Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
T"'_."-' NEWYDDION.
News
Cite
Share
T" NEWYDDION. Cynhaliwyd cyfarfodydd blynyddol Bryntirion, Llanilltyd Faerdref, y Sul a'r Llun, Mehefin 7, 8. Y gweision oeddynt y Parchn. James Llewelyn, Pen. ybont, a W. P, Jones, M.A., Treorci. Y Parchn. Phillip Jones, Llandilo, a T H. Morgan, Garth, -inlaeste- fu yn gwasanaethu yn ngwyl flyn- yddol Noddfa, Mountain Ash, eleni. Cafwyd oed- faon nas gellid eu gwell. Daeth eglwvs fechan yn Caeharris, Dowlais, allan yn ganmoladwy iawn yn Arholiad Sirol Dwyrain Morganwg. Derbyniodd 11 o'r plant Dystysgrifau yn yr Arholiad, ac yn eu plith enillodd Maggie Lilian Evans (merch Mr. Roderick Evans) wobr yn y Dosbarth dan 13 oed. Mawr fu .ymdrech Mr. John Evans a Miss Annie Owens gyda'r plant. Trefnodd Methodistiaid Mawddwy i gael egwyl o adloniant prydnawn Gwener, Mehefin 19. Caed hin hyfryd, a chaniatad i fyned i grounds Plasyndinas. Wedi te da dan y coed, treuliwyd pnawn difyr i ganu, cystadlu a chwareu, hen ac ieuainc yn ymuno i anghofio eu gofidiau am v tro. Cyn ymwahanu deuwyd a'r Camera i ,gael llun group i gofio am y diwrnod. Yr hwyr, yn y capel, caed cyngherdd plant, dan lywyddiaeth Mr. J. Parry. Aeth plant y Gobeithlu drwy raglen ddifyr a chwaethus, dethol- iad o'u gwaith yn ystod tymor y gauaf. Gofelid am danynt gan y Parch. R. W. Jones (gweinidog), Mr. Geo. Price. Miss Elsie M. Parry. Dyma ail ymwel- iad y plant hyn a'r Dinas, a da fydd genym eu gwel- ed yn dod eto, Teimlir yn ddiolchgar iawn i'r plant am ddod, ac i'r cyfeillion fu yn eu parotoi mor dda. Gyflwynwyd elw y te a'r concert at yr achos yn y Dinas. Dydd Sabbath, Mehefin 21ain cyfisol, ymwelwyd ag Ysgol Sul Gosen, Treorchy, gan Miss Williams, y genhades 0 Fryniau Cassia. Er na chyhoeddwyd ei hymweliad yn flaenorol, cafodd groesaw cynes a gwrandawiad astud. Traddododd y genhades an- erchiad pwrpasol mewn modd deheuig a dyddorol iawn i'r plant, gan hoelio eu sylw yn gyffredinol am haner awr. Yna, ar ol yr anerchiad, rhanwyd tyst- ysgrifau enillwyd gan aelodau yr Ysgol yn y meus- ydd llafur. Heblaw oddeutu haner cant aeth yn ilwyddianus drwy arholiad v dosbarth, aeth 103 yn llwyddianus drwy yr arholiad sirol. Rhanwyd y dystysgrifau am ddysgu allan feusydd llafur y sir. Gosodai dau beth fri ar raniad y tystysgrifau eleni, sef fod Mr. David Jones yn uwchaf yn y sir yn yr arholiad i rai dros 21 oed, ac hefyd fod eglwys Gosen yn sefyll yn uchaf yn y sir yn nifer y rhai aeth yn llwyddianu drwy yr arholiad sirol. Rhanwyd y tystysgrifau gan y gweinidog y Parch. W. M. Davies, B.A., a chafwyd anerchiadau ar yr achlysur gan yr arolygwyr, Mri. Wm. Richards, Enoch Hopkins, a John Morris. Rhifai yr ysgol a'i changen am y dydd 386. Gellir ychwanegu i'r oil ysgrifenu eu hatebion yn yr arholiad yn yr iaith Gymraeg.
GOGINAN.
