Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

CYFARFODYDD MISOL. .-.--...--------

News
Cite
Share

CYFARFODYDD MISOL. AMSER CYMDEITHASFAOEDD A THREFN Y C.M. :— Y Gymanfa Gyffredinol—Llundain, Mehefin 8, 9, 10, 1915,. Cymdeithasfa'r Gogledd-Caernarfon, Awst 25, 26, 27. Cymdeithasfa'r De-Hebron, Aberaman, Gorffenaf 28, 29, 30. Brycheiniog—Clydach, Gorph. 7, 8. I ddechreu am un. o'r gloch. Caerfyrddin—Pontyates, Gorffenaf 14. I ddechreu am 10.30. Bydd tren yn rhedeg o Burry Port am 9.45 a.m. Dyffryn Clwyd.—Llansannan, Awst 2ofed. Gogledd Aberteifi-Rhydlwyd, Gorffenaf 29, 30. Glamorgan Presbytery East—Barry Island, Wednes- day, July 1St Gorllewin Meirionydd— Manchester.—Earlstown, Gorffenaf 4. Cyfarfod cyntaf i ddechreu am 3.15. Penfro-Neyland, Gorffenaf 22ain. Testyn y Seiat, Micah viii. 8. Trefaldwyn Uchaf.—Manledd, yr amser i'w nodi eto. BRYCHEINIOG.—Trefecca, Mehefin gfed. Llyw- ydd, Parch. John Davies, U.H., F.S.A., Pandy. Dechreuwyd y cyfarfod drwy weddi gan y Parch. Stephen George, B.A., Llandrindod Wells. Dar- llenwyd a chadarnhawyd y cofnodion. Gohiriwyd amryw faterion dan y C.M. nesaf. Galwyd sylw at yr eiddo yn Llyswen, a phenderfynwyd fod y Parchn John Davies, U.H., a Rees Evans, C.S., i ymweled a dau o'r blaenoriaid er os yn bosibl, gwastadhau pethau a dwyn heddwch i'r eglwys. Cydsyniwyd a dymuniad y Parchn. Llew. Baines-Williams, B.A., a David Rees, a throsglwyddwyd i'r Gymdeithasfa eu oais am lythyr aelodaeth ar eu symudiad i'r America ac i undeb a'r Eglwys Henaduri-aethol yn y wlad hono. Gofid, garw genym yw colli y ddau frawd hyn ond 0 a galon lawn dymunwn eu llwydd- iant yn fawr yn y dyfodol. Duw pob dawn a fo yn nodded iddynt. Derbyniwyd ceisiadau am grants, a phenderfynwyd gwneyd cais eleni eto at y Genhad- aeth Gartrefol ar ran yr eglwysi gweiniaid. Cad- arnhawyd trefniadau y Pwyllgor Lleol ynglyn a'r Gymdeithasfa. Darllenwyd llythyr parthed yr eiddo yn Bailiau, a throsglwyddwyd y mater i ofal Mr. Howell Phillips, Castelldu, yr hwn er's blynyddau sydd wedi gweithredu fel goruchwyliwr y C.M. Galwyd sylw at y Cinema gan y Parch. T. Rhys Prydderch, B.A., a bu y peth dan driniaeth fanwl, ond ni phasiwyd yr un penderfyniad. Disgwylir i'r cwestiwn ddod i fyny eto yn y dyfodol. Y C.M. nesaf yn Clydach, Gorffenaf 7, 8. I ddechreu am un o'r gloch. Bydded i'r neb a fwriada fyn'd gyda'r modur drwy Grughywel yn hytrach na gyda'r ger- bydres drwy Brynmawr anfon yn ddi-feth ac yn brydlon at Mr. J. Munkley, Tymawr, Gilwern, ger Abergavenny. Bydd y C.M. nesaf yn Clydach, Gorffenaf 7, 8, i ddechreu am i p.m. Gellir cyraedd yno naill ai gyda'r modur drwy Grughywel neu'r gerbydes drwy Brynmawr. Bydded i'r rhai a fwriadant fyn'd gyda'r modur roddi gwybodaeth yn ddiymdroi i M. J. Munkley, Tymawr, Gilwern, Abergavenny. TREFALDWYN UCHAF.