Skip to main content
Hide Articles List

24 articles on this Page

-------. Y GONGL GYMREIG.

EISTEDDFOD ABERTAWE, AWST…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

EISTEDDFOD ABERTAWE, AWST 1 A 2, 1898. BEIRNIADAETH WATCYN WYN AR BRYDDEST GOFFADWRIAETHOL ARGLWYDD ABERTAWE." Y mae tair ar ddeg wedi dod i law ar y testyn. Y mae gweithwyr yr ymadawedigyn cynyg gwobr anrhydeddus am bryddest goffa iddo, ac nid rhyfedd fod cymaint wedi dod allan. Gwaith pur anhawdd yw canu can deilwng ar destyn fel hyn, cadw yr awen o fewn terfynau lledneisrwydd. a chadw y gwrthrych yn y golwg, a chadw y gan yn urddasol-gwaith anhawdd iawn yw canu can deilwng—a gwaith anhawdd iawn yw barnu y caneuon ar ol eu gwneyd. Cofied y cystadleuwyr nad ydym yn ceisio eu rhestru yn ol teilyngdod, ond yn unig gwneyd sylwadau wrth eu darllen, fel y digwyddont ddod o dan ein llygad. Felly heb ragor o ragymadrodd awn at y gwaith o flylwi arnynt felly1 1.—ADSAIN Y Frto.-Pryddiogt lied gyffredin ei thon yw hon. Yr hyn sydd yn ei hanurddo yw llinellau a tbarawiadau rhyddiaetbol a chyffredin —pethau heb fod ar ymyl y ffordd lie mae barddoniaeth yn myned heibio. Nid gwiw cynyg llinellau fel hyn ar lun cerdd:- Ac wrth fod an gan'n claddu y mwyafrif, Mae'n eglur nad yw dagrau neb mewn difrif, Tu allan i derfynau cylch perthynas." Mae'n eglur nad barddoni yw dweyd fel yna Eto CI Fe elwir Abertawe'n dref y mwg Gan rai." Pwy yw y rhai hyny ? Deued un yma os meiddia! Nid rhyfedd ynte fod y lie mor 11 wm." Dyna rai llinellau i ddangos yr hyn sydd yn ddinystr y gan hon. Y cynyg agosaf at farddoni sydd yn y llinell hono sydd yn dweyd fod enw Arglwydd Abertawe "Mewn llythyrenau copr, aur neu arian," yn rhwym o gael ei weled yn y lie. Pryddest gyffredin o ran ei chelfyddyd yw hon. 2.-DAGRAU HAF.—Y maejhonfel cyfansoddiad o farddoniaeth yn rhestru dipyn yn uwch nag eiddo Adsain y Fro." Ceir yma. linellau wedi eu hysgrifenu yn ofalus, a darnau digon di-fai. Yr hyn sydd yn tynu yn ol yn hon fel pryddest goffa yw diffyg swyn yn y darlunian, ac arbenig- rwydd yn y gwaith. Yr ydym yn teimlo heb ein cyffroi, ac yn darllen heb weled y dyn- "Arglwydd Abertawy yn ddigon eglur ac yn ddigon anwyl. Y mae yma a dweyd y Ueiaf lawer darn digon amhertlynafiol-yn wir feallai mai dyna wendid y gerdd. Y mae yn amlwg fod y bardd yn ddigon cyfarwydd ag ysgrifenu llinellau yn corfanu yn dda, ac yn odli yn gywir, ond nid oes yma wres calon, na lleferydd tafod yn teimlo. 3.—MURMUR Y Mou.