Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

* NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. Dywed Celt Llundain fod Towyn Jones a'i fryd ar gyhoeddi llyfr i ddysgu i'r aelodau Cymreig sut i ysgrifennu am eu gilydd, Mri. John Hinds a Llewelyn Williams i ysgnifennu rhagair. -+- -+- -+- Mae'n beth rhyfedd iawn, and mae'n wir, y caniateir i Gymry sydd yn ymladd dros eu gwlad anfon gair adref wedi ei ysgrifennu yn iaith eu mam. O'u mawrfrydigrwydd, can- iata awdurdodau'r Swyddfa Ryfel hyn. -+- -+- Dywedodd cyn-gadeirydd bwrdd lleol 1.13n- dudno, mai y milwyr a' gadwodd y dref rhag methdaliad eleni. Mae 7000 a filwyr yn y dref, a dywedir fod tua mil o'r brodorion wedi ymuno a'r fyddin. -+- -+- -+- Mae cangen Esgobaeth Bangor o Gym- deithas Ddirwestol Eglwys Loegr wedi dwyn. allan igardlau ymrwymiad llwyrymwrthodiad yn ystod tymor y rhyfel. Anogir y person- iaid i'w defnyddio. Mae y Parch. J. J. Morgan, yr Wyddgrug, mewn porfeydd gwelltog yn casglu hanes Matthews, Ewenni, ar gyfer Cofiant. Bydd hanes rhai o oedfeuon mawr Matthews yn drysor, ac fe wyr Mr. Morgan sut i'w gael. -+- -+- -+- Cwyno wna'r Drych fod Cymry America ymhell yn ol i'r hyn ddylasent fod yn eu cefn- ogaeth i lenyddiaeth Gymreig. Nid oes angen myned dros y mor i glywed y gwyn hon, canys gall as a i pob cyhoeddwr Cymreig ganu yr un alarnad. Deallaf fod Mr. W. Edwards, arolygydd ysgolion dyddiol dros rannau 01 Gymru, yn ymneilltuo wedi cyrraedd y tymor rhagder- fynedig i, gael blwydd-dal, a bod Mr. L. J. Roberts i gymryd ei le. Bydd Mr. Roberts yn symud i fyw i Abertawe. -+- -+- -+- Mae adroddiad blynyddbl Bwrdd Penod- iadau i Gymru yn dangos fod ein dynion blaenaf yn agor y drws i fechgyn Cymru i safTeoedd o gyfrifoldeb a, chyfle. Ac er gwaethaf y rhyfel mae'r gwaith da yn myned ymlaen dan arolygiaeth effeithiol Mr. R. Silyn Roberts, M.A. -+- -+- -+- Cwmni blawd cryf yw Mri. Spiller and Baker, o Gaerdydd, ac yn ystod y flwyddyn yn gorffen yn Chwefror diweddaf gwnaethant elw o £ 367,865 ar gyfer £ 83,889 yn y flwy- ddyn cynt. A oes rhai1 o'ch darllenwyr wedi gweled rhestr cyfranddalwyr y cwmni cyf- oethog yma? ♦ ♦. -+- Gwelwyd nifer fawr 0 gymunwyr wrth allorau yr Eglwys Sul y Pasc. Gresyn na, fuasai y bobl hyn cyn dduwioled y tuallan i'r Eglwys ag ynt y tu fewn. Gwelwyd nifer ■p'r cymunwyr ar brynhawn Sul ar olwyn- ion yn plesera! Y mae torri'r Saboth yn beth rhy gyffredin ymysg Eglwyswyr a chre- fyddwyr eraill yn y dyddiau hyn. -+- Ceisia gohebydd y Llan godi helynt oher- wydd fod gweinidog Ymneilltuol yn darllen y llithoedd mewn Eglwys blwyfol yng nghanol- barth Ceredigion. Gwelais y P'arch. Evan Jones, Caernarfon, yn gwncud hynny yn Eg- Hvys Llanbeblig, a'r dydd o'r blaen yr oedd Esgob Llundain yn gwasanaethu dan gyfar- Wyddid Caplan Presbyteraidd1 ym maes y rhyfel! Oes, y mae pethau rhyfedd yn digwydd. Nid yw awdurdodau'r Trysorlys wedi dweyd yn fanwl wrth arweinwyr addysg Cymru pa welliantau a ofynir yn y gyfun- drefn addysg. Dywedodd Dr. Brough fod y cyfnewidiadau