Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Undeb vr Annibvnwvr.

News
Cite
Share

Undeb vr Annibvnwvr. RHYL, MEHEFIN 15, 16, 17, 18, 1914. GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG. Cadeirydd PARCH. W. JAMES, ABERTAWE. Is-gadeirydd PARCH. LEWIS JONES, TY'NYCOED. Ysgrifenyddion: PARCH. D. G. WILLIAMS, St. CLEARS. PARCH. T. TALWYN PHILLIPS, B.D., BALA. MR. JOHN WILLIAMS, WAUNWEN. DYDD LLUN. Fel arfer, rhoed cyfle i Aelodau'r Undeb i gwrdd a'u gilydd (o'r rhai y daeth tros 500 ynghyd) wrth fwrdd y Te Croeso," yr hwn a roddid eleni gan Mr. a Mrs. E. J. Williams, gynt, o Patagonia. Cyfarfod y Plant, Yr hwn a gynhelid am 5.30. Analluogwyd Dr. Lewys Lloyd, Towyn, fod yn bresenol i lywyddu. Caed anerchiadau gan Parchn. E. Aman Jones, B.A., Ceinewydd, a George Davies, B.A., Blaenau Ffestiniog. Cofiwyf y Cyfarfod Dirwestol am lawer o flynydadedd yn gyfarfod lleol Bollol, heb fod a wnelo Pwyllgor yr Undeb ddim a'i drefnu, ond mae'n un o gyfarfodydd mwyaf arbenlg yr Undeb er's blynyddau bellach. Ac erbvn hyn y mae hefyd wedi cymeryd Cyfarfod y Plant' dan ei aden. Credwn y dylid talu mwy o sylw lleol i'r cyfarfod hwn. Gyfarfod y Bobl Ieuainc. Am 7 o'r gloch, dan lywyddiaeth Mr. Arthian Davies, Llundain, pryd yr areithiwyd ar y Bobl Ieuainc a'r Cartref,' gan y Parch. T. Hughes, Briton -A.- Ferry. Y Bobl Ieuainc a'r Eglwys," gan y Parch. J. Talwrn Jones, Brymbo, ac ar Y Bobl Ieuainc a'r Oes," gan y Parch. D. Eiddig Jones, Clydach. Caed dau gyfarfod rhagorol. DYDD MAWRTH. Am 7 cynhaliwyd Cyfarfod y Pregret hwyr dan lywyddiaeth y Parch. T. J. Teynon, Cwmyglo, pryd yr agorwyd ymddiddan ar Y Gweinidog a'i Waith ynglyn a Phersonau Unigol," gan y Parch. R. Roberts, Rhos (gynt). Cyfarfod cydmarol newydd yw hwn, ac nid yw eto, wedi cvmeryd yr afael a ddvlai, eto, dywedir i rai o'r cyfarfodydd brofi yn wir fendithiol. Canmolir y cyfarfod eleni yn fawr. Cyfarfold y Lleygwyr. Am 7, hefyd, y cynhaliwyd y cyfarfod hwn, dan lywyddiaeth Mr. S. Sandbrook, Merthyr, pryd y dar- llenwyd paD"r gan Mr. Timothy Richards, Llan- bedr, ar Le Cerddoriaeth yn Ngwasanaeth y Cysegr." Cyngor yr Undeb. Dyma Bwyllgor Gweithiol yr Undeb, yr hwn a wneir i fyny o bersonau dewisedig gan y gwahanol Gyfundebau. Er hyrwyddo'r gwaith, ymrana'r Cyngor i dri Phwyllgor,—sef Pwyllgor Arianol, Pwyllgor Llenyddol, a Phwyllgor Cymdeithasol. Cynhaliwyd ei eisteddiad cyntaf am 9 o'r gloch. Cyfarfod y Drysorfa Gynorthwyol. Cynhaliwyd am 10.30, dan lywyddiaeth Mr. Evan Morgan, Lerpwl. Cyfarfod Rhyddymddiddan ar fater y Drysorfa, i'w agor gan y Parch. W. James, Abertawe, ydoedd hwn. A dyma, yn wir, gyfarfod pwysicaf yr wyl. Fel y gwyddis amcana'r Enwad -g at godi dim llai na ^50,000, o Drysorfa, er cyn- orthwyo eglwysi gweiniaid i sicrhau gweinidogion, a rhoddi iddynt ddim llai na £ 80 o gydnabyddiaeth flynyddol. Hysbysodd y Parch. W. James, yr hwn sydd eisoes wedi gweithio'n rhagorol gyda'r Drysor- fa fod yn ymyl 613,000 eisoes wedi eu haddaw, a'r swm hwnw wedi dod oddiwrth 120 o eghvysi, gan adael 1,000 yr ydys i ddisgwyl clywed oddiwrthynt eto. Ni chlywsom faint oedd swm yr addewidion ychwanegol a gaed yn ystod y cyfarfod. Ofnem i'r cyfarfod hwn fethu deffro i'w gyfle a'i ddyledswydd ond caed cyfarfod i bwrpas. Pasiwyd i wneyd apel at Mr. James i barhau i hyrwyddo'r mudiad, a chyd. syniodd. A phasiwyd hefyd i wneyd apel at yr eg- lwysi a'r cyfundebau, i vmdaflu ati ar nnwaith gyd- a'r Drysorfa. Cynhadledd Busnes. Am 2, dan lywyddiaeth y Cadeirydd, eisteddodd y Gynhadledd, i ethol swyddogion, ac ystyried ad- roddiadau y Cyngor a'r Pwyllgorau. l'asiwyd fod cyfarfodydd yr Undeb