-Dyma gerdd dra gwahanol i'r un o'r ddwy ydym wedi ddarllen- cerdd a mwy o dan a goleu a bywyd ynddi. Y mae hwn yn cadw o hyd gydag Arglwydd Abertawe, ac y mae yn cadw yr ymadawedig gyda ninau. Gallwn feddwl wrth ddarllen y gan ei foi wedi byw yn nes ato, ac wedi teimlo nerth ei fywyd, a'r golled gafodd y dref a'r wlad ar ei ol, yn enwedig y dref. Y mae yma ddarnau hynod o fyw a chywir, yn rhoi i ni wahanol agweddau yr ymadawedig. Dyma y goreu eto o ddigon. Yr hyn sydd yn anafu ac yn annrddo tipyn ar hon wrth ei hail ddarllen yn fanol yw tarawiadau, neu ddywediadau rhyddiaethol fel hyn "Dyn mawr oedd Abertawe, mawr i gyd." Ond Arglwydd Abertawe oedd yn fawr." Dyn mawr oedd Abertawe, mawr yn mysg Y mawrion oeddynt fawrion oran dysg." Dyn mawr oedd Abertawe gweithiwr mawr." Cristion mawr oedd Abertawe." Paham y rhaid i fardd mor dda, ddweyd pethau mor ilawn o elfenau rhyddiaeth ? 4.-A WEN Y DON.—Can fywiog fanol felus yw hon. Yn wir y mac "Awen y don" yn bur gartrefol yn y gwaith. Y mae yn hon fwy o gyfeiriadau at holl hanes a holl symudiadau ei fywyd nag sydd gan Murmur y mor," ond nid mor gartiefol ac agos feallai. Y mae ei hwyl ai egni yn ei gario yn ei flaen ar gefn llif o awen- nes agos iddo anghofio bod ynffyddlon i'w ffigyrau bob amser. Sonia am gwympo i'r-adwy," ac am wisg o anifeiliaid i'r maes. Can nwyfus a chyflawn a phur gywir ac awenyddol yw hon er hyny. Y mae cryn debygrwydd rhwng Murmur y mor," ao "Awen y don," fel yr awgryma yr enwau. Os dim, can wodi ei gorlenwi yw hi, nes yw yn gadael gormod o argraff y byw-graffydd arnom, er ei fod yn jlwyddo i wneyd hyny yn lIed farddonol hefyd. 5.—ER COY ANWYL.—Can bur gwahanol i'r ddwy olaf a nodwyd. Nid ydym yn teimlo ei bod yn oodi i dir agos mor uchel. Y mae yma gryn dipyn o ol llafur a gofal a manylder, ond nid yw yr awenyddiaeth yr hyn ddylai fod, y mae ton y gan yn gyffredin a; undonog rywfodd. Nid yr un type o gyfansoddiad sydd yma ag eiddo L urmur y mor ac A weD. y d6a," y ma9 yn cerdded tir mwy cyffredin, neu yn hytraoh yn cerdded yr un tir ond gydag osgo llai urddaaol. Dylai y bardd hwn ddysgu barddoni, nes methu dweyd pethau fel dynion cyffredin. Y mae y defnyddiau ganddo, ond yr addurn ar ol. 6.—SWN Y Mop.Cerdd lawn o alar a theimlad yw hon. Y mae y bardd wedi dwyn llafur, a dyngarwch a gwleidyddiaeth a gwyddoniaeth, au cymdeithion cwynfanua i wylo eu colled ar ol yr ymadawedig. Y mae cyfeiriadau y gan yn lluosog, eu defnyddiau yn gyflawn, a'u hawenyddiaeth yn dyner iawn. Y mae hon yn rhe3tru yn uchel yn y gystadleuaetb galed sydd yn cymmeryd lie yma. Perthyna i'r un dosbarth ag eiddo Murmur y mor," ac "Awen y don," y mae y tri fel yn cerdded llawer or un ffordd, ac yn anadlu yr un awyr, ac yn wir yr ydym yn teimlo ei fod yn eu euro, mewn rhai pethau-molis ton Gymreig ei awenyddiaeth ac agosrwydd tyner ei linellau a'r ffordd o drin y testyn, a rhyw deimlad cartrefol hiraethus. Can odidog ragorol yw hon mewn llawer ystyr. 7.—HIRAETH DWYS WRTH Y DO-i.