Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
,.._.........__,,---......------------------------GOHEBIAETHAU.
News
Cite
Share
GOHEBIAETHAU. (Nid ydym yn ystyried ein hunain yn gyfrifo-1 am syniadau yr ysgrifenwyr).
.DYLEDION EIN CAPELAU.
News
Cite
Share
DYLEDION EIN CAPELAU. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Heb gyfeirio ,at unrhyw achos arbennig, can- iatewch i mi ofyn ai nid yw yr adeg wedi dyfod pan y dylai fod rhyw reoLaeth ar v symiau a werir ar godi capelau yng Nghymru? Mae'r trefniadau pres- ennoj yn fethiant. Gwerir arian yn ddiystyr am fod rhywrai ereill yn gyfrifol am arwyddo am fenthyg yr arian. Oni ddylai yr awdurdodau gymeryd hyn mewn llaw? Mai 5ed. AELOD MEWN OED.
MAES LLAFUR YR YSGOL SUL YNG…
News
Cite
Share
MAES LLAFUR YR YSGOL SUL YNG NGORLLEWIN MEIRIONYDD. AT OLYGYDD Y CYMRO. Mr. Gotygydd,—Gan fod i mi eleni fwy o gysyllt- iad nag arfer a gwaith y dosbarthiadiau ieuengaf yn y sir hon yr wyf trwy lythyrau ac ymddiddan yn canfod fod cryn nifer heb ddeall y cynllun newydd yn glir. Nid wyf yn beio neb am hyn. I Ilwyredd y cyfnewidiad yr ydym i briodoli y tywyllwch. Y mae'r Cyfarfod Mi sol hwn wedi ymwrthod a'r holl Safonau o'r IV. i fyny, ac wedi mabwysiadu'r meusyddcanlynol yn eu lie :—Dan i6eg oed, Gwyrth- iau Crist; dan 14eg oed, Marc i. i vii; dan 12eg oed, Marc i. i viii dan 10 oed, Marc i. i viii. Diar- parwyd Gwersjyfr ar y Gwyrthiau gan y Parch.E. O. Davies,- B.Sc. Sylwer hefyd y cyfyngir maes Ar- holiad y dosbarth) dan 16eg oed i'r Gwyrthiau a geir ym Marc i. i viii. Gwelir fod y tri dosbarth ieuengaf yn llafurio yn yr un maes, ac mewn ysgolion bych- ain ge"'lid gwneud un dosbarth darllen o'r oil. I bwrpas mholiad y gwneir howy yn dair adran. Caiff y rhai ieuengaf gwestiynau haws na'r rhai hynaf, a,c ni chaiff plentyn tair ar ddeg oed gystadlu ag un flynyddoedd iau nag ef. Darparwyd hefyd Esbon- iad i Plant ar Marc. i. i viii. ar gyfer y dosbarth- iadau hyn. Ceiniog yw ei bris, a chan Mr. Evans, Swyddia'r Cymro,' Dolgellau, y mae i'w gael. Croesor. H. LEFI JONES.
Y PARCH. J. OWEN AM UNWAITH…
News
Cite
Share
Y PARCH. J. OWEN AM UNWAITH ETO. AT OLYGYDD Y CYMRO. Anwyl OJygydd,—Canatewch i mi ofod gyhyd ag i atgofio i'r Hybarch Mr. Owen am Esboniad Dr. Cynddylan Jones ar yr Efengyl yn ol loan, Pen. ii. 21. Ymddeneys nad ydyw y Dr. parchedig ymhlith y dwsin cyfarwiyddiaid y trodd atynt, a lie y pen- derfynir y frawdoliaeth—vn ol fy meddw) bach i- ac yn unol- ys dywed Mr.. Jones—a syniad yr Es- boniwr Anglicanaidd gaXuog, Dr. Alford, a'i gyd- geiigwr poblogaidd Farrar, a'r tramorwr enwog Godet, fel y .mwyaf cydweddol a synwyr cyffred- in." Y mae y tri hyn, a Cynddylan ei hun, a'r Parch. Puleston Jones. Tybiwyf fod y pum' enw yma, ac o'r safle ag ynt, ac mor ddiweddar yn y byd lienyddol yn dipyn o awdurdod, dros esbon- iad y synwyr cyffiedin,' fe) y galwent ef, yn wrth- wyneb i'r dwsin namyn un g,an Mr. Owen. Hyn,, gydav yn unig, ,atgyfeirio eich, sylw at eich mynegiant Denderfynol am farwolaeth I.ago, yn eich eglurhad dan pen. xv. 7, :(I,e yr ysgrifenwch yn ddi- betrusier,—" lago, Brawd yr Arglwydd (Gal i. 14). Tybir mai ymddangosiad yr Iesu iddo wedi atgyfodi a lwyr enilodd lago