Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

---NODIADAU CYMREIG.

News
Cite
Share

NODIADAU CYMREIG. .——. CALEDI DIRF A WR. Y DAITH YN OL DROS Y VICTORIA NYANZA. YMLADD DEWii, Gail "MOKIEN." [PABHAD,] II Pan ganfu yr anwariaici ni-eu hys- glyfaetb, fel y meddyhasant-yn diano, yr oedd eu cynddaredd yn fawr. Wedi iddynt siarad a'u gilydd gwelem hwynt yn myned i ddau fád, neu ddau ganw, Saethais i lawr ddynion ddwywaith ag oedd wrth y gorohwyl o wthio y badau i'r dwfr. Ond deaai eraill yn y blaen i lenwi eu lie, ao o'r diwedd gyrasant y badau i'r mor, ao yna rhwyfent a'u holl egni ar ein hoi. Yna gwelem ddau fad arall yn llawn o ddynion yn dyfod atom o gyfeiriad arall. Nid oedd modd i ni ddiano trwy forio. Yr oeddym heb rwyfau. Safasom ao arosasom iddynt ddyfod atom. Yr oedd fy ngwn at ladd elephantiaid wedi ei lodio a phelenau ffrydiol tanllyd. Lladdodd pedair ergyd o hono bump o ddynion, a suddodd ei belenau ddau ganw. Aeth dau fad arall i gynorthwyo y dynion oedd wedi syrthio i'r dwfr, ao aethant ymaith fel dynion wedi cael llawn ddigon. Ond clywem lais yn dywedyd,' Ewch i drehgu yn Mor y Nyanza!' Yna aufonasant gawod o saethau tuag atom, ond syrthiasant i'r dwfr cyn ein cyrhaedd. V* "Nid oeddym wedi cael tamaid i'w fwyta ao am bump o'r gloch y prydnawn nid oedd ond pedwar o'r ffrwythau a elwir bananas yn ein bad. Ao yr oeddym yn ddeuddeg o ddynion newynllyd. Yr oedd dwfr y mor yn ddwfr oroew, a chan hyny gallem ei yfed. Ond beth oedd i'w wneyd am fwyd ? Nid oeddym yn teithio ond tna thri chwarter mill- dir yr awr oherwydd absenoldeb gwynt a ninau yn amddifad o rwyfau. Drwy y nos ganlynol ymdrechasom, gan ddefnyddio ein drylliau fel rhwyfau. Boren tranoeth am naw o'r glooh hi a aeth yn ddivsgogiad arnom. Y nos hono yr oeddym oil yn wan iawn ar ol pedwar deg a naw o oriau heb damaid o luniaeth. Yn y noa syrthiodd y gwlaw mal cefnllif, ao yr oedd hi yn ystorom ofnadwy. Gadawsom ein hunain i drugaredd y dymhestl. Esgynem a disgynem gyda'r tonau. Tua cbanol y nos dis- tawodd y dymhestl a daeth y lleuad i'r golwg gan lwyd-oleuo gwyneb y mor a'r ynysoedd. Yr oedd fy nynion yn eiddil ac yn crwbachu yn ddigalon. Llawenhewch na feddyliwch am felldith y Bumluriaid," ehwn wrthynt. Cyneuasom dan ar y bwrdd, a berwyd y eoffi ag oedd y Cadly wydd Linant wedi ei roddi i mi. Wedi iddynt ei yfed, cysgodd pob un o'r unarddeg yn sypyn. Ond gwyliwn i yn ddigon dihun. Pan ddihunas- ant, er eu bod wedi treulio chwe' deg ac wyth o oriau heb luniaeth, pan berais iddynt hwylio tnag ynys ddeuddeg miildir oddi- wrthym ufuddasant yn galonog. Cyrhaedd- asom yr ynys, ao wedi glanio diolchasom i Dduw am hyny o drugaredd. Aeth rhai o'r bobl i edrych am luniaetb, ac yn mhen tipyn saethaisinau ddwy hwyaden dew. Yr oedd tri ugain a deuddeg o oriau wedi myned oddiar pan oeddym wedi cael-taraaid o luniaeth i'w fwyta. Dychwelodd rhai aleananaus gwyrdd, ao eraill & berries. Mor ddedwydd yr eisteddem o gyloh ein tan ar yr ynys anial i i fwyta Yna, ar ol y lluniaeth, smociasom dybaco mewn pibau cegir. 