Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
LLYFRAU A CHYLCHGRONAU A DDERBYNIWYD.
News
Cite
Share
LLYFRAU A CHYLCHGRONAU A DDERBYNIWYD. Hanes Methodistiaeth Trefaldwyn Isaf,' gan y Parch. Edward Griffiths, Meifod. Cyhoeddedig dros y Cyfarfod Misol. Swyddfa Cymru,' Caernarfon. 3s 6c. Cerddi Rhyddid,' gan T. E. Nicholas, awdwr Salmau'r Werin, Cerddi Gwerin, Cyflog Byw, 8cc. Thomas a Parry, cyf., Heol Gaer, Abertawe. Y Beirniad,' cyf. iv. Rhif 2. Mehefin 10. Haf 1914. A Bibliography of Robert Owen, The Socialist, 1771-1858. The Welsh Bibliographical Society, Aberystwyth, 194. (Rhestr o weithiau Robert Owen, ysgrifau mewn cylchgronau, &c., 54 o dudalenau). The Periodical." Oxford University Press (Rhestr o lyfrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn ngwasg Rhydychain. I'w gael yn rhad oddiwrth Mr. Humphrey Milford). The Expository Times am Gorffenaf. T. & T. Clark 38, George Street, Edinburgh. (Nodiad.au pwysig ar y ddadl rhwng Dr. Gore a Dr. Sanday ar y Gwyrthiau). The Interpreter." A Quarterly Magazine of BiEiical and Theological Study. Editor Rev. Hew- lett Johnson, M.A., B.Sc., London: Robert Scott, Roxburghe House, Paternoster Row. (Rhifyn Gorffenaf yn cynwys ysgrifau ar After Death," gan A. W. F. Blunt, M.A., Did Jesus Speak Greek or Aramaic," gan T. H. Weir, B.D., a Did Lazarus write the Fourth Gospel?" gan James Jones, B.Sc.). Trysorfa y Plant,' Y Dryrosfa," a'r 'Traethod- ydd' am Gorffenaf o'r Llyfrfa. (Y Traethodydd yn cynwys ysgrif gan Dr. Cynddylan Jones a'r Dr. Lewis Edwards). Y Geninen am Gorffenaf. Caernarfon: W. Gwenlyn Evans a'i Fab. (Rhifyn llawn o ysgrifau rhagorol, ac ymhlith yr awduron y mae Syr Edward Anwyl, yr Athraw Miall Edwads, W. Hobley, &c.). "The Bible Society Gleanings," a The Bible in the World."(Dau o fisolion Cymdeithas y Beiblau yn adrodd gwaith y Gymdeithas drwy'r byd. Yn y Gleanings rhoddir copi o apel a wnaed ryw- dro yn yr i7eg ganrif am help i ddarparu Beiblau i dlodion Cymru,—"The Case of The Poor People in Wales for want of Bibles in the British Tongue.") Yr Haul (misolyri Eglwyswyr Cymru sy'n cyn- wys ami i damaid llenyddol amheuthyn. Dengys fod ymhlith clerigwyr Cymru hynafiaethwyr peni- gamp). Y Lladmerydd, Cronicl yr Ysgol Sabbothol" "Y Gymraes." E. W. Evans, Dolgellau. Homeland," misolyn v I Land Campaign.' "Y Tir Dinesig," crynhodeb o'r casgliadau a'r argym- hellion a gynhwysir yn adroddiad Pwyllgor y Tir ar Dir y Trefi. Land Enquiry Committee, 170, Palace Chambers, Westminster, S.W. Cyhoeddiadau y Religious Tract Society,—' The Boy's Own,' The Sunday at Home,' Woman's Magazine,' a 'Stitchery.' (Goreuon y misolion Saes- neg i bwrpascartref). Cyhoeddiadau Mri. S. W. Partridge & Co., Ltd., 21 and 22, Old Bailey, London, E.C. 'The British Workman;' I Infants' Magazine;' Children's Friend,' 'Band of Hope Review,' Christian Service,' Sunshine,' 'The Family Friend.' (OH yn fisolion crefyddol cymwys i'w rhanu mewn Ysgol Sabbothol neu gylarfodydd cenhadol).
