Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

Y GONGL GYMREIG.

News
Cite
Share

Y GONGL GYMREIG. LLYTHYR AT GYMRY'R CAMBRIAN. WTTHNOS TR EISTEDDFOD. Fel pobpeth y byd hwn, dyma wythnos hir- tldisgwyliedig Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, o'r diwedd, wedi dyfod, a heddyw ydyw diwrnod cyntaf yr wyl fawr. (Cofier fy mod yn ysgrifennu fore dydd Mawrth.) Dywenydd genym weled fod heulwen haf yn gwenu ar yr eisteddfodwyr; a bod natur yn holl wychder ei gwisgoedd megis yn ceisio denu dynion i Gaerdydd. Gallasai fod fel arall-yn wlyb ac oer, fel ag i gadw pobl ym mhell o Gaerdydd, yn hytrach na'u denu yno. DIM PBOPHWT DOLIAETHAU. Ynglyn a'r eisteddfod hon, sydd newydd gael ei hagor, nid wyf wedi digwydd clywad na darllen unrhyw brofIwydoliaethau yn nghylch sut y mae pethau i droi allan ynddi—megis pwy fydd bardd y gadair, a phwy fydd bardd y goron, a'r prif draethodwyr, etc. Fel rheol, ynglyn ag eisteddfodau mawrion Cymru, bydd PBOPHWYDI BAAL yn cymmeryd arnynt ein hysbysu, wythnosau a misoedd ym mlaen llaw, pwy fydd y buddugwyr yn y prif gystadleuaethan llenyddol. Ond bu distawrwydd mawr y flwyddyn hon. A fu y beirniaid a'r cystadleuwyr yn fwy tawelog nag arfer-sut mae cyfrif am beth fel hyn, tybed ? Modd bynag, bydd y secret i gyd wedi eu dadlenu ym mhell cyn yr awr hon wythnos i heddyw. Ac nid yw yn annhebyg y bydd ami un yn d'weyd yn ddistaw rhyngddo ag ef ei hun, oa nad ar g'oedd gwlad hefyd, "l\IY}'I GAFODD GAM." Hen arwyddair ystrydebol cystadleuwyr aflwyddiannus trwy yr oeeoedd, ydyw yr uchod. A chwareu teg i'r cystadleuydd aflwyddiannus, cryn beth ydyw methu cyrbaedd y nud ar ol misoedd o lafurio caled, o golli cwsg a phryderu. Dyna'r drwg sydd mewn cystadleuaeth mae'n berygl iddi wenwyno a suro natur foesol dyn. Diameu ei bod wedi gwneuthur peth felly lawer tro. Ac, megis y gwyr y cyfarwydd, mae camwri ofnadwy wedi ei wneud, lawer tro. A wado hyn aed ii hi, A gwaded i'r haul godi." Gwnaed camwri dirfawr ag awdl Elusen- garwch" y Gwyn o Eifion, pan wobrwywyd cyfansoddiad y Dryw yn lie cyfansoddiad y gwr "Gwyn." Gwnaed y cyffelyb gam lawer tro wedi hyny. Pa ryfedd, gan hynny i rai o wyr goreu y genedl, o amser bwy gilydd, droi eu cefnau ar yr eisteddfod. Modd bynag, gobeithio mai "y GWIR YN ERBYN Y BYD" fydd hi yn Nghaerdydd, ac nid y byd yn erbyn y gwir felly y mae hi, yn llawer rhy fynych, yn y byd brith presennol. YR AWDL A'R BRYDDEST. Y DDWY-BLAID MEWN BRWYDR. Y WESTERN MAIL" YN GANOLWR Swn y rhyfel sy'n y byd 'rwyf ynddo'n byw," meddai Pantycelyn. Ymddengys fod y beirdd Cymreig yn anghyttuno y dyddiau hyn, ond gobeithio nad aiff hi ddim "o ymdaern i ymdaro, ac o eiriau i arfau" (chwedl yr hen Theophilus Evans yn Nrych y Prif Oesoedd "). Asgwrn y gynhen oresennol ydyw y cwestiwn pa un a ddylid cyfyngu testun y gadair i'r Awdl neu beidio. Myn un dosbarth o feirdd gyfyngu y gadair i'r Awdlwyr yn unig, tra y myn eraill mai teg a doeth fyddai taflu y gadair at drugaredd a dawn yr Awdlwyr aVPryddestwyr. Ymddengys fod y beirdd yn myned i gynnal math o