Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

NODIADAU CYMREIG.

News
Cite
Share

NODIADAU CYMREIG. Gan "MORIEN," (PARHAD). Fel y dywedwyd yr wythno3 ddiweddaf, swniodd y drwms, a gwyddid mai arwydd oedd hyny fod y brenin Mtesa yn eistedd ar ei orsedd, "Yr oeddwn," medd Mr. Stanley, II er Ebrill 5ed wedi cael deg o ymweliadau a Mtesa, ao wedi deoh- reu son wrtho am Gristionogaeth. Brysiais yn awr i'w neuadd orseddog i eistedd i lawr. Yr oeddwn wedi peuderfynu, os byddai modd, i'w wneyd yn Gristion, ac yr oeddwn yn ymaflyd yn mhob digwyddiad a fedrwn i'w gyfeirio i'r cyfeiriad hwnw. Nid oeddwn wedi son wrtho am bynciau duwinyddol, ond ynunig cyfeirio ei feddwl at ostyngeiddrwydd Mab Duw, ac efe yn gyfoethog yn dyfod yn dlawd er mwyn dynoliaeth yn gyffredinol, duon a gwynion. Ac iddo, pan mewn cyffelyb- iaeth dyn peohadurus, gael ymaflyd ynof a cliael ei groeshoelio gan ddynion drwg. AJ, er hyny, pan oedd yn dioddef ar y groea, iddo ofyo i'w Dad i faddeu iddynt. Dangosais iddo y gwahaniaeth rhwng yr wn y mae y dynion gwyn yn ei addoli a'r hwn a addolir gan y Mahometaniaid Arabaidd. Dysgodd yr Arglwydd fee u, meddwn, i nigaru bawb ein gilydd; ond dysgodd Mahomed ei fod yn rhinweddol lladd y pagan a'r hwn ni chred yn Mahomed. A gadewais i Mtesa a'i benaethiaid i benderfynu pa un o'r ddau oedd y cymmeriad rhagoraf. Adroddais wrthynt hanes crefydd o Adda i lawr hyd Mahomed, a decbreuais gyfieithu y J)eg Gorchymyn, a ohyfieithodd Idi, ysgrifenydd y brenhin, hwy i'r Kigandaeg. Es at y gwaith gyda brwd- frydedd, a dywedid hyny maes o law wrth Mtesa a'i brif weinidogion, ac yr oeddynt yn ymddangos wedi eu llenwi a ohywreinrwydd i wybod rhagor, fel mai ychydig o ddim arall a wneid. Daeth y Senedd i fod yn le i ymdrin a'r ddeddf foesol a chrefydd. Cyn i'r oyfarfod a Mtesa ynddo ar ei orsedd ddyfod i ben, hysbysodd Mtesa y oawswn gyfarfod a. dyn gwyn fel fy hunan y diwrnod canlynol. Y mae, ebe Mtesa, yn dyfod o Cairo oddiwrth Gordon. Da iawn ebwn, bydd yn dda genyf ei gyfarfod. Ao os ydyw mewn gwirionedd yn ddyn g\vyn, dichon yr aroaaf gyda ohwi dri neu bedwar diwmod yn rhagor. Daeth y dyn gwyn fel ei gelwid, ganol dydd dranoeth gyda llawer o nrysg a mawredd a chwythu mewn udgyrn, swn pa rai a glywid dros yr holl ddinas. An- fonodd Mtesa negesydd i'm oyrchu i'r Senedd- dy. Es i'r lie drwy fynedfa ddirgelaidd. Yr oedd Mtesa a'i holl fawrion yno yn barod. Yr oedd Mtesa yn gynhyrfiol yr olwg arno a'i lygaid ef ao hefyd eiddo ei fawrion yn danllyd eu gwedd. Pa beth a wnaf, gofyn odd Mtesa, i'w roeaawu ? Atebais, gosodwch eioh milwyr yn ddwy reng bob ochr i'r heol yn arwain tua'r fynedfa, a phan ddaw gwnewch i'r milwyr fldyrohafu eu drylliau. Rhagorol! ebe Mtesa. Yma bloaddiodd y brenin, I Gwna frye Tori, tithan, Chambarango, ac