Skip to main content
Hide Articles List

19 articles on this Page

. Y GONGL GYMREIG. I

CYMANFA GERDDOROL

LLANSAMLET.

TREFORIS.

LLYTHYR AT ^YMRY'R CAMBRIAN.

News
Cite
Share

LLYTHYR AT ^YMRY'R CAMBRIAN. BORE LLUN. tiORD KENSINGTON*. Rhy "bSift y gellir dywedyd fod unrhyw deulu peudefigai'id yn byw yn Nghymtu ag sydd mor dra phcologaidd a pharchus yn\nysgpob gradd ag yxv y teulu urddasol sydd yn preswylio yn St. Bride's, Little Haven, Sir Bentro, sef teulu Lord Kensington. Yr oedd y diweddar arglwydd, a fu farw gryn amser yn ol, mor dra disymwth, yn nodedig o bai-chus trwy yr holl wiad, ac y mae y gaiar ar ei ol yn parbau, a'r dagrau heb syehu. Megis y mae yn hysbys i'r cyhoedd, aetii yr arglwydd presenol (yr hwn sydd yn etifeddu rkiniceddau yn gystal a theirl ac ystad ei deilwag ddiweddar dad), allan i faes y rhyfel yn Neheadir Affricia, ac, yn anffodus, cafodd ei glwyfo yn beryglus yno yn ystod y dyddiau diweddaf. Yr oedd yn eithafoi ddrwg gan bawb glywed y newydd blin. Modd bynag, gwir dda genyf allu hysbysu fod ei arglwyddiaeth yn dyfod yn mlaen yn nodedig o foddhiiol, a bod gobaith y caiff eto ei Iwyr adter. Yr wyf yn dweyd ar sail yr hyn a. glywais yn uniongyrchol oddiwrth un o berthyn- aaau agosaf ei arglwyddiaeth. Rhwydd hynt iddo gael ei hun yn tuan yu ei gynefinol iechyd a'i nerth. T PARCH. J. WILSON EVANS. Mae enw y boneddwr uchod yn ddigon hysbys mewn amryw barthau o Ddeheudir Cymru. Bu yn gweinidogaethu tel Curad yn Ystrad Dyfodwg, Coed-duon, Pontardawe, a manau eraill. Yr wyf yn digwydd ei adwaen er's chwarter canrif. Gwr genedigol o ardal y Borth, gerlia.w Aberystwyth, ydyw. Yr wyf yn meddwl iddo ddechreu ei fywyd cyhoeddus gyda chyfundeb parchus y Wesleaid. Wedi hyny daeth drosodd i'r Eglwys Sefydledig. Bu yn ef'rydydd yn Ngholeg St. Aidan's, Birkenhead. Yr wyf yn meddwi fod Mr. Lascelles Carr, yn awr prif olygydd a rhan- berchenog y Went em Mail, yno yr un pryd ag ef. Ymbriododd, y tro eyntaf, a merch y Parch Mr. Williams, yr hwn a fu unwaith ynFioer Defynog, ger Trecastell, Brycheiniog, yr hon a fu farw, amryw flynyddoeda yn ol. Priododd yr ail waith, ychydig amser yn ol, foneddiges Seisaig. Dyn hardd-deg a phendefigaidd yr olwg arno yw "Wilson," ac ystyrir ef yn bregethwr da yn y ddwy iaith. Yr oeddwn wedi colli goiwg arno am lawer blwyddyn, nes y cyfarfyddais ag ef yn Lerpwl, ryw wyth neu naw mlynedd yn ol, ddiwrnod augladd y Parch. Ddr. John Thomas. Ond yr hyn a barodd i mi aiw sylw ato yn awr yw ei fod NEWYDD GAEL ERGYD O'R PABLTS. Bydd yn wir ddrwg gan ei gyfeillion lluosog glywed hyn am dano. Good natured fellole oedd yr hen Wilson, bob amser, ac na fedrai foo yn lion yn nghanol pob gorthrymderau, a chanu yn llawen yn nos ddu gondian. Mia gwn sut y teimla yn awr, druan, Mae yn aros ar hyn o bryd yn 121, Chelmsford-road, Walthamstow, E. Dyiuunwn yn fawr iddo gael arferiad iechyd ac estyuiad dyddiau eto ar y ddaear. PLUEN ETO TN HET YSTRAD MEURIG. "Nothing succeeds like success," meddai'r Sais. Dywenydd mawr oedd genyt ddarllen yn y papyr newydd, am heddyw, fod Mr. Sidney Aurelius Jones, mab prifathraw dysgedig hen ysgol enwog Ystrad Meurig, newydd euill ysgol- oriaeth gwerth JE80 y flwyddyn yn Nghuleg yr Iesu, Rhydychen. Fe wyr pobl y byd a'r Bettws am lwyddiant dihafal ei frawd, set Mr. Vernon Stanley Jones. Cyflawnodd efe wyrthiau braidd yn ei scholastic career, flynyddoedd yn ol. Wei, gwir dda genyf