Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

NODION CYMREIG. -

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. Y CYMRO" ydyw yr enw a ddewiswyd, allan o Jawer o ugeiniau a gynygiwyd, i fod yn enw ar y papyr newydd1 sydd yn awr yn moesgrymu i'r darllcnydd ar ei ymddanghos- iad cyntaf. Paham' "Y Cympo Yn gyntaf, ac yn bwysicaf, am mai Cymro ydyw, yn apelio am gJefnogaeth Cymry, ac yn addaw eu gwasanaethu hyd y, mae yn ei allu. Heb- law hyny, dyma ddewisol enw y mwyafrif o'r darllenwyr, ac y mae yn hyny brawf fod y pwyslais yn symud oddiar enwad a phlaid i aros ar genedi a gwlad. Mae "Y C-Ymiio yn enw persain, cynetin, a digon o led ynddo i gymeryd i mewn neges ac amcan y papyr, heb eisieu rhag-or o eglurhad. -+- -+- Enillydd y gini o wobr yw Mr. J. Bennett Jones, Brynyfelin, Penrhyndeudraeth. Efe a anfonodcl y cerdyn cyntaf a'r enw Y CYMRO" arno, ac a ddaeth i law y golygydd ar y i8fed o Fehefin. Mae y wobr wedi ei hanfon i Mr. Jones. Derbyniwvd lliaws 0 enwau, yr hyn sy'n dangos fod dyddordeb cyffredinol yn cael ei gymeryd yn yr antur- iaeth. Derbyniwyd, hefyd, ugeiniau o lythyr- au yn dymuno yn dda i'r CYMRO," ac addawa llawer estyn eu cynorthwy a'u cefn- ogaeth. Am yr oil, yr ydym yn dra diolch- gar, a hyderwn y bydd gyrfa y papyr, bydded hir neu fyr, yn deilwng o'r ymddiriedaeth a'r cydymdeimlad sydd wedi ei ddangos a'r golygydd a'r staff yn y cyfwng presenol. Bydd ein nod yn nghyfeiriad undeb a chyd- weithrediad gyda phethau goreu a phwysicaf y genedl,—Crefydd, Llenvddiaeth, Addysg, Masnach, a Gwleidyddiaeth. Bydd y papyr yn rhydd, yn ystyr eangaf y gair, a chroesaw i bawb i ddweyd eu barn ar bob agwedd i fvwyd Cymru. Bydd prif symudiadau pob enwad crefyddol yn cael sylw mawr, ac am- cenir hyrwyddo brawdgarwch, cyd-ddealltwr- iaeth, a chydweithrediad, nid yn unig rhwng y gwahanol enwadau Ymneillduol, ond hefyd rhwng pob cangen o Eglwys Crist. -+- Dygwyd y rhifyn hwn allan heb gymaint o amser ag a fuasai yn ddymunol el gael i'w barotoi. Bydd llawer o welliat-itau,, meavn rhifynau dyfodol. Bwriedir mabwysuidau yr orgraff newydd, a rhoddir ^.sylw neilldupl i lenyddiaeth, yn enwedig- i lyfr^u a chylchgron- au Cymru. Gyda hyn mae gwasanaeth rhai o lenoriorrlMaenaf y genedl wedi ei sicrhau, ac yn raddol dygir i mewn rai nodweddion sydd hyd yma yn ddieithr i newyddiaduron Cymru. Nid oes na phwyllgor nac arian pobl eraill y tucefn i'r anturiaeth, ac felly rhaid i ni ymddiried yn lhvyr a hollol ar ein darllen- wyr. Atynt hwy yr ydym yn ddibetrus yn apelio am gefnogaeth. Gwelir mewn colofn arall lythyr oddiwrth yr Hybarch Evan Jones, Caernarfon, ar helynt y Goleuad." Gan fod y "Goleuad wedi myned yn ol i Gaernarfon, ac i gael ei gyhoeddi yno yr wythnos hon, nid oedd dim i'w wneyd end cyhoeddi llythyr Mr. Jones yn y CYMRO." Mewn atebiad iddo, dymunwn ddweyd dau neu dri o bethau yn fyr ac yn glir. i. Ni chyhoeddwyd yr un gair o lythvr- au oedd wedi eu mareio yn breifat. Hysbys- wyd Mr. Jones ar y cychwyn ein bod yn bwr- iadau cyhoeddi yr holl drafodaeth, ac ni ddy- wedodd air yn erbyn. Pe buasem yn dymuno cyhoeddi y llythyrau preifat, buasem yn gofyn e> ganiatad. 