Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
- AT YSGOLION SABOTHOL CYFARFOD…
News
Cite
Share
AT YSGOLION SABOTHOL CYFARFOD MISOL GORLLEWIN MEIRIONYDD. GWERSiLYFR EFENGYL MARC. Y mae ychydig o'r uchod yn laros ar law. Fel hyn y dywed un o At'hrawon Ysgol Ganolraddol am dano —" Ideal o Lawlyfr i'r Ysgolion tSabothol." Eto gan un o Ysgolfeistri mwyaf llwyddiannus Mon:—" Yn ddibetrus, i'm meddwl i, dyma'r gwers- lyfr goreu i bwrpas yr Ysgol Sabothol ddarllenais erioed. Ei bris cyhoeddedig ydoedd 1/6. Pris y gweddill fydd 7c. yr un, neu 6/- y dwsin yn ddidraul drwv y Post. I'w gael oddiwrth yr Awdwr,— PAROH. J. E. DAVIES, 6, The Grove, HOLYWELL.
[No title]
News
Cite
Share
RELIABLE (SIGHT TESTING.—Over 10,000 cases of defective vision successfully corrected. 12 years experience in London and Provinces. Proper glasses at popular prices."—Percy Randell, Queen St., Arcade (opposite the Carlton "), Cardiff.
CYMANFA GYFFREDINOiL LLUNDAIN.
News
Cite
Share
CYMANFA GYFFREDINOiL LLUNDAIN. Mehefin 8-10. 1915. Dymunir i holl aelodau v Gymanfa Gyffredinol a fwriadantfod yn bresennol ynddi i anfon eu hen- wau i mi ar unwaith. 0 bydd aelodau—yn gynrych- iolwyr ac eraill-wedi trefnu i letya gyda pherthiyn- asau neu gyfeillion, byddwn dra diolchgar iddynt am ein hysbysu o hyn. Mai y iofed fydd y dydd olaf i dderbyn enwau. 165, Brondesbury Park. JOHN THICKENS. London, N.W.
--._-__-_.-THE SOUTIH WALES…
News
Cite
Share
THE SOUTIH WALES CALVINISTIC METHOD- IST ASSOCIATION. 'BLAENGARW, JUNE 15—17. Willi the representatives and others that intend being present at the above, kindly send in their name and address, on or before June 1, 1915, other- wise we shall not be responsible for hospitality. 12, Railway Terrace, THOS. THOMAS. BLaengarw ,Glam.
AT EIN GOHEBWYR.
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Haw.—Adroddiadau o Gyfarfodydd Misol Llundain, Dwyrain Dinbych, a Sir Fflint; Llythlyr o Burma; 'Cymdeithasfa'r Cyntywyddion Penodiad Prifathraw i'r Bala Toriaeth PwyDgor y Bala Caer- fyrddin; Ferndale; Nodion o FaMwyn, ac amryw lythyrau, &c. Marwolaeth .achl.addedi.g2.eth y Parch. Herbert Davies, B.A.-I :law yn rhy hwyr i'r rhifyn hwn.
GERMANI YN DATGUDDIO EI CHYMERIAD.