glywed am lwyddiant ei frawd ieuengach eto. Parhaed i fyued yn ei fiaen. Fe welir fod hen Ysgol Y strad Meurig yn parhau i roddi cyfrif boddhaol a da o honi ei hun, trwy y gwaith a gyflawua. Y "WESTERN MAIL" TN DTWEYD EI OED. Mae rhyw ddosbarth o greadnriaid jn gynil iawn yn y pwnc o ddyweyd eu hoed. Mae hen ferched, yn arbenig, telly, ac, o ran hyny, mae rhai dynion yr un fath. Dywedir yr elai yr hen Ishmael Jones, o Rhosllanerchrugog, yn gyn- ddeiriog o ddrwg ei dymher 08 beiddiai rhywun ofyn ei oed. Myn'd i gar-gar-gar-garped (yr oedd atal dywedyd arno) dyn yw gofyn ei ced," meddai, 'does dim busnes genoch chi i ofyn fy oed i." Modd bynag, nid yw y Western Mail yn gwybod oddiwrth y gwendid uchod, canys ar y eyntaf o'r mis hwn (Mai), yr oedd yn cyhoeddi ei fod yn 31 mlwydd llawu. Nid yw y Mail yn dyweyd dim am y profiad a gafodd yn ystod yr 31 mlyuedd hyn. Pan gyflwynwyd y patriarch Jacob i sylw Pharaoh, brenin yr Aitft. yr hyn a ddywedodd wrth ei fawrhydi brenmol ydoead- "Ychydig a drwg fu blynyddoedd einioes dy was." Mae yn aebyg fod y Mail, yntau, wedi profi tipyn o ups-and-downs—nad bed of roses fu'r 31 hyn i gyd iddo. Rbaid addef ei iod chwareu rhan go flaenllaw yn affairs Deheudir Cymru yu ystod blynyddoedd ei fywyd. That spirited, lively paper," meddai'r ii- weddar Arglwydd Aberdar, ryw dro, am dano. A yw y Western Mail, pan yn cyfrif blynyddoedd ei noedl, yn meddwl rhywbeth am yr adnod bono o'r Salmau-" Dlsg i nifelly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i daoethineb Ond dyna, 'does dim raid i mi bregethu wrth y Western Mail, mae digon o dduwinyddion da ynei swyddfa. Bwriadwyd i un o honynt fod yn offeiriad, a bu un arall o honynt yn offeiriadu yn Sir Fon, Devizes, a lleoedd eraill. Wei, rhwydd hynt i'r Mail; ond rhy brin y mae 31 o flynyddoedd yn werth i ddyn ymffrostio ynddynt fel oea hir i babyr newydd. Niryfeddwn i fymryn nad yw Abertawe yn fwy nodedig na Chaerdydd am ei hawyr iach," fanteiaiol i hir- hoedlead urganau llenyddol. Dyna'r Cambrian, bron yn gan' mlwydd oed (yr hynaf yn Nghymru)— dim ond pum' mlwydd yn ieuengach na'r hen Mrs. Hillyer, o dref Aberteifi; ac nid yw yn gwneyd unrbyw dwrw yn nghylch ei oed. Wel, rhwydd hynt, o'm rhan i, i bapyrau Cymru i gyd, yn Gymraeg a Saesneg, i fyw ac 1 wneyd daioni. B'LE MAE "MOBIEN?" Un a arferai ysgrifenu cryn lawer, flynyddoedd yn ol, i'r Western a'r Weekly Mail, oedd Morien, yr archdderwydd o Drefforest, olynydd yr hen If an Cornel Du." neu Myfyr Morganwg. Ysgrifenodd Morien, yn ei ddydd, lawer iawn o bethau rhyfedd ac anodd eu deall. Cyn gynted ag y dechreuai ym wneyd a chyfrinion derwyddiaeth, teimlem ei fod yn cael ei gladdu gan gwmwl yn llwyr allan o'n golwg. Too-far-fetehed y teimlid hefyd fod ei eglur- hadau ar ystyr geiriau, &c. Ond, bob amser, pan ymgymerai a rhoddi dar- luniad o danchwa mewn glofa, o weithrediadau eisteddfodol, &c., teimlem ei fod yn ei elfen, ac yn nodedig o graphic. Ond, pa le y mae yn awr? Imddengys i ni ei fod "yn farw'n fyw (chwedl y diweddar Glan Alun). Teimlwn fod y Mail yn fwy tame ac undonog heb glywed Uais Morien ynddo. TRWYN TRI CHAN' LLATH 0 HYD! Adroddir hanesyn Iled ysmala., ac ar awdurdod safadwy, am hen wr o offeiriad yn Sir Aberteifi, a fu farw ychydig flynyddoedd yn ol, yr hwn oedd yn fab i'r diweddar Barch. Theophilus Jones (neu "The." Jones, fel y gelwid ef), o Dre- garon. Yr hanes yw hwn. Yr oedd yr hen