0, mor dded- el wydd y teimlem Yr oeddym wedi cyrhaedd yr hafan ddymunol! Cyn cy:gu y no3 hono ni a ddiolohasom i Dduw am ei ddoniau tuag atom ni. Gorphwysasom trwy y dydd dranoeth yn yr hafan ddymunol. Cawsom ychwaneg o luniaeth. Gwelem ynys arall heb fod yn mhell, a llechweddau ei bryniau a cboed ffiwylhau arnynt. H.hwyi'asom tuag yno, ond pan yn dyneaa ati wele gawod o geryg yn cael ei hergydio atom o Nyn tafl gan y brodovion. Nid arosasom yno. Daethom i ynys arall, ao yr oedd Saramba ein harweinydd, yn adnabyddus yno, a thrwy ei ddylanwad ef oawsom gig, pytatws, llaetb, mel, wyau, ieir, a ffrwythau. Ni a'u cogin- iasom ar flvrdd ein bad, a bwytasom gyda blaspobl hanernewynu. Y nos ganlynol,pan yn morio yr oedd y nos mor dywyll ar 'fagddu, a disgynodd cenllysg, nen gesair, gymaint eu maint a fin. Nid oedd seren yn y golwg, ond fflaohiai y mellt drwy y gwyll caddugawl. A bloeddiai troedig fyllt y trJdan" wrth ym- droellu drwy dywyllwch yr wybrenau. Wele ni wedi cyrhaedd yr ardai o ba un yr aethom all an pan gychwynos am gyntaf i'r mÓr mawr, Viotoria Nyanza, ar ol bod yn absenol am bump deg a saith o ddyddian. Yr oodd Franc Pocook ar y traeth yn ein derbyn gada'r Negroaid, Pa le yr oedd Fred Barker P Y r oedd wedi mawr ddeuddeg diwrnod oyn ein dychweled, a chyfeiriodd Pooook at garnedd o geryg fel4 Man feohan ei fedd 1' M "Wediilongyfarchiadau gwyllfc fy hen gyd-deithyddion orphen, daeth y Tywysog Kaduma a cbyfeillion Saramba, yr arweinydd, a Frano gyda mi i fy mwth; y cwn, Jack a Bull, yn canlyn. Yna adroddodd Ffrano am selni a marwolaeth Barker. Teimlwn yn hiraethlon iawn ar ei ol a gwelwn ei eisien yn fawr. Yr oedd yn ffyddlon iawn i mi. Fan fyddwn yn ddi- hwyl, yr oedd ef yn gwneud pob dymuniad o'm eiddo. Yr oedd hefyd yn ysgrifenydd da, ac yn cadw oyfrifon y dodrefn yn fedrus. Yr oedd amryw eraill wedi marw yn mhlith y Negroaid; Pwyswyd fi, er mwyn deall dyl- anwad yr byn oeldwn wedi ei ddioddef ar fy nghorff. Nid oeddwn ond 115 pwys, sef 63 pwys yn llai na phan gychwynais o Zanzibar. Yr oedd y golled hon wedi ei achosi gan newyn, ao nid o herwydd afiechyd. Yr oeddym wedi teithio mil o filldiroedd o fan i fan ar hyd mor Viotoria Nyanza. Yr oedd y tywysog mewn syndod fod bad byohan y Laoy Alice wedi medru teithio cymaint, a <n?naeth y Negroaid gan o glod iddi hi. Canent y g&i yn J nos> a gwnelai yr hogiau deganau i debygu iddi. Syrthiais yn awr yn sal o fever, agwnaeth hyny fi saith pwys yn yagafnaoh eto. Quinine am safiodd y tro hwn Ond beth