Skip to main content
Hide Articles List

17 articles on this Page

I Y GONGL GYMREIG.

News
Cite
Share

Y GONGL GYMREIG. LLYTHYR AT GYMRY'R CAiTSRlAlf. Bydd dyn yn amrywio cryn lawer yn ansawdd ei feddwl a.'i deimlad, tra yn ngafael a'r gorchwyl o ysgrifenu i'r was, ac, yn wir, bydd felly, i fesnr, tra yn ceisio ymwneyd ag uarhyw lafur meddyliol, megis ysgrifenu traethawd cyfansoddi pregeth neu ddarlith, &c. Y peth sydd genyf mewn golwg yw y ffaith fod mwy a llai o nwyddan at ei law, ar wahanol adegau, er cyflawniei orchwylion, y dosbarth hyny o ddynion sydd yn gorfod siarad ac ysgrifenu byth bythoedd, gellid yn rhesymol gasglu y gwyddant ambell adeg, beth yw prinder defnyddiau at eu gwaith. Y tebyg yw y gwyr nifer dda o honynt beth yw *'llanw a thri" yn y mater yma. Yn wir, clywais unwaith am ryw reporter yn rhywle, yr hwn, ar ddiwrnod neilldnol, nad oedd ganddo destun na newydd yn y byd i ysgrifenu arno i'w bapyr newydd, a fa.bwysiado,jd ddull tra rhyfedd i gael ei hun allan o'r benbleth, ac i greu tipyn o sensation fel yr oedd yn cerdded gydag ymyl ddyf r-ffos (canal), gwelodd blentyn tra. ieuanc yn chwareu gerllaw, a thaflodd y bycban droa ei ben i'r canal, sran neidio ei hun ar eiol i'rdwfr a'i achub rhag- boddi; ac yn y papyr borea drannoeth, yr oedd yr heading canlynol mewn llythyrennau breision:— "A NARROW ESCAPE FROM DROWNING." Wel, nid yr unrhyw benbleth a'r eiddo y reporter uchod sydd yn dygwydd fy mlino i heddyw, ond un arall hollol wahanol, sef pa beth iysgrifenu riyntaf arno? Mae lliiaws o bethau yn cynnyg eu hnnain i'm hystyriaeth, ac nis gwn at ba un o honynt i ahv eylw gyntaf, a bydd yn rhaid i mi adael rhai o honynt heb sylw arnynt o gwbl hjd yr wythno nesaf, nen yr nn ar 01 hono. Peth iawn er awgrymu testynan i feddwl dya ydyw newid lie, a chrwydro tipyn hwnt ac yma: ac yr wyf fr.inau wedi gwneud ychydig o hyriy yn nghwrs y dyddiau diweddaf hyn. Peidied y darllenydd a beio gormod arnaf os bydd fy llythyr hwn braidd yn annyddorol, canys yr wyf yn ei ysgrigennu o dan AlIijrYLCHIADAU AC MEWN LLii: ANGHYFLEUS. Tybiaf na bu fy nghorff erioed yn nes i'r Befoedd nag yw ar y foment bresennol. Peidied neb a thybied, er hyny, ma.i mewn awyren {balloon) yr wyf tra. yn ysgrifennu i'r Cambrian yr wytknos hon. Modd bynag, yr wyf yn dra uchel, a gwaeth na'r cwbl, nid oea genyf lawer mwy o le yma nag oedd gan Jonah ystalwm ym mol y pysgodyn hwnw. Mae yn aruthrol o fwll a chyfyng yma, ar y pryduhàwn cynhes hwn. Ond hyna ar hyna yn awr fe allai yr egluraf yn well beth wyf Yll feddwl, o byn i'r diwedd. YMWELIAD AG EOLffYSWRW. Awgrymais eisoea fy mod wedi crwydro ychydig y dyddiau diweddaf hyn. Decbreuais ar fy nghrwvdriadau ddydd Sul. y 23ain o Orphenaf, yr hwn a dreuliais yn Eglwyswrwr, Sir Benfro, rhyw chwech milltir o St. Dogmaels. Ardal ddifyr, brydfeth, a tbra. drlyddorol yw yr uchod. Yr wyf yn hoffi, yn fy nghalon, myned iddi am dro, yn aohlysurol. Ficer y plwyf ydyw y Parch Thomas M. Jouc-s, yr hwn sydd frodor o dref