Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
----y Cwymp a'r Diluw gan…
News
Cite
Share
y Cwymp a'r Diluw gan y Babiloniaid. Anfynych y ceir darganfyddiad hafal ei ddy- ddordeb a'i bwysigrwydd i ddarganfyddiad Dr. Langdon o Rydychain, o lechau Babilon- aidd o Nippur, ar y rhai y ceir adroddiad am y diluw ac am y cwymp, sy'n foreuach na'r adroddiadau yn Genesis. Mae'n rhy gynar eto i basio1 barn derfynol; ond honir eisoes fod yn amlwg mai dyma ffynonell yr hanes am y diluw fel y ceir ef yn y Beibl. Hyd yn hyn, nid oeddid wedi dod o hyd i son am gwymp yn lien Babilonia; ond yn awr, ynglyn a'r stori am y diluw, ceir cyfeiriad at gwymp dyn, a ddygwyd oddiamgylch trwy fwyta Z, rhyw ffrwyth. Perthyn i lyfrgell foreu Babilon yr oedd y tabled,llyfrgell a ddi- nystriwyd gan yr Elamitiaid yn nyddiau Abra- ham; ac y mae wedi ei ysgrifenu mewn dull ddefnyddid gan drigolion Cyn-Semitaidd Babilon.
Emyn Creadigaeth.
News
Cite
Share
Emyn Creadigaeth. Mewn emyn i dduwies creadigaeth y ceir yr adroddiad; a dyddorol iawn yw cymharu yr hyn a geir ar y tabled a'r adroddiadau am yr Un digwyddiadau yn y Beibl Hebreaidd. Yn 1&72 colir i George Smith ddarganfod adrodd- lad am y diluw perthynol i'r Caldeaid; ond gwelir fod nes perthynas rhwng stori Babilon ag un y Beibl. Mae yr enw yn y naill a'r llall I yr un; a dywedir fod Noah ar ol y dinystr wedi dyfod fel un o'r duwiau; wrth yr hyn y golygir iddo 'gael ei fendithio a hirhoedledd. Dywedir hefyd i dcluw y dyfroedd egluro i Noah gyfrinach pethau a datguddio Z, iddo'r ddoethineb oedd yn feddiant i'r duwiau. Yn anffodus, y mae bwlch yn y tabled yma; ond yn ddilynol ceir stori'r cwymp, trwy'r hwn y cyll dyn fywyd tragwyddol neu hirhoedledd, am iddo fwyta o bren y bywyd. Gwelir mai elfenol iawn yw'r adroddiadau o'u cymharu ag adroddiad Genesis. Ceir yma ddadl a chweryl rhwng duw a duwies y cread, a blthir yr hanes gan bethau elfenol a phlentyn- aidd. Ac eto y mae cnewyllun yr ystori ddi- Weddarach a pherffeithiach yma. Bwytawyd o'r pren cassia, a chyhoeddodd Ninharseg* felldith ar y troseddwr, yn enw Enlil ei gwr. Dyddorol yw sylwi fod y Cwymp a'r diluw yn nes perthynasau a'u gilydd yn stori Babilon wag yn Genesis. Nid edwyn y flaenaf Adda () gwbl; Noah sy'n cael ei demtio ac yn cwympo yn gystal ag yn cael ei gadw yn y dwfr, oherwydd ei dduwioldeb.
