Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

PERSONOL.

News
Cite
Share

PERSONOL. Mac C.M. Mon eisoes wedi ateb cenadwri y Gymdeithasfa ynglyn. a. phenodiad Prifathro i'r Bala trwy basioi yn y C.M. gynhaliwyd ddydd Llun, Mai xo, yn Cefnbach, gydag un- frydedd llwyr a brwdfrydedd mawr i argym- y I hell enw y Parch. T. Charles Williams, M.A., Porthaethwy, i'r Pwyllgor fel un cymwys iawn i fod' yn Prifathro yn y Bala. —o—- Mae y Parch. William Olwct-i wedi rhoddi i fyny ofal eglwys Webster Road, Liverpool. —o— Mae y Parch. Richard Williams, Llandud- no junction, g'ynt. o'r Rhos, yn wael. Go- beithio y caiff adferiad buan. --0- Y Parch. John Roberts, M.A., Caerdydd, a'r Parch. D. E. Thomas, Treforris, fydd yn cynnal cyfarfod pregethu ym Mhentyrch eleni. —o— Dnvg gennyf g'lywed fod Mrs. Hughes, priod y Parch. J. g. Hughes, 1 M.A. i B.D., Caernarfon, yn wael ac mewn ysbyty yn Liverpool. Eiddunir iddi adferiad buan. --0- Mae'r eglwysi yn dechrcu symud Mae eglwys y Methodistiaid Roe Wen a Ty'ny- groes wedi penderfynu codi cyflog' eu bugail, y lienor adnabyddus, O1. Gaianydd Williams. Bydd clywed hyn yn galondid i eglwysi eraill svdd yn rhy wvlaidd i gychwyn. -0-- Disgwylir y Parch. Alun Jones, Llanfair- caereinion, i gyfarfod pregethu Crwys Road, Caerdydd, eleni. Y mae y gwr diymhongar hwn yn cvflym ennill iddo ei hun safle uchel fel pregethwr yn y C'yfundeb. Y mae ei weinidogaeth vn feddylgar ac yn nerthol. -0- Fe gona amryw am y bardd ieuanc; Oswal Williams, Caerdydd, yr hwn ddangosai, gryn fedr ar dudalennau Cymru a phapurau eraill. Ymfudodd i Australia yn agos i ddwy flynedd yn ol, ac y mae erbyn hyn yn ymgeisydd am y weinidogaeth efo'r Presbyteriaid. --<> Gadawodd Capten George H. Douglas- Pennant, mab y diweddar Arglwydd Penrhyn, eiddo oedd yn werth ^63,687. Milwr ydoedd, a chollodd' ei fywyd yn y rhyfel yn 38 mlwydd oed. Cofiodd am Gymru yn ei ewyllys drwy adael llawer o greiriau i Amgueddfa Cymru. --0- Mae eglwys y Cwm, Llansamlet, wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch. T. Vaughan z, Jones, Maesteg, i ddyfod i'w bugeilio. Os derbynia Mr. Jones yr alwad, fe fydd yn golled i Maesteg a'r cylch ar ei ol. Efe ydyw Cadeirydd Cyngor Eglwysi Rhyddion rhan- barth uchaf Maesteg. —o— Croesawyd y Parch. Edward Evans, y cen- hadwr, adref i Gwyddelwern yn y cyfarfod gweddi cenhadol gan y Parch. J. Foulkes Ellis, y gweinidog', a'r blaenoriaid. Yn ddiolchgarwch am y croesawiad, caed anerch- iad rhagorol gan Mr. Evans yn bwrw cipdrem dros hanes .ei lafur a'i dfeithiau. -0-- Talwyd teyrnged brydferth 0 barch i goff- adwriaeth Mr. David Edwards yn Vsgol Sul a seiat eglwys Bethesda, yr Wyddgrug',—ei gymeriad pur, ei ffyddlondeb gyda'r Ysgol, y moddion