Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
.■—— -t YN EISIEU ar log £ 1,500 yn ol 3 0/0 ar Gapel y Methodistiaid Lewisham, Llundain. Eiddo y Cyf- undeb mewn symiau o £ 100 i fyny. Ymofyner a D. LI. Jones, 28, Jerningham Road, New Cross, (Llundain. YOUNG LADY desires situation as Housekeeper to one or two gentlemen, where maid is kept. Highest references. Apply No. 6814, Goleuad Office. IDAB LITH DAVIES: TEYRNAS DDUW, Gan y Diweddar Barch W. J. WILLIAMS, Hirivaen. Pris 2S. 6c.. Trwy'r Post, as. gc. Anfoner pob Axchebion MRS. E. WILILIAMS, 6, John Street, Hirwaen, Glamorgan. I INDIVIDUAL I Communion Cups. FOR LIST OF Patent Ideal Outfits and Samples on Approval (CARRIAGE FREE), Write to THE MAKERS- Townshend Ltd., Birmingham. I ENWOGION MON (1850.191a). Gan y Parch. R. HUGHES, Valley, Mon. Rhagau gaa MR. s. J. EVANS, M.A., LLANGEFNI. Llyfi campias. Dyraa'r union beth oedd eisiea." -J. T. Job. "GwaitH rhagorol." L. J. Roberts, M.A., H.M.I.S, a Syr Edward Anwyi. Gwaith manwl, trylwyr, a dyddorol iawn."—D. Tecwyn Evans, B.A. "Cyfrol dra destlus ei golwg, trefnus a chywir ei chynwys, a rhagorol ei harddull Gymreig.T. Charles Williams, M.A. Cyfiol werthfawi iawn, gain ei gwedd, gywir ei ffeithiau, a thra dyddorol."—J. Williams, Bryn- siencyn. laith oludog ac arddull ystwyth.J. Evani Owen, LLanberis. Llyfr gwych iawn. Gofelir ynddo am briod- ddulli&a'r iaith."—J. H. Jones, Gol. y Brython. Llongyfarchaf chwi ar gynwys a diwyg y gyf- rol.SyT E. Vincent Evans. Oddiwrth yr awdwr a thrwy'r Llyfrwerthwyr. J3. 6c. net, a is. 6c. net. (250 tud.) One,, A .1 I 5 *?• 1-X'i- .Sv J "f R 11 Ii Self-Raising I w- • TLOUR It Makes Perfect Pastry, Scones, &c. SOLE WHOLESALE AOKNTS— 9 MQRRSS £ JONES, Uvorpooi I 145091 and Manchostep. Aw AT EIN GOHEBWYR. Cyfeirir pob gohebiaeth fel y c-anl yn:-To the Editor of the Cymro," Dolgelley, North Wales. Golygydd y Golofn Farddonol yw y Parch. T. Mordaf Pierce, Iscoed, Dolgelley, ac iddo ef y mae pob cynyrchion barddonol i'w cyfeirio. Bydd y Cymro yn cael ei argraffu boreu ddydd Mawrth, ac yn cael ei anfon ymaith gvda special mail i bob rhan o Gymru prydnawn ddydd Mawrth, neu gyda'r trens fel ag i gyrhaedd v derbynwyr nos F ercher. Taer erfynir ar i bob newyddion, erthyglau, a gohebiaethau gael eu hanfon fel ag i fod yn Haw y golygydd mor gynar ar yr wythnos ag sydd modd. Mae amryw bethau mewn Haw oedd wedi eu bwr- iadu at y rhifyn hwn. Cofied ein gohebwyr am ysg. rifenu yn gryno ac i'r pwynt er mwyn cael amryw- iaeth. Teimla y cyhoeddwr yn dra diolchgar i'r miloedd sydd wedi danfon archeb am y Cymro." Gan y bu raid dwyn y rhifyn cyntaf allan wythnos yn gynt nag yr hysbyswyd, anmhosibl oedd gwneyd y trefniadau mor gyflawn ag y bwriedid. Disgwylir gallu cwblhau yr holl drefniadau erbyn yr wythnos nesaf.