News
Cite
Share
GOGINAN. Gwyl Jiwbili.—Cynhaliwyd Gwyl Jiwbili agoriad capel presenol y Dyffryn, yn y lie uchod, nos Iau a dydd Gwener, Mehefin isfed a'r Iqeg. Pregethwyd ar yr amgylchiad gan y Parch. M. P. Morgan, Blaen. anerch, Parch. David Williams, M.A., Aberystwyth, a'r Parch. Owen Prys, M.A., Aberystwyth. Cafwyd hin ddymunol, tywynai yr haul yn hyfryd, ac ym- ddangosai dyffryn Melindwr yn ei wisgoedd goreu. Daeth tyrfa liosog ynghyd o bell ac agos i wrando cenhadon hedd yn traethu y genadwri, a gwenau y nefoedd ar yr holl g-ynulliadau. Clywyd clychau arian yn y gwynt yn galw'n ol, a chydlawenheid a'r eglwys yn y lie ar ei gwedd lewyrchus ar ben haner canrif o wasanaeth yn- ei chapel eang a hardd. Am 2 o'r gloch prydnawn dydd Gwener, cafwyd cyfarfod arbenig i ddathlu'r Jiwbili, o dan lywyddiaeth Mr. Evan Morgan. Cefn Bangor. Rhoddwyd hanes yr achos yn y lie o'i gychwyniad gan y gweinidog y Parch. J. M. Griffiths, a Mr. William Evans, Pont- erwyd. Sylwyd mai cangen ydyw y Dyffryn yn wreiddiol o eglwys enwog Penllwyn Sefydlwyd Ysgol Sabbothol gan Mr. John Edwards, Blaen- dyffryn, yn ei dy ei hun ychydig dros gan' mlynedd yn ol. Yr oedd y gwr da hwn vn ewythr i'r diwedd- ar Dr. Lewis Edwards, y Bala. Cynorthwyid ef gan Mr. John Morgan, Goginan Fach, ac eraill, a ffaith ddyddorol mewn perthynas a'r Ysgol Sul yn Blaendyffryn ydyw mai yma v darfu i Ieuan Gwyllt yn llanc ieuanc daro ton gynulleidfaol yn gyhoeddus am y waith pyntaf. Wedi hyn bu yr Ysgol Sul yn cael ei chynal ar gylch mewn lleoedd eraill vn ogystal, megis Penbryn, Cefncoed, Troedyrhiw, Llwynmeredith a'r Banc ac yn ol yr un drefn y cyn- helid y cyfarfodydd gweddiau, ac y ceid amb3ll bregeth, a bernir fod y diweddar Barch. John Elias wedi bod yn pregethu yn rhai o'r anedd-dai hyn, oblegid y oedd wedi dyfod i gysylltiad trwy briodas a ilieulu Cwmgraig yn y gymydogaeth. Yn y flwydd- yn 1842, yr adeiladwyd y capel cyntaf, a chymerodd y cyfarfod agoriadol le Ebrill 13, 14, 1843, a hyny yn y ddwy iaith. Yr oedd v lie erbyn hyn yn prysur ddyfqd yn ganolbwynt masnach helaeth y gweith- feydd plwm. Ffurfiwyd eglwys, a chynhyddodd i'r fath raddau fel ymhen yr ugain mlynedd aeth y capel yn rhy fach. Pan ddaeth cynhauaf toreithiog 1859 i fewn gwelwyd yn amlwg fod yn rhaid cael capel mwy, a gwnaed hyn yn y flwyddyn 1863, a chynhaliwyd y cyfarfod agoriadol yn gysylltiedig a Chyfarfod Misol Aberteifi yn yr un lie Ionawr 6, 7, 1864. Rhifai yr eglwys v pryd hwn dros 200 o aelodau. Yn y flwyddyn 1866, aeth lliaws allan o horn i ffurfio eglwys yn Cwmerfin, ac vn bur fuan _W- arafodd olwynion masnach yn v lie, a dengys yr ystadegau am y blvnyddoedd dyfodol ei bod