Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

23 articles on this Page

Y GONGL GYMREIG. t

News
Cite
Share

Y GONGL GYMREIG. t LLYTHYR AT GYMRY'R CAMBRIAN. GAIR unwaith eto, a'r diweddaf am y tro hwn, 0 LANDRINDOD. Mae y lie wedi myned mor ofnadwy o lawn fel yr wyf fi bron methu a chael lie i droi nac i gysgu yma, ac yr wyf wedi cael annwyd dychrynllyd yn y fargen, o'r fath waethaf a gefais mewn unrhyw fan erioed. Soniais yn fy llythyr blaenorol fod hen lane o Sir F6n yn aros yn yr un ty a mi yma. Wel, mae efe a minnau wedi cael ein gosod i gysgu yn yr un bedroom y nosweithiau diweddaf hyn, a byny ar dop y lofft uchaf. A ydyw hen lanciau,o angen- rheidrwydd, yn fwy dibarcb Da rbyw feidrolion Graill ? Modd bynag, gan fod yr annwyd yma wedi gwneuthur havoc o'm pibellau gwynt, yr wyf yn cael trafferth dychrynllyd i ddringo i fyny mor uchel. Ond y mae'r brawd o Fon yn gydymaith tra hoff, ac y mae'r naill o honom yn dipyn o ddyddanwch i'r llall. Yn wir, yr wyf braidd yn hoff o bobl Mon, yn gyffredinol, er yr adeg y bum yn aros yn yr ynys, mewn lie o'r enw Llanfaelog, nid yn nepell o Gaergybi. ST. LUBBOCK'S DAY. Mae y dydd heddyw wedi dwyn mwy o ymwelwyr nag arfer i Landrindod yma, am y rheswm ei fod yn ddydd gwyl; ond mae yn debyg taw ymwelwyr am y dydd yn unig ydyw lluaws o'r newydd-ddyfodiaid hyn. Chwareu teg i Syr John Lubbock am y rhan a gymmerodd aicrhau dydd gwyl ychwanegol i'r rhai sydd yn treulio y nifer amlaf o'u dyddiau mewn Uafur a phryder. Tueddu i gyfyngu, mewn rhyw ystyr .Y neu'i gilydd, ar ryddid dynion y mae nifer fawr o'n deddfau gwladwriaethol, ond dyraa fesur a'i duedd i Jacio a rhydlhau tipynar hualauy bywyd cymdeithasol. Ond rhaid i mi fyned yn y blaen yn awr i draethu tipyn o'm barn am teimlad o barthed i berionau a phethau yn Llandrindod yn ystod tymmor fy arosiad i yn y lie. YR YMWELWYR. Ceir yma lawer iawn o amrywiaeth yn eu plith —hen ac ieuainc, cyfoethog a thlawd, dyagedig ac annysgedig, call a ffol, &c. Tybiaf fod yr elfen Gymreig yn bur gryf yma ar hyn o bryd, a pharablir llawer iawn yn acenion yr hen iaith anwyl. Tybir hefyd fod yma fwy o Gymry y deheudir ar yr adeg bresennol nag sydd yma o rai o'r gogledd, er fod yma gryn nifer o honynt hwythau hefyd. Y mae yma, bid sicr, lawer iawn o Saeson hefyd. Mewn lie o'r fath yma y ceir cyfleusdra iawn i gymharu y Cymro a'r Sais. Daw neillduolion y ddau i'r golwg yn ymyl eu gilydd. Waeth dyweyd y gwir a bod yn onest ni fedraf fi yn fy myw fyned i fewn i fynwes y Sais. Mae rhywbeth mor oer a mursenaidd o'i gwmpas. Dyweded ef yr hyn a fyno am poor Taffy: mae yn Ilawn cystal gwr ag ef, ac yn llawer mwy cymdeithasgar a dirodres. Trueni dybryd fod rhai Cymry mor wasaidd i'r Saeson. Gellir meddwl wrth ymddygiad ac ystum dra gostyngedig ambell Gymro yn mhreaennoldeb od o Sais, mai wrtho ef, druan, y llefarwyd y geiriau hyny yn more y byd, Ar dy d6r y cerddi, a phridd a fwytei." MOESOLDEB A CHREFYDD YN LLANDRINDOD. Cyn belled ag y mae cryn lawer o brofiad ac adnabyddiaeth bersonol o Landrindod a Llanwrtyd yn fy nysgu, buaswn yn barod i ddywedyd fod moesoldeb cyffredinol y ddau le yn dra uchel. Nid oes meddwdod na therfysg yn tori ar eu heddwch tawel. Gallaf feddwl hefyd fod yr elfen grefyddol