CHWAETH
News
Cite
Share
CHWAETH GAN DR. MOELWYN HUGHES. "a. MEDR i adnabod y pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt--dyna yw chwaeth; ac, o ad- nabod, i gymeradwyo neu gondemnio, i edmygu neu gashau. Er y byddwn yn son am chwaeth isel, prin—a bod yn fanwl-y mae hvnny'n gywir. Mwy priodol a fyddai dywed- yd chwaeth a diffyg chwaeth.' Byd chwaeth-ei unig" fyd—yw y gwir, y da, a'r tlws. Drwy natur, neu y cread y'n cyflwynir gyntaf i'r cyfryw fyd; ac yna drwy'r celfau cain, megis barddoniaeth, cerddoriaeth, arluniaeth, &c. Deddf y celfau cain ydyw mynegiad—nid copio na dynwared natur, eithr yn hytrach ei hesponio, gan adael i'r esponiad hwnnw gymeryd peth o'i liw a'i ffurf oddiwrth bersonoliaeth y gweledydd. Fe gyfadadd y celfau cain o awydd cadw meddiant o'r medd- yliau a'r teimladau a roddasant foddhad mewn natur: dyn sydd yma, yn ceisio dal gafael bar- haol yn ei brofiadau trwy eu hadgynyrchu. Gallu i g'reu yw athrylith; gallu i werthfawr- ogi yw chwaeth. Ydyw, y mae athrylith yn creu, fel y gwna Duw, gyda hyn o wahan- iaeth: pan y crea Duw tynnu ohono ei Hun a wna; pan y crea athrylith tynnu a wna hi ahoni ei hun ac o'i hamgylchoedd. Y mae'r Crewr Mawr wedi peri fod ynnom rywbeth a etyb i'r da, y gwir a'r tlws. l^e ddatguddia Ef ei Hun mewn Natur, yn uniongyrchol, ac yn y celfau cain yn an-uniongyrchol. Chwaeth yw y llygad a'i cenfydd Ef. Mewn Natur Duw yw y Telynor; yn y celf- au cain athrylith yw y telynor; ond ar yr un delyn y can y ddau. Chwaeth yw y glust honno a adnebycld yr hyfryd sain. Mewn gair nid yw Natur yn bod, na'r cysgod ohoni mewn celf, onid i'r chwaethus yn unig. Amrywia.eth Chwaeth. Er y gwahaniaeth mawr mewn chwaeth ymhlith cenhedloedd, oesau a phersonau unig- ol, eto i gyd y mae'r gwahaniaeth yn llawer llai na'r tebygrwydd; hynny yw, y mae'r pwyntiau y cytunir arnynt, os yn llai mferus, er hynny yn llawer mwy pwysig na'r pethau yr anghytunir yn eu cylch. Fe erys rhyw nifer o egwyddorion sefydlog, onite ni fuasai llenyddiaeth yn bosibl ac ni chawsid canonau beirniadaeth o gwbl. Ni ellir mesur dim ond trwy gyfrwng yr hyn nad yw yn newid. Ac er pob amrywiaeth a chyfnewidiad yr un yn y bon yw y gfwir, y da a'r tlws. Diddorol ydyw sylwi ar yr amrywiaeth. Y mae'r Almaen, ebai Balzac y Ffrancwr, wedi cynyrchu tri pheth du iawn yr argraffwasg, powdwr gwn a Luther—y tri hyn, a'r duaf o'r rhai hyn yw Luther! Ac yr oedd Goethe hefyd mor ysg-ymun g-anddo a'r diwygiwr. Condemnio Miltwn yn ddiarbed a wnai Goethe gan fawrhau Byron. Yr oedd Addison wedyn yn edmygydd mawr o awdur Coll Gwynfa, tra na chanfyddai ddim rhagoriaeth o gwbl bron yn Spenser. Beth a feddyliech chwi o syniad Dr. Johnson am Filtwn? "Nid oes .i->4- -V.. ynddo na natur na ciielfyddid, g-wirionedd na i-iew)-dd-deb-h,e is easy, vulgar, disgusting. II Yn ol Mathew Arnold nid oedd Pope fawr bardd yn ol Lowell yr oedd yn un o'r goreu- on. The jingle man—dyn a'r enw a roddodd Emerson ar athrylith gryfaf yr Amerigf— Edgar A. Poe. Blino ar Oronwy y byddai Eben Fardd, ond nid felly y Doctor Lewis Edwards. Mynnai Islwyn. a'r Prifathro Thos. Chas. Edwards ddal mai Williams, Pantycelyn, oedd bardd mwyaf ein cenedl ni. Nage,' ebai rhai o athrawon ein Colegau heddyw, a rhai o'n beirdd anianol—' nage, nid William Williams, ond Dafydd ab G:wilym! Y gwir yw mai dod o hyd iddo'i hunan a wna dyn yn yr hyn a gar. Dyn o ddychymyg goludog yn unig a fedr werthfawrogi Ruskin a Montaigne. Y gwladgarwr a'r neb y mae serch yn cadw'i galon yn ifanc a all fwynhau Burns a Moore a Cheiriog. Praffter meddwl Browning yn unig a apelia at ambell un; gwawdiaeth finiog Pope at un arall. 