Coleg v Bala,
News
Cite
Share
Coleg v Bala, Y CYFARFOD BLYNYDDOL.. Cyfarfu Pwyllgor y Coleg Duwinyddol yn un o ystafelloedd y Coleg nos Fercher a boreu lau. Preifat oedd y gweithrediadau yn yr eisteddiadau hyn, ac nis gallwn felly groniclo'r gweithrediadau. Credwn mai'r cwestiwn penaf fu gerbron oedd dyfodol yr. Ysgol Ragbarotoawl; ond nid ymddengys i ddim newydd .?ael ei benderfynu ynglyn a hi. Nid oedd angen, mor bell ag y gwelwn. Cofir i'r Pwyllgor y llynedd benderfynu parhau'r Ysgol am ddwy flyn- edd yn mhellach; ac i'r Gymdeithasfa gadarnhau hyny. Yn ol a ddeallwn carir hi ymlaen am y fiwvddyn nesaf, yn ol y penderfyniad ac oni ddaw rhyw riewidiad yn y sefyllfa, yn galw am penderfyn- iad newydd a gwahanol, cauir yr Ysgol i fvny ym- hen y flwyddyn, ac nid oes un weledigaeth ar y cwestiwn o lenwi ei lie. Yn ol profiad y blynydd- oedd diweddaf mae darpariaeth addysg wlad wedi ei gwneyd yn ddiangenrhaid. Nid oedd nifer yr ysgol- heigion eleni ond saith ac oni thry y llanw yn ystod y flwyddyn mae diwedd tymor vr ysgol yn sicr, gan y bydd Ysgol Clynog yn cyflawn gyfarfod a'r galw. Chwith i'r rhai gofiant godiad llewyrchus yr Ysgol yw'r machlud cynar hwn, ac yr oedd ei gysgod ar y rhan o'r Cyfarfod Cyhoeddus pan gvflwynid Ad- roddiad yr Ysgol. Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyhoeddus am 1 I foreu Tau yn y Capel Saesneg, dan lywyddiaeth Mr. Richard Jones, U.H., Pendinas, yn absenoldeb Mr. J. R. Davies, U.H., a luddiwyd i fod yn bresenol gan afiechyd ei fab yn nghyfraith. Drwg genym ddweyd mai teneu oedd y cynulliad. Nid oedd y Pwyllgor- au cyn liosoced ag arfer, ac nid oedd ond rhyw haner dwsin o'r aelodau, heblaw yr athrawon, yn bresenol yn y Cyfarfod Cyhoeddus. Prin iawn hefyd oedd y gefnogaeth i'r cyfarfod o'r dref a'r cylch. Yr efrydwyr oedd mwyafrif y gynulleidfa. Chwith oedd hyn ond gwyr rhai sydd.wedi dilyn y cvfarfodvdd eu bod wedi colli eu poblogrwydd yn v dref au gafael ar gylchoedd crefyddol y gymydog. aeth. Colled fawr yw hyn i'r Coleg_ ac 1 r eglwysi a naturiol yw ymholi beth sy'n cyfrif am dano. A yw yn un o arwyddion yr amserau, ac yn arwedd ar y cyfnewidiad mawr sydd wedi dod dros y wlad vmhob cyfeiriad,—mater v traethwyd mor effeithiol arno yn yr Anerchiad yn y cyfarfod? Os oes cyf- newidiad, pa un ai yn y Coleg ai yn yr eglwysi y mae; neu a geir ef yn y nai.ll a'r llall? ye4lCi "ofyn lliaws o'r cyfrvw gwestiynau a da f-yddai r awdurdodau'r Colg ac arweinwyr yr eglwysi eu gofyn yn ddifrifaler ceisio adfer y cariad cyntaf a'r hen gydymdeimlad a fodolai gynt rhwng saint y Bala ag Y sgol y Proffwydi sydd wedi anfarwolir dref yn 11 hanes crefydd Cymru. Gwyddom y tueddir i chwilio am yr esboniad yn nes i'r wyneb; sef yn nodwedd rhai o gyfarfodydd y blvnyddoedd diwedd- af. C'afwyd ymweliadau gwyr enwog i'r cyfarfod. ydd ond nid bob amser y medd gwyr o ddysg ac ysgolheigdod uchel ddawn boblogaidd. Da genym i'r anrhydedd gael ei rhoi eleni i un o weinidogion y Cyfundeb, ac vnglyn a'r gwahoddiad gais am iddo draddodi'r Anerchiad yn Gymraeg. A roed cy- hoeddusrwydd i hyn, nis gwyddom. Tueddarr cyn- ulliad i beri i ddyn feddwl na wnaed. Wedi'r Parch. John Owen, M.A., Caernarfon, ar- wain