyn ac Arall1; He Saw: He Sees; Mother's Hairpin; Dyddiadur am y Mis; Charing Cross. Chapel.
---CYFARFODYDD MISOL.
News
Cite
Share
(5) Dosbarth dan 8 oed, Ysgrifennu gartref mewn inc, Rhodd Mam yr Undeb." Dyddiad yr Arhol- iad Mawrth 16eg, 1916. Ymhellach, penderfynodd y C.M. ar fod y materion canlynol yn faes llafur yr ysgoliion am y flwyddyn hon :—Dosbarth Pob Oed, 2 Cor. Dan 21, 16, a 13, Gwyrthiau yr Arglwydd lesu. (b) Pwyllgor yr Achosion Saesneg. Derbyn- iyw adroddiad yr ymwelwyr a'r Af on wen, a phasiwyd i ofyn am grant o £25 i'r eglwys bon. Cadarnhawyd hyn gan y C.M. (2) 0 eglwysi :-Penycefn, Llian- sannan, penodwyd y Parch. J. D. Jones, Gellifor, a Mr. John Evans, iLlansannanj i gymeryd llais yr eg- lwys hon yn newisiad swyddogion. Hyn i gymeryd lie Mai 16.—Galltmelyd—Gofynwyd i'r C.M. gyf- lwyno dio:chgarwch i Mr. E. H. Millward, Aber- gele;, am ei haelioni tuag at yr eglwys hon, a gosod- wyd ar yr Ysgrifennydd i wneud hyn. (3) 0 Ddos- barthiadau: Hysbyswyd fod y personau canlynol wedi eu dewis ynymwellwyr eglwysig yn Nosbarth Rhuthyn,-y Parchn. T. Elwy Williams, L.T.S.C., a Hugh Jones, Mri. W. Ellis, Rhiw, a Thos. Jones, Rhewl. Cadarnhawyd hyn. Pasiwyd yn unfrydo) fod cais yn cael ei anfon i'r Gymdeithasfa am iddi basio penderfyniadau cryf ynglyn a'r Mesur Oedi, ac a chwestiwn y diodydd meddwol, a hefyd fod penderfyniad i'w anfon o'r C.'M. ar y mater di- weddaf i'r Prif Weinidog, Mr. D. Lloyd George, a Syr J. Herbert Roberts, Bar., A.S. Gosodwyd hefyd ar Ysgrifennydd PwyDgor Dirwestol y OM. i anfon apel i'r eglwysi ar fod ein ho11 aelodau a gwrandawyr yn diltyn esiampl ei Fawrhydi y Brenin trwy Iwyr ymwrthodiad a diodydd meddwol. Hys- byswyd y bydd yr Ystadegau i'w cael yn y lleoedd arferol tua chano'i yr ail wythnos ym Mai. Teimlir yn ddiolchgar i'r eglwysi am ofalu am danynt, a'u rhannu yn ddioed. Pregethwyd gan y Parchn. Pierce Owen, Rhewl, a John Roberts, Rhyl.