-Llawryglyn, Iau a Gwener, Mehefin 4 a 5. Llywydd, Parch. Fred. J. Davies. Dechreuwyd cyfarfod y boreu gan Mr. Richard Breese, Bont. Treufiwyd yr awr gyntaf i ymdrin ag Ad-drefniad a Chynhaliaeth y Weini- dogaeth." Agorwyd y mater gan y Cyn-Lywydd, y Parch. John Williams, B.A. Cyfiawnhaodd Mr. Williams ei waith yn siarad ar fater arianol fel testyn wrth ado'r gadair, gan i flaenor cyfrifol ei ragflaenu yn yr awgrym. Rhoes Mr. Williams drem frysiog ar safle'r cwestiwn yn ngoleuni Cymdeithas. fa'r Gogledd, ac yna awgrymodd y priodoldeb o gychwyn cynllun yn Nhrefaldwyn Uchaf i godi y gydnabyddiaeth Sabbothol. Pe'r ychwanegai y Drysorfa Gynorthwyol 'Leol y swm o ^150 at ei chyllid blynyddol, gellid sicrhau 30s. y Sabbath i bob gweinidog o fewn cylch y C.M. Cymeradwy- wyd yr awgrym gan amryw siaradwyr, yn flaenor- iaid a gweinidogion, ac fel ffrwyth yr ymgynghorfa, pasiwyd i gyflwyno'r mater i bwyllgor cyfansodd- edig o Bwyllgor y Drysorfa Gynorthwyol 'Leol, yng- hyda'r Parchn. Elias Jones, John Williams, B.A., D. Cunllo Davies, a Mr. Richard George, U.H., a'r Pwyllgor i ddwvn adroddiad i'r C.M. wedi y caffont weledigaeth. Diolchwyd i Mr. Williams am ei an- erchiad doeth ac amserol. Hysbysodd y Llywydd fod y cofnodion yn gywir, a chadarnhawyd hwy. Trefnwyd i'r C.M. nesaf fod yn Manledd, yr amser i'w hysbysu eto. Mater y seiat, "Cynwys y Cyf- amod Newydd," seiliedig ar Heb. viii. 10. Yn wyneb amgylchiadau rhoddwyd caniatad i'r Bont i beidio cynal C.M. Mehefin. Cyfarfod y prydnawn am 2 o'r gloch.-Dechreuwyd gan Mr. Thomas Morgan, Oakley Park. Yna darllenodd yr Ysgrifen- ydd nifer o lythyrau, rhai yn diolch i'r C.M. am gydymdeimlad mewn gwaeledd, un yn diolch am ddiolch, ac eraill yn cynwys cenadwriaethau. Pas. iwyd i ofyn i'r Gymdeithasfa ddiolch i Mr. Lewis Jones, Towyn, am ei rodd o £ 200 i eglwys Pant- perthog. Gofynwyd i'r Parch. D. Cunllo Davies ysgrifenu nodiadau coffaol i'r Blwyddiadur am y diweddar Barch. E. R. Jones. Darllenwyd cenad- wri o Ddosbarth Glandyfi mewn perthynas i Certi- ficates yr Arholiad Sirol, a chafwyd esboniad gan Mr. Williams yr Ysg. Cyflwynodd y Parch. William Roberts achos y brawd ieuanc o Sion—Trefor Owen Davies-i sylw'r C.M. Ymgeisydd yw ef am y weinidogaeth. Rhoddwyd gair da iddo gan y brodyr fel bachgen ymroddedig a chymeriad hardd, a chan. iatawyd iddo fyned trwy y Dosbarth ar ei brawf, a Mr. Rabertsi drefnu ei daith. Anogwyd yr eglwysi i wneyd eu rhan o blaid casgliad eglwys Gymraeg Wolverhampton, a rhanwyd cardiau casglu gan yr Ysg. Bu sylw ar brisio eiddo'r Cyfundeb o fewn i'r C.M. ac arwyddwyd taflen o benderfyniadau gan y Llywydd a'r Ysg. Cadarnhawyd enwau y Parchn. Elias Jones a John Williams, B.A., ar bwyllgor "Ad- drefniad y Casgliadau." Pasiwyd