2. Mae y cyfan a gyhoeddwyd wedi eu sylfaenu ar lythyrau sydd yn ein meddiant. Yr unig- gamgymeriad a wnaed Oedd, codi yr hyn oedd wedi ei argraffu yn mhapyr Mlr. Evan Jones, ac nid nyni oedd yn gyfrifol am y camgymeriad hwnw, tybed? 3. Am gysylltiad Mr. Evan Jones a'r "Welsh National Press," ni wnaed dim end nodi y ffeithiau. Gweithredai Mr. E-vai-i Jones yn y busnes hwn (I) Fel Cadeirydd yr hen Gwmni yn gofyn i mi ar y I4eg O' Fehefin, 1904, brynu y "Goleuad"; yna yn cymell gwerthu y papyr heb yn wybod i mi i'r Cyfundeb. (2) Gwerthwyd y "Goleuad" am _i 50 pan yr oeddwn yn barod i roi £75° am dano, rhag i arall gael manteisio ar fy llafur. Ai teg hyny tuag at gyfranddalwyr yr hen gwmni heb son am yr hen denant? (3) Mr. Evan Jones oedd un o'r rhai oedd yn prynu y Goleuad dros y Cyfundeb. Ei enw ef sydd yn gyntaf o'r rhai weithredent dros y Cyfundeb yn y weith- red a arwyddwyd Rhagfyr 16eg, 1912, i dros- ghvyddo y Goleuad i'r Cyfundeb. (4) Mr. Evan Jones oedd un o'r Pwyllgor a wnaeth y trefniadau gyda golwg ar ddyfodol y Goleuad," ac a basiodd yn unfrydol, ac enw Mr. Jones yn gyntaf ar y rhestr,i roi y gwaith i'r Welsh National Press Co.' Felly yr oedd Mr. Jones yn werthwr, yn brynwr, yn drefnwr, yn edrych ar ol buddian- au y Cyfundeb, yn gyfaill yn y llys i'r hen gyhoeddwr yn Nolgellau, ac yn shareholder yn y cwmni a gafocld y 'contract' yn Nghaer- narfon. Gwelaf fed dwy golofn yn y Genedl ar Helynt y Goleuad, gan ddau berson sydd mewn cysylltiad agos a'r 'Welsh National Press Co.' Ond gan nad yw y naill na'r llall yn gallu nodi cymaint ag un camgymeriad yn y ffeithiau a gyhoeddwyd genym, gadewir iddvnt. Anghofia'r Genedl ddweyd un ffaith ddyddorol, sef fod Mr. Thomas Jones, un o ddau 'director' v 'Welsh National Press Co.' yn nai i'r Parch. Evan Jones, ac yn ol return,. swyddogol y 'Welsh National Press Go. y mae "Thomas Jones, Bryn Powys, Victoria Road, Caernarvon," yn dal 947 o shares yn y cwmpeini. -6- Arhoswch, i chwi gael clywed yr ochr arall," ebai gwr blaenllaw yn y Cyfundeb y 1dydd o'r blaen wrth geisio atal i Gyfarfod Misol ddangos ei gydymdeimlacl a hen gy- hoeddwr y Goleuad." O'r goreu fe arhos- wn, gyda dweyd fy mod yn ddiolchgar am y cydymdeimlad sydd wedi ei ddangos, mewn o leiaf haner Cyfarfodydd Misol y Cyfundeb, a hyny heb i mi ofyn am help neb. Clywais ddarfod i'r Parch. Tohn Williams, Brynsien- cyn, ddweyd rhywbeth yn y Gymanfa Gyffre- dinol, nad yw wedi ei gofnodi, am lythyrau oeddwn wedi anfon at rywrai. Ni ddanfon- wyd yr un gair o'r swyddfa i ofyn am gefn- I Z!1 ogaeth neb yn y Gymnfa-Gyffredinol, ac am yr ohebiaeth rhyngof a'r Parch. John Williams, ag y cytunodd M'r. Williams i'w hanfon i Mri. James Venmore, U.H., Liver- pool, John Owens, U.H., Caerlleon, a Richard Jones U.H., Caersws, er cael eu barn hwy am yr hyn a wnaeth Pwyllgor y Goleuad," yr wyf wedi gofyn caniatad Mr. Williams i gyhoeddi yr ohebiaeth yn llawn, gyda barn y tri boneddwr arni. Nid wyf wedi cael atebiad i'r cais er ei fod wedi ei anfon ar yr I leg o Fai. Mae cryntfiwer i'w ddweyd eto ar hyn, ac ar yr hyn a gym"erodd Ie yn Mhwyllgor y Cenadwriaethau yn^Boptle. Pwy fydd darllenydd hynaf y rhifyn cyntaf o'r CYMRO? Rhoddir gwobr o haner gini am ei