Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

•1■Vic '.IM1 ii ir.'-j""mmmuimmmpsammmmmmm…

News
Cite
Share

Vi c '.IM1 ii ir.j"" mmmuimmmpsammmmmmm DYLEDSWYDD YR EGLWYSI. | GAN Y PARCH. JOHN WILLIAMS, BRYNSIENCYN. Anerchiad ar Ein dyledswydd fel eglwysi yn wyneb yr amgylchiad.au presennol." £ /■ (Parhad o'r rhifyn diweddaf). 1. V. Syched am Ddifyrwch. Un arall o arwyddion yr amserau-nid wyf ond yn eu cyffwrdd bron— ydyw y syched am ddifyrwch; wel, mae hynyna, yn ei Ie, yn iawn yr wyf yn credu hyn, y dylai pob dyn ieuanc gael rhyw hobby pob un; .a cholled fawr i gorff ac enaid dyn ieuanc ydyw peidio cael rhywbeth .i'w ddifyiu; ac ni ddylem gondemnio hyn o beth, fel pe buasai 'v perygl pennaf, onite fe ,gollwn ein nerth wrth gondemnio pethau ereill. Wyddoch chwi, mae yn.a fwy o onestrwydd, ac mae yna fwy o honour yng nghylchoedd y chwarae yma heddyw nag sydd yn ffernau, ,a march- nadoedd, a llawei o siopau Gogledd Cymru. Ewch i'r 'football field neu i chwarae billiards,' chewch chwi ddim itwyllo na byddwch yn cael eich gyrru allan, mae stigma yn cael ei roddi ar y dyn a dwylla; dyn yn symud y ibel fodfedd, mae hwnnw yn colli ei safle a'i barch. A ddylem ni ddim con- demnio pethau fel !hyn tra y mae drygau gv aeth yn ein canol ni. Yr oedd commercial traveller yn dweyd wrthyf y dydd o'r blaen—iyddaf fi ddim yn credu pob peth ddywed y bobl barchus yma, ond yr oedd hwn yn ddyn tawel, pwyllog, gofalus beth a ddywedai; yr oedd yn dweyd wrthyf beth oedd yn peri i mi ryfeddu at dwyll masnachwyr y wlad yma y triciau iselwael a ddefnyddir yn siopau Gogledd Cymru, gan grefyddwyr! Mae rhai o'r rhai hynny yn ddigon parod i redeg ar y bel dro-ed a'r bill- iards,' ac yn cyflawni triciau annrhaethol waeth na'r rhai yna. Peidiwn a bod yn rhy barod i gondemnio y rhai yma allan ac allan. Ar yr un pryd mae idd- ynt eu perygl—perygl mawr dynion yn myn'd i fyw ar y pethau yma; dyna i chwi y peth wedi myn'd yn bechod, yn bechod digymysg; dynion yn myn'd i fyw lar y chwarae colli bias ar y Saboth, a cholli parch i'r Saboth, oherwydd eu bod wedi cyfyngu eu hun.ain i ryw bleser; mae hynny yn bechod, ac'fe ddylem ddweyd yn ddifloesgni arno; and ddylem ni ddim condemnio'r pethau yma allan ac allan; dofi yr awydd yma am ddifyrion ddylem ni, .ac nid ei ddifa irhodd-i ffrwyn yn ei ben, ac nid ei yrru allan o'r wlad. VI. Bydolrwydd. A dyna un peth arall, cyn docf at y peth ,mwyaf o arwyddion yr amserau; a'r difrifolaf i gyd ;yn 1y meddwl i, o lawer; drwg digymysg ydyw hwn, isef lbydolrwydd-ysbryd y byd-" chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a balchter y bywyd;" awydd am gael pleser; chwant am ymbleseru chwant am .ym- gyfoethogi; ichwant am ymddangos; bydolrwydd. 