Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

CAN ~

News
Cite
Share

CAN I Thomas Brown, Ysic., am roddi tir i adeiladu Capel Bryn- Ilyfryd, yn nghyd a'i ymddygiadau haelfrydig cyffredinol i Anghydffurfwyr. TELWCH CHWITHAU, CAN HYKY, BARCH I'R HWN Y MAE PARCH YX DDYLEDUS.— Paul, Rho'wn barch ac anrhydedd i'r hwn maent ddyledus, A theilwng 0 honynt yw gwrthrych ein can; Boed enw Brown, Yswain, yn anwyl a pharchus, Drwy'r ardal a'r gwledydd, gan bawb, heb wahan A minau, eiddil-fardd, a ddygaf lawrwyfen, I'w rhoddi yn nghoron ein noddwr yn awr. Nid gormod galluoedd perffeithiaf yr Awen, I blethu mawl-ganiad i berson mor fawr! Nid ym yn ei ganmawl am feddu talentau I arwain byddinoedd ar feusydd y gwaed, Nac am ei ddeheurwydd yn trafod c&d-arfau, Er gwneyd ei gyd-ddvnion yn balmant i'w draed. Na, na, nid gwaelflodau gwywedig addurna Gymeriad rhinweddol ac enwog ein dyn, Ond blodau byth-wyrddion a'u tegwch ni ehilia Drwy dreiglad yr oesau hwy fyddant yr un. Dwfn gcrfier ei nodwedd ar greigiau 0 fynor, Ei enw fo'n hysbys i'r oesoedd a ddaw, Fel dyn a weithredai yn un a'i egwyddor, A'i galon yn cyson ysgogi ai law Glyn Ebwy sydd heddyw yn frith 0 golofnau, Er prawf o'i ymddygiad haelfrydig mewn Had, o blaid Anghydffurfiaeth a'r holl sefydliadau A fyddo a'u tuedd at wella y wlad. Pa ddyn all ei feio am fodyn Eglwyswr, Am bleidio defodau a chredo y Llan ? Nid yw yn gyfrifol i neb ond ei Grewr Am ddewis ei gredo ei enwad a'i fan, Ond er yn Eglwyswr, nid yw fel rhai mawrion, Am gadw ei arian a'i aur yn ei god, Gan warthus ormesu a threthu y tlodion Er cynhal ei grefydd mewn urddas a chlod. Bydd Capel Bryn-hyfryd yn em yn ei goron Yn tanbaid ddisgleirio hyd ddiwedd ei oes, Ac wedi ei farw, e' dderbyn wobrwyon Am bleidio a noddi cyfundrefn y GROES, Yr Icsu gofnoda y leiaf drugaredd A wneir i'w anwyliaid tu yma i'r bedd, A thry y pliiolaid 0 ddwr yn y diwedd, I'r rhoddwr iawn-galon yn foroedd o hedd. Pan ydym yn nesu at gapel Bryn-hyfryd, Mae tanau ein tclyn yn hwylus i gyd, Ymnertha yr Awen, adfywia yr ysbryd, Mewn awydd am ddatgan ei glodau i'r byd, Ar dafod pob prydydd boed clod i Brown, Yswain, G watwared y creigiau eu canau gwir fad, Eheded yr adar a'i fawl dros holl Brydain, A'r awel ddiango a'i rin i bob gwlad. 0 gapel Bryn-hyfryd, ust! dyrcha ei foliant Yr holl gynulleidfa ddatganant ei rin; Gwrandawydd ac aelod yn barchus siaradant, Am dano—Brown, Yswain, yw testun pob min, Gan wladwr a Christion, fe haeddai ei barchu, Tra cornant yn ymladd a danedd y graig, Tra chwaon ac ednod i'r boreu yn cathlu, Tra llongau yn dawnsio ar wyneb yr aig. I'r Saeson a'r Cymry 'r un wedd y cyfrana Pob enwad crefyddol y naill fel y Hall; A phob