Skip to main content
Hide Articles List

24 articles on this Page

-------. Y GONGL GYMREIG.

News
Cite
Share

Y GONGL GYMREIG. LLYTHYR AT GYMRY'R CAMBRIAN. ADEG a thywydd i ddefnyddio rhaca a ffon ddwybig yn y cae gwair a'r ydlan yw hi yn bresennol, ac nid i ddefnyddio yr ysgrifbin, yn enwedig i ddyn fyddo'n byw yn nghanol gwlad, fel y mae eich gohebydd ond y mae rhai o honom yn ymwneud tipyn a phob un o'r ddau (chwedl Deio Aaron gynt, pan ofynid iddo pa un ai caws ynte ymenyn a gymmerai fara), sef a'r rhaca ac a'r ysgrifbin. GAIR ETO AM YR EISTEDDFOD. Tra yr wyf yn ysgrifennu hyn o linellau ar lan y Teifi lwys, eef yn hwyrddydd dydd Gwener mae eisteddfod fawr Caerdydd yn prysur dynu at ei therfyn. Nid wyf hyd yn hyn, wedi cael arfod i ddarllen banes ei gweithrediadau amryfal & rhyfe.ld gyda dim manylrwydd. Ond yr wyf wedi cael yr hyn a eilw'r Sais yn birds' eye view ar rai o'r prif bethau a gymmerasant le yn Nghaerdydd yn ystod yr wythnos sydd bron terfynu. SABEL 0 OTMMTSGFA CENHKDLOEDD. Difyr ydoedd darllen am gydgyfarfyddi&d cynnrychiolwyr cynnifer o barthau a chenhedloedd, o Ffrainc, yr Y nys Werdd, Ynys Manaw, &c. Hyderaf fed eu calonau yn agosach perthynaaau na'n tafodau. Fel arall, yaywaeth, y mae yn fwyaf cyffredin gyda phlant dynion. Wel, mi hyderaf y daw daioni o'r ymgyfath- rachiad hwn a fu rhwng y tylvrythau Celtaidd yn Nghaerdydd ddyddiau yr eisteddfod. YR ORACL YN SIARAD UNWAITH ETO. Gwelwn fod annerchiad Mr. Maelaen, A.S., wedi rhoddi boddlonrwydd dirfawr i'r Western Mail, ac i Morien hefyd. Dywedodd yr ysgotyn uchod yn ei annerchiad o'r gadair ryw eiriau i'r perwyl nad oedd efe yn credu y byddai i'r ymddeffriiad Uenyrldol presennol yn Nghymru ddwyn ei waith ymlaen trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Ymddengy3 mai mt.1 ar fara" adolygydd golygyddol y Mail ydoedd syniad felly. (Gyd* llaw, gwelir fod me I y Gymraeg yn meddu yr un sain a Mail y Saesneg: mae'n debyg y cofia'r darllenydd p run yw p run, er bynv). Modd bynag, byddai'n fuddiol cofio, os bydd y Gymraeg a'i llenyddiaeth farw, ryw dro, yn y dyfodol draw, na byddant farw ddiwrnod yn gynt er mwyn boddioyr Aelod Seneddol droa Gaerdydd, a rhywrai eraill sydd yn ei wasanaeth. SEISNIGEIDDIO YR EISTEDDFOD. Hen gwyn yn Nghymru ydyw fod 11 wyf an yr Eisteddfod Genedlaethol yn myned yn llaweT rhy Seisnig. Ond dyweder a fyner, parhhau i fod yn rhy Seisnig y mae yr eisteddfod o hyd, ac mi goeliaf i wyr Caerdydd ar yr achlysur presennol ei gwneud yn fwy Seisnig nag erioed. LLYWYDDION SEISNIG. Paraidcyrchu arglwyddi a barwniaid Seisuig i lywyddu oynnulliadau Cymreig? Paham na buasai pwyllgor Eisteddfod Caerdydd yn pennodi Esgob Tyddewi, y Barnwr Williams o'r Miakin( Mr. Lloyd George, A.S., a Mr. S. T. Evans, A.S. i fod yn llywyddion ar rbai o brif gyfarfodydd eu heisteddfod? Ainid attebent y dyben yn llawer gwell na rhai o'r gwyr a bennodasant ? Rhaid i mi addef iddynt wneuthnr yn gall wrth bennodi Mr. O. M. Edwards, A.S., a Mr. Isambard Owen, i lywyddu yn rhai o'r cyfarfodydd. Ond dylasent roddi lie llawer mwy prominent nag a roddasant i'r ddau Gymro athrylithgar uchod. EISTEDDFOD HEB BRIF-EARDD A PHRIF DRAETHODWR. ^Eisteddfod dra rhyfedd mewn amryfal ystyriaethau a fu un Caerdydd. Er y cynnygid gwobr dda, a chadair hefyd, am Awdl ar y diweddar Mr. Gladstone, synned y byd, nid oedd un o'r chwech cystadleuwyr yn deilwng o gael ei gadeirio. Galleaid meddwl y buasai'r ffaith taw Mr. Gladstone oedd testun pennodedig