Llanbedr-Pont-Steplian, yn Ngheredigion. Mae Mr. Jones yn wr rhadlon, boneddigaidd a charedig iawn. ac yn dra pharchua yn ei blwyf. Mae yn llafurio, a. hyny gyda llwyddiant, yn Eglwyswrw er ys liawer blwyddyn a diau y teimlid chwithdod mawr ar ei ol pe digwyddaj symud o'i Ie presennol. Mae Mrs. Jones, ei briod serchog, yn un o'r rhai carediccaf a hynawsaf. Mae hi fll ferchi ddiweddar Reithior Tr&fdraeth, Penfro. Yr oedd ei diweddar dad. a barnu wrth ei ddarlnn a welais yn ficerdy Eglwyswrw, yn nodedig o debyg i'r diweddar Ddr. Lowis Edwards, o'r Bala. Ull o ardal Eglwyswrw ydoedd y diweddar Ganon Griffith, Rheithior Machynlleth, ac y mae iddo berthycasau gwoddolagos yno yn awr. Cyn troi fy nghefn ar bIwyf ac Elwys Eglwyswrw, dymnnwn ddyweyd gair am rai personau neillduol a, gyfarfyddais yno. Un cyfryw ydyw MR. DAFYDD PHILLIPS, Y CRYDD A R POSTMAN. Dyn cyffredin anghyffredin ywyr uchod. Mae yn hen wr 83 mlwydd oed. er hyny, yn dlrf ac I iraidd mewa henaint a phenllwydni, ac yn hynod o hoew ar ei droed. Aelod gyda.'r Methodistiaid Caifinaidd yn Nghapel Glanrhyd ydyw Mr. Dafydd Phillips, ac y mae yn parhau i gerdded yno, er fod ei ffordd yn bur faith. Ar yr an pryd, rhydd ei bre?ennoldeb yr yr eglwys blwyfol yn lied fynych. Un o'r hen stamp ydyw—cadarn yn yr y?grythyran, a gwlithog ei brofiad. Dywedir fod ei gof yn meddu gafael haiarnaida mewn nnrhyw beth yr ymeifl ynddo. Pe buasai mwy o'i fath ef yn y tir, ni buisai raid i awdwr y gan, Pa le fnae'r Amenf ei chyfansoddi o gwbl. Un o'r ychydig ag y mae hen gawodydd Seion heb sychu arnynt ydyw Dafydd Phillips. Oh y mae genyf barch calon i hen gymmeriadau anwyl fel hyn. Amlhiier eu nifer yn y tir. Bydd Cymru fydd yn dlawd heb'ddynt, yn wir. MR. J. C. EVANS. Yr uchod sydd wr arall a gyfarfyddais fwy nag unwaith yn Eglwyswrw. Mae efe yn berthynas gweddol agos i Arglwydd Esgob Llandaff. yn ol fel y clywais. Mae yn Eglwyswr tra selog, ac yn nodedig am ei ffyddlondeb yn y Meline ac Eglwyswrw. Yr uchod ydynt rai o fy adgofion am Eglwyswrw, un o'r yspotiau dymunolaf yn ngogleddbarth swydd Dyfed. Ond rhaid gadael Sir Benfro ar hyn o aiarad yn awr, a dyfod bellach yn ddiymdroi I LANDRINDOD, gan mai oddiyno yr wyf yn anfon yr epistol hwn i'r Cambrian. Digon tebyg mai Llandrindod yw y "llan mwyaf hysbys trwy Loegr a'r byd o'r holl "lanau aydd yn Nghymru, gan fod dyfroedd so awyr iachus y lie yn tynu dynion iddo o bob parth bron. Wel, yn Llandrindod yr wyf finnan er pryd- uhawn dydd Linn diweddaf. Wrth ysgrifenu o Ie fel hyn, mae'n anhawdd iawn gwybod b'le i ddechwu a i ddiweddu, beth i'w ddyweyd a beth i beidio ei ddyweyd. CYXSYDD LLANDRINDOD. Gwyr pawb ag sydd yn gwybod rhywbeth o gwbl am ylle hwn, eifod yn un sydd yncynnyddu ac yn cyfnewid yn fawr, o nwyddynrwgilydd. Adeiladu ac nil.adeiladu. a chyfnewid a helaethu sydd yn myned yn y blaen yma yn barhaus Nid oedd Llandrindod, yn y fifurf bre"ennol ar y lie, yn bod o gwbl hyd yn gymharol ddiweddar. Onid yw yn rhyfedd meddwl fod y dyfroedd iacbusol yn tarddu