gynnadledd er setlo'r cwestiwn hwn, yn Nghaerdydd. Gwelaf fod pobl Lerpwl wedi setlo'r cwestiwn hwn drostynt eu hunain, trwy roddi testun y gadair yn eisteddfod y flwyddyn nesaf, yn rhydd at ddewisiad yr ymgeisydd gall fod y cyfansoddiad yn Bryddeat neu yn Awdl. Ond yn awr ynte am farn YR ORACL 0 GAERDYDD. Ceir yn ngholofnau hwn am un o'r dyddiau diweddaf fath o erthygl olygyddol ar bwnc cynen y beirdd. Ac mewn difrif, ni ddarIlenlli, i mewn papyrnowydd ddimbyd mwy egwan neu ddi-bw)'°t nemawr erioed. Cyn myned ym mhellach, dymunaf ofyn pwy a osododd y Western Mail i fod yn farnwr neu ganolwr ar fater o'r fath yma r Ai enghreifft arall a gawn yma o'r hyn a alwai Mr. Owen M. Edwards, A.S., yn Gospelof Cheek mewn erthygl yn Wales, gwrs o amser yn ol? Gwrandawer ar yr oracl yn siarad-" The question is priniarily one that affects the Wehh bards, but it is of considerable importance also to the Welsh people generally, as upon the decision arrived at much of thefutire of Welsh literature depends." Of coret7erable importance," yn wir! Pa m$(>rlance i Welsh literature sydd :"ewn peth felly ? Pwy sydd yn hidio llawer am Awdlau hirfeithion a gynnyrchir yn y blynyddau, hyn, a phwy sydd yn eu darllain? CONSERVATIVE AND LIBERAL PARTY IN WELSH LITERATURE." A yw y Western Mail mor dra pholiticaidd fel y mae yn rhaid iddo roddi lliw ac enw politicaidd i bethau nad oes gwleidyddiaeth, fel y cyfryw yn perthyn iddynt o gwbl ? Gallaswn feddwl ei fod, gan mai o hono ef y dyfynais y frawddeg uchod. Gwelaf fod yr erthyglwr ym mhapur Caerdydd yn suddo'n ddyfnach yn ei gamwedd a'i gyfeiliornad fel y mae yn gwresogi gyda'i fater ac yn tynu at y diwedd. Dymafel y dywed, mewn un man :— A man who does not lenow 'cynghanedd' cannot possibly understand, much less enjoy, Dafydd ap Givilym." A glywodd neb fwy o ffwlbri erioed ? Beth sydd a wnelo ystyr geiriau barddoniaeth Dafydd ap Gwilym, neu unrhyw fardd arall, a chynghanedd y geiriau?" Nid ydyw meddwl y gair yn rhwym wrth ei gynghanedd. Gwell, dybiwn i, fyddai i'r ysgrifennydd hwn fyned ym mlaen, a dyweyd:— "A man icho does not ltnow cynghanedd' cannot possibly understand, much less enjoy, some of the articles in the 4 Western Mail.' CONFUSION ON THEIR BANNERS WAIT!" Yr uchod yw y fendith a gyhoedda papyr Caerdydd uwchben y gwrth-awdlwyr. Gwelir fod y gwr, pwy bynnag ydyw, a'i holl enaid yn y gwaith o amddiffyn y gynghaoedd a'i gogoniant. Wel, peth dymunol iawn yw math neillduol o gynghanedd mewn barddoniaeth a bywyd, er i'r anfarwol Goronwy Owen ysgrifennu mai po rhyddaf y mesur, goreu oil y dylai y farddoniaeth fod. Ond dyna, beth oedd medr a phrofiad Goronwy, druan, o'u cymharu a'r eiddo y gwr mawr sydd yn ysgrifennu ym mhapyr Caerdydd-the would- be metropolis of Wales ALLTUD EIFION. Enw tra adnabyddus mewn cylchoedd fferyllol, llenyddol, a barddonol yw yr uchod. Robert Ietac Jones, Tremadog, yw ei enw arall. Mae, erbyn hyn, mewn gwth o oedran, ac yn gorfod rhoddi y goreu i grwydro ym mhell oddicartref. Parhaodd i ddilyn cynnulliadau yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddau lawer, ond gwelaf nad yw yn teimlo yn ddigon cryf i ymgymmeryd a'r daith i Gaerdydd yr haf presennol. Mae yr hen Alltud hynaws wedi cyflawni swm owaith llenyddol yn ei ddydd. Efe ydoedd golygydd a chyhoeddydd Bcmer y Groes, Y Brython, &c., ac y mae wedi ysgrifenu twysged o nodiadau a chrybwyllion hynafiaethol i golofnau F Gwalia, Y Llan, a chyhoeddiadau eraill. A blin ydyw gorfod dyweyd na thalodd ei anturiaethau llenyddol iddo drostynt eu hunain, mewn ystyr fydol. Rhy ychydig o sylw, mi goeliaf, sydd yn cael ei wneuthur yn ein plith o ddynion sydd wedi gwasauaetku eu gwlad a'u ceneal yn ddistaw ac egniol, am flynyddau lawer. EISTEDDFODAU GLANAU'R TEIFI. Megis y mae yn ddigon hysbys i bawb o ddarllenwyr y papyrau Cymreig, fe gynhelir yn Nghymru bob blwyddyn liiaws o fan eisteddfodau heblaw yr un Genhedlaethol. Cynelir lliiaws o'r eyfryw wyliaa y Nadolig, y Calan, y Pag, ac ar adegau eraill. Parhii rhai o honynt dros ddeuddydd neu dri, ond y mwyafrif mawr o'r eyfryw, Did ymestynant dros fwy na diwrnod. Diameu fod y man gyfarfodydd hyn wedi ac yn gwneud llawer iawn o les, o fewn en cylch neillduol hwynt eu hunain. Math o Intermediate Schools yw y man eisteddfodau hyn rhwng y cyrddau llenyddol byohain bach a'r Eisteddfod Ganhedlaethol fawl-øef University College y gweithiwr Cymreig llengarol a. roberddorol. Wels j nid yw Dyffryn prydferth yt Teifi wedi bod yn i brin o'r eisteddfodau lleol '.ayn; a diameu fod 61 y cyfryw i'w weled heddyw ar rai o'r gwyr grymus a gyfodwyd yA y parthau hyn. Mae amryw o'r cyfryw yn 7yw heddyw, ac eraill wedi huno. Ym mhlith y cyfryw, geliid enwi y ddau frawd enwog, y Pavchn. Os"ian ac Eynon Davies, o Lundain, y rhai ydynt y fath addurn i'r pwlpud Cristionogol. Dyna hefyd y diweddar loan Emlyn, lago gmlyn, Myfyr Emlyn, Rhys Dyfed, Cunllo, loan Cunllo, ac amrywiol eraill. Nid oes ddadl na ddarfu i'r eisteddfodau lleol wneuthur eu rhan i dynu allan ddoniau a galluoedd y gwyr hyn, pan oeddynt yn llanciau ieuainc bochgoch, cyn myned o honynt erioed oddicartref, i randir y Sais a'r estron. Wel, y mae eisteddfod i'w chynnal yn NHREF HYNAFOL ABERTEIFI yr haf hwn eto, sef ar y 23ain or mis nesaf. Cafwyd eisteddfod wir lewyrchua a phoblogaidd yno yr haf diweddaf. Nis gwn pa fodd y try yr un nesaf allan. Yr oedd cadair yn cael ei chynnyg i'r bardd goreu yno yn '98, a chafwyd cystadleuaeth gampus ar Bryddest y Gadair, yn gystal ag ar destynau eraill. Ond eisteddfod gerddorol yn benaf fydd yr un nesaf. Cynnygir ynddi wobrwyon lied uchel am y dadganiadau corawl, pedwar goreu. Hyderwn y bydd yn llwyddiant. Y flwyddyn nesaf bwriedir cynnal eisteddfod fawreddog YN NGHILGE3RAN. Gwyr y cyfarwydd nad yw Cilgerran ym mhell o dref Aberteifi. Mae yn lie pwysig mewn hanesiaeth, hen a diweddar. Mae yno weddillion hen gastell ardderchog, uwchlaw yr afon Teifi. Brodorion o Gilgerran oedd y diweddar Barch. Thomas John, y seraph-bregethwr byr-hoedlog, a'r Parch. Wm. Morris, gwedi hyny o Dy Ddewi Da genyf ddeall fod yr ysfa lenyddol yn aflonyddu preswylwyr