Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

COLOFN PAWB A FHOPETH. ---

News
Cite
Share

COLOFN PAWB A FHOPETH. GYDA'CH caniatad, Mr. Golygydd, bydd yn dda genyf yn awr ac eilwaith, gael cyfle yn y golofn hon i osod ar gof a chadw ddigwydd- iadau, symudiadau, &c., ddaw o dan fy sylw pan yn crwydro o fan i fan. Yr wyf o dro i dro wedi dyfod i gyffyrddiad bychan a llu o bobl, o bob dosparth—a rhai 0 honynt wedi gwneyd enw iddynt eu hunain mewn byd ac eglwys. Hefyd yr wyf wedi derbyn rhai can- noedd o lythyrau yn ystod y 35 mlynedd di- weddaf oddiwrth rai o arweinwyr y genedl- gwladol a chrefyddol. Y dydd o'r blaen bum yn treulio rhai oriau yn myned drwy amryw o'r llythyrau hyny, a gwelais fod ynddynt ddefnyddiau ambell i baragraff mewn newyddiadur. Ymhlith y llythyrau hyny ceir rhai oddiwrth y diweddar Esgob Ryle, di- weddar Esgob Bangor, Deon Farrar, Dr. Dale, Dr. Fairbairn, Dr. Lewis Edwards, Edward Mathews, Dr. Saunders, Dr. Herber Evans, Dr. John Thomas, Principal Edwards, Thomas Gee, Arglwydd Morley, Mr. Joseph Chamberlain, Arglwydd Rendel, Syr Lewis Morris, Syr Osborne Morgan, Mr. John Red- mond, &c. Efallai y ceir hamdden ryw dro i wneyd detholiad allan o rai 0 honynt, ac yr ymddengys dyfyniadau yn y golofn hon yn awr ac eilwaith. Y Diweddar Principal Edwards. Mewn llythyr o eiddo Principal Edwards, dyddiedig Tach. 8fed, 1886, ymhlith pethau eraill dywed :■—■ Dymunaf arnoch gadw i chwi eich hun y ffaith mai fi yw awdwr yr adolygiad ar Cunning- ham. Hefyd y mae genyf secret arall i chwi. Yr wyf wedi ysgrifenu papyr go finiog ar Tran- sactions of the Cardiff Cambrian Society." Mae ficer Caerfyrddin (esgob Llanelwy yn awr) yn haeddu cael ei grogi a'i dynu yn bedwar darn am ail adrodd yn ei bapyr yn y Transaction yr haeriad a wnaeth dro yn ol, sef nad oedd ein myfyrwyr yn y dosbarthiadau blaenaf yn Aber- ystwyth yn gweithio am anrhydedd ond am pass yn unig yn y Matriculation. Yr oeddwn wedi galw ei sylw at y camddywediad hwn o'i eiddo, a dyma ef etc i ryw amcan o'i eiddo yn ail ysgrif- enu yr hyn y gwyddai nad oedd yn wir. Y dydd o'r blaen derbyniais lythyr caredig iawn oddiwrth Godet-mae ei gynwys yn peri i mi deimlo cywilydd o honof fy hun. Y mae ef mor ostyngedig,—fel pe bawn i yn rhywbeth. Yn Ffrancaeg yr ysgrifena. Dywed-" Yr wyf wedi darllen eich gwaith gorchestol ar i Corinthiaid gydag edmygedd mawr, ac yr wyf wedi cael i mi fy hun fwynhad ac adeiladaeth ynddo." Mrs. Lloyd George. Nid oes gan lawer ddirnadaeth am garedig- rwydd Mrs. Lloyd George i wahanol achos- ion da ddaw ar ei gofyn. Teimla ddyddor- deb mawr yn y British and Foreign Sailors Society. Rhyw chwe' blynedd yn ol bu yn gosod careg sylfaen Cartref i'r Morwyr yn Milford Haven, ac erbyn hyn y mae yno adeilad hardd a chartref cysurus i'r morwyr ddaw am dro i'r porthladd. Adeg arwisgiad Tywysog Cymru yn Nghaernarfon addawodd y diweddar Arglwydd Strathcona £50'0 tuag at adeiladu Cartref i'r Mbrwyr yn Nghaer- gybi yn goffadwriaeth am yr Arwisgiad yn Nghaernarfon. Derbyniwyd ei gynyg gyda brwdfrydedd. Sicrhawyd tir, a darparwyd cynlluniau. Yr oedd yr holl draul i fod tua ^2000. Rhyw dri mis yn ol gwahoddodd Mrs. Lloyd George rhyw 300 o'i chyfeillion ac eraill i'w thy i Downing Street i Drawing Room. Yn y cyfarfod hwnw casglwyd dros £4'00 at yr adeilad yn Nghaergybi, ac erbyn hyn y mae Mrs. Lloyd George wedi llwyddo i gael dros ^700, ac y mae y rhoddion yn dal i ddod i fewn bob wythnos. Bythefnos yn ol gosodwyd careg sylfaen yr adeilad gan Mrs. Lloyd George, a disgwylir y gellir ei agor yn ddiddyled yn gynar y flwyddyn nesaf. Bellach y mae tua £150'0 o'r ^2000 wedi eu sicrhau. Hawlia y Gymdeithas: hon gefnogaeth wresocaf holl eglwysi ein gwlad, ac y mae Cyfundeb y M'ethodistiaid o dan ddyled drom iddi, gan ei bod wedi rhoddi swm sylweddol i gynorthwyo yr achos Cymreig yn Dublin. Mae y Gymanfa Gyffredinol wedi pasio pen- derfyniad cryf yn cymeradwyo y Gymdeithas i sylw yr Eglwysi.

---------<_---COLOFN Y DARLLENWYR.

Advertising