wedi cael colledion trymion. ond drwy ymdrech galed..o eiddo'r ffyddloniaid fe gadwyd yr achos ymlaen o hyd yn anrhydeddus. Siaradwyd ymhellach yn y cyfarfod hwn gan y Parch. Owen Prys, M.A., Parch. David Morgan, Mr. W. Bebb, Mr. Thomas James, y rhai a wnaethant sylwadau byw a tharawiadol am yr hen swyddogion a'u gwragedd, ynghyda'r gweini- dogion fu yn fugeiliaid ar yr eglwys, a'r pregethwyr ddarfu godi yn y lie. Rhoddion.—Yn ystod y cyfarfod cyflwynodd y Parch. J. M. Griffiths, ddiolchgarwch gwresocaf yr eglwys i nifer o bersonau am anrhegion gwethfawr tuag at yr achos, sef organ newydd, gan y cadeirydd cwpanau cymundeb unigol, gan Mr. J. E. Jones, Y Goedwig, a'i chwaer Mrs. Morgan, Westminster, Llundain; Beibl ar y pulpud gan Mr. a Mrs. A. P. Evans, Llundain; Llyfr Hymnan a Thonau ,gan Miss Sarah jane Jones, Miners Villa, a'i chwaer a'i. brodyr, ynghyda blychau casglu, Llytr Hymnau gan Miss Mary Elizabeth Williams, Woodvale; Organ Bench gan Mrs. W. B. Bebb, Blaendyffryn; Table Cloth gan Mrs. Lewis Richards, Hafodau; White Linen Cloth gan Mr David Howells, Draper, Aber- ystwyth, drwy law Mrs. Evans Loveden Place. Addurnwyd y pulpud a'r set fawr hefyd gan Mrs. W. Griffiths, Goginanfach, a Miss Rowlands, Cefncoed. Arweinyddion y gan oeddynt Mr. Daniel Morgan a Mr. W. B. Bebb, a chwareuwyd ar yr organ gan Miss Lizzie Annie Price a Miss Lizzie Williams, a dar- pwyd yn helaeth ar gyfer y dieithriaid, gan wragedd a chwiorydd ieuainc yr eglwys.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GENI. PRIODI, A MAR W. GENEDIGAETHAU. Jones.-Mebefin 22, priod y Parch. J. Owen Jones, Hyfreithon, Cwmafon, ar ferch (cyntafanedig). Morgan.—Yn Llwyn-yr-Eos," Pietermaritzburg, ar yr 2ofed* Mai, i briod Mr. Wm. Powell Morgan, Archwiliwr Talaethol Natal,—mab. Phillips. -i\l.ehefin 23ain, priod y Parch. T. O. Phillips, gweinidog eglwysi M.C. y St. Fagans a'r Wenvoe, ar fab (ail-anedig). PRIODASAU. Dorkins-jones.-M.,ehefin 17, yn nghapel Llan- gernyw, gan y Parchn. H. Cernyw Williams, Cor- wen, ac E. J. Jones, B.A.. Llangernyw, Mr. Oswald Dorkins, Awelon, Cadnant Park. Conwy, a Miss C. E. Jones, merch hynaf Mr. a Mrs. Jones, Ty'nddol, Llangernyw. Jones-Thom.as.-Mehefin 15, yn nghapel Bethesda, Towyn, gan y Parch. R. R. Williams. M.A., Mr. T. Garth Jones, cyfreithiwr, a Miss Gladys Thomas, merch Mr. D. S. Thomas, Towyn. Jones—Thomas.—Mehefin i, yn nghapel Mile End, Llundain, gan y Parchn. J. Smallwood. Cymmau, Wrecsam, a D. Oliver, gweinidog v lie, Mr. David Jones, mab ieuengaf Mr. Rees Jones. gynt o Ber- mondsey, a Miss Ellin Thomas, unig ferch Mr. a Mrs. Thomas, Cymmau, Wrecsam, a nith. Mr. a Mrs. Hughes, Burdiff Road, Bow. Williams-jones.