Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

LLADRATA PREGETHAU.

News
Cite
Share

LLADRATA PREGETHAU. MAE'N bryd i ni ddeffroi a chodi ein lief, gwregysu ein lwynali, ac ymarfogi i ddadlenu twyll y fasnach felldigaid hon sydd yn cael ei dwyn ymlaen yn ei le sanctaidd Ef. Bu dyrnu arni dro ar ol tro, eto, ffyna yn ein gfwlad; mwy na hyny, ymddengys fel pe wedi cael ail fedydd, a bygythia fwrw canghenau i bob cyfeiriad, ac nid heb sail, darogenir ei bod yn fwy llwyddianus heddyw'r dydd nag erioed. Pan oedd llyfrau'n ddrudion, llenyddiaeth yn brin, a disgyblaeth feddyliol yn anaddfed, gallesid taenu cysgod o esgus dros fenthyca am byth gynyrchion pregethwrol eraill. Ond mal y dywedir, yr oes oleu hon, pan mae addysg wedi esgyn i'w gorsedd, pob math o ysgolion yn britho'r wlad, cyfoeth llenydd- iaeth wrth dd'rysau pawb, nid oes rithyn o reswm dros ddwyn y drafnidiaeth hon o'r fangre y pregethir gonestrwydd. A ellir, tybed, tadogi cynydd y fasnach hon i ddadblygiad addysg yn ein gwladl Cwynir weithiau, ein bod yn boenus o debyg i'n gilydd, ac fod dysgeidiaeth yn difa gwreidd- ioldeb. Ond cymeryd mantais anhegf ar un o fendithion ein hoes ydyw priodoli bryntwaith fel hyn iddi. Onid oedd Dr. Edwards, Princi- pal Edwards, a David Charles Davies, wedi yfed yn ehelaeth o ffynhonau dysg" a diwyll- iant; ond pwy erioed a g-add achlysur i'w cy- huddo o len-ladrad ? Cyfrwng i ddyn gael Rafael arno ei hunan ydyw gwir addysg, a dWYIll allan o'i drysorfa bethau newydd a hen. Eto rhaid cydnabod, y dygir cwyn yn erbyn nifer sydd wedi cael amaethiad athrofaol, yn llusgo llythyrenau wrth eu henwau, ac yn tor- heulo yn myd dysg, eu bod yn euog o'r ynfyd- waith hwn. Cofier nad ydym yn beio y Method- istiaid yn anad un arall ar yr un pryd, y mae yn llai esgusodol yn ein mysg ni. Yn un peth mae gan bregrethwyr yr Hen Gorff fwy o amser i nyddu pregeth o'u gwe eu hunain nag eiddo pregtethwyr enwadau eraill. Unwaith y mis, a phrin hyny, y trethir ein gweinidogion ni i osod wrth eu gilydd ddwy bregeth, tra y mae brodyr y Ilwythau eraill adref bron bob Sul. Nid yohwaith ar foreu Sul gartref, ar ol ffwdan a thrybestod yr wythnos flaenorol, y preg-ethir pregeth gwr arall; ond syrthir gan- waith i'r un bai, a marchog"ir drwy'r wlad, a chyhoeddir gyda rhyw hyfdra anesgusodol ar uchel-wyliau y bobl eiddo eraill o'r testyn i'r Amen. Turia hyn dan seiliau moesoldeb, ac nid rhyfedd fod y weinidogaeth mor brenaidd ac aneffeithiol mewn ami i fan. Pwy ddiwrnod, y pregethwyd mewn Sasiwn, ar destyn tarawgar ganefengylydd poblog- aidd, fras aralleiriad o eiddo gweinidog arall. Clywais fod bug-ail ieuanc o'r Gogledd wedi ei glwyfo pan glybu hyn, ,g"an i'r gwr hwnw glywed ei breg-eth ef rai troion, pryd na chlybu ef wr y De ar y testyn gymaint ag un- waith. Onid ydyw hyn yn bradychu urddas, yn tueddu i gynyrchu chwilfrydedd afiach yn y cynulleidfaoedd, ac yn demtasiwn i greu drwgdeimlad rhwng gweinidogion a'u gilydd. Wrth gtodi testyn ar amgylchiad neillduol, dy- wedodd y diweddar Barch. W. James, Aber- dar, "angenrhaid