News
Cite
Share
GERMANI YN DATGUDDIO EI CHYMERIAD. INID oes un digwyddiad1 ynglyn a'r Rhyfel sydd wedi dwyn adref yn fwy byw a chyffrous gymeriad y gelyn yr ydym yn ymladd yn ei erbyn na defnyddiad y nwyon i fygu ein mil- wyr a suddiad y Lusitania.' Ceir crynhodeb o'r ffei,thiau mewn colofn arall, ac ni fwriedir yma ond cyfeirio at rai o'r agweddau yng nghymeriad Germani sydd wedi eu dwyn i'r amlwg yn ystod y bythefnos ddiweddaf. Prin y gellir dweyd fod y ddau ddigwyddiad wedi dadlennu dim sydd yn newydd i'r rhai sydd wedi dilyn hanes y Rhyfel yn fanwl a di- duedd. Ond pan y tynwyd1 cwr y lien oddiar anfadrwydd ymddygiadau milwyr Germani tuag at ferched a phlant Belgium, tueddid rhai i ameu a oedd sail digonol dros wneud y cyhuddiadau. Atgofid ni am addysg a Kultur Germani, am ei diwinyddiaeth a'i hathron- iaeth, a dadleuid nad oedd gweithredoedd milwyr unigol neu adran o'r fyddin, i'w gosod wrth ddrws y genedl nac yn erbyn yr Ymer- awdwr. Gofynid ai nid yw gwareiddiad Ger- mani gyfuwch a gwareiddiad Prydain, gyda hyn o fantais i Germani,—nad yw yr eiddo hi mor feddal ac egwan a'r eiddo Lloegr. Rhaid oedd wrth ryw ddigwyddiad mawr, hagr, hyd at fod yn ddieftig, cyn i lu 01 bobl ragorol syl- weddoli natur a nerth y Gallu ag yr ydym yn ymladd yn ei erbyn. Ac mor sicr a bod Duw yn y Nefoedd, a rhyw faint o'i ddelw yn aros yng nghalon plant dynion, mae Germani wedi cymryd y dull mwyaf ofnadwy o effeithiol i ddwyn y byd i sylweddoli beth yw natur y nodweddion sydd yn sylfaen i gymeriad y genedl. Eiffaith yr hunan-ddadleniadau hyn yw d'wyn yr holl fyd gwarelddledig wyneb yn wyneb a'r ffaith fod Germani nid yn elyn i Belgium, Ffrainc, a Phrydain Fawr, ond yn elyn i wareiddiad Cristionogol, ac i bopeth sydd yn gysegredig ymhlith plant dynion. Nid peth newydd, ysywaeth, yw creulondeb ynglyn a Rhyfel. Drwy yr oesau mae cwer- ylo,n teyrnasoedd wedi cyffroi nwyd'au annyn- ol mewn dynion at eu gilydd, i'r fath raddau nes gwneud yn amhosibl rhoddi cyfrif am yr ymhyfrydilad mewn po-enydio. a lladd heb gredu mewn bodolaeth rhyw fod'au yn y rhai y mae y nwydau hyn wedi dadblygu yn fwy arswydus nag' y mae yn bosibl iddynt wneud mewn dyn sydd a'i oes mor fyr a'i allu mor gyfyngedig. Pennod ofnadwy yw hanes creulondeb dynion at eu gilydd; yr elyniaeth sydd yn tarddu oddiar eiddigedd, a'r pleser a gymerai y gorchfygwr mewn püenydio y gorchfygedig. Ond tybiai llawer fod gwar- eiddiad' wedi newid pethau, ac nad oedd gan y diafol gymaint o lywodraeth ag a fu ar nwydau plant dynion. Darllener y eyfeiriad- au at Ryfel mewn llyfrau a ysgrifenwyd yn y wlad hon y blynyddoedd diweddaf, a gwelir eu bod yn dysgu fod Cytundebau Hague wedi newid amodau Rhyfel, ac üs nad oeddynt wedi atal y posibilrwydd o hono, eu bod o leiaf wedi ffrwyno creulondeb, a difodi dialedd. Erbyn hyn mae'r byd wedi deffro. Syl- weddolir fod Germani o clan gochl gwareidd- iad wedi bod' yn liunio, arfogaeth na cheir ei greulonach yn hanes y byd. Tybiem fod yr elyniaeth farbaraidd a ddanghosodd y Ger- maniaid tuag at y F'francod yn Rhyfel 1870 wedi ei newid gan ddeugain mlynedd o. ddi- wylliant. Pan yn darllen hanes y Rhyfel hwnnw, prin y gallem sylweddoli fod creulon- deb eu milwyr yn peri cymaint o foddhad i ddynion