yn y lie er's miloedd o flytiyddoedd, ac mai megis er ddoe y darganfyddwyd eu rhinwedd ac y goaodwyd carreg sylfaen dadblygiad a chynnydd y lie i lawr. Modd bynag, felly y bu. A welaist ti, fy narllenydd hoff, y ddwy erthygl gampus hyny o eiddo y diweddar Barch. Thomas Jones (Glan Alan) ar y testun "TEIMAV YN LLANDRINDOD," y rhai a ymddangosaaant yn Y Traethodydd, ac wedi hyny a gyhoeddwyd yn ei lyfr Ehediadan Byrion ? Yr oedd pymthesr mlynedd rhwng ei ddau Dridian." Tybiaf fod o ddpg-ar-hagain i ddeugain mlynedd er pan yisgrifenwyd yr ail I Dridiau." Mor wahanol yw Llandrindod heddyw i'r hyn ydoedd yr adeg hono. Llettya yn y ffermdai o gwmpas ac yn yr ychydig dai oedd yn y pentref y bydddai yr ymwelwyr yr adeg hono. Beth all fod yn fwy annhebyg nag yw Llandrindod heddyw i Landrindod dyddiau ymweliad Glan Alun lie ? Ond 08 yw y lie wedi cyfnewid, ceir, er hyny, fod portread pert Glan Alan o'r ymivehryr a'u harferion yn y dyddian hyny yn ateb yn go lew i'r byn ydyw ^mwelwyr bar 1899. Tr un egwyddorion nawrion sydd yn IJywodraethu meddyliau a ohalonan meibion a merched dynion ym mhob oea wlad. Mae hen gwe.-tivnau erthyglau doniol Glan Alun yn cael eu gofyn o hyd yma, megis "Pwy yw hwn a hwn, a beth yw ei alwedigaefchF "—" A oea ganddo fo neu hi bresr eto. Mae cryn nifer o ymwelwyr yn Llandrindod ar hyn o bryd ond o'r holl nifer ydd yma o ddynion ac o fenywod (neu o la din M dywed pobl ffaaiynol yr oes), o wragsdd gweddwon ao o ferched, ni welais i ond ychydig iawn ag arwyddion afiechyd corfforol arnynt. Nid oe-i yma neb o'r "rhyw deg" y chwaith yn rhyw nodedig iawn am eu "tegowch." Nis gwn ai hyny yw y rheswm eu bod yn dyfod i Landrindod. Cof genyf fod hen Ddoctor o'r Iwerddon yn gwneud sylw cyffelyb wrthyf yma ddwy flynedd yn ol. I see pretty women here meddai; ac mi dyhiaf fod barn doctor am features a figure y corff dynol, yn gystal a'i farn am ei ranau tufewnol, yn meddu ar dipyn o bwys. Mae merched gweini Llandrindod o ran prydferthwch corfforol. yn euro y lady visitors o ddigon, er cymmaint o fweram a starch sydd yn y cyfryw. Maddeuer i un fel myfi am ddadgan barD. ar gwestiwn fel hyn, canys galiaf ddyweyd am danaf fy hun :— 'Does genyf fi na gwraig na phlant, Na chanad i hel na thrin, Onrl canaf yn lion, o hyd o hyd W rth rwyfo fy nghwch fy hun." Ac, yn wir, wrth daflu trem, ambelldro, ar gwrs y byd, teimlaf awydd defnyddio gweddi'r Pharisead hwnw gynt, a dyweyd, Diolch nad wyf fi fel dynion eraill," yn rhwym wrth an o fodau "y parasols a'r parseli." Yr olwg oreu byth geir ar y genethod a'r gwragedd gweddwon yw pan fyddont yn rhodianna yn eu sidanau, o gwmpas Llandrindod a mannau eraill. Byddai yn burion peth i'r ilanciau byrbwyll gadw peth felly mewn cof. Yn yr nes hon, byddwn yn clywed liawer iawn am y "NEW WOMAN," "DDYNES NEWYDD." Nis gwn pa fath greadures a fydd y ddynes newydd," wedi iddi orffen ymddadblygu. Creadures ddigon yatumddrwg ac enbyd oedd yr hen fenyw," ei mam hi fytodd yr afal gyntaf yn Eden gynt; hi drefnodd