ddarlun ac ysgrif fer o'i hanes i'w osod mewn rhifyn dyfodol o'r CYMRO, i fod yn llaw y Golygydd erbyn Gorffenaf i3eg. Cynhelir gwasanaeth crefyddol yn yr awyr agored mewn gwahanol ranau o'r dref yn Nhreffynon bob nos Fercher, y gweinidogion yn cymeryd eu tro. Yn nghyfarfod blynyddol Coleg y Bedydd" Z, wyr, Bangor, hysbyswyd fod y casgliadau am y flwyddyn yn I ,OI3p., yr holl dderbyniadau yn i,6o2p., a'r gweddill mewn Haw yn i6p. --o- -+- Dywed y Llan fod gwasanaeth y Cymun Bendig-aid o'r Llyfr Gweddi Cyffredin wedi ei ddefnyddio- yn un brif gapelau y Methodist- iaid yn Sir Gaernarfon, a hyny er mawr fodd- had i'r cymunwyr, ac yn eu plith brif leygwyr yr cnwad. Dywed Proffesor J. M. D'avies, Caerdydd, fod gan y Bedyddwyr 750 o eglwysi yn Nghymru. Mae 200 o honynt heb fod dan ofal bugeiliaid am nas gallant gynal bugail. Mae tua chant o fugeiliaid yr enwad yn derbyn llai na 7op. y flwyddyn, a 7° dan 6op. y flwyddyn. Sibrydir fod yn mwriad pregetliwr adnab- yddus a gwr sydd wedi profi ei hun eisoes yn Ilenoir gwych, ddwyn allan gofiant i'r Parch. ( Edward Matthews. Eled ati yn ddiymdroi, a sicr yw v derbynia bob cefnogaeth. Gyda llaw, y fath drueni yw fod y beddargraff sydd ar gareg fedd y gwron hwn yn Mhenybont eisoes mor aneglur fel ag i fod bron yn an- narllenadwy. Oni wna rhywun ei wella? -<K Llawer o ysgrifenu sydd heddyw am ber- thynas yr Eghvys a chwestiynau cymdeithas-^ ol, ac mewn llawer cyfeiriad teimlir nad oes gweledigaeth eglur. O'nd wele un wedd ar y mater nad oes angen petruso arno, sef rhwymedigaeth yr Eghvys i daflu drysau ei Hysgoldai yn agored i gynal gwahanol Gymdeithasau. Paham y rhaid i'r Dafarn fod yr unig gynullfan gyhoeddus mewn ardal? Sonia'r hen bobl am grefydd round, ond crefydd haner lleuad yw hono sydd yn darparu ar gyfer anghenion ysbrydol dyn, ac yn llwyr esgueluso ei anghenion cymdeithas- ol. Haedda y Dirprwywyr Cymreig gael eu cefnogi yn galonog am osod eu gwyneb mor gryf yn erbyn yr arferiad ffol o gynal Cym- deithasau Dyngarol yn nllrndai y wlad. Nis gall dim fod yn fwy anghyson, peryglus a niweidiol. Gwir y ceir yn y lleoedd hyn ystafell glyd, aelwyd gynes, a phob cysur, a'r cyfan yn ymddangosiadol yn ddidal, ond da cofio fod yna amcan o'r tu ol i'r cyfan. Dywedai. rhywun mai hid er mwyn cysur y pysgod yr oedd y wraigyn procio'r tin, ond er mwyn eu rhostio. Goleuni'r dydd a ddaw yn unig ddengys pa nifer o. feddwon y wlad gymerocid y cam cyntaf i'r llwybr sydd yn arwain i fedd y blys y noson y croesasant drothwy'r dafarn i'r Clwb. •!(♦» Taerir gan wyr da a llygadgfraff fod y Ddrama wedi dod i aros yn Nghymru, ac mai ofer fydd pob ymgais mwy i'w gyru ymaith. Amser a ddengys a gaiff y broffwydoliaeth hon ei gwiro. Ond os yw, rhaid diwygio llawer arni. Clywir cwyno eisoes o lawer o gyfeiriadau ar y Dramodau sydd yn cael eu chwareu, ac a broffesant fod yn gynrychiol- aeth deg o'r bywyd Cymreig-, ond pell yelynt >v o fod felly. Beth bynag oedd nodwedd ere- 1 r* fydd hen bregethwyr a blaenoriaid y wlad yma, nid trwy bwysleisio eu gwendidau y dyrchenr y wlad, a sicr yw fod gan Gymru ormod o barch i'r hen wroniaid hyn ag y maent mor ddyledus iddynt i neb wneyd cam a'u coffadwriaeth.