A yw oes y gwyrthiau drosoddP
News
Cite
Share
A yw oes y gwyrthiau drosoddP Ellfen ryfeddol iawn yw'r elfen wyrthiol mewn bywyd. Medd fywyd ac anfarwoldeb dig ymar; a deil yn fyw ac yn barchus iawn, er pob gwawdio ac ymosod arni. Daw ambell gyfnod wedi ymddiofrydu i'w halltudio o'r byd, ac i'w gwneyd yn gyff gwawd pob dyn a dosbarth rhesymol; ac yn ami gellid tybio fod eu helfa wedi llwyddo, a hwythau wedi cyraedd eu hamcan ac wedi erlid1 pob gwyrth dros y wal ddiadlam, nas gellir disgwyl iddi ddychwel i flino ysbryd gweiniaid dyn ion mwy. Ond yn rhyfedd iawn dychwel y mae er ,gwaethaf pob ymgais i'w hanwyb- yddu ac i'w difodi. Nid yw'r materolwyr byth yn llwyddo i'w hymlid dros y gorwel, er eu holl ymffrost a'u crechwen. Mae'r cred yn y cyfrin, y gwyrthiol, a'r dwyfol, yn llechu yn nghornelau mwyaf cudd calonau dynion; a cheir ni oil yn credu ynddi mewn rhyw ffurf neu gilydd. Ddechreu'r wythnos I ddiweddaf bu'r Tad Benson yn darlithio yn un o neuaddau Llundain ar "Wyrthiau Di- weddar" Modern Miracles." Yn y gadair vr oedd y gwr amryddawn, athrylith- gar ac aneffiniadwy, Mr. G. K. Chester con. Ymysg ei ddywediadau ef yr oedd un am y byd diweddar,byd amheus, meddai, yn ceisio fflatro ei hun ei fod yn feiddgar. Wedi'r cwbl, meddai Chesterton, byd ofnus iawn ydyw. Ei agwedd yw nid amheuaeth ond braw ac arswyd. Deffiniodd y Tad Benson wyrth yn syml, gan ddilyn Thomas Aquinas, Z, fel effaith oedd y tuhwnt i drefn natur greedig". Cyfyngai ei hun yn benaf i wyrthiau o iachad, a nodai fel engraifft iachad chwegr Pedr, ac un nodedig a adroddid gan Awstin. Wrth gwrs at engreifftiau o iachad yn Lourdes y deuai yn y diwedd, a nododd rai achosion yn fallwl. Yr oedd y darlithydd wedi ymholi a Dr. Carrel, meddyg dysgedig o Efrog Newydd ar y pwnc, a dyma ei ateb. Yr wyf wedi dyfod i ddau gasgliad cwbl sicr, ac i un ansicr. Y casgliad sicr cyntaf yw nad oes yr un esboniad gwyddonol y gwyddis eto am dano all gyfrif am y pethau sydd wedi di- gwydd yn Lourdes Yr ail yw fod yr achos- ion o iachad yn dibynu ar ddwyster ac anger- ddoldeb gweddi—pan gyfyd ton gweddi yn uchel, mae'r achosion yn ami, a phan y sudda yn isel, ni chymer iachad le. Yr hyn nid wyf yn sicr am dano yw pa un a gyfrenir y grym bywyd i'r claf gan y rhai gydymdeim- lant a hwy yn y dyrfa fo yn bresenol."
Ffydd a Ffeithiau.
News
Cite
Share
Ffydd a Ffeithiau. Darlith ddyddorol iawn oedd eiddo Dr. Inge yn Neuadd Essex. Ei destyn oedd "Athroniaeth Grefyddol Plotinus ynghyda rhai cvfundrefnau diweddar o Athroniaeth Crefydd." Mae hwn yn un o bynciau'r dydd, ac yn cael sylw neillduol yn ein gwasg gyf- nodol yn Nghymru. Cyfeiriodd Dr. Inge at y gwrthweithiad presenol yn erbyn Darwin- iaeth, yn erbyn determinism,' ac yn erbyn teyrnasiad y deall. Gwreiddyn yr holl fud- iadau newyddion, pa enw bynag roddent arn- ynt eu hunain, oedd ffydd yn ngallu diderfyn bron ymdrech fwriadlawn i liniaru ac i wella sefyllfa dynion. "Mae dorau'r dyfodol yn agored," meddai Bergson, un o'r proffwydi diweddaraf a mwyaf poblogaidd o'r oil. Es- boniai'r darlithydd boblogrwydd y dysgawd- wyr newydd trwy ddweyd eu bod yn dysgu pethau y galwai'r oes am danynt; ac nid oedd bob amser yn or-ganmoliaethus. Yr oedd meddwl yn waith caled, a llamai pobl mewn llawenydd pan ddysgid hwy nad oedd y deall ond un ffordd i lwyddo, a liono, heb fod y ffordd uchaf,—fod greddf yn llawer sicrach i gyraedd y nod. Rhoddai'r athroniaeth newydd hefyd godiad pen i'r ochr ysbrydol; a cheid vsbrydion yn cerdded y tir ymhob cyfeiriad, a'r ffydd-iachawr yn gwneyd mas- nach fras. Yr oedd ganddo rai dyrnodiau trymion i'r dosbarth a elwir y Modernists yn yr Eglwys Gatholig, y rhai a wahanent rhwng Crist hanes a Christ profiad, ond a gad went eu lleoedd mewn Eglwys oedd a'i I hordinhadau a'i sacramentau yn cofio Crist fu fyw a marw ac a adgyfododd. Yr oedd yn drwm hefyd ar Bragmaticiaeth, gyda'i chwest- iwn arwynebol am werth gwirionedd i'r cred- wr ei hun. M1ae'n amlwg fod Dr. Inge yn edmygydd mawr o Eucken, ac yn meddwl yn uchel o'i athrawiaeth o enedigaeth newydd i fywyd uwch. Credai fod y wlad yn addfed i athroniaeth fel hyn, ac nid oedd gan hon ddim i'w ofni oddiwrth feirniadaeth hanesyddol na gwyddonol. Yr oedd ei moesoldeb yn uchel a phur; ni ofalai ddim am fEniau enwadol; yr oedd ganddi ddigon o le i wyddor a chelf ac yr oedd yn debyg iawn i Gristionogaeth fel arweinydd i ddoethineb ymarferol. Onid gair prudd yw'r olaf wedi'r cwbl? Adgofia ni o air adnabyddus, "0 fewn ychydig i fod yn Gristion."