yn fywiog a chref ym mysg ymwelwyr y ddan le. Mae yr addoldaj braidd yn orlawnion ar y Suliau. Prysuraf yn y blaen bellach i ddyweyd ychydig am rai cymmeriadau neillduol ac adnabyddus a gyfarfuais yn y lie hwn yn ystod ydyddiaudiweddaf T PARCH. J. RICHARDS, J.P., RHEITHIOR ABERFFRAW, SIR FON. Yr wyf yn ei adwaen ef er ys blynyddau beUach, ac y mae yn enedigol o'r un parth o Sir Aberteifi a minnau. Ordeiniwyd ef flynyddau lawer yn ol yn Llandaf, a bu yn gurad yn ngthymmydogaeth Pontypool, Mynwy. Bu wedi hyny yn gurad yn Cyffin, gerllaw Conwy, yn Ngogledd Cymru. En drachefn yn gurad yn Ngbaergybi, ac yna daeth i fod yn ficer Amlwcb, ar ol y diweddar Nicander. Am y chwarter eaarif diweddaf mae Mr. Richards wedi bod yn Beriglor Aberffraw, yr hon, fe allai, yw y fywioliaeth eglwysig oreu yn Nghymru. Mae yn un o'r rhai goraf, sut bynag. Mae gan Mr. Richards werth miloedd lawer o eiddo yn Llandrindod kwells. Efe ydyw perchenog y gwestty preifat a elwir Ye Wells," yr hwn sydd dy nodedig o lewyrchus a llwyddiannus. Deallaf fodMr. Richards wedi ymgymmeryd a gwaddoli pedair neu bump o eglwysi cymharol dlodion yn Sir Aberteifi, megis Llanilar, Tregaron, Blaen pennal, &c. Mae i'w ganmol yn fawr am ei haelfrydedd. EDWARD DAVIES, YSW., J.P., PORT TALBOT. Mae y boneddwr caredig nchod a'i deulu yn aros o dan yr un gronglwyd a minnau. Ni chefais yr hyfrydwch o'i gyfarfod erioed o'r blaen, ac y mae yn ddrwg-genyf hyny, gan y credaf ei fod yn foueddwr gwerth ei gyfarfod a'i adnabod. Mae Mr. Davies yn wr tra chyhoeddus a dylanwadol yn nghylchoedd pwysicaf Methodistiaeth Galfinaidd yn Nghymru. Deallaf ei fod wedi bod yu dal rhai o'r swyddau pwysicaf a ganiateir i leygwyr y cyfundeb en llenwi. Mae yn specimen o'r fatk oreu o ddynoliaeth corff ac enaida thafod- leferydd gwyr bro Morganwg. Deallaf ei fod yn ymwelydd cysson a Llandrindod er ys blynyddau lawer. Hyderaf fod iddo flynyddau liiaws eto yn yator, i barhau ei ymweliadau a'r lie. Y PARCH. D. DAVIES, BRIGHTON. Mae Cymru benbaladr, yn gystal a Lloegr, yn adnabyddus iawn ag enw y boneddwr uchod, fel pregethwr, darlithiwr, ac awdwr campus. Efe ydyw awdwr doniol y Ilyfr destlus Echoes from the Welsh Hills," ac amryw lyfrau eraill. Efe hefyd ydyw eolygydd llwyddiannus y Christian Pictorial. Cefais y plescr o'i wrando yn siarad ryw brydnawn yr wythnos ddiweddaf yn yr Albert Hall, Llandrindod. Yr oedd iddo wrandawyr astud a pharchus lonaid y lie, ac yr oedd yntau yn ei ddillad goren, ac yn deilwng o hono ei hun. Mae wedi ymadael a'r lie erbyn hyn, ac y mae ei le yn wag ar ei ol, er cynifer o fodau dynol rsydd yma. Fe allai mai nid pawb sydd yn gwybod taw brodor o blwyf Llan- liawddog, ger Caerfyrddin, ydyw Mr. Davies. Mae yn glod i'r wlad a'i maccodd." T PARCH. B. S. THOMAS, ABERCYNON. Yn Llandrindod, y flwyddyn hon, y cefais gyfleusdra am y tro cyntaf i adnabod yn ol y cnawd," y meddyliwr galluog uchod. Yr oeddwn, er's tro bellach, yn pyfarwydd a'i gynnyrchion ar duda-lenan y Traethodydd. Athronydd duwinyddol, wrth ei grefft a'i anianawd, ydyw Mr. Thomas. Tybiaf mai cymharol ychydig, yn yr oes wammal hon, sydd a gogwydd eu meddyliau i'r un cyfeiriad i'r eiddo Mr. Thomas. Mae yn wirioneddol alluog. Un o'i gynnyrchion llenyddol