-Can a llawer o ol ymdrech arni-yn wir gormod o ol ymdrech. Y mae yn dod i'r golwg yn ei ymadroddion, yn ei linellau, yn ei eiriau, ac hyd yn oed yn ei fesurau-y mae yn dinystrio rhai o'i benillion yn ein golwg ni, wrth geisio creu effaith gallwn feddwl—dyma sydd yn lladd ei nerth, ac yn lleihau gwerth ei gan. Rhaid i ni gyfaddef yn y fan hon nad yw i fyny a thair o'r caneuon ydym wedi ddarllen, er fod yma lawer penill da, ac ol ymdrech deg. 8.—ERASMUS.—Y mae hwn wedi dilyn gwrthrych y gan yn fanol o fan i fan ac o gylch i gylch drwy ei fywyd, yn wir, y mae wedi gwneyd hyny yn rhy fanol yn fwy tebyg i fywgraffydd nag i fardd yn cofio am dano. Yr ydym yn teimlo y gan yn hynod undonog, Nid oes un darn yn codi un mymryn yn uwch na'r Ilall drwyddi o'r dechreu i'r diwedd. Y mae Erasmus yn gallu ysgrifenu yn lan ac yn gywir, ond nid yw yn gallu barddoni-nid yw ei galon yn gallu myned ar dan, a'i ysbryd yn mam. Can gyffredin yw yr oil allwn ddweyd am hon eto. Nis gallwn ei chanmol, ac nid oes genym amser i'w thrim-yn wir ran hyny, nid oes ynddi ddim yn haeddu ei thrin-pwy a bechodd ? Ai hwn ai ei rieni fel nas genid ef yn fardd ? Ac eto, y mae Erasmus cystal bardd a llawer un aydd yma 9.—FFARWEL 0 DDUWIOL DAD !—Can ryfedd yw hon! Y mae gormod o bobpeth ynddi. Rhaidcaelcan uwch ei safon na hon cyn sefyll cysgod cystadleuaeth y dyddiau hyn. Y mae y bardd yn syrthio i rigymu yn ami, yn lie cadw ar acheldir cerdd. Er engraifft:— Ffrainc a Germany ddysgedig, Gaweant gwmni'r gwr parchedig, Mynai loewi mewn dysgeidiaeth, Mynai ddeall gwir fferylliaeth." Eto Twr gwleidyddiaeth fynai wylio, Mawr oedd cynrychiolydd Truro, Daeth ei sel yn twy i'r amlwg, Pan yn aelod dros Morganwg." Gwasanaethed hyn yna i ddangos ansawdd rhanau o'r gwaith. Y mae a dweyd y lleiaf yn disgyn yn rhy isel. Dysged y oystadleuydd hwn farddoni ffeithiau, ac nid eu rhigymu. 10.—YSBRYD MORGANWG.—Rhaid i ni ddweyd eto mae can hollol gyffredin o ran syniad a chelfyddyd yw hon. Gallwn ddyfynu ei llinellau agoriadol yn engraifft deg o natur y gerdd:— Arglwydd Abertawy fu farw yn sydyn- Yn Singleton Abbey lie ganwyd e'n blentyn, Ei oes ar y ddaear fu saith deg a phedair, Mae'n byw mewn byd heddyw nad oes cyfrif amser." Buasai hynyna yn ddigon i ambell un, ond aethom ni yn ein blaen drwy lawer o linellau nea eu cael o byd yn ddigon tebyg o ran ansawdd, ac yn ddigon i ddangos safle y gan. Gwrandawer arno yn son am ei godiad i'r Dy'r Arglwyddi:— Fe gafodd ei godi i'r cylch pendefigol, Nis cawaid gwell Arglwydd yn mysg yr hil ddynol, Fe lanwodd ei safle mewn mawredd ac urddas, 'Roedd yn y rhea flaenaf yngbyfrif cymdeithas." Eithaf gwir, ond gwir wedi ei ddweyd yn hynod fldi urddas, ac heb ddim yn bendifigaidd o'i gylch. 1 11.—BLODAU'R PALJIWYDD.