0 byddweh chwannog am yr arwrol—ar faes y gwaed ac ar feysydd mwy gwaedlyd serch- dilyn Homer fydd oreu i chwi. Dante, o bawb, yw bardd y golygfeydd dychrynllyd a'r llanercbau tyner, hyfryd—y ddau eithafion. Shakespeare am ddisgrifio amlochredd bywyd. Synwyr cyffredin Dryden a'r Ficer Pritchard sy'n apelio rymusaf at rai-at ychydig 'rwy'n ofni, oblegid ni wêl dyn ond yr hyn sydd ganddo! Rhaid i'r Breuddwyd- iwr gael Shelley; y dyn cyfriniol Edgar Poe, Vaughan, Herbert a Glasynys; y dyn ys- prydol Wordsworth, Faber, Islwyn a Phant- ycelyn. I Emerson yr oedd y Cread yn llawn ysbryd, i Martineau yn Ilawn dealltwriaeth. Odclieithr fod ynnom gydnawsedd, ofer dis- g'wyl dim ganddynt. Ni chenfydd dyn ond y y I sydd ynddo. Dacw i chwi ddau ddyn yn myn'd i'r goedwig: coed yn unig' a wel un o'r ddau; meddylddrychau yn unig a wel y llall. A glywsoch chwi am Turner yr ar- lunydd? Daethai rhyw foneddwr ato un bore i gael golwg ar ddarlun oedd newydd gael ei orffen-darlun o olygfa arbennig mewn natur. Mawr foddheid y boneddwr, ac nid oedd yn gynnil o'i glodforedd. Fodd bynnag, wedi canmol yn hael fe ychwaneg- ai- onci rhaid i mi ddweyd Mr. Turner na welais i erioed mo'r lliwiau yna mewn natur." Naddo, mae'n debyg," ebai'r ar- lunydd enwog, "ond be' roddech chwi am fedru eu gweld1?" Pan gyhoecldodd Johnson ei eiriadur fe an- fonwyd rhodd-gopi i hen foneddwr na feddai fawr chwaeth at bethau o'r math hwnnw nac odid ddim syniad am werth llyfrau; ac wrth yrru gair o ddiolch am yr anrheg dyma a ddywedai: "lVlae o'n ymcldangos i mi yn rhywbeth digysylltiad iawn! A dweyd y gwir i chwi, yr wyf wedi metihu'n lan a gwneud allan beth ydyw plot y llyfr! Oni chlywsoch am y rneintonydd hwnnw a ddy- wedai am Goll Gwynfa Miltwn nad oedd y bardd yn profi dim? 0 sane mesuronydd yr edrychai ef ar bopeth, ac felly anghyfiaith iddo ef ydoedd cyfrinachau'r awen. Dadblygu Chwaeth.. Gan nad greddf mohoni fe ellir ei meithrin a'i dadblygu. Y mae tri dosparth o ddylan- wadau yn gweithredu yn y maethu a'r tyfiant hwn: (r) amgylchedd, gan gynnwys ysbryd yr.,oes; (2) yr .1 hyn a etifedda dyn yn rhim- wedd pertnynas; (3) yr ewyllysiad gwirfodd- ol. Y mae a fynno safle ddaearyddol a hin- sawdd lawer iawn a chwaeth. Mewn gwled- ydd poethion, lIe y tyf moddion cynhaliaeth vn rhwydd, a bron yn hollol annibynol ar lafur "dyn, nid oes digon o waith i'w wneuthur, a thrwy hynny meithrinir diogi a diymadferth- edd. Mewn gwledydd oerion y mae'r ym- drech i fyw yn rhy galed: treulir yr amser bron i gyd i hela ymborth a mocMion clydwch, fel na cheir hamdden i feddwl. Yn Rwsia fe barlysir egnion v miliynau trigolion gan un- donyddiaeth v golygfeydd. Gwanychir bywyd goreu cenhedloedd eraill trwy eu bod vn rhv ynysigyn rhy bell o gyrraedd dynion fel ag i fedru cymdeithasau a hwynt. Diifygiol mewn chwaeth bron yn ddieithriad yw y rhai hyn Pwy ynte sy'n cael eu ffafrio? Pa am- gylchiadau daearyddol a hinsawdd sy'n feith- riniad i chwaeth? Mewn gair, pa bobl neu bobloedd }'w y goreu am fagu a dadblygu