diweddaf oil yw ei adolygiad ar lyfr Mr. Adams ar "Paul yn Ngoleuni'r lesu. Ymddengys y llwydda Mr. Thomas yn ddehenig ac effeithiol iawn i ddangos Adams yn ngolcuni yr Iesu a Paul," gan Iwyr ymgadw oddiwrth bob oecraeth bersonol. Dywedai Mr. Thomas wrthyf nad yw ef yn adwaen Mr. Adams yn berrocol o gwbJ. Clywais rywun yn dyweyd fod rhai o aelodau cynnulleidfa Grove-street, Liverpool, wedi gwneud eu goreu i werthu y copiau o lyfr Mr. Adams. Beth pe ymgymmerai rhai o foneddigesau ieuainc y gynnalleidfa hono (merched y blaenoriaid, &c., os oes yno rai felly i'w cael) & han had da" liyfr Mr. Thomas ymhlith yr "efrau" sydd wedi eu hau o'i flaen ? Cofier mai dim ond taflu awgrym caredig yr ydym ni, wrth basio. Fe allai mai Mr. Thomas ydyw y meddyliwr galluocaf a fedd y "Corff" yn Morganwg. Gan hyny, bydded iddynt ei fawrhau a'i werthfawrogi, megis y dylent. Mae y fath beth a rhagfarn noeth yn sefyll yn erbyn dyrchafiad ambell ddyn. Yn America y dygwyd Mr. Thomas i fyny, er I mai brodor o Sir Gaerfyrddin ydyw. Ni chafodd y manteision addysg goraf. Math o Samuel Drew ydyw, wedi cyfodi i enwogrwydd yn ngrym ei allu ei hun a gras ei Dduw. Y GAIR HIRAF YN YR IAITH GYMRAEG :— J LLANFAIRPWLLGWYNGYLLGOGERYCHWYRNDRO- BWLLTYSSILIOGOOOGOCH. Cafodd fy ngbyfaill o Fon (yr hen lane) a minnau gryn dipyn o hwyl yn y ty yma ryw noswaith wrth glywed dau o Lundeinwyr Seisnig yn ceisio seinio yr enw hir uchod. Gwyr y J cyfarwydd mai enw ar blw-f yn ynys Môn, ac ar | fin y Fenai, yw y gair ac yn y plwyf hwn y mae cartref y cyfaill o F6n sydd yn cyd-lettya a mi yma. Gyda Haw, bydd efe yn troi ei wyneb yn ol bore yfory i fyned i fwynhau Mon a'i thirionwch unwaith eto; ac ymddengys ei fod yn meddwl mor uchel o'r fam-ynys ag y gwna y brawd athrylithgar, Gwilym Mathafarn, o Lerpwl— yntau hefyd yn frodor o'r un parth. "ALEPH, BETH, GIMEL, DALETH." Lle yn iawn am bob math o banesion ac ys- toriau ydyw Llandrindod. Cyfarfyddir yma, yn achlysurol, a. rhai o'r pencampwyr am ystori dda. Y dydd o'r blaen, cefais ddifyrwch anghyffredin wrth wrandaw un o oreugwyr e;n cenedl yn dywpyd hanesyn am yr hyn a gymmerasai le rhwng cyfaill iddo ef ag un o lenorion Debeudir Cymru yma. Mae y lienor hwnw yn ysgrifenydd tra charlamus, ac yn tynu cryn lawer ar ei ddych* ymmyg ei hUll, fel y gellir casglu. Rhuthra i ys- grifenu fel ffeitbiau bethau nad oes sylfaen iddynt o gwbl; math o chwyn afiach ydynt, sydd wedi tyfu ar ymylon siglenydd ei ymenydd ef ei hun Ond, i fyned ymlaen gyda fy ystori. Yr oedd y gwr dan sylw wedi bod yn ysgrifenu gyda llith- rigrwydd ar faterion Hebreig, ac, yn ol y ceallais, ar nodweddion a theitbi y Gymraeg. Mewn can- lyniad i hyny, mae rhyw gyfaill yn ei gyfarfod, ac yn dechreu profi swm ei wybodaeth o hen iaith yr luddewon. Y canlyniad fu i'r ymffrostiwr orfod addef Ra wyddai ddim oil am yr iaith Heb- raeg-ddim cymmaint ag enwan llythyrenau'r Wyddor! Nid adwaenai luniau Aleph a Beth Y fath hyfdra sydd gan ryw ddosbarth o ddynion yn yr oeg hon. 0 tempora 0 mores! Y DIWEDDAR ESGOB LLOYD. Dywed diareb Ffrengig nad oes dim mor sicr iTr hyn sydd annnebyg a dywed un hen bennill Cymreig fel hyn Dysgwyl pethau gwych i ddyfod, Croes i hyny maent yn d'od." Gwr cryf, cadarn, i bob ymddangosiad, oedd