Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

-_._-ADOLYGIADAU.

News
Cite
Share

ADOLYGIADAU. Spurrell's Welsh-English Dictionary. New Edition, completely revised. Edited by J. Bodvan Anwyl. Dygwyd yr argraffiad gwreiddiol allan yn y flwydd- yn 1848. Er yr adeg hono gwnaed cynydd mawr mewn ymchwiliadaeth i'r Gymraeg, ac angenrheid- iol oedd cael Geiriadur yn corffori'r casgliadau sicr. Gwnaed hyny i fesur gydag ad-argraffiad o Eiriadur Dr. J. Davies o Fallwyd yn I Nghyfres y Fil,' ond wele gyfrol lawnach drachefn, -ac un dra hylaw i'r efrydydd Cymreig. Yn y Rhagymadrodd esbonir fod yr orgraff yn seiliedig ar adroddiad y Pwyllgor y gweithredai Syr John Rhys yn Gadeirydd, a'r Athro John Morris Jones yn Ysgrifenydd iddo. Cynorthwywyd Mr. Bodfan Anwyl gan ei frawd enwog Syr Edward Anwyl; a sicrhaodd gydweith- rediad Athrawon a Darlithwyr pob un o'r colegau cenedlaethol. Diau fod hyn vn gam hir yn nghyf- eiriad unffurfiaeth. Cyflwynir y llyfr hefyd i'r Athro Syr John Rhys ac ond cael yr awdurdodau hyn i gytuno'n wirfoddol, ni fyddai raid i ysgrifen- wyr is eu safle ymdroi lawer yn hwy yn anialwch dyrys orgraff yr iaith. Inoddir tua 2,500 o eiriau i mewn yn y Geiriadur hwn, a'u cyfystyron yn y Saesneg. Nodir y rhai ansathredig gydag arwydd. Bydd hyny yn rhybudd i dramorwyr ddysgant ein hiaith, yn gystal ag yn ychwanegu at wybodaeth hanesyddol y Cym- ro. Daw cyfoeth y Gymraeg yn amlwg iawn yn y gyfrol hon, ynghyda'i hystwythder, a pherseinedd llawer o'r geiriau. Dengys hefyd dlodi llawer a ddefnyddiant yr iaith, ac na fedrant ond y hi-pan feddylir gyn lleied o'r ddwy fil a haner hyn sydd ar arfer gyffredin yn ein plith. Nid rhyfedd i ol- ygydd newyddiadur ateb un o'i ohebwyr, a geisiai gyfarwyddyd ynghylch llyfrau da i'w darllen, gan ddywedyd, Darllenwch yn gyntaf oil Eiriadur eich iaith. Ceir lliaws o eiriau y Beibl nad yw eu hystyr, bellach, yn gwbl eglur, ond i'r efrydydd: eglurir y rhai hyny hefyd yn y gyfrol hon, gyda'u cyfeiriadau ysgrythyrol. Ychwanegir, ar y diwedd, gyfres dda o enwau lleoedd, ac un arall o flaen- ddodiadau ac olddodiadau, gydag esboniad o'u hystyr a natur eu gwasanaeth. Dylai cyfrol fel hon fod wrth law pob darllenydd o farddoniaeth y cynfeirdd a'r gogynfeirdd ac yn wir bydd yn dda ei chael at rai o'r beirdd newydd hefyd. Pan gyfyd gwr a fedro orffen gorchestwaith Silfan Evans, mantelsir ar ei lafur yn v llyfrgelloedd a'r sefydliadau cyhoeddus yn benaf ond llyfr yw hwn i'w feddianu*n bersonol gan bob un hoffai ddarllen ceinion ei iaith o bob oes mewn eglurder a mwynhad. Pobol Capel Nant y Gro. Gan 0. Madoc Roberts, Conwy. Ymgais syml ydyw cynwys y llyfr hwn at bort- readu bywyd Ymneillduol Cymru yn ystod yr haner canrif ddiweddaf." Dyma'n ddiau amcan cwbl deilwng ac amcenir y tro hwn bortreadu'r bywyd Ymneillduol fel yr ymddengys i un oddifewn iddo, ac un mewn gwir gydymdeimlad ag ef. Ni ddy- wedir dim amharchus am na barwn na thirfeddian- ydd o eglwyswr a choffheir pethau da saer, bugail a morwr y cyfnod hwnw heb sen mewn gair na dirmyg mewn ton. Ysgrifena ambell un erbyn hyn, fagwyd ar fronau Ymneillduaeth, mor nawddogol o'i hen saint, ac mor dosturiol at eu "culni" tyb- iedig, nes gosod bri anghymesur ar wylltineb medd- yliol, a chanoneiddio cymeriadau pwdr eu gwala os gellir mewn rhyw ffordd ddangos fod annibyniaeth ar eu hoes yn perthyn iddynt. Na alwer neb yn broffwydi os mai carchar a haeddant; a "bedd- au" llawn fydd eiddo'r cyfryw rai: nid oes ynddynt nerth bywyd. Un o nodweddion hyfrytaf y llyfr deniadol hwn yw'r bias peraidd ac iach deimlir arno. Saif Willie Moreton am y newydd a'r blaenfyned- ol mewn meddwl ac arferiad; ond y mae yntau yn eithaf diogel ar yr hanfodolion. Darlunir yma lawer cymeriad conglog-adnabyddir yn dda wedi ei wel- ed a da fyddai iddo yntau weled ei hun yn y drych hwn fel y newidio ei ffydd. Ceir cymeriadau eraill yn y gyfrol gwerth eu dangos er mwyn eu hedmygu a'u hefelychu bydd coelio fod y cyfryw rai yn cael eu magu yn yr eglwysi yn sirioldeb i ysbryd ami ddarllenydd ac yn adgyfnerthiad i'w ffydd. Ysgrif- enwyd y chwedl hon yn dra difyr, gyda llawer o'r arabus wrth ddesgrifio'r personau a'r digwyddiad- au, ac ystraeon da-rai o honynt yn hysbys o'r blaen, wedi eu gweithio i mewn yn hapus i'r hanes. Odid na rydd neb y llyfr o'i law nes llwyr orffen ei ddarllen ac erys amryw o'i gymeriadau yn gyfeillion mynwes- ol i ni am dymor hir. T.R.J.

Advertising

---------<_---COLOFN Y DARLLENWYR.