mewn safle uchel yn Germani. Erbyn hyn, gwelwn nad yw cymeriad y genedl wedi newid. Yn ddistaw yr oedd holl rym ei datblygiad meddyliol yn cael er ddefnyddio i baratoi y dd'arpariaeth fwyaf dinystriol y gwyddai fferylliaeth am dano i beri poen i'w gelynion. Paratowyd y byd i gymodi a'r ellyllwaith drwy ddweyd fod Prydain yn defn- yddio nwyon gwenwynig ar faes y gwaed. Yna gwnaeth Germani y d'efnydd helaethaf allasent o'r nwyon mwyaf marwof i wthio ein milwyr yn ol ac i adenil1 y tir a gollasent. Dyma uchafbwynt gwa,reiddiad Germani. Taenir v nwyon hyn ar wyneb y tir pan fo'r gwynt o gyfeiriad manteisiol i'w cario i'r ffos- ydd lIe mae eu gelynio,n,-nid i'w lladd, sylwer, ond i'w gwneud yn ddiymadferth am dymor, ac yna. i dd'atblygu yn eu cyfansodd- iad glefyd poenus a marwol. Hyd yma nid yw meddygon Prydain yn gallu gwneud dim i leddfu poen ein milwyr sydd wedi anadlu y nwyon hyn. Nid' oes ganddynt ond edrych arnynt yn marw yn araf yn y boen fwyaf ar- teithiol. Ar ol darllen hanes y nwyon,, nid oedd yn syn clywed am y Lusitania.' Agerlong yn cario teithwyr oedd hon rhwng America a Lloegr. Ar ei bwrdd yr oedd cannoedd o Americaniaid ac o Brydeiniaid. Nid oedd y llong wedi ei harfogi, ac felly nid oedd rhith o esgus dros ymosod ami. O'nd yr oedd y Germaniaid wedi cynllunio i'w dinistrio, er mwyn creu panic yn y wlad hon, a rhoi agor- iad i'w teimladau dialgar, annynol. Rhybudd- iwyd yr Americaniaid o'r perygl, a chyhoedd- wyd hysbysiadau i'r pwrpas hwnnw o swydd- fa trafnoddwr Germani yn New York. Ym mhellach feddanfonwyd i beidio' croesr yn y L,usitania." ''i Ond y fath oedd cred yr Americaniaid yng nghydwybod foesol y byd fel y gwawdiwyd y bygythiad. Ond cariwyd y cynllun allan i foddlonrwydd yr ymerawdwr ac er llawenydd dirfawr i'r Germaniaid. Mae iaith yn pallu wrth geisio1 di'sgrifio y teimlad- au a gynhyrfwyd drwy yr holl fyd,—y tuallan i Germani,—gan y digwyddiad creulon hwn. Ond yr dym yn sicr y gwel Germani cyn bo hir mai yr effaith fydd rhoddi bywyd newydd, ac ynni a nerth a phenderfyniad ym Mhrydain i gario allan i fuddugoliaeth lwyr y gwaith sydd ganddi mewn Haw. Nid' amddiffyn Bel- gium a Ffrainc yw y peth' pwysicaf bellach. Rhaid dymchwelyd y gallu hwn sydd yn elyn i wareddiad a chrefydd y byd, ac y mae Ger- mani ei hunan wedi profi yn ystod y bythefnos ddiweddaf fod hynny nid yn unig yn ddyled- y swydd ond yn fraint.
...,.....----,-----_._---------.¥-_--'-..,......--...---_L-BE…
News
Cite
Share
,¥- .L- BE IR NI AD AE TH EMYNAU." GAN Y PARCH. J. E. DAVIES, M.A. NI raid hysbysu darilenwyr Y Cymro fod beirniadu emynau yn orchwyl poblogaidd, ac yn un o'r pynciau Uosgawl, yn y dyddiau hyn. Y mae'r Bieirniaid yn 11 u mawr, a'r saf- bwyntiau oddi ar ba rai y beirniadir yn am- rywio crvn lawer odd;iwrth eu gilydd. Ymysg eraill sydd wedi eodi'r mater i sylw, ac wedi creu cryn gyffro yn y gwersyll, y mae dwy ysgrif o. eiddo y Parch. D. Tecwyn Evans, a ymddangosodd yn Y Beirniad yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, wedr g'alw allan ddoniau lawer i dra,ethuen Hen ar y pwnc. Mae'n eglur ddarfod i ysgrifau Tecwyn gynhyrchu effeithiau gw-ahanol ar wahanol ddosbarthiad- au o ddarllenwyr. Darfu iddynt (a) ennill dosbarth selog 0 edmygwyr; darfu