Esgob Lloyd. Gellid medddwl fod ei esgyrn wedi eu gwneuthur o bres, ac na fenai clefyd na chys- tudd arno, o leiaf am flynyddau hir. Ond, wele, yr annhebyg a ddaeth. Mae yn barod i fyned i dy ei hir gartref," a bydd wedi ei csod ynddo cyn y daw'r llinellau byn o flaen Ilygaid y dar- llenydd. Dyn go gyflawn ydoedd y Dr. Lloyd- Cardi i'r ton. Meddai brofiad amrywiol-o siop y riilledydd yn Nghaerfyrddin i fainc yr EEgob yn Mangor-fawr-yn-Ng-wynedd. Mae rhywbeth hapus yn yr idea o ddringo mewn bywyd. Pan mae dyn yn cael ei eni mewn palas, ac yn marw mewn palas, 'does dim fun mewn peth felly-mae wedi aros yr un man ar byd ei fywyd. Ond pan fyddo un a anwyd a'r gaib, nen'r nodwydd ddur, neu'r whip megis yn ei law, yn llwyddo i ddyfod yn dduc neu'n arglwydd cyn marw, yr wyf fi yn barod i dd'weyd am ddyn felly, Well done, boy yn ei fywyd, ac hefyd wedi iddo farw. Profodd Dr. Lloyd ei bun yn ysgolfeistr godidog, a chaf- odd Cymru lawer salach esgobion nag ef, o amser bwy gilydd, er yr awgryma yr oracl dysgedig o Gaerdydd (yr hwn sydd yn proffesu gwybod bron yr holl ddirgeledigaethau) nad oedd yn rhyw lawer o success fel Esgob. Y gwirionedd yw fod yr Esgob Lloyd yn ddyn rhy gall i ddyfod i fyny, neu, feallai, i ddyfod i lawr, at safon ryw ddos- barth o feimiaid bychain, bach. Reddwch i'w lwch. Rhaid aros yn y fan yma yn awr: mae ysgrifenu, ar hyn o bryd, yn boen. Wrth deithio, y dydd o'r blaen, rhwng Llan- ymddyfri a Llanwrtyd, daeth cynnwysiad y pen- nillion oanlynol i fy meddwl, y rhai a linynais wrth eu gilydd wedi cyraedd o honof i ben fy nhaith BWTHYNOD GWYNION CYMRU. I. Fwthynod gwynion Cymru, Cartrefi hedd a Berch, Anneddau masvl a gweddi, A chymmeriadau derch,— Trag'wyddol gyasegredig Yw'th hen aelwydydd glan, Dros flwyddi hir gynheswyd Gan wres y Dwyfol dan ii. Fwtbynod gwynion Cymru, Dechrenodd llawer mil 0 dan eich cronglwyd gerdded Ar hyd y llwybr cul Mae llu o'r cyfryw heddyw Yn iaoh ar ben y daith, Yn adolygu "troion" Eu gyrfa dioellog, faith. III. Fwthynod gwynion Cymru, A'ch to o frwyn a gwellt, Pileri mawr y cread A holltir megis dellt, Cyn yr anghofir llafur A chariad pur ei ryw j' Ardderchog lu'r duwiolion Fa ynoch gynt yn byw. I IV. Fwthynod gwynion Cymru, Bu tywysogion ffydd Yn credu a "gorchfygn 0 fewn eich muriau pridd: Hen Feibl Peter Williams," A Llyfyr Gurnal gynt, I A'u nerthent i gyflawni Gwrhydri ar en hynt. v. Fwthynod gwynion Cymru, Rhai gwynion iawn eu lliw Oedd llu y pererinion Fu ynoch gynt yn byw; A gwynnach ydynt heddyw Na'r eira glan ei liw, Ymhlith y saith ugeinmil," Yn ymyl gorsedd Duw. VI. Fwthynod gwynion Cymru, Magasoch lawer llanc Anwyla hil y Brython Hyd olaf awr ei thranc Chwi fegwch gedyrn eto Yn nyddiau Cymru Fydd," Trwy ddal yn ddianwadal Y santeiddiolaf ffydd. St. Dogmaels. J. MYFENYDD MORGAN.

, NODION WRTH BASIO.

LLANDRINDOD WELLS.

THE "LITTLE MINISTER" AT THE…

[No title]

------------SOUTH WALES STOCK…

Advertising

[No title]

SWANSEA POLICE COURT.

PONTARDAWE.

LLANDILO & DISTRICT.

[No title]

Y FERCH NAS GALL GUSANU.

THE TRADE OF THE PORT AND…

THE PROPERTY MARKET.

Advertising

" THE CAMBRIAN" |

—————————i MUMBLES.

NEATH.

GLAMORGAN ASSIZES.

LOCAL FIXTURES OF FORTHCOMING…

Advertising

Family Notices