-Meh-efin 24, yn nghapel Abergele, gan y Parch. R. Williams, M.A.. y Cvnghorwr H. E. Williams, Glanllyn, Pensarn, a Miss Mary Myfanwy Jones. ail ferch y Cynghorwr John Jones, Nant Fawr, Abergele. MARWOLAETHAU. Evans. -i\leh-e fin 26, yn Gorffwvsfa, Penmaenmawr, yn 73 mlwydd oed, Jane Davies, merch y diwedd- ar Roger Evans, Fron Goch, a Phorthaethwv. Evans.-Mehefin 21, yn Silvermere, Newsham Drive, Liverpool, yn 65 mlwydd oed, Margaret, gweddw William Evans, U.H., Liverpool a Chaergybi. C,eorge.-Mehefin 22, yn Cefnydre, Abergwaun. yn flwydd ac wyth mis oed, David. anwyl blentyn Mr. William George, cyfreithiwr Criccieth. I-lughes.-Mehefin 20. yn 6sain mlwydd oed, Ann, priod John Llewelyn Ceiriog Hughes, Beech Mount, Selatlyn. Morris.—Mehefin isfed, ar ol cystudd byr, yn 68ain mlwydd oed. Mrs. Morris, Cefncoch Isaf, Llan- Ilugan, Maldwyn. (Cofnodiad helaeth.ach mewn Haw).. Parry.-Mehefin 16. yn 8 mlwydd oed, Mrs. Ann Parry, gweddw Mr. William Parry, Penvcaerau Farm, Aberdaron. Claddwyd ei gweddillion yn mynwent eglwys St. Hywyn, Aberdaron, Meh. 19. Roberts. -Mebefin 23. yn 5c; mlwydd oed. Mr. Meredith Roberts, llythvrgludydd, Dolgellau. Bu yn ngwasanaeth v llythyrdv am 28ain o flynvdd- oedd, a cherddodd dros gan' mil o filldiroedd, a chafodd fedal arian am hir-wasanaeth. Williams. -Tehefin 16, yn 74 mlwydd oed, y Parch. D. Anwyl Williams (W.), Plas Anwyl, Prestatyn. Williams.—Mehefin IQ, yn 77 mlwydd oed, Mr. T. J. Williams, U.H., Coed Derw, Colwyn Bay, gynt o Ddinbych. Williams.—Mehefin 2ain. Mr. Willie Williams, mab hvnaf Mr. a Mrs. Edward Williams, Ceylon House, Abermaw, yn 22 mlwydd oed. Bu yn nodedig o ddioddefgar yn ystod ei gystudd trwm a maith. Yr oedd yn wr ieuanc poblogaidd, ac yn gymeriad cryf a nhrydferth. Pe cawsai fyw nid oes dadl na fuasai vn dod yn wr o ddvlanwad mawr mewn byd ac eglwys. Yr oedd eisoes wedi dyfod yn dde- heulaw i'w rieni yn eu masnach helaeth. Bvdd bwlch mawr ar ei ol yn eglwys Park Road. Gwir ofalai am yr achos. ac yr oedd yn selog iawn gyd- a'r Ysgol Sul. Preifat oedd yr angladd. Cymer- odd le dydd Iau diweddaf yn mynwent Llanaber, pryd v gwasanaethwyd gan v Parchn. E. Afonwy Williams (ei weinidog), a 1. Gwynoro Davies. Cydymdeimlir yn ddwys a Mr. a Mrs. 'Williams, ac a'i unig frawd Mr. Lewis Williams yn eu trallod mawr. Syched yr Arglwydd ymaith bob deigryn oddiwrth eu llygaid hwy.
CYDNABOD CYDYM D EIM LA D.
News
Cite
Share
CYDNABOD CYDYM D EIM LA D. Dymuna Mr. a Mrs. Edward Williams, Ceylon House, Abermaw, g lnabod gyda diolchgarwch dderbyniad lliaws o lythyrau caredig o gydymdeim. lad a hwy yn eu profedigaeth chwerw, trwy farwol- aeth eu mab, Willie.
