Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

CYMMANFA GANU BEDYDDWYR BRO…

[No title]

G AIR AT ALECWYN, AWDWR YR…

AT Y PARCH, W. P. WILLIAMS,…

Y PARCH. J. D. ROBERTS, JOHNSTOWN,…

CWRDD CHWARTER DOSBARTH ISAF…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CWRDD CHWARTER DOSBARTH ISAF SIR GAERFYRDDIN. Cynnaliwyd yr uchod yn Gellywen dyddiau Mercher a Iau, Mai 5ed a'r 6ed. Prydnawn I Mercher cafwyd Cynnadledd, pryd y penderfyn- wyd ar y materion canlynol:— 1. tody cofnodion yn cael eu cadarnhau. 2. Ein bod yn rhoddi croesaw calon i'r Parch T. Idwal Jones, Drefach i'n plith, acyn dymuno bendith gyfoethocaf Duw arno yn ei faes newydd. 3. Fod y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn Cwmfelin. 4. Fod y Parch J. D. Evans, Pencader, i bregethu ar y pwnc, a'r ysgrifenydd i bregethu ar 'Ddirwest.' 5 Derbyniwyd adroddiad yr Ysgrifenydd o'u sefyllfa arianol. 6. Fod yr Ysgrifenydd a'r Trysorydd presenol yn cael eu hail-ethol. 7. Fod gweinidog y lie y cynnelir y ewrdd chwarter yno o hyn allan i fod yn gadeirydd y cwrdd. 8. Cyflwynwyd diolch gwresocaf y cwrdd i'r cadeirydd Mr T. Bowen, Penuel, Caerfyrddin, am ei wasanaeth gwerthfawr a ffyddlawn yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. 9. Fod y gorchwyl o gyflwyno gwobrwyon i'r goreu yn mhob dosbarth yn Arholiad Ysgoliou Sul Undeb Bedyddwyr yn cael ei ymddiried i'r Ysgrifenydd a'r Trysorydd. 10. Rhoddwyd dadganiad croyw a brwdfrydig o'n gwerthfawrogiad o wasanaeth y brodyr J. R. Williams, Rehobotb E. J. Hughes, Llangynnog, a J. C. Griffiths, Porthyrhyd a Chwmsarnddu, a dymunwyd bendith gyfoethocxf Duw arnynt yn eu hamrywiol feusydd. 11. Ein bod fel cwrdd yn Ilawenhau yn nygiad y Mesur i ddadgysylltu Eglwys Loegr yn Nghymru o flaen Ty y Cyffredin gan y Prif- weihidog, yn dadgan ein cymmeradwyaeth galon- og o i gynwys; yn anog y Llywodraeth i'w ddwyn trwodd yn ei holl raoau mor fuan ag sydd modd; ac yn ei sicrhau o gymhorth unol Cymru yn y gorchwyl. 12. Oyflwynwyd diolch gwresocaf y Gynnadledd i'r « glwys yn Gellywen a'i gweinidog serchog a gweithgar am eu derbyniad o'r cwrdd a'u parot.)adau rhagorol ar ei gyfer. Y GWASANAETH CYHOEDDUS. Y GWASANAETH CYHOEDDUS. Nos Fercher pregethwyd gan y Parchn J, Tafionydd Davies, Idole, a W. Lewis, Llan- pumpsaint. Dydd lau. Y boreu preget hwyd gan y Parchn j J. Symlog Morgan, Castelinewydd-Emiyn, a T. Idwal Jones, Drefach. Prydnawn—Pregethwyd gan y Parchn D. Griffiths, Talog, a W. E. Davies, Caerfyrddin. Hwyr- Pregethwyd gan y Parchn Morgan Jones, B.A., Whitland, a U. W. Hopkins, Ft linwen. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon gan y Parchn D. Griffiths, J. Davies, Cwmbach (M.) D: j Morgans, Ffynonbedr (A ), ac If in Afan, Biaenwaun (A.). Cafwyd cynnulliad da o'r brodyr, a phob un wedi dyfod a chyflawnder bendith yr efengyl. Y tywydd yn hynod ffafriol, y cynnulleidfaoedd yn lluosog, a theimlwyd trwy y gyfres fod yr eneiniad oddiwrth y Sanctaidd hwnw yn coroni yr oil. Hyderwn y cyfranoga y gweinidog, yr eglwys, a'r wlad, o fendith gyfoethog mewn canlyniad iddynt. Salem. R. GIMBLETT, Ysg. 0-