Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Pregethau Noson Waith.

News
Cite
Share

Pregethau Noson Waith. PREGETH 1. Cyfod, rhodia trwy y wlad, ar ei hyd, ac ar ei lied; canys i ti y rhoddaf hi."—Gen. xiii., 17. I'n pwrpas presenol, y Cymro sydd yn cael ei an- erch yn yr adnod hon; wrth u y wlad" yr ydym i ddeall Cymru a Sir Fynwy. Er mai baich yr adnod ydyw y gorchymyn yna am y dyfodol, mae'r gair cyfod yn taflu rhyw lygedyn o oleuni yn ol. Mae'n dangos, beth mae'r Cymro wedi fod yn wneyd hyd yma. A lie iawn ydyw Cymru wedi fod i gysgu a breuddwydio a breuddwydiwr da ydyw'r Cymro. Mae wedi dych- mygu gyatal darluniau ag a roddwyd ar lian neu mewn geiriau erioed wedi gweled cymaint o bryd- ferthwch anian ag a welodd unrhyw artist erioed, ac wedi dyfeisio wrth ei ben a'i bastwn ei hun, ddigon o plots i lonaid gwlad o ffugchwedlau. Ond mae wedi ei ddigoni ar hyny. Nid ydyw wedi tros- glwyddo ei freuddwydion ar na phared palas na ffenestr eglwys, i na llyfr na chareg nadd. Nid ydyw wedi trin Iliwiau na gweithio cun. Mae ei feddwl wedi bod ar waith a'i law yn ei gesail. Mae wedi bod yn gelfyddydgar i'r glust, fel y prawf ei englyn- ion, ond nid i'r llygad, fel y prawf ei lyfrau a'i gapelau. Ond mae'r adnod yma yn gafael yn ei war, ac yn ei godï ar ei draed. Cyfod. rhodia trwy y wlad." Yr ystyr gyntaf ydym yn gofio i fyn'd i rodio," ydyw myned am holidays," ac er fod Cymru'n burion lie i dreulio'r rheiny, mae'r rhan olaf o'r adnod yn dangos fod y rhodio yma yn fwy difrif na hyny, a bod y dyn i fod yn gvfoethocach yn lle'n dlotach ar ol rhodio. Y meddwl ydyw, perchenog yn myned dros ei ystad, a'i cherdded o benbwy gilydd nes adnabod pob rhan o honi a gwybod i'r dim sut un ydyw, a beth yw ei therfynau, fel na all -neb o hyny allan roddi mwgwd ar ei wyneb a'i hocedu o honi. Ac er mwyn sicrhau yr adnabydd- iaeth lwyr yma, y mae yn siarsio arno rndio-mynecl ar ei draed debygwn ni. Ni a dybiwn y gwelwn yma hefyd, rhwng y llinellau, brotest yn erbyn y dull presenol o drafaelio :-myned ar olwynion, ac ar hyd yr un hen ffordd bob amser, a hono yn ffordd wastad; hefyd myned yn finteioedd i'r un lleoedd, ac yn yr un misoedd bob amser—yn yr haf. 'Toedd fawr o wahaniaeth rhwng gyru gwartheg yn yr hen amser a thynu dynion yn y dyddiau hyn drwy y wlad. Ond rhag ofn i rywun fethu darllen rhwng y llinell- au, mae'n dweyd yn eglur'yn y geiriau nesaf am fyned ar ei hyd ac ar ei lied." Dyna ar unwaith daflu'r bicycle i'r ffos, a'r tren oddiar y rheiliau, a chwalu dynion fwy ar led o olwg eu gilydd, er mwyn iddynt allu clywed eu meddyliau eu hunain yn siarad wrthynt. Dyna ein cychwyn i ranau ang- hysbell Cymru; dyna daflu mynydd ar draws y ffordd a'n gyru drosto dyna ddweyd fod prydferth- wch mewn cors, a bod llwybrau defaid yn dyferu barddoniaeth, ac fod llawer o adar na welsom eto erioed, yn nythu ac yn canu ac yn hedeg yn manau anhygyrch ein gwlad dyna oeri i ni wneyd ffrindia o'r Wyddfa, a Chader Idris, a Phumlumon, a'r Ddyfrdwy, a'r Hafren, ac eithin a brwyn, a brain, a grug, a defaid mynydd. Chwi' sylwch nad oes yma son am ffordd o gwbl, llawer llai ffordd-fawr, gyda cherig milldir yn eich adgoffa fod tref o'ch blaen a thref o'ch ol. Mae'n amlwg mai'r bwriad" yw gadael i ni fyned, heb na ffrwyn na phenffyst, dros gloddiau a thrwy ganol caeau os dewiswn, a thynu 'sgwrs a'r hogyn gyru'r wedd, ac a dynion-trin-y-ddaear. Mor werthfawr yn eich golwg, onide, ydyw yr adnabyddiaeth sydd genych o gloddiau, a phyrth a chaeau ardal eich mebyd? Maë-yn eich galluogi i gymeryd i fyny y papyr newydd a dilyn hanes