'Gwyn fyd na allasem ni argyhoeddi pobl fod modd iddynt bechu wrthi ddefnyddio pethau cyfreithlawn yn ormodol—pethau y mae eisieu edrych ar eu hol- au-pethau y mae'n rhaid i ddyn dreulio llawer o amser i feddwl yn eu cylch lond mae modd i'r rhai hynny fyn'd yn bethau pechadurus ac anghyfreith- lawn hollol i ni wrth Toddi gormod .o'n bryd arnynt, ac mae dynion wrth, wneud hynny yn myn'd yn galetach na'r dynion sydd yn syrthio i afael pechod- au gwaradwyddus. Bydolrwydd, dyna'r gelyn mawr heddyw. Edrychwch i'n hystadegau ni; yr oeddwn i yn synu pan -edrychais ar y rhai'n. Tri y fil o'n haelodau ni a ddiarddelwyd y Ilynedd-three per thousand; mae tri ar hugain;o, bob mil wedi, gwrth- gilio 614 gafodd eu diarddel trwy Gymru i gyd y llynedd, tra y mae 4,200 wedi gwrthgilio. Mae'r gwithgiliadau yn,a, gan mwyaf, yn dyfod oddiwrth y pethau a enwais i. Pechodau digymysg ydyw y 'lleill, hagr, anfad, a 'does dim modd cadw y rhai sydd yn euog o honynt yn aelodau eglwysig ond mae y gwrthgiliadau, gan mwyaf, yn codi o'r dirywiad graddol a achosir gan fydolrwydd mewn rhyw wedd neu gilydd arno. Cymerwch yr ardal yma, gan mai yma y cynhelir y Gymdeithasfa—cylch y Cyfarfod Misol yma, a'r rhan o'r Henaduriaeth sydd yn dod i mewn iddo; 16 a ddiarddelwyd yn y cylch yma i gyd; Ie wrthgiliodd 179; tua dau a Ihanner y fil a ddiaiddelwyd, ond mae 28 y fil wedi gwrthgilio. A'r dylanwad yma ydyw ef—dylanwad y byd. Wel sut y mae i ni wrthweithio hwnyna ydyw un o'n cwest- iynau pennaf. Rhaid i ni bregethu yn ei erbyn, .ond mae'n rhaid i ni bregethu yn ei erbyn yn ysbryd Crist; rhaid i chwi ddod a dylanwad ysbrydol yn ei erbyn nid yw ddim iws dweyd y drefn am dano; dyna lie y byddaf i yn colli, beth bynnag, fy hunan; mae'n rhaid i chwi ddweyd am dano yn ysbryd Crist. Rhaid ii chwi fod yn bur ysbrydol yn y pulpud i yrru bydolrwydd ar ffo a rhaid i chwi gael adnewyddu yr aeTwydydd. Mae ein haelwyd- ydd ni yn foesol, ond mae llawer o honynt heb fod n greJyddol; awyrgvlch foesol mewn aelwyd-reit lan, 1. ond dim cynhesrwydd crefyddol. Fe ddangosir pryder enfawr gan deulu—ac mae hynny yn eithaf iawn yn ei,gylch-ar fod y bechgyn yn cael cychwyn yn iawn mewn bywyd, a chael v galwedigaethau gorcu posibl. Fe fydd arnaf ofn weithiau mai dyna bryder uchaf yr aelwyd, ac fod hynny yn myn'd i esgyrn y Dlant heb fod y pryder lleiaf yn cael ei ar- I ddang^s am eu cymeriadau ac am beryglon y galwed- igaethau y byddont yn eu gosod ynddynt; mae eisieu i fwy o hyn ddod ar ein haelwydydd ni, ac mae eisieu iddo ddod i'r seiat. VII. Diflaniad y Seiat. A dyma gwestiwn mawr iawn; ni wn i ddim beth i'w ddweyd yn. ei gylch, ond mae'n bryd i ni ei wyn- ebu; mae'r seiat yn imyn'd1 i lawr. Mae ambell i leglwys heddyw lie mae rhyw un neu ddau o ffydd- lonia'id yn gorfod troi adref; fu dim sei,at