v gwasanaeth dechreuol, ac i'r Cadeirydd ddatgan ei ofid oherwydd absenoldeb Mr. J. K. Davies, a diolch am yr anrhydedd o'j roi yn y gadair, cafwyd Adroddiad y Prifathraw, yn cynwys y rhestrau o'r efrydwyr, yr ysgoloriaethau a'r gwobrau. [Pan ar fyned i'r wasg, derbyniwyd pellebyr oddi- wrth Gofrestrydd y Coleg yn ,gofyn i ni ohino cy- hoeddi y rhestrau'r wytTmos hon am fod rhyw gam. gymeriad ynddynt fel y darllenwyd hwy yn cyfar- fod].vr Anerchiad. yr Anerchiad. Yna galwvd ar y Parch. John Owen, Anfield, i draddodi ei Anerchiad i'r Efrydwyr. Sylwodd Mr. Owen mai ei unig gymhwysder i'w hanerch oedd ei fod wedi llafurio mewn lleoedd tebyg i'r rhai y gelwid hwythau i lafurio ynddynt. Ceisiai roi vchydig svlw i'r maes-y cylch-y gwaith y gelwid hwy iddo- Yr oedd sylweddoli'r gwaith o'u blaen vn rhwym o effeithio ar eu bywyd Z, yn.y Coleg. Yr oedd gorwelion bywyd yn effeithio ar fywyd dyn vn y bvd-ar bobpeth a wnai. Mantais oedd syl- wedoli "pwysigrwydd y gwaith y gelwid dyn iddo Trefnid gwaith yr athrofa gan yr athrawon ond >r oedd elfenau eraill yn effeithio ar y myfyriwr,-holl gylch bywyd y Coleg—yr awyrgylch eu cymdeithas, a'r athrawon a'u cymdeithas a'u g^y^- ,Lla.fei1i" hai'r Pwyllgor ddeall iddynt gael dydd gyda u gilydd mewn defosiwn. Byddent yn edrych yn ol ymhen blynyddoedd at adegau o'r fath a dibynai llwydd- iant eu gwaith ar feithriniad y bywyff ysbrydol, trwy vmarfer a Gair Diiw ag ordinhadau'r Efengyl yn y dref, ac. yn vr eglwys lle'r oeddynt yn awr. An- fantais fawr fyddai myn'd trwy'r cyfnod yma heb eu trwytho mewn ymarferiadau eglwysig. Da oedd deall fod y cyfarfod gweddi yn dal ei dir, a cholled anadferadwy i ddyn ieuanc fyddai iddo fyn d trwy gyfnod pwysicaf ei fywyd fel efrydydd heb werthj fawrogi bywyd seiat a myn'd i gvfnnach y bywyd hVYn 'awr dymunai wneyd ychydig sylwadau ar Fywyd a Gwaith Gweinidog yn yr Ugeinfed Gannf. Yr oedd cyfnewidiad mawr wedi cymeryd lie yn y wlad o'r hyn ydoedd gynt. Lefeiniwyd Cymru gan v tadau, y rhai a deithiasant fel cenhadon Duw. Yr oeddynt wedi rhoi safon iddynt ar bregethu. Cofient am y Benod yn Nghofiant John Jones, Taly- sarn,-y desgrifiad o hen bregethwyr Cymru. Pre- gethu a'r Ysgol Sul fu'r ddwy elfen fu'n foddion i godi ac i grefyddoli Cymru. Ond yr oedd cyf- newidiad wedi cymeryd lie, a hyny trwy sylfaenydd cyntaf y Coleg. Dr. Lewis ESwards, a thrwy fedr ac aidd ysgrifenydd cyntaf y Coleg, y Parch. Edward Morgan,—y npill yn hyfforddi yn yr athrawiaeth, a'r ilall yn ymladd brwydr y fugeiliaeth. Yr oedd y fugeiliaeth erbyn hyn wedi ei sefydlu yn gyffredin- ol. Beth oedd dylanwad hyny ar bregethu? Clyw- id weithiau rai vn dweyd,—" 'Does arnom ni ddim eisiau pregethwr; eisiau bugail sydd arnom," ac yn yfyngu gwaith bugail i ymweled, cadw dosbarth- iadau, &c. Ond protestiai ef yn erbyn y gwahaniad hwn rhwng y pregethwr a'r bugail, a dywedai yn gadarn, Yr hyn a gysylltodd Duw, na wahaned dyn." Tuedd oedd tiyii i gau llygad ar un agwedd i'r gwirionedd, peth a welodd yn cael ei alw the law of limitation of attention." Nid yn gwadu'r peth, ond ddim yn gallu fforddio i roi sylw ond i un agwedd. Clywodd Dr. Hughes rywbryd yn dweyd, "Mae ambell un fel pe bai