a osodwyd arnaf i breg- ethu y bregeth hon, oblegid clywaf fod brawd arall yn ei phregethu drwy'r ixlad,-ond fy mhregeth i ydyw." Y fath brofedig'aeth i wr o dynerwch teimlad Mr. James ydoedd cael ei osod yn y fath brofedigaeth i amddiffyn ei hun. Onid ydyw yn demtasiwn, os bydd gan ddyn bregeth well na'i gilydd, ar destyn tlws a newydd, ei rhoddi naill du os bydd rhai o'r lladratawyr yn bresenol. Ond ychydig sydd yn euago ddwyn pregeth dyn byw, rhai sydd yn ngafaelion newyn mawr; ond dywedir fod defnyddio eiddo pregethwyr sydd wedi tewi, ac yn llefaru eto yn eu cyfrolau yn dra lliosog. Yn awr, y mae hwn yn drosedd i'w gosbi, ac yn arferiad y dylid rhoddi pen arni. Yn un peth y mae hyn yn gam a phregfeth- wyr eraill. Y dosbarth hwnw sydd yn llafurio yn galed, yn ceisio meddwl yn ddwys, ac yn well ganddynt foddloni ar stwff cyffredin, a bod yn weddol ddison am danynt na defnyddio cynyrchion dynion eraill nad ydynt deilwng i ddatod carai eu hesgidiau. Cyrhaedda rhai safle uchel, a hyny heb gostio dim iddynt. Hefyd, dinystria hyn bersonoliaeth y dyn ei hun. Mantais hyd yn nod i'r gwirionedd ydyw yr amrywiaeth sydd rhwng ysgrifenwyr y Beibl aru gilydd, manteisia: yr Efengyl ar yr un gwahaniaeth sydd rhwng g*weinidogion. Dyna ydyw pregethu, meddai Brooks, gwir- ionedd yn pasio drwy bersonoliaeth. Ofnir nad ydyw llawer pregethwr, ond pibell wedi ei Z, chysylltu wrtli ffynon arall. Nid y_w wedi bod mewn gwewyr am genadwri, nid yw wedi cyf- ranogi o neillduolion gwreiddiol ei gvmeriad, ac y mae yn amddifad hollol o stamp ei natur ef ei hun, yr hyn sydd yn rhoddi siidd ymhob pregeth, a minar ei chenadwri. Nid yw y dosbarth yma byth yn meddu yr elfen o gyn- ydd, ac mae y syniad o anrhydedd yn gwhl estronol iddynt. Y maent fel yr eiddew yn chwilio am rhyw bren i sugno ei fywyd a dringo ar ei bwys i gyfeiriad sylw a chymerad- wyaeth dynion. Y diwedd yw, wrth hir lad- rata myned yn rhy eiddil a lliprinaidd i gyn- yrchu dim eu hunain. Wrth gwrs, nid oes neb nad yw yn dibynu am gynorthwy, goleuni, a chyfarwyddyd. I hyny y cyhoeddir llyfrau, ac y telir yn uchel am danynt, ond dylai pob pregethwr fel y pren droi yr holl adnoddau sydd o fewn ei gyrhaedd yn fywyd iddo ei hun. Yr hyn a gondemniwn ydyw defnyddio eiddo dyn arall yn un clwt, gan ffug honi ei fod yn sefyll ar ei wadnau ei hun. Cyfyd y drwg- hwn o segurdod meddwl, a diffyg syniad am hawliau y gynulleidfa, a dibrisdod am ddvlan- wad y gwirionedd. Prin y tybiwn fod yn bosibl i unrhyw ddyn o ddifrifwch ysbryd, a phwysigrwydd ei gyfrifoldeb i Dduw a dynion, ddefnyddio y pulpud i ddibenion mor wael a drygionus. Bu ami i leidr wyneb galed yn g-wneyd yn rhy hyf ar eicido, Robertson, Mac- laren, ac yn ddiweddaf oil Emrys ap Iwan. Beth hefyd am y People's Bible, a Wilkinson, ac eraill. Cymerer y rhybudd, mae gwylwyr wedi myned allan, a rhaid cael allan y gwahan- iaeth rhwng y cnaf a'r diniwed. Mae ami i gais personol wedi ei wneyd at ddiwygio y beius, y perygl ydyw y bydd yn rhaid wrth fesurau llymach. MIN-Y-MYNYDD.

YR OCHR ARALL. -

PERSONOL.

CHWAETH