rhy w gymdeithas a Ion gvnorthwya Os bydd ei dybenion yn bur a diwall Ei enaid a lona wrth diwygiadau, A r oes yn myn'd rhagddi mewn rhinwedd a dysg; Blodeua yr ardal yn fuan mewn moesau, Ysgoga ein Noddwr fel haul yn ein mysg. Ger Pont-y-gof gwelir ysgoldy ardderchog, Lie dysgir ieuenctyd i ddarllen y Gair, Yn hwn ci haelioni ddisgleiria yn emog Tra macn ar faen yma ei glodydd a bair, Yn hardd yn ei ymyl y saif Ebenezer, Areithia yn hyawdl a nerthol yn awr, A diwedd pob brawddeg yw uehel ddyrchafer Brown, Yswain, am gymhorth i foli'r Duw mawr. Mae'r Twyn wedi fritho a themlau mawreddog, Lie gall y credadyn addoli ei Dduw: Y Tabernacle, a Saron, a safant yn enwog Golofnau 'i dystio 'i gymeriad anwyw; I'r Saeson Wesleyaidd ymddyga'n haelionus, Y mae ei haelfrydedd fel llanw heb draij E rydd at Golegau, a phob peth daionus, A'i wenau a'i roddion groesawa bob rhai. Dymunaf roi diolch mewn cynes deimladau, Dros ardal Glyn Ebwy i'w Noddwr yn awr; Er diolch a diolch hyd ddiwedd ein dyddiau, Nid gormod yw hyny, ein rhwymau sydd fawr; Efe, yn lie gwawdio ac erlid crefyddwyr, A rydd iddynt arian a thiroedd yn rad, crefydd yn uchel yn mhlith ei hoff weithwyr, A rodda i'w fcddwl aruchel foddhad. Cydwaeddwn yn uchel yn awr wrth derfynu, Hir einioes i'n Hyswain pob mwyniant a bri Teg wenau lihagluniaeth ddilyno ei deulu, Dylifed cysuron i'w llwvbrau yn lli, Pan ddelo arch-elyn dynoliyw i'w daro, Boed gwenau cydwybod i'w loni pryd hyn; Tra byddo yr Ebwy i'w thaith yn ymdreiglo Ei enw fo'n anwyl yn mythod y Glyn. Beaufort- PERBDUR, Hon oedd yr oreu yn Eisteddfod Glyn Ebwy. PENNILLION Yn Cyfateb i O Snatch me Swift;, qan Br Calhoii Gicel Hysbysiad am Eisteddfod Twyn Drysiog yny uTlL 0 cipia fi 0 wydd helbulon byd I le na wyr pa beth yw byw mewn pvd I le dedwyddweh, hedd, a chysur gwell, A gwna mewn hwyl yn lion fy unig gell; Ond os mwy boddlon wyt, oruchel ri, I ofid blin fod drwy fy mywyd i, Os gwyntoeud ercli osodwyd i fy rhan, Ac ymchwydd tonau drwy fy nyddiau gwan, Gadewch i'r don a rhued gwyntoedd croes, Yn foddlon wyf—a molaf drwy fy oes. Mor hardd fydd cwrdd a llu o feirdd ein gwlad, A' J1 swyno gan holf sa in telynau mad, A lleisiau mwyn cantorion mawr eu bri, O dewch i'r wyl! gwledd awen a fydd hi; Y beirdd a fu, pe byddent yma 'nawr, Cydunent oil mewn rhyw lawenydd mawr Pob carwr iaith, a defion Cymru gu, o de'wch i'r wyl! ac unwch gyda ni, Gadewch ar ol helyntion maith y byd, A mynweh ddydd i noddi Gwalia glyd. IDLOES.

[No title]

neffro! tnarti ODySii)!

WRECK OF THE TAYLEUR.

[No title]

| THE ARMY AND NAVY. !

COURT OF CHANCERY—LINCOLN'S…

[No title]

A SKETCHI OF THE LIFE OF DAFYDD…

[No title]

!NEWPORT TOWN COUNCIL QUARTS^!…