yr Awdl yn ddigon i sicrhau hanner dwsin o leiaf, o gyfansoddiadau teilwng. Yr oedd yr hen wron mor dra phoblogaidd yn Nghymru yn byw yn Sir Fflint, a'i wraig yn Gymraes yr oedd yn gymmeriad mor dra rhagorol—yn wr o athrylith mor fawr ac amlochrog, ac heblaw hynny, y mae cynnifer o fyw-graffiadaa iddo wedi eu cyhoeddi, hanes mor hysbys. Ac, er hyn oil, nid oedd un yrageisydd teilwng o'r wobr ar faes y gystadleuaeth hon Digwyddodd yr uu fath yn Eisteddfod Genhedlaethol Aberystwyth tua 1865, ac yn un Dinbych flynyddoedd wedi byny, loG mae'n ymddangos i hyn ddygwydd yn flaenorol yn Nghaerdydd tuag 1883. So, history repeats- itself. Fel yr awgrymwyd eisoes, yr un modd y digwyddodd gyda'r PRIF DRAETHAWD yn Nghaerdydd. Cynnygid gwobr o £120 am draethawd yn dangos ymchwiliad i mewn i lenyddiaetb Gymreig, neu ryw eiriad cyffelyb. Ymddengys i mi fod cryn lawer o amwysedd o gwmpas testun o'r fath yma. Ymddengys y pwyllgor fel pe na buasent yn gwybod eu meddwl eu hunain yn iawn—pa beth a ddysgwyliant gael oddiwrth yr ymgeiswyr. Ac os felly y mae, pa fodd y gan yr ymgeiswyr wybod pa beth i'w barotoi ? PRYDDEST Y GORON. Os na chadeirwyd, fe goronwyd, yn Nghaerdydd. Yr oedd gan yr" Orad" erthygl go hir, y dydd o'r blaen, ar bryddestau y goron. Prin iawn oedd canmoliaeth y critic hwn i neb o'r ymgeiswyr. Math o bregethau neu draethodau duwinyddol oedd eu cyfansoddiadau, meddai ef. Beio y testun, yn awr, yr oedd y critic hwn, ac nid beio y beirdd a ganent arno. Megis y mae yn hysbys i'r cyhoedd, y testun ydoedd Y Dyddanydd Arall." Pa fai, tybed, oedd ar y testun? Mi ganiattaf na buasai sosin neu agnostic yn hoffi canu arno. Ond i unrhyw fardd sydd yn coledd yr hyn a elwir yn "athrawiaeth iachus," yr oedd y testun yn un gwir arddunol a dyrchafedig ac mi feiddiaf ddywedyd hefyd ei fod yn un tra amserol. Pa beth, gan hyny, oedd yn anfanteisiol i feirdd Caerdydd yn y testun godidog hwn ? Os dadleua beirniad y Mail mai am ei fod yn destun athrawiaethol neu Dduw- inyddol yr oedd yn anfanteisiol, dymunaf ofyn iddo beth a feddylia efe am destyn arwrgerdd fawr John Milton? Y gwirionedd ydyw, mae y Mail yn honi gormod o awdurdod i benderfynu gwahanol faterion. Megis y dywedid am John Elias, pan gyfodai ei law ac y gosodai hi i lawr, byddai hyny yn derfyn ar bob dadl bellach o barthed i'r cwestiwn fyddai ganddo mewn llaw. Modd bynag, mae'r Mail ym mhell o fod yn gymmaint o awdurdod ar farddoniaeth Gymreig ag oedd John Elias ar bynciau mawr a neillduoi y pwlpud yn Nghymru. MISS AMY EVANS, TONYPANDY. Dau wasanaeth mawr, o safbwynt ymarferol, a wna yr eisteddfod i'n cenedl. Y naill ydyw cynnyrchu chwaeth a theimlad llenyddol a cherddorol yn ieuenctyd Cymru. Credaf, yn ddi-sigl ei bod wedi gwneud llawer yn y ffordd o roddi gogwydd a thon ddyrchafedig a hapus i feddyliau y Cymry ieuainc. Cofns genyf glywed y Principal Rhys o Rydychen, yn gwneud y sylw mewn darlith a draddodaa yn hen y?goldy enwog Ystrad Menrig yn Ngheredigion flynyddau yn 01 fod dosbarth o ddynion i'w cael yn Nghymru a ymyrent gryn lawer mewn materion dealla.wl a llenyddol, y rhai nad oedd eu cydradd yn Lloegrr yn cymmeryd unrhyw ddyddordeb o gwbl ynddynt. Hawdd gweled, ar unwaith, mai gwirionedd hollol yw y sylw uchod o eiddo ein cyd-wladwr dysgedig, a llawn mor hawdded a hyny ydyw gweled fod gan yr eisteddfod a'r cyfarfodydd llenyddol Cymreig lawer iawn i'w wneud yn nglyn a rhoddi bod i'r gwahaniaeth uchod a fodola rhwng y gwerinwr Cymreig a'r