Y Cangliellor a'i Gyllideb.
News
Cite
Share
Y Cangliellor a'i Gyllideb. Amheuthyn yw gweled gwyr y wasg yn cydnabod eu bod yn y niwl. Dywedodd Syr Edward Grey dro yn ol, eu bod hwy bob amser yn barod ar y rhybudd lleiaf i droi allan druth helaeth fydd yn dwyn arwyddion gallu a meistrolaeth ar y mater pa mor ddyrus bynag y bo. Ond ynglyn a'r helynt sydd wedi codi gyda'r Gyllideb eleni, rhaid i'r rhan fwyaf o oraclau'r wasg gerdded yn ochelgar, a gofalu cadw o fewn terfynau diogel. Dywedir mai ychydig iawn o'r aelodau yn y Ty sy'n meddu ond gwybodaeth anelwig iawn ar fanylion y cwestiwn, am fod y drefn o gario'r Gyllideb trwy'r Ty yn ddiobaith gymysglyd ac anneall- adwy, ac yn rhoi cyfle i anfoddogion galluog godi anhawsderau a bwganod dirifedi. Cyn cyfeirio at yr hyn ddigwyddodd, goddefir ini ail-adrodd ein barn am y Gyllideb eleni. Ar ei chyflwyniad rhoisom iddi Ie uchel a phwys- ig, gan ei galw yn Gyllideb fawr. Yn lie ail- adrodd, gwell ini ddifynu geiriau gwyr eraill sy'n gan' mil mwy abl i farnu. Ystyria Mr. T. P. O'Connor fod cynlluniau Mr. Lloyd George yn fawr oil, ac yn fawr nid ynddynt eu hunain, ond gyda'u gilydd. Maent yn ddigon mawr nes y maent wedi creu awyr- gylch newydd yn yr holl sefyllfa wladwriaeth- ol. Yr ydym yn byw mewn Lloegr newydd. Yn yr holl helynt yn awr, ni chododd neb ei fys bach yn erbyn ei dollau. Beth ddywed- asai hyd yn oed radicaliaid go dda am danynt ddeg neu bum' mlynedd yn oil Trwy wrol- deb a medr Mr. Lloyd George y mae'r holl wlad wedi newid ei syniad a'i hagwedd at gwestiwn rhanu cyfoeth. Dyma dystiolaeth Arglwydd Haldane :—Mae'r Gyllideb y fwy- af gwrol gyflwynodd y Canghellor erioed, a nodai allan gydag ymdeimlad cynyddol cyfrif- oldeb yr oes, yr awydd i ddadrys y broblem fawr gymdeithasol o anghydraddoldeb. Ni ddylent gymeryd eu symud i'r dde na'r aswy; ond mynu rhoi holl nerth y blaid fawr Rydd- frydol i'w chario trwodd.
Gwrthryfel y Miliwnyddion.