i igredu ynddo." Ymddengys mai ar waith yr Iesu yn cyfiwyno ei fam i ofal loan y dibynna Mr..Owen yn fwyaf pen- odol am ei gred yn y cefndyr. Ond gan nad ydym ni ein dau yn' adnabod teulu Joseph,' ms gaLfwn roddi jlawer 0 bwys ar hyn. Lied awgrymir uchod y gallai .nad oedd y brawd yn credu ynddo fel Iachawdwr v byd, ar y pryd; er y byddai yn hawddach coe'do. i'r gwrthwyneb, mai am ei fod wedi dyfod i gredu yr ymddangosodd Crist iddo. Pa 9 un bynnag, y tebygol yw, nad oedd wrth y groes ar y pryd. Ac mor debyced a hynny, ei fod yn ol arfer y Dwyreinwyr wedi priodi yn gynnarar ei fywyd, ac felly yn dipyn o deulu er'byn hyn pryd y gwyddom am y Disgybl annwyl!, ei fod ef yn y fan a'r [ie, ac yn gefnder i'r Iesu, yn wr sengl, yn byw gyda'i fam, iac mewn sefyllfa uwch';aw y cyffredin, a chanddo dy yn Jerusalem. A bod ei fam yn chwaer i Mair a mwy, ei bod yn un o deulu y ffydd, yn un o'r ffydd:ioni.aid, o nifer y party bychan, y rhai hefyd pan oedd yn Galilea, a'i dilynasant ef, ac a weiniasant iddo; ac a brynasant y peraroghu, ac yn fore iawn a ddaethant at y bedd." Gan ystyried yr oil nid ydyw cyflwyniad yr Iesu i'w gefnder mor anhygoel ac annaturiol. Tybiwyf nas, gellir rhestru yr [ymofyniad yma yn rhestr y cwestiynau ffol, a'r achau anorffen; y mae mynachaeth, sydd wedi bod yn felldith o'r mwyaf dinistriol i wleclydd cred, yn crogfaelu arno. Ond na chyffroed y Gol|ygydd ar y dybiaeth fy mod am lusgo dadl anorffen i'T Cymrd;' pe byddai yn ty ngaJlu a'm cyfleustra, a ehael drws agored, gwae fi fyddai rhyfygu cynnyg efo mab John Owen, y Gwyn- dy cofion bendigedig am dano felly terfynaf, gan obeithio na roddiais yr un tramgwjydd i'r brawd annwyl Gynt a ilanegryn. H. PUGH.
CADAIR W AG Y BALA.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CADAIR W AG Y BALA. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Mae Nodwr mewn rhifyn diweddar yn dyfynnu sy:(w o eiddo. Dr. James, Manchester,-—sylw a wnaed pan oedd y gwr rhagorol hwnnw yng ngaf- aelion prudd-der,, os nad digalondid. Wn i ddim a oedd eich gohebydd am awgrymu'n gynnil ei bod yn debyg yn y dyddiau hyn. Os felly y teim:tai, rhaid ei gyplysu gyda Dr. James yn hiyn o beth, oblegid nid oeddynt yn sylweddoli cyfoetb y Cyfundeb. Caniatewch i mi edrych o gwmpas yn hamddenol, a holi A oes gennym ni yn y Gogledd neb sy'n gym- wys i lenwi'r gadair wag yn y Bala? Yr wyf yn awr, yn son am y Gogledd yn unig, dealJer, ac yn y rhestr ddilynol nid wyf yn honni bod yn fanwl gywir. Byddai yn dda cywiro v rhestr, modd y byddai ar gael restr fanwl o holl raddedigion y Cyf- undeb. Dechreuwn gyda'r rhai sydd wedi cyrraedd cryn amlygrwydd yn eu cwrs addysgol, neu ar ol hynny mewn cylchoedd o wasanaeth cyhoeddus. 1. Y Parch. John WilXams, Brynsiencyn, Pregeth- wr blaenaf y dydd yng Nghymru. Nid yw wedi graddio ond yn AthroÍ'a'r Pulpud, ond y mae wedi cael profiad maith fel trefnydd. Yn Arholiadau y Cyfundeb safai yn uche:yn ail ar restr mynediad i Athrofa'r Bala, ac yn ddiameu yn sefyll yn barch- us yn holl restrau y blynyddoedd dillynol, er nad wyf wedi gallu dlyn ei gwrs.. Pasiodd yr Arholiad Cymdeithasfaol yn burned yn v dosbarth cyntaf, dan arholiad Daniel Rowlands, Joseph Thomas a D. Charles Davies. 