yno er's wythnosau; fe wn i am rai fel yna, ac mae hi yn yr eglwysi mawr yn y wlad wedi myn'd yn fechan sobor. Eglwys o dri chant neu bedwar cant o ael- odau, a rhyw ugain yn myn'd i'r seiat. Mae eithr- iadau, ond waefh i ni wynebu hwn yn awr nag yn hwyrach, mae v seiat yn llwydaidd iawn ei gwedd. Ond !beth sydd i'w wsneud ? Wel, wn i ddim. Bai y byd ydyw-y byd sydd yn myn'd a bias cyfeilla-chi grefyddol? Ie, ond mae'n fai arno'm Jlinnau hefyd. Bai y plant na ddysgent? Ie, ie, ond yr ydych yn beio yr ysgolfeistr yr adeg honno—mae rhywbeth o'i le yn yr ysgolfeistr os na byddant yn dysgu, faint bynnag ydvw eu dylni. Ac mae rhyw- beth o'i le yn y cylch crefyddol; nid wyf yn gallu dweyd beth ydyw 'dwn i ddim, ond mae yn bod. 'Fe fydd seiat yn bod tra bydd crefydd yng Nghym- ru yn bod, yn fy meddwl i—seiat yn bod; peidiwch chwi a son am wneud i ffwrdd a'r seiat; ond 'dwn i ddim nad 'oes eisieu i ni ystyried rhyw gyfnewid- iaáau ynglyn a hi; beth; ydynt nid wyf yn myn'd i ddweyd, ond yr wyf yn credu ei bod yn bryd i ni ystyried yn awr onid oes modd i ni ddwyn ihyw ffurfiau newydd i'r seiat (i'w gwneud yn fwy at- dyniadol. Pe cae'm ni ysbryd y peth byw, y dylan- wad ysbrydol yma iddi fe ddeuai. Ond bydolrwydd ydyw y gelyn mawr, a rhad i ni ei wynebu o bob cyfeiriad. Nid "bwystfilod rheibus, nid pechodau anfad sydd yn ein handwyo ni ond yr estron isydd yb bwyta ein cryfder ni heb yn wybod i ni. Niid ein tai ni sydd yln myn'd ar dan, ond y dry rot' sydd yn eu hysu, ac mae'n bwysig i ni ystyried beth yr ydym yn ei wneud. VIII. y Rliyfel. Wel, gair ar y mater olaf, y Rhyfel. Mae ein teimladau ni yn cael eu haredig trwy y misoedd wrth edrych ar y difrod a wneir ar eiddo, ar arian, ac ar fywydau. Ond mae rhywbeth sobrach na hynny yn yr ysbryd sydd y tu ol i'r cyfan i gyd hwnnw sydd yn ofnadwy- Mae'r achos mawr tu ol Effeithiau ydynt hwy." Effeithiau dyw y rhai'n; a dyna'r peth, yr ysbryd sydd 3^xu ol iddynt. -Mae'r ysbryd sydd wedi rhoddi bod i hyn wedi bod yn crynhoi am flynydd- oedd lawer; ysbryd ofnadwy. Ac mae'r ysbryd yna wedi bod yn cael ei borthi gan ddysgeidiaeth gwlad oedd, beth bynnag, yn Gristionogol, ac a ystyrir felly eto; hwnnw sydd yn ddifrifol. Y peth mwyaf digalon, ar ryw olwg, ynglyn a'r rhyfel yma ydyw gweled gwlad Gristionogol wedi meddwi ar ei llwyddiant, oblegid dyna ydyw ef. Yr oedd hi yn llwyddiannus, yn llwyddiannus ryfeddol, heb ei hafal; ac fe ddylem edmygu llwyddiant Germani mewn llawer o gyfeiriadau. Ond, ysywaeth, ow, resyn, fe drodd ei llwyddiant yn ei phen hi. Dy ddoethineb,"—fel y dywedwyd wrth deyrnas arall, yn ol yr hen Lyfr yma-" dy ddoethineb a'th wyb- odaeth a'th hurtiant; a dywedaist yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb arall ond myfi." A dyna