a ddisgwylir yn myned ymlaen er ys ugain mlynedd ym mhrifysgolion Lloegr. Os felly nid oes dim i'w ofni. Wrth adolygu yr Esboiniad, i Blant ar Ef- engyl Marc, gan y Parch. H. Lefi Jones, Croesor, dywed Anthropos am dano yn ei ffordd ddigymar ei hun Nid yw ei bris ond ceiniog, ond y mae yn geiniogwerth fawr, ac yn cynnwys llawer mewn ychydig. Nid gwr yn prynnu bara ydyw'r awdwr. Poba ei dortli ei hun." -+- -+- -+- Mae gan Undeb yr Eglwysi Rhydd afael gref ar Gymru fel y gwelir wrth ddarllen y Free Church Year Book for 1915. Mae yma tua chwe' thudalen yn llawn o enwau'r ysg- rifenyddion lleol. Gallai fod y rhestr yn hen. Gresyn, wedi'r cwbl, yw i Gymru dorri cys- ylltiad a threfniad sydd' mor eang ei ddylan- wad yn Lloegr. -+- Yn groes i'n diisgwyliadi nid yw y Parch. Stephen El. Gladstone i fyned. i fyw i Gastell Penarlagf, er mai efe yn ol trefn gyffredin pethau fuasai yr etifedd. Ond cyn myned allan trefnodd Mr. W. G. C. Gladstone i'w ewythr Mr. Henry Neville Gladstone ddyfod i'r etifeddiaeth tra y bydd byw, ac yna mab hynaf y Parch. Stephen E. Gladstone. -+- Dadleuir yn Sir Aberteifi1 fod y ddeddf sy'n rhoi hawl i gwtogi oriau yfed yn gymhwys- iadwy at bob rhan o'r wlad, ac nid at y rhan- nau lie y mae milwyr yn unig fel y dadleuir mewn rhannau eraill. Da fyddai cael rhyw ddealItwriaeth ar hyn. Mae Prifgwnstabl C-cred-igioin yn weithgar a phenderfynol, a'r ynadon yn weddol unol. Ond ceir fod! rhai yn llusgo yn ol. -+- Daliwyd gwraig yn gwerthu ymenyn ym marchnad Castellnewydd Elmlyn gyda char- reg yn ei ganol! Pwysau y cyfan 0"r ymenyn oedd deuddeg pwys a hanner, a phwysai y garreg yn y canol wyth bwys a hanner. Wrth gwrs y mae profiad yn dweyd fed llawer o bethau yn cael eu rhoi mewn ymenyn; ond dyma y tro cyntaf i mi glywêdam garreg yn pwyso 8J wedi ei chladdu mewn pedwar pwys 2 o ymenyn! -+- Misolyn rhagorol yw y County School Review," a olygir gan Mr. J. Trevor Owen, M.A., Abertawe. Cymer olwg eang, bwyll- og, a deallgar, ar Addysg Cymru yn y nod- iadau, a cheir ysgrifau ar wahanol weddau yr addysg a gyfrennir yn yr ysgolion sir. A ydyw holl lywodraethwyr ysgolion sir Cymru yn darllen y cylchgrawn hwn? Dylent wneud,—neu diarddelir hwy yn y cyfarfod nesaf. -+- Mae'r Amwythig yn debyg 0 gynhyddu yn ddirfawr yn ei phoblogaeth, ac yn lie ym- gecru ynghylch y ddwy eglwys sydd yno dylasid cadw golwg ar Ditherington a lleoedd eraill lie y mac cannoedd lawer o bobl heb end ychydig o addoliadau ar eu cyfer. Y mae angen mission halls YD. y garden cities,' onide fydd' y garden city' fawr o dro cyn myned yn slum.' Gwelir tafarndai ddigom o fewn cyrraedd y garden city ar y Sul, ond y mae pellter enbyd rhwng yr addol- dai. Bydd miloedd lawer yn gweithio mewn ffactrioedd newydd cyn hir yn yr Amwythig. Dyma gyfle braf i'r eglwysi i symud allan o'r hen 'riits.' Ysgrifenna y Parch'. Dr. H. Cernyw Wil- liams, Corwen, yn Yr Athraw ar y llei- had yn nifer ymgeiswyr teilwng am y weini- dogaeth yng Nghymru,—pwnc o bwysig- rwydd bywydol i bob enwad. Dengys