y ffordd i ddinystrio Naboth wirion, ac i ladd y proffwydi hyny; hi, hefyd, a dyllodd dafod ffraeta yr areithydd Ehufi-inig, Cicero, u nodwydd aur. Givnaeth ei dafod fel rhidyll a'r nodwydd hono. Dyna i chwi feiden ofnadwy, onide, mewn difrif. Yr uchod ydyw rhai o driciau yr hen fenyw nis gwn pa drefn nen annhrefn a wna'r fenyw newydd ar y byd. Fe gofia'r cyfarwydd yn ei Destament Newydd fod apostol mawr y byd cenhedlig, yn un o'i epistolau, yn galw pechod ar yr enw i4 hen ddyn." Daw y syniad i feddwl dyn, ambell dro, y buasai yn llawn mor gymhwys iddo ddefnyddio yterm "hen fenyrr," wrth ei ddesgrifio. Wrth ollwng y pwnJ hwn o'm gafael, goddefer i mi ddyfynu ychydig eiriau o eiddo y sturdy old bachelor poet o Ystrad Meurig, sef pen bugail- gerddwr Cymru. Yn rhywle yn ei ganeuon, dywed fel y canlyn, wrth gyfeirio at y merched a'u dewisiadau a'u my nap wy on ft'ol:— Os gwerth fydd gwrthodant Coegenod cyd-gauant, A chwarddant amlwyddiant 'rymladdwr." Pa ryfedd, wrth gadw y ffeithiau uohod am "yrhyw deg (?) mewn cof, i'r fath gewri ag Esgob Thirlwall, Syr Isaac Newton, ac eraill, ddewis arwair. bywyd -"ingle? Gyda Haw, dywedir i un ddynes neillduol broposio i'r hen Esgob Thirlwall pan oedd efe ymlaen mewn dyddiau, ac mai ei atebiad iddi ydoedd troi y ddiareb o chwitli a dyweyd Better never than lClte." Modd bynag, nid wyf am ddyweyd nad oes rhai eithiiadau godidog i'w cael ymhlith y benywod. Nul ydynt, i gyd yn berichwiban mympywol, a ffol. Ond eithriad yw eithriad, wedi'r cwbl. It only corroborates the rule," ys y dywed y Sais. RHAI O'R YMWELWYR PRESENNOL YN LLANDRINDOD. Nid amcanaf enwi ond ychydig iawn o honynt. Ym mhlith y r-hai sydd Jma yn awr, neu sydd newydd ymadael, mae y rhai canlynol:—Arglwydd Esgob Tyddewi, y Canon Daniel (gynt o Batter- sea College, yr hwn sydd yn n.wdurdod uchel ar hanes ac athrawiaethau y Llyfr Gweddi Gyffredin. Gwr genedigol o Sir Fynwy ydyw ef. Mac rhai pertbynasau agos iddo yn aros yn yr un ty a myfi yn Llandrindod), yr Arcbddiacon Hodgson, gynt o Zanzibar, yn Africa: y Parch. David Davies o Brighton (brodor o ymyl tref Caerfyrddin), y Parch. Henry Morris, yr hwn sydd yn fieer yn Sir Forganwg. Moe efe yn nai fab chwaer i'r diweddar Mr. Henry Richard, yr A.S. dros Ferthyr gynt. Mae yn wyr, o du ei dad, i' diweddar Barch. Ebenezer Morris, Twr Gwyn, a'r un path, o du ei fam, i'r diweddar Barch. Ebenezer Richard, o Dregaron. Mae efe a minnau yn gryn ffryndiau yma. Mae'r Parch. Wm. Jones, gynt o Drawsfynydd, hefyd, yma, a'r Parch. John Morgan Jones, Caerdydd y Parch. Joseph Lloyd, ficer Llan- punisaint, a liawer o barchedigion eraill, ac am- ryw farwniaid ao ysweiniaid. Yn yr uu tya mi, mae hen lane rhadlon a charedig o Fon, yr hwn sydd yn edrych ddeng mlynedd, o leiaf yn ieuangach nag ydyw. Nid y w yn mhell o gyrhaedd "dyddiau yr addewid," ond, fe allai ei fod yn meddwl cyrbaedd rhywbeth neu rywun arall cyn cyrbaedd pen y daith felly ni fradychaf fi ei gyfrinach, trwy ddyweyd ei enw na dim o'i hanes, er mwyn