pleidlais o gyd- ymdeimlad a'r brodyr a ganlyn yn eu gwaeledd :— Mr. Richard Jones, Bryntirion, Cemaes Rd. Mr. Lewis Lewis, Troedyrhiw, Derwenlas. Hysbysodd yr Ysg. fod Mr. Richard Edwards, o Goleg y Bala, yn derbyn galwad y C.M. i fugeilio eglwysi Manledd a'r Pare. Hefyd fod Pwyllgor Llawysgrifau Tref- ecca yn caniatau 'i Mr. Richard Bennett fenthyg rhai o'r llawysgrifau, modd y gallo chwilio'n fanylach i ymwneyd Howell Harris a Threfaldwyn Uchaf. Darllenwyd llythvr oddiwrth Drysorydd y C.M. yn hysbysu fod amryw o eglwysi heb dalu eu cyfran am bamfiledau Davies a Bennett ar Ein ffyddlon- deb i'n Hanghydffurfiaeth." Brysied y rhai a fo yn y camwedd i'w unioni yn ddiymdroi. Yn nesaf, cafwyd 'hanes yr achos a phrofiadau'r swyddogion yn Llawryglyn a Berthtas. Yr oedd yna arogl es- mwyth ar y profiad, a'r swyddogion yn tystio mai gwaith y Deyrnas oedd eu mwynhad penaf. Rhodd- wyd gair cynes o anogaeth iddynt gan eu cyn- weinidog-y Parch. Elias Jones. Wedi tipyn o drafod ynghylch rheolau aethpwyd i bleidlais ar Drysorydd i'r C.M. am 1915-1917, a chafwyd fod Mr. Gwilym Edmunds, V.H., Llanidloes, wedi ei ddewis gyda mwyafrif boddhaol. Galwodd Mr. David Jones, U.H., sylw at y Drysorfa Gynorthwyol, a'r casgliad angenrheidiol er sicrhau grant. Adroddiadau (a) Ymwelwyr a Sychnant: Yn ol adroddiad y Parch. J. T. Davies, swn gwendid sydd yn y daith hon. Anogwyd hwy i apelio am fenthyg swm gan y Drys- orfa Fenthyciol, gan gadw mewn cof-y bydd y* C. --Nl. o'r tucefn i sicrhau yr ad-daliad. Rhoddwyd llyfr casglu i Mr. James Davies dan law Llywydd ac Ysg. y C.M. Rhwydd hynt iddo ef yn ei ymdrech dros eglwys Sychnant. Addawodd y Parch. J. T. Davies gynorthwyo'r daith yn nghyfarfodydd yr wythnos, a phasiwyd i anfon at y Genhadaeth Gartrefol am grant i'r eglwys. Enwyd y Parch. J. T. Davies a Mr. William Ashton, U.H., i gynorthwyo'r eglwys yn Sychnant i ddewis ychwaneg o flaenoriaid. (b) Cymdeithasfa Cemaes Yn yr adroddiad hwn pwys- leisiwyd dau fater, sef "Cynhadledd yr Ysgol Sab- bothol," a'r Gwasanaeth Dechreuol." Gan fod y Dosbarthiadau eisoes wedi cynal cynhadleddau, ni welid y ffordd yn glir i gynal un sirol ar hyn o bryd. Penderfynwyd fod sylw arbenig yn cael ei roddi i'r Gwasanaeth Dechreuol ymhob dosbarth o'r C.M. (c) Ymwelwyr a'r Bont a'r Pennant: Bu'r Parch. William Roberts yno, a chodwyd pwyllgor bugeiliol yn y ddau Ie. Enwyd Mr. Richard Jones, U.H., Pendinas, i gymeryd lie Mr. John Edwards ar ran y C.M. (d) Yr Arehwilwyr Gan fod rhai eglwysi heb anfon eu cyfran i law gohiriwyd yr ad- roddiad hwn. (e) Y Symtidiad Ymosodol: Cyfanswm y casgliad £ 1,100 is. ic., llai o 63 os. ic. na'r flwydd- yn Baenorol. Caed casgliad o'r holl eglwysi oddi- gerth dwy. (f) Yr Arholiad Sirol: Adroddiad calon- ogol, y gwaith yn