cwn hela Syr Hwn a Hwn, neu Arglwydd Fel a'r Fel, fel pe baech hefo nhw, ac am hyny yn llawer rhatach i chwi ac yn llawer saffach. Etto. Wrth fyned i mewn i'r adnod, o dan y geiriau, cawn ei fod jn ein dysgu i beidio gwneyd y gwahaniaeth a wnawn mewn perthynas i'r tymor yr eir drwy Gymru. Nid oes yma air am fisoedd yr haf. Mae'r adnod, drwy ei distawrwydd, yn dweyd fod y gauaf yn gystal a'r haf. Adnabu neb ei wlad yn iawn, yn enwedig gwlad a wyneb tebyg i Gymru, ac ni dderbyniodd chwaith yr holl wersi sydd gan- ddi, os na welodd hi bob tymhor arni. Dylem fyned ar ein holidays haf a gauaf, bob yn ail. Mae i bob tymhor ei brydferthwch neillduol ei hun. Pa bryd y gwelwyd yr hen Ddyfrdwy yma yn fwy prydferth yn yr haf nag ydoedd y noson oleu leuad hono ddeu- fts yn ol pan oedd tin o honoch, gynulleidfa barchus, gyda ni yn rhodio ei glan, oddiyma i Bont y Creyr ac yn ol? Yr un ydyw daear Cymru pa un bynag a edrych- wn arni gyda'i chnwd ar ei gwyneb, ynte a'i chroen i lawr, ac mae eisieu i ni, er gwneuthur dynion Ilawn o honom ein hunain, feddwl am dani gyaa'r wedd yn araf dynu'r gwydd drwyddi—a'r dyn wrth ei gyrn yn ceisio ei oreu i wneyd i fyny am chwaeth annghelfydd rhai sy'n rhodio llwybrau uwch nag ef -yn ogystal ag am dani dan ei chnwd. Ond mae eisieu rhodio trwy y wlad, nid yn unig er mwyn adnabod, ond hefyd er mwyn teimlo- teimlo curiad ei chalon ymhob ardal. Ac mae eis- ieu cymysgu ein hadnabyddiaeth bresenol o honi A.In gwybodaeth o'i Kanes, oes ar ol oes. Hefyd dylem gael i'n canlyn goffadwriaeth gwron y lie y byddwn ynddo ar y pryd. Mae cymaint o ymdrech wedi bod yn angenrheidiol i gadw Cymru a'i phen i fyny, fel y cawn ar ein ffordd wrth rodio, hen gartrefi a lleoedd gorwedd lliaws mawr o'r rhai fu yn ymladd drosti, neu yn ei dysgu a'i harwain, neu yn canu iddi. A son am fymventydd, mae mwy o hyawdledd yn dod o'r llanerchau distaw hyn y dyddiau yma o blaid yr Eglwysi nag o enau yr un Esgob. Ond pwysicach o lawer na'r gorchymyn geir yn nechreu'r adnod, ydyw y mynegiad sydd yn ei di- wedd Canys i ti y rhoddaf hi." Dyna un o'r brawddegau mawr sy'n gwneyd Hanes. Rhaid ed- rych yn ol i amser Abraham am ei chyffelyb. At hona y mae cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth wedi bod yn edrych ymlaen, ac yn sicrwydd y deuai ryw dro, y caed y nerth angenrheidiol i ddal y galon i fyny. Dyna'r wobr am lafur a lludded y tadau dyna gyf- lawniad proffwydoliaeth eu harweinwyr; dyna or- ffwysdra. Mae Cymru i fod yn eiddo i ni yn yr ystyr oreu ac eangaf—yn lie i fyw, i ddysgu, i addoli-yn gar- tref. Mae ei daear i fod yn eiddo i ni i'w thrin a'i throi'n hyfrydwch; mae'r llafurwr i gael darn o honi iddo'i hun os myn, i fagu ei blant a'i hunan- barch yr un pryd. Mae'r plant a'r ieuenctyd i gael eu dysgu, ac mae pob gweithiwr tlawd i gael siarad Cymraeg ynddi. Mae'r llyfr wedi dweyd. Yn ngwyneb hyn y rhoddir y marching order i ni fyned trwy Gymru, i edrych beth sydd eisieu wneyd i'w hadgyweirio. Mae llawer o'r hen der- fynau a osododd ein tadau wedi eu symud, a rhaid eu symud yn ol; mae ein coedwigoedd wedi eu dad- wreiddio, a rhaid eu hail blanu mae tai ein gweith- wyr yn aros i'w hadeiladu, a rhaid chwilio'r chwar- eli am y cerig goreu (dim brics) a gwneyd i'r cyn- lluniau rhagoraf dyfu allan o'r ddaear dan ein traed wrth gerdded, ac ymagor o'n blaen rhaid i ni dderbyn y fath ysbrydiaeth wrth rodio nes bydd lluniau'r dynion sydd i sefyll mewn mynor yma ac acw yn eu magwyrau, a'r groups sydd i gynrychioli helyntion ein gwlad yn y ffenestri lliwiedig, yn ym- rithio i'n golwg.

TRO I'R AMERICA.