wedi ei eni yn unllaw mewn ystyr feddyliol: pan ga afael mewn gwirionedd mae fel pe bai raid iddo ollwng gwir- ionedd arall." Teithio yr oedd y pregethwyr cyntaf, a'r blaenoriaid yn bugeilio'r praidd gartref. Bugeiliaid cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd oedd eu blaenoriaid. Ond wedi i'r amgylchiadau newid, ac i'r blaenoriaid ddyfod yn ddynion mwy prysur, nid oes ganddynt mo'r amser i wneyd y gwaith wnai'r hen flaenoriaid hamddenol gynt, heblaw fod y sefyllfa yn galw am ddynion wedi eu parotoi i roi eu holl amser i'r gwaith. Diau fod eisiau gwrol- deb, os nad beiddgarwch, i bwysleisio ar bwysig- rwydd pregethu. Camgymeriad andwyol i weini- dogion yr oes yma fyddai rhoi pregethu yn ail- raddol. Os y rhoent yr ail le i bregethu, ni fydd tranc y Cyfundeb ddim yn hir iawn. Nodwedd pregethu'r tadau oedd yr argyhoeddiadol,—pregethu i ddeffro. Elemental preaching ydoedd,—pregethu'r hanfodion. Ond erbyn hyn, mae'r demand ar bre. gethwr yn wahanol. Disgwvlir i'r pregethwr fod yn esboniwr; yr oedd mwy o ofyn am expository preaching' nag yn nyddiau'r tadau. Cofiai Dr. Owen Thomas mewn pregeth yn esbonio gyda'r medr a geir yn ei lyfrau ond prin yr oedd lliaws o'i gyn- ulleidfa yn gallu ei ddilyn ef y pryd hwnw. Efe oedd un o'r rhai cyntaf i roi ei le i esboniadaeth yn ei bregethau, ac fe'i dilynwyd gan Dr. T. Charles Edwards, ac yr oedd y wlad erbyn hyny wedi dyfod i werthfawrogi a mwynhau hyn. Erbyn hyn yr oedd bywyd yn fwy cymhleth, ac agweddau newydd ar fywyd i'w cyfarfod. Rhaid wynebu cwestiynau cymdeithasol, a mantais oedd cael eu harwain i weled pwysigrwydd y cwestiynau hyny. Dywedid am Joseph Thomas, Yr oedd ganddo graff ar holl symudiadau a thueddiadau ei oes;" ac nid oedd yn ddiogel bod heb olwg ar dueddiadau a phwerau yr oes. Dyddorol oedd olrhain tyfiant y fugeiliaeth. Un o symudiadau mwyaf dyddorol y 19 ganrif oedd yr Oxford Movement.' Ychydig iawn effeithiodd hwnw ar Gymru, ar yr Eglwys yn Nghymru feddyliai. Nid oedd wedi newid syniadau Eglwys Loegr yn Nghymru ond effeithiodd mewn ffordd arall. Eff- eithiodd ar ddull y clerigwyr o wneyd eu gwaith daethant yn ymwelwyr, a chredai iddynt ddysgu hyn oddiwrth v Symudiad Tractaraidcl. Y dynion waredodd y Mudiad oedd y bugeiliaia, wedi i New- man ac eraill adael yr Eglwys am Eglwys Rufain. Gwaredwyd ef. nid trwy y syniadau, ond trwy yr hunan-aberth a'r hwn y gwnaeth y rhai hyn eu gwaith. Ac oddiwrth y rhain y cafodd llawer yn Nghymru symbyliad i'r fugeiliaeth. A oes rheol gyda golwg ar ymweliad? Ni chred- ai fod greddf ac nid deddf oedd i benderfynu hyny. Pryd bynag y carai dyn ddaioni i'r rhai oedd wedi ei ymddiried iddo, yr oedd ei ysbryd yn ei arwain i'w wneyd yn iawn. Yr oedd yn waith llawn o ddyddordeb, a llawn o beryglon hefyd a phriodol iawn wrth fyned i dai oedd gweddio. Bydded ym- adroddion fy ngenau a myfyrdod fy nghalon yn gym- eradwy ger dy fron, 0 Arglwydd, fy Nghraig a'm Prynwr." Un perygl oedd bod yn rhy swyddogol; ond o'r ochr arall yr oedd perygl bod yn rhy familiar nes colli urddas y gwaith a'r swydd. 