iddo gael perffaith chwaren teg at orchwyl nad wyf fi yn credu nemawr ynddo. YR ELFEX BRL'DDAIDD YNGLYX A HANES LLANDRINDOD. Mae i bobpeth daiarol ei ochr dywell, brudd. Yr oeddwn yn meddwl, y dydd o'r blaen, gynnifer sydd yma hefyd na ddeuant yma byth eto. YIi wir, yr wyf bron a chael digon fy hun ar ddyfod yma. Nis gwn, hyd yn oed pe cawn fyw yn hir, a ddeuaf fi byth eto yma. Mae dyn yn blino ar ddyfod i Ie fel hyn o hyd. Gwell, mi gredaf, ydyw chw.lio &u\ fresh fields and lJastures new." Ond siarad yr oeddwn am yr olwg bruddaidd sydd i'r bywyd Llandrindodaidd yma. Wrth edrych ar y oannoedd sydd yma wedi ymwisgo yn ffaaiynol a defodwych, a rhai o honynt yn meddu ar lawer o olud y byd hwn, mae'n ddigon tebyg—yn nghanol yr olygfa hon, neidia rhan o gyfieithiad yr hen ffardd o Gastell Hywel, o Gray's Elegy, yn fyw i'r cof — Pob rhyw fwyniant a gogoniant A ddibenant yn y bedd." Bydd pawb yn gyfartal isel yn y bedd, y rbai mwyaf thodresgar a welir heddyw yn Llandrindod. CYFEILLION ABSENNOL. Mae yna amryw wyneban hoff a garaswn weled yma, yn absennol y flwyddyn hon, o leiaf, hyd y funyd bresennol. "Cn o'r cyfryw ydyw Po. ROBERTS, YSW., ST. ALBAN's SQUARE, BOOTLE, LIVERPOOL. Cyfurfvddais a Mr. and Mrs. Boberts yma rai troion yn y gorphenol, ac yr oeddwn yn eu hadwaen yn dda yn ystod fy arhosiad yn Lerpwl. Mae Mr. Roberts yn un o'r tri o ddynion caredicaf a gyfarfyddais i yn y byd hyd yn hyn. Brodor o ardal Nantglvn (cymmydogaeth yr hen fardd enwog Robert Davies), ydyw Mr. Roberts, ond yn Bootle y preawylia er's blynyddoedd. Mae yn foneddwr o alluoedd tra amrywiol. Cof genyf fod y Dr. Cynddylan Jones yn ysgrifenu sketch ddarluniadol o'r diweddar Ddr. Saunders i'r Cylchgrawn (Llanelly) (yr oedd hyn luaws o fiynvddau cyn i Saunders farw). Dywedai Dr. Jones am dano ei fod yn wr amrywiol iawn ei alluoedd—y gallesid gwneud meddyg, barrister, neu gyfreithiwr, neu unrhyw beth arall o hono. Dywedaf finnau am fy ngbyfaill Mr. Roberts fod ei alluoedd yn dra amrywiol, yn gystal ag uwchraddol. Mae yn deall amaethyddiaeth yn rhagorol; gwnelai mechanic, medrus; mae yn thorough man of business, er nad oes raid iddo wrth hyny. Dywed ef ei hun nad yw yn liawer o tiaradwr, ond mi goeliaf mai ei ddiffyg ymddiried ynddo ef ei han a bar iddo dd'weyd hyny. Modd bynag, nid yw ef a'i briod serchog yn Llandrindod ar hyn o bryd. Mae amryw o wynebau adnabyddus eraill o'r ddinas ar fin y Ferwy yn absennol oddiyma ar hyn o adeg. Fel y dywedais yn y cychwyn, yr wyf yn yagrifeno mewn ystafell fechan fach, gryn dipyn yn agosach i'r st-r nag yr wyf yn arfer byw, a rhaid i mi aros ar hyn yn bresennol. J. MYPBNYOD MOBOAW. St. Dogmaela.

CWM CLYDACH.

DENOMINATIONAL UNIVERSITIES…

LOUAL NEWS.

TREBOETH.j

GLAMORGAN ASSIZES

jTHE SWANSEA MURDER.

[No title]

, ----.--------"THE CAMBRIAN"')…

SENSATIONAL SUICIDE OF A SWANSEA…

-------------------SOUTH WALES…

Advertising

>---------4 IGLASGOW MUNICIPAL…

[No title]

ILOCAL FIXTURES OF FORTHCOMING…

Advertising

Family Notices