ddy- wedodd yr Almaen, o leiaf dyna ddywedodd rhan- barth bwysig o honi hi. Yr oedd yn darllen yn y I Times '-fe'i gwelsoch chwithau ef—lythyr oddi- wrth ddyn yn adrodd ei brofiad wedi bod yn un o 'universities' Germani. O'r llu o athrawon oedd yn yr 'university' h-onno-ac un bwysig iawn ydyw hi—nid oedd, meddai, ond dau neu dri, y rhai oedd yn Roman Catholics,' yn proffesu credu mewn Duw; am y cyfan o'r athrawon eraill sydd o fewn yr university i gyd, nid oedd dim un o honynt yn credu mewn Duw personol, ac os oedd yno, na feiddiai 'fe ddim dweyd hynny. Dyna i chwi dyst- iolaeth gwr a ysgrifenodd yr hanes mewn llythyr i'r 'Times.' Mlae honyna yn wedd ddifrifol iawn, ysbryd ofnadwy. Mlae un o athronwyr Germani yn dweyd mai y fendith bennaf fyddai i ni fyn'd yn ol i baganiaeth, myn'd yn ol i'r sefyllfa oedd yn bod cyn i'r dyn hwnnw a elwir Iesu Grist ymddangos- ysbryd y byd-nerth, ac awdurdod, a gallu daearol ac anianol yn cael eu haddoli, a Duw a Christ wedi eu taflu dros y bwrdd. Dyna un o'r agweddau mwyaf difrifol ar y rhyfel; yr ydym ni ein hunain mewn perygl; mae bodolaeth Prydain Fawr ei hun mewn perygl. Nid wyf wedi edrych yn ddigalon, o'r cychwyn, ar y rhyfel yma, ond mae ein bodol- aeth ni yn y glorian; mae pob peth gwerthfawr gan Gymru grefyddol yn y fantol; a rhagor na hynny, mae rhyddid gwladol a chrefyddol Ewrop yn y glorian. 'Dwn i ddim—hwyrach fod yna-mi fyddaf yn meddwl hynny ambell i fore—ein bod yn cam- gymeryd, ac mai gwlith y bore yn arwyddo storm fwy ydyw-efallai mai gwlith y bore ydyw, yn ar- wyddo fod yna dywydd. braf i ddod. Byddaf yn diolch ambell ddiwrnod fy mod wedi cael byw i weled adeg fel hon; beth bynnag, We are making his- tory, fel y dywedodd rhywun. Yr oeddym yn cael ein cario gan y llif o'r blaen, ond yr ydym yn gwneud rhywbeth yn awr; oblegid mae rhywbeth pwysicach nag arian, ac eiddo, a bywydau cyfiawn- der, cysegredigrwydd llw, gwerth cyfamod a chyt- undeb; dyna i chwi bynciau ag y mae popeth yn mynd fel man lwch y cloriannau yn eu hymyl, ac y mae y rhai yna, mi gredaf, yn sicr o ddod yn uwch, ac i lewyrchu yn harddach nag y buont erioed. IX. Paryg-lon Militariaeth. Beth ydyw ein dyledswyddf Ni wnaf ond nodi rhai pethau. 'Gwyliwn rhag coleddu digter a llid at ein gelynion; hawdd iawn ydyw gwneud; mae'n anhawdd iawn peidio wrth ddarlle,n y newyddiadur- on yna heddyw, a deall am y creulonderau y mae ein gelynion yn euog o honynt, ond fe ddylem fod ar ein gwyliadwriaeth rhag coleddu Hid atynt. Eiddigeddwn dros gyfiawnder, a gwyn fyd y dyn fedr gythruddo wrth weled camwri, ond mae'n hawdd iawn i lid ddod i mewn i hynyna; os gadawn i lid ddod i mewn mae'n sicr o'i ddifwyno. Peth arall, gwyliwn rhag meithrin ysbryd milwrol militarism,militariaeth yr wyf fi yn ei alw, 