i'w cynal yn Merthyr y flwydd- yn nesaf; a dewiswyd y Pach. J. Charles, Dinbych, i'r Is-gadair, y Paich. D. H. Williams, M.A., Barry, yn Ysgrifenydd, a'r rhai canlynol i barhau yn eu swyddi: Parch. D. A. Griffith, fel Ysgrifenydd Ar- ianol; y Parch. H. Eynon Lewis, fel Ystadegydd, a Mr. E. H. Davies, U.H., fel Trysorydd, i'w gyn- orthwyo gan y Parch. D. A. Griffith. Dangosai'r adroddiadau i ymdrechion gael eu ,gwneyd i sicrhau cynllun unffurf i brisio eiddo'r enwad dan Ddeddf 1910, ac i leihau treuliauY Undeb trwy uno'r pwyll- gorau, ac ymfoddloni ar lai o argraffu, a phenodi un Golvgydd i'r Blwyddiadur, sef y Parch. W. Pari Huws, "Dolgellau. Rhoes y Gynhadledd hefyd sylw i'r awgrymiadau ynglyn a'r Caniedydd, a chyhoeddi newyddiadur, a dwyn allan pvlchgrawn chwarterol, ac i'r priodoldeb o gorffori yr Enwad, a chael ei holl fudiadau dan reolaeth y Cyngor. Pasiwyd i'r Pwyll. gor fyn'd ymlaen gyda dwyn allan argraffiad diwyg- iedig o'r Caniedydd; ac fod y nuuerion eraill i g.ael sylw pellach. Penodwyd personau i gynrychiolrr Enwad ar y cyd-bwyllgor sydd i eistedd i ystyried y priodoldeb o ffurfio undeb agosach rhwng yr En- wadau Ymneillduol. Dangosai'r Ystadegaeth fod nifer yr aelodau yn 167, 961 (cynydd 512) Aelodau'r Ysgol Sul, 150,497, ac Athrawon 15,688 (lleihad 82) Gweinidoigion 662 (cynydd 15) Gweinidogion heb ofal eglwysig no (lleihad 4) pregethwyr, 402 (cyn- ydd 26). Cyfanswm y casgliadau yn ^224,981 Dyledion ar Addoldai wedi eu talu, ^43,614. Dyled yn dros £ 342,779. Gwerth eiddo'r Enwad, ^'2,000,789. Cynydd yn ngwerth yr eiddo yn 1913, ^26,692. Pregethau yr Undeb. Am 7. Y pregethwyr oeddynt y Parchn. J. Tegryn Phillips, Hebron, a T. E. Thomas, Coedpoeth, dydd MERCHER. Am 10.30 cyfarfu Cynhadledd yr Undeb dan lywyddiaeth y Parch. D. Adams, B.A., Cyn- gadeirydd, pryd y traddododd y Parch. W. James ei anerchiad o'r Gadair, testyn yr hwn oedd Brawdgarwch ChnstionogoU'' yr hwn oedd yn wir ra<gorol o ran cynwys a thra- ddodiad, yn eang a iach ei ysbryd, a gwir amserol; creai'r traddodiad o hono awyrgylch ddymunol a gwir grefyddol ei nodwedd. Ar derfyn y Gynhad- ledd pasiwyd mewn modd dwys a gweddus, ddatgan- iado golled yn marwolaeth nifer o ,gyn-aelodau'r Undeb, pryd y gweddiodd Dr. 0. Evans, Lerpwl; yn.a derbyniwyd dirprwvaelhau—y naill dros Gyngor Eglwysi Ymneillduol y dref, a'r Hall dros ei Chyngor Lleol, y rhai a groesawyd yn ddeheuig gan y cad- eirydd. --0" Cyfarfod Duwinyddol. Cyfarfu am 2, dan lywyddiaeth v Prifathro T. Rees, M.A., Bangor, pryd y darllenwyd papyr ar Wyddoniaeth ddiwedar yn ei pherthynas a Chref- ydd," gan yr Athro D. M. Iewis, M.A., Aberys- twyth, a chaed rhyddymddiddan ar y mater i ddilvn. Am 3.30 cynhaliwyd Y Cyfarfod Cenhadol. dan lywyddiaeth Mr. R. G. Griffiths, Pontyberem. Agorwyd Rhyddymddiddan gan y Parch. T. Davies, Horeb, Ceredigion. Am 7 cynhaHwyd y Cyfarfdd Cyhoeddus, dan lywyddiaeth v Prifathro T. Lewis, M.A., B.D., Aberhonddu Areithiwyd ar Barchedigaeth fel elfen hanfodol yn nghymeriad dyn," gan y Parch. Ben. Morris, Pontyberem. Ar (I Le y Sabbath yn mywyd cenedl, a'r ffordd effeithiolaf i'w ddiogelu," gan Mr. J. Hugh Edwards, A.S., ac ar Yr Eglwys \Vir Gatholig," gan y Parch. E. J. Edwards, Cwm- bwrla. Er fod y cyfarfod yma yn un rhagorol, eto, niweidiwyd ef gan feithder araeth yr ail siaradwr. Os rheol cadwer hi gan bawb fel eu gilydd. Pa- ham y rhaid i ymwelwyr achlysurol gymeryd mwy o ryddid ar drefniadau na ffyddloniaid yr wyl. Caed gwyl wir lwyddianus ymhob ystyr, teilwng o oreuon y Undeb, yn neillduol felly Anerchiad y Cadeirydd. Dydd Iau pregethid.

Rhestr o Lyfraa'r diweddar…

Coleg v Bala,