Advertising
Advertising
Cite
Share
G.W.R. Excursions. ROYAL AGRICULTURAL SHOW TO SHREWS- BURY, JUNE 30, JULY 1, 2, 3 & 4. EACH DAY. CHEAP FIRST & THIRD CLASS TICKETS will be issued to SHREWSBURY from all Stations within 50 miles, available for return DAY of ISSUE ONLY. Mi nimum fare 1/ SPECIAL CHEAP FIRST & THIRD CLASS SEASON TICKETS to SHREWSBURY, available from JUNE 27th to JULY 4th will be issued from any Station within 60 MILES. MINIMUM FIRST, 6/6, THIRD 4s. THURSDAY, JULY 2. DAY TRIP to SHREWSBURY. Leave Dolgelley 7.20 a.m., Blaenau Festiniog 6.30, Festiniog 6.40, Bala 7.35, Corwen 8.30, Berwyn 8.50, Llangollen 8.58, Acrefair 9.13 a.m. MONDAY, JULY 6. To 'LONDON for 2, 5 or 8 days, by the Shortest Route Leave Dolgelley 8.15 a.m., Blaenau Festiniog 7.45, Festiniog 7.58, BaTa 8.50, Corwen 9.27, Llangollen 9.46 a.m. For details see bills or send postcard to Stations or Offices. FRANK POTTER, General Manager. SUMMER HOLIDAY EXCURSIONS FOR A WEEK, A FORTNIGHT, &c., FROM DOLGELLEY, LLANGOLLEN, BALA, CORWEN, &c. JULY TO SEPTEMBER. EVERY MONDAY To Chester, Riikenhead, Liverpool, for 1, 2 or 3 days from Dolgelley Bala Corwen &c. MONDAYS, July 6 & 20; August 10 & 24; September 7 & 21. To London for 2, 5 or,8 days. To Wolverhampton, Birmingham, Worcester, Mal- vern, Evesham, Stratford-on-Avon, Warwick, Leamington Spa, Banbury, Oxford, Gloucester, Cheltenham, Reading, &c., for 2 or 5 days. EVERY FRIDAY. To Bath, Bristol, Weston-Super-Mare, Clevedon, Warminster, Frome, Wells, Taunton, Exeter, Barnstaple, Minehead, Ilfracombe, Dawlish, Teignmouth, Torquay, Dartmouth, Brixhain, Plymouth, Yelverton, Kingsbridge (for Salcombe), Looe Truro, Fowey, Newquay, St. Ives, Helston (for Lizard), Penzance, &c., from Corwen, Llan- gollen, &c. To Hereford, Abergavenny Ross, Ebbw Vale, Eastern & Western Valleys. Merthyr, Monmouth, Newport, Pontypool, Wye Valley, Barry, Bridgend, Cardiff, Carmarthen, Llanelly, Neath, Ponty- pridd, Porthcawl, Swansea, Taff Vale iline, Fish- guard, Pembroke, Tenby, Milford, &c. To Oxford, Banbury, Stratford-on-Avon, Leaming- ton Spa, Warwick, Shrewsbury, Birmingham & Wolverhampton from Dolgelley. EVERY SATURDAY. To Reading and London. For details see special pamphlet or send postcard to Stations or Offices. FRANK POTTER, General Manager. A OES GENYCII ARCHWAETH DDA? Y mae archwaeth dda yn golygu mwy na'r dymun- iad am fwyd. A siarad yn gyffredinol, gellir ei gym- eryd fel arwydd eich bod mewn cyflwr o iechyd da, gyda'ch cyfansoddiad treuliadol mewn cywair da, bywiog ac yn gwneyd ei waith dyddiol o dynu maeth allan o'r ymborth a fwytewch. Os na ellwch fwyta, neu heb eisieu bwyta, deg i un nad oes rhywbeth o'i le gyda'ch cylla, afu neu ymysgaroedd. Treiwch yr effaith o gymeryd Mother Seigel's Syrup ar ol bwyta-am dymor. Yna gwyliwch sut y mae'r fedd- yginiaeth lysieuol ragorol hon yn blaenllymu yr archwaeth, ac yn cyweirio i fyny y cyfansoddiad treuliadol. Y mae yn eich galluogi i fwyta gyda bias, a phan fyddoch wedi bwyta, y mae y bwyd yn cyfoethogi eich gwaed, ac yn cynyddu eich nerth a'ch yni. Y mae degau o filoedd wedi profi hyn i fod yn wir. There has been no advance in the price, but a large advance in the sales of Fairy soap. The best and goes furthest. THOMAS flUDLKY 4 CO I.TD., NEWCAaTLK-ON-TYNB.