'dwn i ddim beth yw'r enw iawn, ond mae arnaf ei ofn ef. Yr wyf yn myn'd o gwmpas, yr wyf yn myn'd yr wythnos yma a'r wythnos nesaf, ac mi af bob wythnos os gelwir am dan-af, i geisio perswadio dynion ieuainc i fyn'd i'r fyddin, ond wrth wneud hynny yn ddigon gonest, yr wyf yn ofni o'r dechreu rhag enyn ysbryd milwrol. A ydym ni yn peidio codi rhywbeth yn awr y cawn ni drafferth i'w roddi i lawrp Fe ddylem ni warchod rhag hynyna, yr hyn sydd wedi andwyo Prwsia a Germani, a gwyl. iwn rhag iddo godi ei ben yn y wlad yma. Ceisiwn feithrin yn ein dynion ieuainc eiddigedd ym mhlaid cyfiawnder, nid yn erbyn neb er mwyn ennill budd- ugoliaeth anianol, er mwyn ennill goruchafLaeth faterol, and ymladd ym mhlaid cyfiawnder. ac fe geddw yr ysbryd peryglus yna yn glir. Peidiwn a disgwyl am fuddugoliaeth faterol yn unig. ond dis- .gwyliwn am fuddugoliaethau moesol ynglyn a hyn; bydded i ni wneud ein goreu yn awr, yn yr .argyfwng yrna, ym mhlaid unrhyw fesur, a phob mesur fydd a'i amcan i sobreiddio'r wlad yma. X. Dirwest. Onid ydyw'n bryd inni fel Cymry ddeffro. Yr ydym wedi cael mesurau ein hunain. Beth bynnag a olygir; beth bynnag mae y Llywodraeth yn myn'd i'w wneud yn awr, oni fyddai'n. werth inni godi fel un gwr i hawlio mesur dirwestol i Gymru? Mae'n ddrwg gennyf ei ddweyd, ond mae'n wir, y mae dylanwad darllawyr, a thafarnwyr, a'r fasnach fedd- wol, yn fwy yn Senedd Prydain F,awr heno na dy- lanwad Eglwys Crist. Peth go ddifrifol ydyw, ond mae'n wir, ac mae hynny yn fai arnom ni; nid beio;r Llywodraeth yr wyf; mae ganddynt anhaws- terau fyrdd, ac nid yr un ffordd y mae rhoddi pen ar y fasnach feddwol ym Mhrydain Fawr ag yn Rwsia; mae ffurf ar lywodraeth pan y medr un dyn wneud, ond ni ellir gwneud hynny yma. Nid wyf yn beirniadu'r Llywodraeth, nac yn beio. Pe bu- asai Eiglwys Crist wedi gwneud ei dyledswydd, fe gawsem y pethau a fynnem, a gobeithio y byddwn ni yng Nghymru yn gweI-ed ein bod yn eu cael. XI. Cyflafareddiad. Peth arall, a'r olaf, gwnawn ein holl egni ymhob man i gael cyflafareddiad; yr wyf yn meddwl mai dyna fydd ymhen can' mlynedd eto; yr adeg honno fe ystyrir ein hoes ni yn oes anwaraidd, a hynny yn hollol deg. Os bydd dau ddyn yn ymladd, mae gennym lysoedd; os bydd i un wneud cam a dyn arall, mae gennym lysoedd; ac eto fe gaiff teyrnas- oedd wneud y peth a fynnont heb lys yn y byd i'w galw i gyfrif; a beth ydyw hynyna ond diffyg gwar- eiddiadp Fe ddaw.adeg y setlir y pethau yma gan lys, ac fe ddylem ninnau wneud ein goreu er cael y pethau hyn i ben. Ugain mlynedd yn ol fe fu ter- fysg mawr rhwng Argentina a Chili ynghylch pethau a gymerodd wedd ddifrifol iawn. Fe baratowyd i ryfel, fe brynwyd llongau rhyfel gan y naill genedl a'r llall,. yn werth cannoedd 00 filoedd 0 bunnau-yn Ewrop