2. Y Parch. Thomas Charles Williams, sydd wedi graddio yn M.A., ym Mhrifysgo] Rhydychain. En-, illodd ysgoloriaeth yno, a chafodd second class honours mewn diwinyddiaeth. Heblaw hyn y mae'n bregethwr adnabyddus drwy Gymru a L:begr, ac mor gartrefol yn y Saesneg ag ydyw yn jaith ei fam. Gobeithio na esgeulusir sylwi ar y pwynt diweddaf, oblegid y mae'n bwysig. 3. Y Parch. John Puleston Jones sydd wedi gradd- io yn M.A., ym Mhrifysgol Rhydychen, wedi cym- eryd First Class yn History, yn awdwr, esboniwr a phregethwr o'r dosbarth blaenaf. 4. Y Parch. John Owen, M.A., Caernarfon, pre- gethwr o safle uchel, ysgolhaig diwylliedig, trefnydd rhagorol, a gwr o gymeriad trwyadli a chryf. 5. Y Parch. J. E. 'Hughes, Caernarfon, B.A., o Brifysgol Llundain, M.A., o. Brifysgol Caergrawnt, gydag anrhydedd y 3ydd dosbarth mewn athroniaeth, a B.D. o Brifysgol Llundain. Gresyn fod iechyd Mr. Hughes wedi effeithio cymaint ar ei egnion ac wedi cwtogi cymaint tar ei wasanaeth cyhoeddus. 6. Y Parch. T. E. Jones, !M.A.„ Cefnywaen, gwr a gafodd gwrs eithriadol) o ddisglair ym Mhrifysgol Glasgow,—cyfartal bob dydd i gwrs Syr Henry Jones. 7. Y Parch. J. Pritchard, M.A., B.D., Privsgol Cymru,—gwr ieuanc rhagorol ymnob ystyr, ond c hyd yma heb gael Ue mawr yng nghylch-;edd cy- hoeddus ei enwad. 8. Y Parch. E. O. Davies, B.Sc., Llundain, efryd- ydd' yng Ngholeg Mansfield am dair blynedd, dar- "Jithydd llwyddiannus yn Athrofa'r Bala, ac awdwr pedair cyfrol Saesneg safonol. 8. Y Parch. Gwilym H. Havard, M.A., Rhyd- ychen, gydag anrhiydedd y 3ydd dosbarth; B.D. Prifysgol Cymru, trefnydd galluog a phregethwr da. 10. Y Parch. G. Parry Williams, M.A., gydag ,anrhydedd yr ail ddos'barth yn yr ieithoedd Semit- aidd, B.A., (Llundain, gwr o brofiad, ysgolheigdod a diwylliant uchel. II. Parch. R. E. Morris, M.A., Gwrecsam, ysgoi- haig aeddfed, ac wedi graddio gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf ym Mhrifysgol Rhydychen. 12. Proff. John Owen Thomas sydd yn adnabydd- us oherwydd ei gysylltiad eisoes a'r Athrofa, ac wedi graddio yn Rhydychen gydag anrhydedd o'r ai,) ddosbarth. 13. Proff David Phillips, un arall o athrawon y Bala, yn gryf mewn athroniaeth, wedi graddio yng iNghaergrawnt gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf, ac yn M.A. o Brifysgol Cymru. 14. Proff. Richard Morris wedi graddio yn M.A. ym Mhrifysgol Glasgow, ac yn B.D., o Brifysgol Cymru. 15. Y Parch. Griffith Hughes, B.A., ym Mhrifysgol Cymru, ac yn M.A., ym Mhrifysgol Rhydychen, gydag anrhydedd o'r dosbarth cyntaf mewn diwin- yddiaeth. 16. Y Parch. D. Francis Roberts, B.A., B.D., ac wedi cael profiad fel athraw ym Mhrifysgali Glasgow. 17. Y Parch. Gwilym A. Edwards, Croesoswallt, gwr ieuanc sydd wedi cymeryd me anrhydeddus yn ei holl arholiadau, ac wedi graddio ym Mhrifysgol Rhydychen gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf mewn diwinyddiaeth. Nid -wyf yn argymell teilyngdod neb. Ond yr wyf yn gosod y rhestr yna o flaen eich darllenwyr er mwyn iddynt weled mor gyfoethog yw ein Cyfundeb. Byddai yn dda cael rhestr gywir o'r holl raddedigion, ac os na ymgymera rhywun arall a'r gwaith, anfon- af i chwi eto air. Yr eiddoch, &c., CANTAB.