hefyd Sakebolo, gwnewoh frys I Ffurfiwch y milwyr yn rhengm un bob oohr i'r heol.' Yna trodd ataf, a gofynodd, A gawn ni danio y drylliau, Stamlee ?' Na,' ebwn yn d1, Ties eioh bod ohwi yn ysgwyd llaw ag ef, a-ohan ei fod yn filwr bydded i'r gwarohodlu danio dros ben pawb. Yr oedd gwedd gyn- hyrfiol Mtesa yn gwneyd i mi feddwl fod peth fcebyg wedi digwydd cyn i mi fy hunan lanio yno, a bod Tori, y I J acL- of all trade,' vno, wedi cael ei holi yn fanwl am y dull priodol i'm derbyn. # 44 Am ddau o'r gloch yr oedd yr wybr yn ddidartb," medd y dyn gwyn diweddaf yn ei adroddiad o'r hyn a gymeiodd le ar ei dderbyniad. "Daeth cenad oddiwrth Mtesa yn dywedyd fod y breuin yn barod i'm derbyn. Yr oedd fy Arabiaid o'r Soudan yn edrych yn brydferth yn eu cotiau cochion au Hodr- au gwynion. Gosoaais fy hun on blaen, seiniodd yr udgyrn, a rhuai y drums pan ger- ddem ar hyd dramwyfa yn agos i ganllath o led ac yn arwain tuag at balasdy Mtesa. Pan es i'r buarth bu mwstwr dychrynllyd. Yr oedd mil o offerynau yn seinio, a phob un yn wahanol ei sain i'r lleill! Cododd gwar- chodlu Mtesa eu drylliau. Pan ddes i'w golwg yr oedd Mtesa yn sefy 11 ar drothwy y fyneda. Bowiais iddo. Estynodd allan ei law; ymaflais ynddi gan ei gwasgu. Yn union oanfyddais ddyn gwyn, wedi llosgi ei groen yn yr haul, yn sefvll ar asvry law Mtesa. Meddyliais mai Cameron ydoedd. Edrych- asom ar y naill^a'r llall, heb yngan gair wrth ein gilydd. Aeth Mtesa i'r neuadd nesaf a ni yn ei ganlyn ef. Yr oedd y lie tua 60 troadfedd o hyd a 15 o led. I lawr drwy y oanol yr oedd dwy reng o byat yn dal i fyny y nen, gan fel hyn ranu yr ystafell yn ddwy fvnedfa. Y tuhwnt i'r lie hwn y mae yr orseddfa. Eisteddodd Mtesa ar ei orsedd. Cadair ydoedd hi. Gorphwysai ei draed ar glystog; &0 yr oedd y cwbl yn gorwedd ar croen llewpart, ac o dan hwnw y mae oarpet. 0 flaen y brenin y mae dant mawr hirfain elephant wedi ei bolisho. Gerllaw y mae dau flvchaid o betbau awynyddiaeth. Un bob ochr i'r orsedd safai dau o filwyr a'a gwaew- ffyn yn eu dwylaw. Ar y llawr ger traed Mtesa y mae ei brif weinidog a'i ddau reporter. Y mae Mtesa yn edrych yn urdd- asol, ac y mae natur wedi rhoddi iddo olwg fawreddog. Y mae ei wisg yn hardd, ac yn gynwyeedig o glogyn gwyn wedi ei ymylo a ohooh hosanau, esgidiau, gwasgod ddur wedi ei haddurno ag aur brodiedig, a phenwisg a. llafn o arian ami. Wrth ei ochr yr oedd cleddyf a'i garn o ifori—rhodd o Zanzibar. Dangosais fy rhoddion, Braidd y oymerodd Mtesa arno ei fod yn eu gweled; urddas yn gomedd iddo ddangos cywrein- rwydd. Edrychais ar y dyn gwyn a eisteddai ar law aawy y brenin, a gofynaiø, l A wyf yn oael yr anrhydedd o siarad a. Mr. Cameron F' Na/ ebe y dyn gwyn, 1 fy enw i yw Mr. Stanley.' Myfi: Fy enw i yw M. Linant, aelod o ymgyrchfa