dda a'r ymgeiswyr yn cynyddu. Teilynga'r xhai sy'n parotoi'r plant ddiolch am eu llafur. Gwnaeth yr Ysg. ychydig nodiadau ar y Gymanfa Ganu. (gj Pwyllgor Dirwest a Phurdeb Pasiwyd fod pregeth ar Ddirwest a Phurdeb i'w thraddodi ynglyn a Chyfarfod Misol Carno, gan y Parch. Elias Jones. Hefyd awdurdodwyd yr Ysg. Parch. Edward Evans, i drefnu cyfarfodydd ar wa- han i'r ddau ryw yn yr eglwysi y gaeaf nesaf. Etholwyd Mr. Richard Jones, U.H., yn aelod ar Fwrdd y Genhadaeth Gartrefol. Enwi Ymddiried- olwyr: (A) Dros yr Eglwysi-I. Cemaes: Mri. J. Hywel Evans, Fron Heulog, Cemaes; Joshua Davies, Dolfonddu, Farmer; Henry Humphreys, Gribin, Farmer; W. T. Jones, Council School; David Evans, Shop, Cemaes Road; Tom Evans, Watchmaker, Cemaes Road. 2. Machynlleth (S.) Parch. Frederick John Davies, Greenfields; Mri. Hugh Harries Meyler, Greenfields George Caffrey, Old Maengwyn; David Owen, Aberllefeni House; Iorwerth Bennett Jones, Maglona Villa; Richard Llewelyn Jones, Tanywylfa. 3. Derwenlas: Mri. Evan Roberts, Doldyfi; David Thomas, Derwenlas Morris John Lewis, Troedyrhiw; Joseph Henry Evans, Tynohir Hugh Jones Evans, Morhen Evan Jones, Quayword. 4. Mallwyd Mri. Robert Wil- liam Jones, Aberangell; Morris Jones, Gronfa House, Mallwyd; Hugh Edward Jones, Ty Uchaf, Mallwyd; John Rees, Ty Newydd; William Rees, Ty Newydd; Trebor Stanley Roberts, Ivy Cottage (Cwmcewydd). 5. China St. a Glanynant: Mri. Richard George. U.H., Tawelfan; John Kinsey Jones, Long Bridge St. Llewelyn Phillips, Brynder- wen; David Humphreys Owen, Maesbury House; William Robert Ashton, U.H. Evan Thomas Bun- ford, Sheffield House. (6) Deildref: Mri. Edward Evans, Bryntail; Lewis Davies, Deildrefawr; John Jerman, Bwlchygle Edward Higgs, Ty'nyfron; Ed- ward Rees, Gwestyn; Edward Jones, Groesisaf. 7. Llangurig: Mri. Edward Evans, Henfaes Isaf; Edward Davies, Clochfaen Isaf; William Pryse, Y Green David Brown, Llwynieir Thomas Davies, Tycanol. 8. Y Graig Mri. John S. Wigley, Braich. yfedw John Pugh, Dolbachog John Hughes, Rhiw- dyfeity; David Jervis, Felin Newydd; Evan R. Owen, Llwynygog; Stephen Tudor, Nantyrhafod. 9. Manledd Mri John Jones, 16, Van Terrace James Mills, Llwyncrwn Richard Jones, Croesllwyn John Jerman, New House; Thomas Soley Thomas, Pen- clun; David Tilsley, Van Farm. (B) Dros y C.M.— Ar eglwysi Dosbarth Glandyfi (1-4): Parchn. John Williams, B.A., Fred. J. Davies, R. Davies, B.A., J. Madryn Jones; Mri. Lewis Lewis, Brynmelyn, Sion, a Richard Breese, Bont. Ar Eglwysi Dos- barth Llanidloes (5-9): Parchn. John Williams, B.A., Fred. J. Davies, R. Davies, B.A. Mri. R. T. Neuadd, Thomas Evans, Llwyn Hyddod, Capel Uchaf, Stephen Breese, Tremynfa, Llanidloes. Hysbysodd Mr. David Wigley, Pennant, y C.M. ei fod yn dychwelyd gweithredoedd i'r