—Can weddol 0 ran teilyngdod yw hon. Y mae hi yn cymmeryd ei lie rhwng y ddau ddosbatth sydd wedi eu hanfon i'r gystadleuaeth hon. Y mae yr awdwr yn dangos digon o gyfarwydddeb a'i destyn, ac wedi cerdded digon o dir a chrynhoi digon o fater, ond rywfodd nid yw wedi ei yabrydoli i'r graddau y mae rhai wedi eu gwneyd yn yr ymdrech hon. Y mae yn tueddu i fanylu dipyn yn ddiafael ambell benill, ac nid oes digon o urddas ac arucheledd arddull a chelfyddyd yn y gan i sefyll yn uchel yn mysg ei gydy mgeiawyr. 12.-MuRMU R TAWE.—Canfachgyson undonog a lied egwan yw hon. Y mae ei holl benillion braidd yn debyg o ran gwerth, ao yn gydwastad o ran mater a chelfyddyd ac egni. Rhaid i ni ddweyd wrtho nad yw yn codi yn agos at rai yn y gyatadleuaeth hon. Nid yw yn hapus yn ei ddewisiad o fesurau, nac yn newid ei fesur bob amser. Pan yw bardd yn newid mesur mewn can, dylai wneyd hyny a'i lygad yn agored, a'i wneyd i'r amcan goreu, ac i gyraedd yr effaith oreu, yr hyn nis gellir dweyd am "Murmur Tawe." 13.-AWDWR WYF FI O'R DREF HON.—Dyma gan yn pertbyn i'r dosbarth blaenaf yn y gystadleuaeth. Y mae hi yn llawn o ryw swyn, ac y mae egni yr awenydd i'w deimlo yn ei darawiadau cryfion. Nid yw wedi manylu ar holl hanes bywyd yr ymadawedig, ond y mae wedi dangos i ni Arglwydd Abertawe mewn agweddion cartrefol a gwerthfawr iawn. Can dda dros ben ydyw o ran defnyddiau ac ysbryd ac amcan. Gallasai, a dylasai yr awdwr fod yn fwy gofalua gyda'i gelfyddyd a'i weithiad allan, yr ydym yn teimlo rhai o'r llinellau dipyn yn afrosgo, ac ambell ddarn ag ol brys neu argraff difaterwch arno. Rhaid i ni ddweyd er hyny ein bod yn hoffi y gan, a'i bod yn hawlio lie uchel yn mysg y goreuon yn y gystadleuaeth. Ar ol darllen yr oil fel yna, y mae yn amlwg fod yma bedair yn rhagori, sef eiddo :—" Awdwr wyf fi or dref hon," Murmur y Mor," "Awen y Don," ac eiddo Swn y Mor." Yn wir gorfu i ni ail a thrydydd ddarllen y rhai hyn, a tbeg yw dweyd i ni ofyn help un o feirniaid mwyaf cyfarwydd Cymru i ddal y fantol. Ar ol pwyso a mesur, ac ail bwyso ac ail fesur, yr ydym yn cael yr un yn troi i fyny o hyd fel can dyner agos a hollol Gymreig ei thon a'i chelfyddyd. A rhaid i ni heb Oil na pbryder gyhoeddi hono yn oreu ac yn deilwng, sef eiddo "Swn y Mor." WATCYN WYN. Gwynfryn, Ammanford, Gorph. 22iin, 1898.

WESLEYANS AND THE DRINK TRAFFIC.

NEXT WEEK'S GRAND CONCERT.

RE-VALUATION OF SWANSEA.I

SWANSEA EVENING CONTINUATION…

THE TRADE OF THE PORT AND…

[No title]

--------__---" THE CAMBRIAN"!

,MUMBLES.

LLANDRINDOD WELLS.

LLANDILO.

LOCAL NEWS.

-_--_--------_-----------------(SomspotiHence.

THE MORALS OF THE STAGE.

SOUTH WALES STOCK ANDI SHARE…

Advertising

[No title]

Advertising

[No title]

RHONDDA & SWANSEA BAY RAILWAY.

LOCAL FIXTURES OF FORTHCOMING…

Advertising

Family Notices