gwerinwr Seisnig. Ond yr ydym i ddiolch i'r eisteddfod am wasanaeth pwysig arall a wna o bryd i bryd i'n cenedl hoff. Dywed y ddiareb Gymreig mai YM MHOB GWLAD Y MEGIR GLXW." Ond gwaith tra anhawdd, yn fynych, yw cael gafael yn y glewion hyn. Mae rhai o honynt yn byw mewn tlodi a dinodedd heb neb i'w hanwesu, i ddyweyd gair caredig wrthynt, ac i'w tywys yn y blaen. Sut y canodd Dafis, Castell Hywel, yn ei gyfieithiad o Gray's Elegy ? Rywsut fel hyn, onide Y mae rhai o'r perlau pura', Glana'u lluwiau is y llo'r, Dan y tonau'n nghudd rhwne creigiau, Yn ngwaelodion dwfu y mor." Yr anhawsder ydyw cael gafael yn y perlau hyn, a'n codi i'r wyneb. Wel, dyna un o negesau mawr yr eisteddfod- CAEL GAFAEL YN Y PERLAU. 'Does wahaniaeth yn y byd pwy fyddant- beth fydd eu hacbau na'n gradd. Yr unig sine qua non o bertbyuas iddynt yw eu bod yn meddu ar dalent ddysglaer. Mae'r eisteddfod wedi bod o wasanaeth rhagorol yn y wedd hon. Ei phlant hi ydoedd Miss Edith Wynne, Miss Watts, Mrs. Gwynfil Davies, a llÜaw8 eraill. Wel, fe ymddengys fod eisteddfod Caerdydd wedi gwneud un darganfyddiad pwysig, sef dyfod a'r eneth ieuanc Amy Evans, o Donypandy, Cwm Rhondda, i sylw. Fe allai, wedi yr holl dwrw a'r funs yn nghylch y Pan-Celtic Conference, y cystadleuaethau barddonol, rhyddiaethol, celfyddydol, &c.-fe allai, meddaf, mai gwaith mawr a phenaf yr eisteddfod hon ydoedd .bod yn achlysur i'r eneth ieuanc uchod ddyfod i sylw y cyhoedd am y tro cyntaf oil, ar raddfa eansr a phwysig. Rhwydd hynt, ynte, i'r llances ieuanc hon, o Gwm Rhondda, fyned yn ei blaen- Yn uwch, uwch, uwchach yr el, Dringed i gadair angel," meddaf fi, ond caffed aros tymmor go lew ar y ddaiar i ddyddanu ac adeiladu ei chydfeidrolion cyn y cyrhaeddo i'r gadair ucbel bono. FFURFIAU A SEREMONIAU YR ORSEDD. Creadur rhyfedd yw dyn, wedi'r cyfan. Mae gwendidau lawer yn y dynion goraf, ond, bid sicr, mae llawer ychwaneg mewn rhai na'u gilydd. Myn'd i ddyweyd gair yr wyf yn awr o barthed i wisgoedd a defodau yr Orsedd. Mor hoff o wisgoedd ac o deganau o bethau ydyw dynion- dynion yn eu llawn faintioli-dynion ag ydynt nid yn unig yn meddu ar common sense da, ond hefyd ar dalent, a rhai o honynt ar athrylith. Pa fodd y mae cyfrif am y ffaith fod dynion ag ydynt yn Brotestaniaid selog yn y pwlpud ac ar y llwyfan ar Sul, gwyl, a gwaith—dynion ag ydynt ar dan, f eddy lid, yn erbyn Pabyddiaeth, ar bob adeg arall-eto, pan gant eu hunain o fewn i sawyr eisteddfod ac o fewn ychydig bellder i'r maen 11 og a'r cylch cyfrin yn troi yn ddefodioyr mor gryf a rhonc ag un Pabydd o'rWerddon, neu rywle arall. 'Dyw Uinyn fy rheswm i ddim lyn ddigon hir i blymio i ddyfnder miir yr anghyssondeb hwn. A rhag iddo dori, mewn ymdrech mor galed, ni ollyngaf ef i lawr o gwbl. Tybiaf fy mod wedi dyweyd digon, am yr wytbnos hon beth bynag, ar bwnc Eisteddfod Caerdydd. Hyderaf y daw daioni o honi gan nad faint ei hammherff eithderau. J. MYFENYDD MORGAN. St. Dogmaels.

EISTEDDFOD ABERTAWE, AWST…

WESLEYANS AND THE DRINK TRAFFIC.

NEXT WEEK'S GRAND CONCERT.

RE-VALUATION OF SWANSEA.I

SWANSEA EVENING CONTINUATION…

THE TRADE OF THE PORT AND…

[No title]

--------__---" THE CAMBRIAN"!

,MUMBLES.

LLANDRINDOD WELLS.

LLANDILO.

LOCAL NEWS.

-_--_--------_-----------------(SomspotiHence.

THE MORALS OF THE STAGE.

SOUTH WALES STOCK ANDI SHARE…

Advertising

[No title]

Advertising

[No title]

RHONDDA & SWANSEA BAY RAILWAY.

LOCAL FIXTURES OF FORTHCOMING…

Advertising

Family Notices