Dr. Williams fel y mae hyn yn dyfod yn araf er ys blynyddoedd., ac wedi ei brysuroi yn ddiwedd- ar gan y dyhead am fod yn swyddogiom yn y fyddin. I ddirywiad yn y cartref y priodola'r lleihad, ac yno y rhaid i ddiwygiad gychwyn. Gwir bob gair. Mae eisieu rhyw broffwydi i danio Cymru eto o gwr i gwr." Mae rhestr ymgeiswyr am fod yn brif- athro ysgol uwchraddol Caerdydd wedi ei thynnu i lawr o 12 i 6, a dyma y rhestr o'r hon y dewisir un ar y 14eg o'r mis hwn:- John W. Yates, M.Sc. (Manchester), R. L. Ager, M.A. (Oxon.), John L. Davies, M.A. (Cantab.), Harold Si. Jones, M.A. (Cantab.), Jeremiah Williams, M.A. (Oxon.), Joseph R. Roberts, M.A. (Lond.). Mae'r cyntaf yn athro yn yr ysg'ol yn awr, yr olaf ond un yn brifathro yn ysgol sir Abergele, a'r olaf yn brifathro' yn ysgol ramadegol Rhiwabon. Ganwyd y Parch. Josiah Jones, Machyn- lleth, ar y gfed 0 Orffennaf, 1830, yn Cwm- coy, gerllawt Castellnewydd Emlyn; bu farw Ebrill 27, 1915. Aeth i'r Coleg i Aberhon- ddu gyda Griffith John, y gwr dd'aeth yn gen- hadwr byd-enwog. Cysgent yn yr un gwely., Ym Machynlleth y treuliodd Mr. Jones ei oes. Ordeiniwyd ef ar y iofed 01 Awst, 1854, a phriododd or-wyres i Williams, Pantycelyn. Un peth nodedig yn hanes Mr. Jones,— ] byddai yn gyson yn y moddion bob amser ar ol ymneilltuo o'r fugeiliaeth. Yr oedd yn foneddwr Cristionogol. Rhifyn amrywiol,-ymhob ystyr i'r g-air,- yw un Y Geninen am y mis hwn, amryw- iaeth mesur a thestun, enwad a phlaid, ac am hynny yn ddyddorol anghyffredin. Nid oes yma ddim o olion y seiri enwadol, yn toni conglau pob maen er mwyn iddo gymryd ei le yn weddus yn adeilad'waith yr enwad. Mae gennyf un gwyn yn erbyn y Geninen,'— nid yw y wynebddalen bob amser yn dweyd y gwir, ac am hynny mi a'i gelwais un tro yn garreg fedd. Ond er nad yw'n gywir, mae'n rholi syniad wrth edrych arno beth yw'r am- rywiaeth. Mae yma un awdwr newydd,— Mr. Ernest Evans, M.A., gwr ieuanc sydd i fod yn y Senedd cyn bo hir. -+- Gohebydd a ysgrifenna :—" Yn y Nodion am yr wythnos hon gwneir cyfeiriad at Miss Aranwen Evans, y Genhades sydd yn bres- enol gartref am ychydig seibiant, yn yr hwn y ceir un gwall y byddai yn werth ei gywiro. Nid Bryniau Khasia ydyw maes ei llafur, eithr Silchar ar y Gastadedd. Cwynir yn barhaus am ahwybodaeth yr eglwysi am ein maes cenhadol, a'u gwaith yn son beunydd am Khasia a'r Bryniau fel pe mai yno yn unig y gweithiai ein cenhadon; ond pa ryfedd, pan mae cy-feiriadaq, fel ag a geir yn y Nodion, y tybir eu bod yn swyddogol, yn gwneud y camgymeriad. Yr unig amcan i'r sylw hwn ydyw pvvysleisio, fod y Gwastadedd yn gystal a'r Bryniau yn faes i'n hymdrechion yn yr India. Gwir hollol yw gweddill y nodiad. Cafodd Miss Aranwen Evans groesaw calon- nog gan ei Chyfarfod Misol yn Aberdar, a threuliodd eglwys Pontmorlais ddwv noson i'w chroesawu. Te: i'r rhai mewn oed yn y prynhawn a chyfarfod yn yr hwyr y dydd cyntaf, ac i'r plant yr ail ddydd. Croesawyd .Y y genhades yn galonnog, a chafwyd ganddi hithau anerchiadau y ddwy noson nad ang- hofir yn hir."