y pentref dyddorol hwn. Anhawdd dyfalu pa symbyliad a all eisteddfod ]*!ol roddi i ryw lane neu lances athrylithgar pan ar drothwy bywyd. Y DIWEDDAR E8GOB THIBLWALL. Bum i y dyddiau diweddaf hyn, yn dal ychydig gymundeb ag ysbryd y gwr mawr uchod, yr hwn, er wedi marw er's llawer blwyddyn sydd yn llefaru eto," ac a bery, fel y credaf, i lefaru mewn canrifoedd i ddyfod. Llonaid cyfandir o ddyn ydoedd yr hen Thirlwallfawr. Am ychydig iawn o ddynion y gellir dywedyd peth felly. Nid yw yn beth ryfedd cael llonaid ty, neu eglwys, neu gymmydogaeth, o ddyn. Ond am Thirlwall, yr oedd ef yn llonaid cyfandir. Y gyfrol o'i weithiau ag y bum yn ei darllen, y dyddiau diweddaf hyn, ydyw yr hon a elwir yn ESSAYS, SPEECHES, AND SERMONS, BY CONNOP THIRLWALL, D.D." wedi ei golygu gan yr hwn sydd yn awr yn E.-gob Caerwrangon. Yn y gyfrol hon, ceir rbai o annerchiadau ac erthyglau mwyaf nodu.eddiadol y prelad gwir ddysgedig-rhai o'r gweithiau lie y ca gyfleusdra i daflu allan fwyaf o'i egni meddyliol ac o'i fawrfrydigrwydd moesol. "THE IRISH CHURCH" ydyw testun un o'i areithiau, yr hon a draddododd yn Nhy yr Arglwyddi ar y 15fed o Fehefin, 1869. Annerchiad arall campus o'i eiddo yw yr un ar The Present State of Relations between Science and Literature," yr hwn a draddodyd o flaen y Royal Institution of South Wales yn y flwyddyn 1866. Un o'r pethau ag y daw mwyaf o'i nerth a'i eofndra moesol yn gystal ag o'i graffder meddyliol eryraidd i'r golwg yw ei lythyr at Archesgob Canterbury o barthed i Episcopal Meeting y flwyddyn 1867. Teimlir wrth ddarllen y llythyr nad oeddar ei awdwr galluog unmymryn o ofn yr Archesgob. Wrth gwrs, nid yw yn herio, ond y mae mor fedrus mewn casglu at eu gilydd ac mewn defnyddio, rhesymau yn erbyn cynnal yr Episcopal Meeting hwnw, fel y gorfodir y darllenydd i deimlo mai Thirlwall ydyw yr arwr mawr yn y ddadl. Yr oedd mawreddyn Thirlwal PAN YN llDDEG OED. A welaist ti, ddarllenydd, y gyfrol fechan o'i weithiau a gyhoeddwyd, pan oedd ef yn llddeg mlwydd oed? Cof genyf i mi gael golwg arni liiaws o flynyddoedd yn ol. Y plentyn yw tad y dyn," byth a hefyd. Ond, oiid, er boll ddysg, 3:111u, a dylanwad Thirlwall fawr, mae, er's llawer blwycldjT1 bellach, wedi myned i dy ei hir gartref." J. MTFENYDD MORGAN. St. Dogmaels, YR IAITH GYMRAEG. [O'r Geninen, Gorph., 1899.] laith hoffus, glodus, iaith glyd-iaith dda, fawr, Iaith firain a nyfryd, Iaith hyfwyn a choeth hefyd, Prif iaith beirdd, puraf iaith byd. Lleweni. EVAN DAVIES. Un flasusiawn yw Y GENINEN" am y chwarter hwn. Cydsyniwn i'r blewyn a Mr. Beriah Gwynfe Evans yn ei erthygl dyddorol a galluog ar Tom' Ellis a'r Deffroad Cymreig," pan y dywed-" Nid oes gwersi bywyd Mr.' Ellis i'w cael-am y rheswm syml na fu 1 Mr.' Ellis mewn bod. Nid adwon Cymru 1 Mr.' Ellis o gwbl. Tom oedd ef yn blentyn yn mhlith ei gyfoedion; Tom' yn y coleg yn mhlith ei gyd-efrydwyr; Tom' fel ymgeisydd yn mhlith etholwyr Meirion Tom' fel Aelod Seneddol yn mhlith ei gyd-aelodau o Gymru; Tom' fel Chwip y Blaid, nid yn unig i'w gyfeiilion anwylaf, ond i