gist. Llawen- ydd i'r C.M. oedd clywed am gymunrodd y ddi- wetidar Mrs. William Jones, Machynlleth. Gadaw- odd y swm o £64 os. 5c. trwy law y cymunweinydd- wyr i'r Drysorfa Leol. Pasiwyd fed diolch cynhes- af y C.M. i'w roddi i Mr. Hugh Davies, U.H.,—un o'r cymunweinyddwyr, ac ymhellach fod y Gym. deithasfa yn cydnabod yn ddiolchgar y cymunwein- yddwyr am y rhodd. Gohiriwyd sylwadau ar yr Ystadegau ac Allroddiadofr Gymanfa Gyffredinol hyd y C.M. nesaf. Penodiadau: (a) I weinyddu Sacrament Swper yr Arglwydd ac i ymddiddan a'r myfyrwyr yn Nghyfarfod Misol Awst: Parchn. R. W. Jones, Edward Evans. (b) I dderbyn blaenor- iaid yn Nghyfarfod Misol Medi: Parchn. Richard Jones, M.A., Mr. Richard Jones, Manledd. 'ferfyn- wyd trwy weddi gan y Parch. R. W. Jones. Cy- jhoeddwyd i bregethu Parchn. John Williams, B.A., j. Madryn Jones, Elias Jones, R. W. Jones, Richard Jones, M.A., Edward Evans, J. T. Davies. C.M. A CHYMANFA MON.—Cynhaliwyd yn Llangefni, Mehefin 15 a 16. Llywydd, Parch. W. E. Williams. Dydd Llun o 10 hyd 11.15 caed cyf- arfod gweddi. Yna galwyd ar Mri. A. Evans a R. Griffith i dderbyn y casgliadau. Penodwyd Parch. R. Prys Owen, B.A., a Mr. R. Davies, yn wyliedydd. ion arholiad ymgeiswyr am y weinidogaeth, a gyn- helir yn Llangefni, fel centre i Foil, Gorffenaf 28 a 29. Nodwyd Parch. Evan Jones a Mr. David Jones i fyned i Gwalchmai i gymeryd llais yr eglwys yn achos Mr. Thomas Williams, ymgeisydd am y weini- dogaeth. Y Parch. T. Williams a Rd. Davies. Hyfrydle, i fyned i London Road i gynorthwyo yr eglwys yn ngalwad bugail. Parch. William Rob- erts a Mr. Rd. Williams, Amlwch, i fyned i Nebo i gymeryd llais yr eglwys yn newisiad blaenoriaid. Hysbyswyd fod Promissory Note newydd am gioo wedi ei roddi ar ran eglwys Llaingoch oblegid newid- iad y Benthycwyr. Dinystriwyd yr hen note gan y Llywydd. Cymeradwywyd ceisiadau y teithiau can. lynol i gael y grant o'r Gronfa Gynorthwyol:—Bod- edern a Hermon, Aberffraw a Beulah, Benllech, Tabernacl a Saron, Carmel a Seion, Llangwyllog a Bryntwrog, Tymawr a'r Babell a Bethania. Rhodd- wyd anogaeth daer ar fod ymdrech yn cael ei wneyd yn yr eglwysi i chwyddo y casgliad at y Drysorfa hon eleni. Penderfynwyd anfon gwahoddiad i'r Parch. W. W. Lloyd i ymweled a'r C.M. i egluro yr hyn a wneir mewn modd moesol a chrefyddol gan ein Cyf- undeb ynglyn a'r State Insurance. Cadarnhawyd cofnodion C.M. Penygarnedd. Derbyniwyd lliaws o lythyrau yn diolch am gydymdeimlad y C.M. a rhai mewn gwaeledd a phrofedigaeth. Datganwyd cyd- ymdeimlad a'r personau canlynol: Mri. Lewis Hughes, U.H., a Thos. Jones, Tymawr, mewn gwaeledd, ac a Mr. Lewis, Bwlan, Mrs. Williams, Swnydon. a Mrs. Parry Tyddynbach, a'r Proff. D. Williams, M.A., a Mr. Rt. Evans, Gromlech, mewn profedigaeth. Rhoddwyd gwahoddiad eyries