oedd wedi dyfod o Magassa cenad y Bronin Mtesa a'i lynges o ganwa ? Yr oeddym i ddychwelyd at Mtess, a chan nad oedd argoel am Magasa. penderfynaia deithio i wiad Mtesa drwy yr anialweh. Ond pan glybu Rwoma, brenin yr ard&loedd trwy pa rai y bwriadwn draniwy, anfonodd genad ataf Mhyn:—<Kid oes ar Rwoma ofn y dyn gwyn, ao os daw i'r wlad lion gwna Rwoma a Mirambo ymladd ag ef. Nid yw Rwoma yn xoofyn calico, beads, gwyfr, a dyn gwyn, a rhaid iddo ymatal rhag teithio trwy wlad Rwoma.' Deallais fod gan Lukongeh, Brenin Ukerewe, lawer o ganws. Oawsom fenthyg haner cant o honynt ganddo i fyned yno. Ar Mai 26, cyohwynasom i gyd s'n boll ddodrefn-gwerth tua wyth cant o doleri-tua gwlad y Brenin Lukongeb. Dyn ieuano o 26 i 28 oed oedd ef. Cawsom, ef yn sefyll i'n haros yn nghanol ei cadbeiniaid. Syllai arnaf gyda syndod. Pan ddeohreuan ddangos y pethau hardd ag oedd genyf, crynai a dywedodd yn ddistaw am i mi eu gosod or golwg y deuai ef ataf i'r babell,sr ol iddi nosi, i w gweled. Y lioson hono daeth ef a ibrifwem^og a phed- war penaeth i fy mhabell. Hhoddais lddoddau ruff7 un Sootoh plaid, dau Siloed oocb, a Uawer o bethau man. lihoddais hefyd addurniadau i'r peneithiaid iddynt i'w rhoddi i'w gwragedd. Yr oeddwn wedi gofyn am fentbig tri deg o ganws. Addawodd v brenin y oawn atebiad tranoeth. Yna dywedodd am imi fwynhau fy hun a bwyta i ddyfod yn dew.' Mae y dull o ddangos teyrngarwch yn y wlad hon yn un hynod iawn. Ar ol cyrbaedd yn agos i'r brenin curir y dwylaw, ao yna eir ar y ddeulin. Os bydd y brenin yn foddlon iddynt gwna chwythu a phoeri i'w dwylaw. Pris gwraig yma yw deuddeg gafr a thair oaib. Gosodir Hadron a godinebwyr i farwoiaeth yma. Y mae bronau hen fenywod yn hongian i lawr hyd y canol, a chlymir hwynt wrth y corpb. Gwisg y bobl grwyn eidionau a geifr. lthoddwyd i mi gan y brenin dri-ar-hugain o ganws a'u rhwyfau, a dywedodd, 'Pan gyrhaeddwch Mteea, carwn i chwi wneyd Mtesa a minao yn frodyr.' Cychwynasom mewn pump oanw. Ar ol aros mewn man neillduol am.bedwar diwrnod, daeth dau ddeg a saith o ganws eraill. Wrth ddychwelyd cafodd Mr. Stanley afael yn Shekko, arweinydd yn yr ymoaodiad arno ef a'i bobl pan lusgwyd y bad i dir. Daeth rhwng dwy a thair mil o wyr i lan y mor, gan fwriadu difetha y teith- wyr. Bu yn frwvdr rhwng gwyr Mr. Stanley a'r anwariaid, efe a'i wyr yn y oanws a hwythau ar y traeth yn saethu saetbaa a thaflu oeryg a'u ffyn tafl. Bu yn ymladdfa ofnadwy, a dangosodd y Negroaid ar y traeth wrhydi mawr, ond yr oedd y dyn gwn a'i arfau tan yn dreoh na hwynt, a gorfu iddynt encilio a gadael iddo ef a'i lynges fyued i'w ffordd. (Tw barhau.)

[No title]

Advertising

r PORTRAIT GALLERY.

INTERESTING AND INSTRUCTIVE.

FEASTING IN A LAND OF !FAMINE.

¡^ LONDON LETTER. ' -O- 'i.-…

Advertising