bob aelod o'r Ty. A dyma nodwedd gyntaf anwyld-dyn Cymru mae fel Tom' y dechreuodd, y rhedodd, ag y gorphenodd ei yrfa, ac mae fel' Tom' y cofier byth am dano. Nid oes o fewn y genhedlaeth hon ddwsin, o bosibl dim haner dwsin, o aelodau Ty'r Cyffredin a adwaenir wrth eu henw bedydd." Ond tuag at y berthynas agos oedd rhwng TOM 'ELLIS A'R DEFFROAD CYMREIG y dymunwn alw sylw yn fwyaf arbenig. Y mae yna erthyglau eraill yn ein cylchgrawn chwarterol cenedlaethol" ag sydd yn llawn mor ddyddorol, megis Cenhadaeth Arbenig y Methodistiaid Calfinaidd," gan y Pareh. Griffith Parry, D.D. Cadair yr Eisteddfod Genedl- aethol," gan Hawen Yr Eglwys a'r Adfywiad Cenedlaethol," gan y Parch. R. Camber Williams, M.A. Parthau Cymru — Sir Gaerfyrddin," gan Watcyn Wyn, ac amryw eraill, yn nghyd a barddoniaith gan Hwfa Mon, a lluaws o fanion barddonol tlws iawn. Ond y mae yna rhyw gymhwysder neilldnol yn yr erthygl gyntaf tnag at Abertawe, o herwydd nid oes tref yng Nghymru a chymaint o eisiau ei deffroi o'i chysgadrwydd cenedlaethol. Y mae fal pe bai wedi ei rhibo gan Ddic-Shon-Dafyddiaeth. Nid oedd dim o'r ysbryd hwnw yn preswylio yn mynwes Tom Ellis. Nid oedd arno gywilyyd o'i wlad na'i genedl, ei ach na'i iaith, ei bobl na'i gapel. Arddelai hwynt oil pa le bynag yr elai ac wrth ei harddel pregethodd efengyl iach y gall pob Cymro oesau'r ddaear fanteisio wrth wrando arno. EISTEDDFOD ABERTAWE 1898. Mae'n Ilawen genym hysbysn ein darllenwyr y byddwn yn alluog yr wythnos nesaf i gyhoeddi beirniadaeth Watcyn Wyn ar gystadleuaeth Pryddest Goffadwriaethol Arglwydd Abertawe," am y tro cyntaf—ac yn gyflawn. DYNGARWCH. Ddyngarweh-dy enwi sy'n lloni fy nghalon Ac olrhain dy banes sy'n llawn o gyauron, Dy lwybrau sy'n britho gan flodau amryliw A'th roddion haelionus fendithiant ddyiiolryw, Dy hanfod yw cariad, yr un o ran sylwedd, A cbariad y Duwdod, difesur, diddiwedd, Fel Duw mewn tosturi, a gwirgydymdeimlad Wyt ddiwyd yn gwneuthur daioni yn wastad. Ddyngarwch ardderchog, dy fri a dy glodydd, Fel tiinau per, seiniantyn fiwsig trwy'r gwledydd, Yn mhlith y newynog yn tori eu hanghen, Cofleidi'r truenus dan gysgod dy aden, I It Yn noddydd i'r carpiog. y tlawd a'r amddifad, Dy roddion haelionuei sy'n lleddfu eu te mtad, Wyt gyfaill i'r caethwas mewn rhwymau gormesol Ar milwr clwyfedig, dan boenau dirdynol. 0 siriol ddyngarwch—mae gwedd dy wynebpryd, I'r galon ddrylliedig yn falm ac yn fywyd, O'th gylch y mae heddweh, ac uno teim adan Oedd gynt yn elynion, yw un o'th rinweddau, 0 wertbfawr ddyngarwch, doed dynion i'th garu A cheisio yn gyson i'th wir efelychu, 1 gadw dy enw, a thraethu dy glodydd, Fe geir sefydliadau, yn britho y gwledydd. JOHN OWENS, Junr. Babell, Cwmbwrla.

[No title]

IWEDNESDAY.

!THURSDAY.

NEATH.

ABERAVON AND PORT . TALBOT…

LLANDILO & DISTRICT.

PON TARDA WE,

Advertising

[No title]

MUMBLES.

LLANDRINDOD WELLS.

LLANDILO.

[No title]

SWANSEA BOARD OF GUARDIANS.

Advertising

[No title]

THE TRADE OF THE PORT AND…

RHONDDA & SWANSEA BAY RAILWAY.

.-----DEATH OF MR. FORBES…

Family Notices