yr adeiladwyd hwy; fe godwyd treth o gini y pen ar bob un o'r trigolion gwlad dlawd fel y gwyddoch ydyw; fe ddyblwyd y fyddin yn y naill wlad a'r llall, a pharatoi i ryfel oedd ar bob Haw; fe gymerodd dau esgob y taleithiau y peth i fyny- es.gob Argentina ac esgob Chili; fe aethant trwy'r ddwy wlad, pob un trwy ei wlad ei hun, i gynnal cyfarfodydd yma a thraw ym mhlaid heddwch. Fe ddeffrodd y ddwy wlad i weled yr ysgelerder ofnad- wy fyddai ynglyn a rhyfel. ac fe'u darbwyllwyd o ynfydrwydd rhyfel. Fe gafwyd cynhadledd rhwng cynrychiolwyr o'r ddwy wlad, ac yn hono fe bender. fynwyd cyflwyno'r achos i'r Brenin Edward VII. i fod yn gyflafareddwr, ac fe safodd ef a'i gynghor- wyr uwchben y cwestiwn, fe anfonwyd y dyfarniad i'r ddwy wlad, ac fe'i derbyniwyd ar unwaith gan- ddynt, ac fe wnaed cytundeb rhyngddynt os byddai i unrhyw gweryl godi i beryglu heddwch rhwng y ddwy wlad o hynny allan, fod yr achos i gael ei gyfiwyno i Earn a synwyr rhyw wr ag y byddai gan y naill ochr a'r llall ymddiried ynddo. Rhagor, fe gynhygiodd Esgob Argentina fod yna statue'—cof- golofn yn cael ei chodi ar ben yr Andes,, colgolofn anferth i Iesu Grist, ac yno y mae hi heddyw, 14,000 o droedfeddi uwchlaw arwynebedd y mor; yng nghanol yr eira oesol a gwyn, y mae colofn i'r Arglwydd lesu, a'i lun ar un ochr yn bendithio'r dalaeth yma, a'i lun ar yr ochr arall yn bendithio'r dalaeth yma. Fe ddadorchuddiwyd y golofn un diwrnod, a chynrychiolwyr y ddwy dalaeth yno, fawr a man, ac ar y gofgolofn anfarwol y mae'n gerf- iedig eiriau anfarwol:—"Sooner shall these mountains crumble into dust than that the people of Argentina and Chili shall break the peace to which they have pledged themselves at the feet of Christ the Redeemer." Ardderchog—Ardderchog cofgolofn, nid i synwyr a doethineb arweinwyr gwladol; fe fuasai yn werth gwneud un felly—cof- golofn i ddylanwad, y ddau wr da a ddarbwyilodd y ddwy wlad yn Ysbryd Crist, fod rhyfel yn annynol. Daliwn i weddio, fy nghyfeillion i. Nid yw'n hawdd gwybod beth i weddio peidiwn a gweddio am heddwch rywsut; charwn i ddim gweled hedd- wch bore yfory, nac wythnos i yfory; mae'r cwest- iynau yn rhy fawr i gael heddwch felly. Beth wnawn ni? Mae Duw yn deall ein meddyliau ni; gweddiwn adnodau'r Beibl yma:—"Cyfod, Ar- glwydd, na orfydded dyn,"—dyna i chwi weddi iawn "harner y cenhedloedd ger dy fron di. Gosod, Arglwydd, ofn arnynt. fel y gwybyddo y cenhedl- oedd mai dynion ydynt,"—eu perygl yw meddwl i mai duwi.au ydynt y dyddiau vma-" fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt." Gweddiwn eiriau cyfoethog y Beibl yma, a disgwvliwn wrth yr Arglwydd, ac fe fydd yn blaid i gyfiawnder, ac i degwch, ac yna. fe fydd heddwch Prydain Fawr fel 1 yr afon, a'i chyfiawnder fel tonnau'r mor."