2. Y cyfnewidiad sydd wedi cymeryd lie yn addysg Cymru. Pa fodd yr oedd addysg wedi effeithio ar waith y gweinidog? Yr oedd cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lie yn ystod y 25 mlynedd diweddaf. Bellach meddent dri choleg, a miloedd o efrydwyr, vn ffurfio un Athrofa Genedlaethol. Yr oedd tua 14,000 o fechgyn a genethod Cymru yn derbyn addysg yn yr ysgolion canol. Yn amser Dr. Lewis Edwards pulpud Cymru oedd v canolbwynt, a'r pregethwyr oedd y dynion mwyaf y gwyddai'r wlad am danynt. Ni ddywedai nad oeddynt y dynion mwyaf heddyw ond ni chydnabyddid hwy yn gyff- redinol felly. Hefyd mae llenyddiaeth yn dechreu ymddangos sv'n annibynol ar y pulpud a'r Ysgol Sul. Yr oedd nifer o bobl ymhob lie wedi derbyn v manteision hvn, ac yn gwbl abl i ddarllen Saesneg. Üygent i'r Ysgol Sul syniadau newyddion am y Beibl, am y modd y daeth y greadigaeth i fod. &c. Yr oedd y pethau hyn yn dod yn hysbys i'r bobl, ac ofer iddynt fel bugeiliaid gau eu llygaid ar y ffeithiau yna. Deuent wyneb yn wyneb a forces newyddion na wvddai'r tadau ddim am danynt. Nid oedd pob hyfforddiant gaed yn y Coleg yn ormod i gyfarfod y cwestiynau gyfarfyddent yn eu cylch. Prin y credai fod amheuwyr yn ami; ond yr oedd llawer o anesmwythid, Gwyddai pobl fod eraill yn credu yn wahanol i ni, ac fe elwid y gweinidog i gyfarfod y sefyllfa. Yr hen adeg Calfiniaeth ac Arminiaeth,-v Pum' Pwnc oedd materion y dadleuon ond nis gellid yn awr ddadlu ar y rhain o gwbl. Yr oedd y cwestiynau heddyw yn fwy han- fodol; gyda golwg ar sylfeini ein cred a rhaid i'r gweinidog fod yn abl i gyfarfod a meddyliau anes- mwyth, a rhai balch a chwyddedig, ac afrywiog. I
PERSONOL.
News
Cite
Share
Wcdi hir ddisgvvyl, wele restr Ynadon Heddwch newydd Morganwg yn y diwedd wedi ei chyhoeddi. Yn eu plith ceir enw un gwr da sydd wedi marwcr dechreu y mis. Da genyf weled cynifer o Fethodistiaid wedi eu hanrhydeddu, a haeddant eu llongyfarch yn galonog. Y mae y rhai canlynol yn perthyn i'r Hen Gorff mi \vn, a dichon fod ychwaneg: --IVlri. Illtyd' Williams, St. Athan Diavid Fenwick, Tylorstown; D. Watts Morgan, Porth; Thos. Morgan, Cwmparc; Vernon Harstshorn, Maesteg; T. E. Lewis, Blaengarw (Cadeirydd Cyfarfod Misol Gor- llewin Morganwg); John Rees, Pencoed; Rees Harris, Pontardulais; Morgan Thomas, Casllwchwr. Hwyrach fod eraill fel y dy- wedais, a da fydd genyf glywed os oes. -+- -+- -+- Llwyddodd amryw o aelodau Cymdeithas Gymreig C'aergrawnt yn rhagorol yn yr ar- holiadau diweddar, a cheir nifer dda ymhlith y graddedigion. Cafodd Mr. W. E. Evans o St. John's anrhydedd y trydydd dosbarth yn Part II. y Natural Science Tripos. Mae efe wedi cael y radd o H. Sr. c'r blaen yn Mhrif- ysgol Llundain, ac yn awr y mae wedi ei benodi yn un o athrawon Coleg Caerlleon. Yn Part I. o'r un gangen cafodd Mr. E. M. Burrell, Coleg Clare, a Mr. J. A. James, o Goleg Caius, anrhydedd yn yr ail ddosbarth, a Mr. R. M. Davies, o St. John's, yr un safle yn y Clasuron. Yn y Law Tripos, safai Mr. Emrys Evans, Dolgellau, yn 12fed yn yr holl restr, ac enillodd anrhydedd yr ail ddosbarth a safai Mr. E. C. Powell, mab Mr. J. E. Powell, U.H., Wrecsam, a Mr. Terry Thomas, B.Sc. (Cymru a Llundain), yn u.chel yn y trydydd ddosbarth. Yn yr Economics Tripos, safai Mr. D. H. Owen, o St. John's, yn yr ail adran o'r ail ddosbarth.