Advertising
Advertising
Cite
Share
lz>u C:) 'VT :Ej A, Mq ID S GWALIA TEMPERANCE HOTEL 61, Mount Pleasant, LIVERPOOL. Also Bangor, Beaumaris and Llangefni. A HOME FROM HOME. CARTREF ODDICARTREF. D. J. TRUSCOTT. (PANT-Y-CELYN HOUSE). 1 87, Marylands, Rd., Paddlriglott, LONDON, w. MODERATE CHARGES. Fifteen Minutes' Walk from Paddington Station. Fare by Bus id., by Cab is. Telephone No. 7087, P.O., Hampstead. M- Telegraphic Address GWALIATEL, London. Telephone Nos. 5010 & 5011 City. HOTEL GvV AJI. UPPER WOBUBN PIACE. LONDON. w.c. CENTRALLY SITUATED. (Within 5 minutes walk of Euston Station and 20 minutes from Paddington by Underground Rail- way to Gower Street Station). BED, BREAKFAST, BATH & ATTENDANCE, 59. EACH PERSON. tio Room* LuxiHoumly Furt»tBh»& Passengers Lift to all floors. Fireproof Building. JOHN M. JENKINS, Manager. I Opposite the British Museum. I Thackeray Hotel Great Russell Street, London. Near the British Museum. I Kingsley Hotel Hart Street, Bloomsbury Square,London. I Bedroom, Attendance and Table d'B6te Breakfast Single from 5s. 6d. With Table d'Hote Dinner from 8s. 6d. Fall Tariff and Tettimonials on Application. Tel.—Regent 2041 (2 lines). 2083 (2 lines). Tel. Add.—' Thackeray London. Bookcraft London." Fall Tariff and Tettimonials on Application. Tel.—Regent 2041 (2 lines). 2083 (2 lines). Tel. Add.—' Thackeray London. Bookcraft London." Dr. Williams' School, DOLGELLEY. Preparations for the Central Welsh Board and Ox. ford Local Examinations, London and Welsh Matri. culation, and University Scholarships. There are three leaving Exhibitions, tenable at Colleges, which are awarded annually upon the re- sults o fthe year's work. The Building and Grounds are excellently adapted to secure the comfort and health of the Pupils A NEW WING was built in 1910 to meet the demand for increased accommodation A Domestic Science Department has recently been added TENNIS, CYCLING, AND HOCKEY. Inclusive Fees: BOARDING £26 per annum (TUITION, £ 5. For prospectus, apply to the Headmistress or to the Clerk to the Governors.
CAPLANIAID YMNEILLTUOL SiWYDDOGOL.
News
Cite
Share
CAPLANIAID YMNEILLTUOL SiWYDDOGOL. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,G'Ne::ais gyfeiriad droion yn y CYMRO at ben- odiad caplaniaid Ymneilltuol i'r fyddin. Hoffwn gael eglurhad sut y cysonir derbyniad taD o'r wlad- wriaeth am wasanaeth crefyddol a'n safle fel Ym- neilltuwyr am gysyllltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Pa beth yw y gwahaniaeth os oes gwahaniaeth, rhwng penodi person ar blwyf a phenodi caplan ar fyddin? Ac a oes gwahaniaeth mewn egwyddor Ihwng derbyn tal o'r wladwriaeth am ddysgu crefydd1 i b'rwyfolion rhagor derbyn tal am ddysgu crefydd i soldiers? Mi hoffwn, hefyd, gael goleuni ar waith gweinidog yr Efengyl, ,gwas lesu Grist, yn rhoddi heibio- ei wisg arferol ac yn ei De yn gwisgo dillad cap-ten yn y Fyddin ac yn crogi cleddyf ar ei glun. A ydyw Ymneil^uwyr Cymru yn cymeradwyo peth. fel hyn? Wrth ,gwrs mae'r peth wedi cychwyn yng nghysylltiad Eglwys iloegr a'r wljadwriaeth, ac yr ydym ninnau,—neu rai o honom,—yn credu os ydyw yn iawn i gapLan Eglwys Loegr gaell deuddeg swllt a chwecheiniog y dydd o gyflog a'i gynnal, y dylem ninnau gael vr un peth. Ac os yw yn iawn v Esgob L-.bndain vael ei wisgo fel milwr, ai nid yw yn iawn i weinidog Ymneilltuol gael yr un peth? Felfy yr ydym wedi Illithro i'r rhwyd, a heddyw yr ydym, mi gredaf, yn awyddus am v breintiau oherwydd fod Eglwys Loegr yn eu cael. Fy nghred onest i yw y gallai gweinidogion Ymneilltuol wasanaethu eu Meistr a'u cyd-ddynion yn llawer gwe'il pe dilynent esiampl v mynachod yn hytrach na phersoniaid Eg- lwys Loegr. YMNEILLTUWR.