idd'ynt (b) godi dosbarth o wrthwynebwyr; ac (c) darfu iddynt berianesmwythter ac ansefydlog- rwydd mewn dosbarth go liosog. Dan yr amgylchiadau, nid syn fod eraill wedi cael eu tueddu i ysgrifennu a beirniadu'r Beirniad, gan adolygu'r gwaith, bob un o'i safbwynt ei hun a da iawn hynny, canys yn amlder cynghorwyr y mae diogelwch." Heblaw yr ysgrifau amrywiol sydd wedi ymddangos yn y newydd'iaduron a'r cyfnodolion, yr wyf newydd ddarllen llyfryn bychan o adolygiad ar Feirniadaeth Tecwyn. Gwelir mai Beirn- iadaeth ar Feirniadaeth yw y llyfr, ac y mae'r awdur yn ymaflyd yn ei waith gyda'r angerdd- oldeb ysbryd hwnnw, sydd yn profi ei fod, fel bob amser, yn wr o dd'ifrif. Da y gwnaeth y D Parch. R. S. Thomas yn cyhoeddi ffrwyth ei fyfyrdod ar y pwnc yn y ffurf hon mewn llyfr ar ei ben ei hun. Y mae'r pwnc yn ddigon pwysig i hynny, a da fydd gan y darilenwyr gael yr Adolygiad wrth law, wedi ei ddiogelu mewn llyfr, yn hytrach nag mewn ysgrif neu ysgrifau mewn newyddiadur. Fel y barnodd y Parch. D. Tecwyn Evans yn ddoeth feirniadu emynau Cvmru 01 dri saf- bwynt, sef (a) o safbwynt Iaith (b) 0 saf- bwynt Barddoniaeth; (c) ac 00 safbwynt Diwinyddiaeth felly y gwelodd ei adolygydd yn ddbeth ddilyn yr un cynllun wrth feirniadu ysgrifau Tecwyn. Ceir yn yr adolygiad adran ar Iaith, adran ar Farddoniaeth, ac adran ar Ddiwinyddiaeth yr Emynau, y tair hyn, a'r mwyaf ollr rhai hyn, yn yr adolygiad, yw yr adran ar Ddiwinyddiaeth. Er fod yr adolygydd yn croesi cleddyfau vn benderfynol a'r Beirniad yn y ddwy adran gynta.f; eto prin y gellir dweyd fod y frwydr yn boeth iawn ar Iaith a Barddoniaeth yr Emynau; ond parthed Diwinyddiaeth yr Emynau, ym- ddengys fod yr Adolygydd a'r Beirniad mewn dau fyd gwahanol, ac ar y maes hwnnw y mae'r frwydr yn cyrraedd er neithafbwvnt. Darfu i Decwyn gollfarnu amryw o'r Emyn- au ar gyfrif eu Diwinyddiaeth; ond y mae'r Parch. R. S. Thomas yn amddiffynydd cadarn i Ddiwinyddiaeth ac Y sgrythyroldeb yr Emynau. Dengys yr adolygydd fedr a gallu neilltuol yn ei amdd-iffyniad. Ymres- yma yn gryf a chadarn, a dengys yn glir, os dylid alltudio' o'n Llyfrau Hymnau rai o'r Emynau oollfarnedig, y dylid alltudio hefyd o'r Beibl yr adnodau ar ba rai y maent yn sylfaenedig. Dia iawn gennyf am yr adran hon o'r adolygiad, ac yr wyf yn credu fy mod wedi cael bendith wrth ei darllen. Credaf fod yr adolygydd wedi cyflawni gwasana-eth pwysig trwy ysgrifennu yr Adolygiad. Y mae'r llyfr ar ei hyd yn gryf ei reswm, ac yn oleuei farn; ac yn arbennig felly yr adran olaf, sef yr adran ar Ddiwinyddiaeth yr Elmynau. Gall nad yw y frwydr ddim ond dechreu, ac mai yn ol y mae'r ymladd poeth- af; ond beth bynnag am hynny, teimlaf yn ddiolchgar i'r Parch. R. S. Thomas am ei adolygiad, ac am ei arnddiffyniad cadarn i'r hen emynau sydd wedi bod yn gymaint o gyfryngau bendith i'n cenedl yn y gorffennol. Anffawdi flin ydyw fod gwaith yr argraffydd mor amherffaith yn y llyfr, a'r orgraff oher- wydd hynny mor wallus; ond ar waethaf hynny, y mae'r llyfr yn adolygiad gwerth- fawr, a clylai wneud lies mawr, drwy sefydlu meddyliau sydd wedi cael eu siglo gyda golwg ar neges amryw o'n Hemynau. Adbllygiad v Parch. R. S. Thomas ar Feirniadaeth y Parch. D. Tecwyn Evans ar Emynau Cymru."