wythnosol, a dirwest. Disgynodd i'w fedd ) r gymharol ieuanc, heb fod yn ad- nabyddus iawn o'r tuallan i'w dref enedigol. Ond yno tlodeua. ei gymeriad wedi iddo ef orffen ei waith. -0- Bydd yn llawenydd gan lawer 0 blant Llan- gurig hyd Gymru ddeall fod Francis Brown, mab Mr. David Brown, Llwynieir, mewn bvr amser, wedi pasio yn y dosbarth blaenaf fel wireless operator,' ac y mae'n awr ar y cefn- for yn gweithredu yn y swydd bwysig hon. Teithia y dyddiau yma rhwng y wlad hon a Canada. Edmygir ei blwc a'i ddawn i ddysgu. Pan yng Nghaerdydd clywais ei fod yn arholwr mewn arholiad ysgrythyrol ynglyn ag Ysgol Sul Crwys Road, a gwelais hefyd ei gwestiynau. Dyma blant y mynydd oddi- cartref, nid yn gwneud can, ond yn mynd i fyny mewn amgylchiadau a moes. Llwydd- iant mawr iddo, a chadwed v Brenin mawr ef am oes hir i wasanaethu. Dydd Sadwrn, Mai y lar, yr oedd yr Henadur Richard Phillips, o'r Drefnewydd, yn cyrraedd pen ei bedwar ugeinfed fhvydd oed; ac i ddathlu yr amgylchiad,' aeth yn y prynhawn i gael cwpanaid o de gyda Mr. a Mrs. Jones, Maesmawr Hall,—Llywydd Cym- deithasfa y Gogledd,-a'i briod. Cerddodd yr henafgwr yno ac yn ol,-agos i ddeuddeng milltir OIl a blaen. -0-- Y Saboth diweddaf bu y Parch. Hugh Jones, Atherton, Manchester, yn pregethu yn Penmachno. Cafwyd gweinidogaeth gref, a Saboth dedwydd a bend'ithiol iawn. Yn y seiat ar y diwedd, cynhygiodd Mr. Hugh Hughes, Y.H., un o'r blaenoriaid, bleidlais wresog 0 ddiolchgarwch, a phasiodd yr eglwys y bleidlais yn unfrydol, yr hon oedd yn cynnwys "fod eglwys Penmachno yn gwerthfawrogi yn fa-wr y dyddordeb a'r llafur y mae y Parch. Hugh Jones a Mrs. Jones wedi ei ddangos yng'lyn a. rhai o'r ardal hon sydd yn symud i weithio i Loegr." Deallwn hefyd y gallwn ddweyd' fod y cyfeillion yn gwneud y gwaith da yma i lawer o ardaloedd eraill hefyd. -{)- Derbyniwyd y newydd am dderbyniad1 y Parch. T. G. Owen, M.A., yn ol i'r Cyfundeb gyda boddlonrwydd mawr g'an lu o'i gydna- bod yng Nghymru. Nis gall y Cyfundeb Methodistaidd ffürddio colli gwr fel efe. Y mae id'do waith mawr yn y Cyfundeb eto i osod cynhaliaeth y weinidogaeth ar dir diogel, a gwnai y Cyfundeb ffolach peth nag ym- ddiried iddo1 ef y gorchwyl 01 gasgiu y swm angenrheidiol at roddi cyflog byw i bohgwas i Grist. Cynhygiodd Mr. Owen roddi ei fedr efoi hyn o orchwyl cyn ymadael oddi wrthym. Y mae ei ddawn fel casglwr yn.hysbys y tu-- allan i gylch y Cyfundeb, y mae yn drefnydd Z", da, yn frwdfrydig gyda phopeth a gymer i fyny, ac yn gweled ym mhellach na'r cyffredin o'i frodyr gyda'r cynlluniau sydd eisoes yn cael gormod, hwyrach, o sylw. Eiddunwn iddo fl'ynyddoedd eto 01 wasanaeth i'r achos mawr, a hyderwn y daw yn well o'i afiechyd yn fuan.

---CYMRU AR RHYFEL. --