News
Cite
Share
Gwrthryfel y Miliwnyddion. Dyna fel y gelwir gwaith nifer o ^lyddfryd- wyr, dan arweiniad Mr. R. D. Holt, yn codi gwrthwynebiad i ranau o'r Gyllideb. Nid' ydym yn sicr pa faint o honynt sy'n filiwnydd- ion, na pha faint sydd a fyno hyny a'u gwrth- safiad. Ar bwynt o drefn yr oeddynt yn sefyll, ac ar ol rheoliad y Llefarydd y dydd o'r blaen, ceir eu bod yn llythyrenol a deddf- ol iawn, felly yn gallu gorfodi'r Llywodraeth i newid ei chynlluniau. Pwynt y gwrth-dyst- wyr oedd nad yw Ty'r Cyffredin i basio'r Mesur Arianol, i dolli'r wlad, nes y bydd M:es.ur y Cyllid-y Mesur i newid y ddeddf i gyfarfod a'r tollau newyddion—wedi ei wneyd yn ddiogel. Mae hyn yn anmhosibl eleni, a bu raid boddloni i beidio, sicrhau y cynorthwy i'r awdurdodau lleol y flwyddyn hon. Gwnai hyn yn angenrheidiol tynu rhyw gymaint i lawr ar y tollau bwriadedig; a hysbysodd y Canghellor y tynir ceiniog i lawr yn nhreth yr incwm ar eiddo mawr, yn gwneyd y dreth yn is. 3c. yn lie is. 4c.
Ysbryd Plaid.
News
Cite
Share
Ysbryd Plaid. Ymffrostia'r arweinwyr Toriaidd weithiau yn eu hegwyddorion a gonestrwydd eu bar. gyhoeddiadau. Wrth eu ffrwythau yr adnab- yddir hwy, yn hytrach nag wrth eu honiadau. Faint o ddidwylledd a gonestrwydd oedd dan eu cynygiad yr wythnos ddiweddaf yn gofidio nad oedd y Llywodraeth yn gallu eleni estyn y cynorthwy addawedig i'r byrddau lleol? Nid oedd eu cynygiad ond rhagrith noeth- lymun. Disgwylient fanteisio ar yr anfodd- ogion yn rhengau y Rhyddfrydwyr a'r Llafur- wyr i orchfygu'r Llywodraeth. Ond er i Blaid Llafur chwareu i'w dwylaw trwy wrthod pleidleisio, cafwyd 38 o fwyafrif, ac yr oedd yn ddigon i setlo'r Toriaid unwaith eto ac i siomi eu gwanc am ddifuddio Deddf y Senedd.
:Brad-lofruddiaeth yn Awstria.
News
Cite
Share
:Brad-lofruddiaeth yn Awstria. Llofruddiwyd yr Arch-dduc Francis Ferdin- and, etifedd coron Awstria, a'i briod, yn Sara- jevo ddydd Sul diweddaf. Methodd un cais beiddgar, pan oedd eu modur ar y ffordd i'r N euadd gyhoeddus. Taflodd dyhiryn ffrwyd- belen at y cerbyd, a chafodd y par brenhinol ddihangfa wyrthiol bron. Pan yn dychwel- yd, daeth bradwr arall, a saethodd ddwy ergyd o- lawddryll, a phrofodd y naill a'r llall vn farwol. Bu farw'r ddau ymwelydd urdd- asol bron yn ddiatreg. Ofnir effaith y try- chineb ar yr ymerawdwr oedranus,
Yr Arglwyddi a Dadgysylltiad.
News
Cite
Share
Yr Arglwyddi a Dadgysylltiad. Creodd yr hyn gymerodd le yn Nhy'r Arg-- lwyddi ddydd Iau gryn anesmwythder yn meddyliau llawer yn Nghymru; ac er y dy- wedir fod y Canghellor a McKenna yn gwneyd yn ysgafn o'r peth, nis gellir dweyd I fod pob pryder wedi ei symud. Arglwydd' St. Aldwyn oedd yr ymladdwr dros yr Eglwys ddydd Iau, a chynygiodd fod pwyllgor yn cael ei benodi i wneyd ymchwiliad i waith y Mesur yn tori'r Eglwys yn Nghymru yn rhydd oddi- wrth Gonfocasiwn Caergaint; ac hefyd i'r deisebau yr honid iddynt gael eu harwyddo gan Ymneillduwyr yn Nghymru yn erbyn Dadwaddoliad. Cydsyniodd Arglwydd Crewe, dros y Llywodraeth a'r cynygiad, a hyny, wrth gwrs, s y'nacho,si'r amheuon a'r pryderon. A yw'r cydsyniad parod a roed yn arwydd o iDarodrwydd y Llywodraeth i fyned yn mhellach eto mewn concessions i'r Eglwys? Os vdyw, cyfyd ystorm enbyd yn y wlad. Mae eithaf haelioni i'r Eglwys wedi ei gyr- haedd, a geilw C'ymru am i'r Llywodraeth bellach fod fel y graig.