frawd wedi digwydd cael anaf fechan ar ei drwyn. Wedi ei weled felly, aeth y wraig i chwilio y ty am dipyn o sticking-plaster, ond methodd gael dim. Yn ei phenbleth, tynodd oddiar un o'r reels oedd ganddi yn dal ede lin, y darn papyr oedd ar y talcen, yr hwn a gynwysai yr argraff ganlynol :—" Warranted three hundred yards." Rhoddodd hwnw ar flaen trwyn ei phriod er mwyn cuddio y briw. Ymddengys fod gan yr hen frawd irwyn go hir yn barod. Pwy a ddigwyddodd | aiw yn y ty yn lied tuan, ar 01 nyny, ona y farch. Henry Morgan, Ficer Llanddewi-Aberarth. Sylwodd yn y fan ar yr hyn oedd ar drwyn yr hen frawd, ao yna dywedodd—" [knew, Mr. Jones, that you had a long nose, but [ had never imagined it was 300 yards long." Nis gwn beth oedd yr atebiad, ond gwn yn dda pe buasai ysylw yna yn cael ei wneyd wrth yr hen The. Joned ei hun, ac nid wrth ei fab, y buasai ganddo ryw atebiad ffraeth a pharod. Dichon y caf hamdden, ryw dro, i fyned ar draws yr hen" The." ei bun, ac i adrodd rhai o'r hanesion am dano sydd ar gof a llafar gwlad yn nghanolbarth Sir Aberteifi. T DIWEDDAR BARCH. AZARIAH 8HADRACH. Mae yr enw uchod yn ddigon hysbys mewn cylchoedd crefyddol yn Nghymru. Gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Nhalybont, oddiar Aber- ystwyth, ydoedd A. Shadrach. Methais beddyw'r boreu gael ei enw yn Williams's Eminent Welsh- men. Ond os yw'r Parch. Robert Williams wedi ei gau allan o'i gyfrol ef, mae'r hen Shadrach yn liawer mwy adnabyddus yn Nghymru nag ami un ag y gwneir coffadwriaeth o hono yn Eminent Welshmen. Shadrach gyfansoddodd y gin hono ar y testyn, Myfyrdod ar y cloc yn taro." Dechrena y gan fel hyn Pan oeddwn yn myfyrio, A'r cloc yn taro un, Meddyliais mai addoli Un Dnw a ddylai dyn; Ac hefyd ei was'naethn A'm calon yn dra lion, Tra paro dyddiau 'mywyd I ar y ddaear hon." Os wyf yn cono yn iawn, yr oedd cryn lawer o'r prophwyd, yn yistyr wreiddiol a chyntefig y gait, o gwmpaa yr hen Shadrach. Cymeriad ar ei ben ei bun ydoedd, mewn ll&wer ystyr. Yr hyn a'm harweiniodd i son am ei enw yn awr ydyw hyn: y dydd o'r blaen digwyddodd i mi fod yn siarad am dano & dynes o'r enw Dorothy Lewis, yr hon, gyda llaw, sydd yn gweinyddu fel clerc yn Eglwys Llantood, Sir Benfro. Dy- wedodd wrthyf fod Azanah Sbadrach yn ewythr iddi hi, frawd ei roamgu (nain), o ochr ei mam. Cefais ganddi hefyd yr hysbyarwydd i Azariah Sbadrach gael ei eni a'i fagu mewn lie o'r enw Fagwyr Eynon, yn mhlwyf Trewyddel (Moyl- grove), nid yn neoell o Landudosh. Pan fu y Parch. Henry J. Vincent (Ficer Llandurioch am 40 mlynpdd) farw, sef ar vr lie? o Fehefin, 1865, yr oedd un o'r enw Benjamin Shadrach yDhLyn gurad gydag ef, yr hwn a fuasai cyn ymuno o hono a'r Eglwys, yn gweinidogaethu gyda'r Mpthodistiaid Calfinaidd. Yr wyf yn meddwl fod y Shadrach hwnw yu enedigol n ardal Trefdraeth neu'r Nevern. Y tebygolrwydd yw ei fod yn bertbynas i'r Parch. Azariah Shadrach. Ni wyddwn o'r blaen o ba barth o Gymru yr hanai y gwr enwog hwnw. Gwn yn dda fod lluaws o ddarllenwvr Cymreig y Cambrian yn gwybod am ei enw, a diamheu y bydd yn dda ganddynt gael yr ycbydig hyn o hysbysrwydd am ei dardd- iad a'i gychwyniad. J. MYFENYDD MOBQAN. St. Dogmael's.

HERMON, PLASMARL.

.WAUNARLWYDD.

0 ! ABERTAWE ! ABERTAWE !

BABELL, CWMBWRLA.

"Y GENINEN."

NEATH

MAESTEG & DISTRICT,

Advertising

GOWER,

38 MILLIONS OF LEMONS

Advertising

tä.-WHERE TO GO NEXT SUNDAY?

[No title]

Family Notices