Gordon-Pasha.' Ym- grymasom yn ostyngedig y naill i'r llall. Yr oedd cyfarfod a Mr. Stanley yn y lie hwn yn peri syndod aruthrol i mi. Nid oeddwn yn breuddwydio am dano, ao ynmethu dirnad amean ei daitb. YmAdawais â'r brenin, yr hwn oedd wedi bod yn difyru ei hun trwy wneyd iddynt gadgyrohu a seinio yn eu hydgyrn. Ysgydwais law a. Mr. Stanley, gan ei wahodd i giniaw. Nid oeddwn wedi bod yn fy mhabell fwy na phum' mynyd pan ddaeth Mr. Stanley i mewn ar fy ol." Yna a y dyn oddiwrth Gordon Pasha i adrodd am yr ymweliad personol uchod. Yn nesaf gwna Mr. Stanley adrodd. "Nid oeddwn-i-ond gwesiywr fy hun yn mhalas Mtesa; felly ni wnaethum i ond bowio fy bun pan ddaeth y Ffrengwr o flaen Mtesa, Yr oedd yn hyfrydwch i mi ei gyfarfod, ao yn fwy felly pan gefais allan ei fod yn ddyn dymunol i'r eithaf. Yr oedd yn ymddwyn at y dynion o dano fel cadben milwrol, ac yn eu rhaoleiddio yn oil y dull milwrol. Yr oeddwn inau yn eu trafod fel cyd-deithyddion. Clywais bethau anny- munol yn cael ei sisial am dano gan ei ddynion. Gosododd wylwyr wrth byrth y fynedfa at ei lety i rwystro pawb ond cenadon Mtesa i ddyfod yn agos iddo. Ar y llaw arall, yr oedd y brodorion yn llenwi y lie oddeutufy nby i, oherwydd yr oedd yn hoff genyf dynu y brodorion i ymddyddan a nvi. Yr oedd yo amlwg fy mod oherwydd hyn wedi gwneyd fy hun yn ffafryn gyda'r werin. Cesglais drwy I yr ymddyddan ddigon o ddefnyddiau i lenwi dwy gyfrol. M. Linant a minau a dreuliasom lawer o oriau dyddorol yn nghymdeithas ein gilydd. Am ei fod wedi cychwyn o Cairo cyn i mi gychwyno o Zanzibar, nid oedd yn feddianol ar un newydd Ewropiaidd diweddaraoh nad oedd genyf fi yn barod, eto yr oedd ei gymdeithas yn peri i mi deimlo fy mod yn mwynhau bywyd gwareiddiol. Yr oedd ei fwyd o ddull Ffrainc. Yr oedd kidney beans, ac olive oil, potiau o gig wedi ei sylweddoli; pates de foie gras; sausages, Bologna; sar- dines, biscuits, Maresilles; siwgwr gwyn, coffee, cocoa, a the. Nid oedd y brawd wedi meddwl am fanna yn yr anial; ond fel i dyn call, yr oedd wedi myned a digon o 'gig' gydag ef o'r Aipht. Yn ychwanegol rhoddodd Mtesa laeth, cig eidion, a chig mynod, ffrwythau, wyau, pytatws, tomatoes, blawd, &c., iddo. Yr oeddym yn mwynhau iechyd rhagoroJ, ac yn medru gwneyd cyfiawnder a'r bwyd a osodid ger ein brom. Rhyfeddai Mtesa ein bod yn gwybod yr un hanesion, er fod un wedi dyfod o ogleddbarth y byd a'r Ila][ o'r de-ddwyrain; ie, ein bod hefyd yn siarad yr un iaith ac yn defnyddio yr un geiriau. Siaradem am yr un grafydd ger bron Mtesa. Yn ffodus, Protestant o Ffrainc oedd M. Linant. (rw barhau.)

LITERARY LEAVES. '

Advertising

PORTRAIT GALLERY. ...

| A BELOVEITAMBASSADOR. -

- LORD LYTTON'S SUCCESSOR.

SALE OR EXCHANGE.

| WANTED,

- FROM THE " ARABIAN NIGHTS."

Advertising