i'r C.M. • nesaf i Niwbwrch, Gorffenaf i3eg. Cyflwynwyd cais oddiwrth Fyfyrwyr Mon am iddynt gael cyfar- fod Pwyllgor y Myfyrwyr rhwng y ddau gyfarfod yn y C.M. yn hytrach nag yn Llangefni fel yn bresenol. Cyflwynwyd y cais i ystyriaeth y Pwyllgor. Galwyd sylw at y Goleuad,' gan hysbysu y bydd y rhifyn cyntaf o hono fel newyddiadur y Cyfundeb allan yr wythnos .gyntaf yn Gorff. Adroddiad y Pwyllgor Ar. ianol—Derbyniwy telerau y Goleuad am reprints o'r cofnodion i'w hanfon i'r eglwysi a'r pregethwyr, sef 6s. y mis am y flwyddyn ddyfodol yn dechreu Me- hefin 1914. Hysbyswyd fod y Casgliad Chwarterol wedi ei dderbyn am y flwyddyn 1913 oddieithr o dair o eglwysi, sef Mynydd Parys. Pensarn, a Beau- maris Seisnig. Yn wyneb y ffeithiau ddaeth o flaen y Pwyllgor maddeuwyd yr ol ddyled i Mynydd Parys a Beaumaris Seisnig a haner yr ol ddyled i Pensarn ond iddynt dalu yn gyson yn y dyfodol. Cadarnhawyd yr adroddiad. Gwnaed coffad cynes iawn am Mr. Eliezer Williams Hyfrydle. Dygid tystiolaeth uchel i'w gymeriad fel dyn cywir a swyddog gweithgar a .goleuedig. Yr oedd yn ddar- llenwr mawr. Yr oedd yn hynod o ffyddlawn i holl gyfarfodydd yr eglwys. Anogwyd aelodau Undeb Myfyrwyr y Bala dalu eu cyfraniadau. Bydd yr Un- deb yn cyfarfod yn Llandudno, Gorffenaf 6-1 I. Cadarnhawyd enwau y personau canlynol yn Ym- ddiriedolwyr ar yr eiddo yn Bryntwrog:—Parchn. Thomas Williams, Holyhead, John Mills Jones, Llanerchymedd, William Henry Jones, Bryngwran. William Davies, illewely-n, Lodge, Bodedern, Evan Jones, Llangristiolus • Mri. John Jones, Brynmawr, Bodwrog Thomas Evans, Hafod, Bodwrog, Hugh Roberts, Ty'nronen, John Alwyn Parry, Llanerch- ymedd, David R. Jones, Gwalchmai, John Parry, Sam Fadog, Henry H. Parry. Corsyreira bach, Parch. John Henry Williams, Portmadoc. Am 2 seiat. Mater, Athrawiaeth yr lawn yn ngoleuni Tadolaeth Duw," yn cael ei agor gan Parch. H. Williams, Amlwch. Siaradwyd ymhellach gan Parchn. Tecwyn Evans a J. Williams, Brynsiencyn. Pregethwyd am 5.30 mewn pabell eang gan y Parchn. William Davies, M.A., Aberdar. a J. H. Howard, Birkenhead. Boreu Mawrth am 8.30., Seiat. Mater, Y Gwasanaeth Dechreuol yn yr Addoliad," yn cael ei agor gan y Parch. J. Williams, Hyfrydle. Pregethwyd am 10, gan Parchn. Lemuel Jones, Goppa. ac M. P. Morgan, Blaenanerch. Am 2 gan Parchn. William Davies, M.A., a J. H. Howard, ac am 5.30 gan Parchn. Lemuel Jones ac M. P. Morgan. DWYRAIN MEIRIONYDD.—Cefnddwysarn, Meh. 17, 18, dan lywyddiaeth Mr. E. Foulke Evans, Llan. dderfel. Dechreuwyd cyfarfod y boreu gan y Parch. Edward Edwards, Carrog. Cadarnhawyd y cofnod. ion. Gwnaed coffad parchus am y diweddar Mr. Edward Jones Carrog. Rhoddwyd crynhodeb o'i hanes fel swyddog eglwysig gan y Parch. Edward Edwards. Nodweddion amlwg Mr. Jones oeddynt