Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Yr hyn a Welais ac a Glywais…

News
Cite
Share

Yr hyn a Welais ac a Glywais yn America. GAN lEU AN DDU. LLITH X. Y MAE CYNHAUAF TORAETHOG •wedi ei gael yn America, ac yn neillduol felly yn Utah a'i chyffiniau y tnae gwenith wedi cnydio ar ei ganfed, fel y gwerthir ef am dri swllt y bushel ac isod. Y mae haidd, cyrch, Indian corn, cloron, gwair, htcern, afalau, a chanofedd o gynyrehion ereill wedi cnydio mewn cyflawnder, fel y mae gobaith am gyn- aliaeth i ddyn ac anifail o fewn gorllewin- barth y Weriniaeth fawr Americanaidd. Y mae y farchnad wedi gostwng yn fawr y flwyddyn hon yn Utah, tra y mae huriau y gweithwyr yn agos yr un fath felly, gall y gweithiwr fyw yma yn awr ar haner y gost ag a gymerai iddo flynyddau yn ol, gan fod prisau ymborth a nwyddau wedi dyfod mor gymedrol. Clywais fod yr hin yn wlawiog yn yr Hen Wlad yn amser y cynhauaf eleni, yn gymaint felly nes lluddias yr amaethwyr i gael yr yd i ddyddosrwydd yn yr amser priodol. Nid felly yn Utah, nid oes yma wlaw, gwynt, na chenllysg yn aflonyddu ar y gweirwyr na'r medelwyr; ond haf tesog, wvbren glir, ac awelon balmaidd o ddechreu Mai hyd ddiwedd Hydref nid ydym wedi cael ond ychydig o gawodydd o wlaw am y chwech mis diweddaf, tra mae'r ddaear yn parhau yn ei gwyrddlesni fel yn nghanol Mehefln, a digonedd o ddyfroedd grisialaidd yn dylifo i bob cyfeiriad. Y mae bron yn anhygoel i drigolion Cyinru fod y dyfroedd yma mewn mwy o gyflawnder yn nhymor hin wresog ac hin sychyn; ond felly y mae, gan fod yr eira yn yr adeg hono yn toddi ar y Rocky Mountains, ac yn chwyddo yr afonydd dros eu ceulanau. Y mae Utah hefyd yn wlad ffynonau dyfroedd, yn neill- duol felly ardaloedd Provo a Springville y mae'r ddinas olaf, yr hon a welir o lanerch fy mwthyn i, wedi cael ei henw oddiwrth y Uuaws ffynonau grisialaidd sydd o'i mewn. Addewais roddi DESGRIFIAD 0 DDINAS Y LLYN HALEN ymdrechaf yn bresenol gyflawni fy addewid. Cafodd y ddinas hon ei henw oddiwrth lyn mawr o ddwfr hallt, yr hwn sydd o fewn ychydig filldiroedd i'w thu gogleddol. Enwa y daearyddion Ianciyddol y llyn yn Salt Lake, felly gelwir y ddinas yn Seisnig yn Salt Lake City. Cafodd y ddinas ei sylfaeni gan Brig- ham Young ac ychydig ganlynwyr (140), ary 24ain o fis Gorphenaf, 1847, sef deng mlyn- edd ar ugain yn ol. Nid oedd yma yn flaen- -orol i'r dyddiad liwnw ddim cymaint a bwthyn lanciaidd nag Indiaidd o fewn yr hoil ddyff- ryn, ond yr holl wastadedd eang yn anialwch disathr, heb ddim ond sage brush yn tyfu o fewn ei holl derfynau. Yr oedd lielwyr a theithwyr, neu, fel y dywed y Ianci, explorers wedi cyhoeddi y lie yn annrhigiadwy, ac yu anmhosibl cynyrchu moddion cynaliaeth dyn nag anifail yn y fath ddiffaethwch. Yr adeg hon yr oedd yr hin yn ofnadwy o sych, fel nad oedd dim gwlaw am naw neu ddeg mis yn y flwyddyn, a'r eira a'r rhew mor eithafol fel y rhewai y dyfroedd yn ia caled yn nghanol mis Gorphenaf. Ond yn bresenol caiff Dyff- ryn y Llyn Halen, a dyffrynoedd ereill Utah, gynar a diweddar wlaw, heb eithafoedd oerni yn y gauaf nag angherddolrwydd gwres yn yr haf, fel yn y blynyddau gynt. Saif y ddinas hon wrth odreu nn o gadwyni anferth y .Rocky Mountains a elwir y Wasatch, ac ymestyna hyd afon Jordan, yr hon a reda trwy y Salt Lake Valley, ac a ymarllwysa i'r Salt Lake. Rhenir y ddinas yn bresenol i 21ain o rhanbarthau, ac y mae esgob a dau gynghorydd yn perthyn i bob rhanbarth. Y ,mae capel Mormonaidd yn perthyn i bob .rhanbarth, gydag ysgoldy neu ddau, yn cael .en cyflenwi gydag ysgoifeistri trwyddedig. Cynelir addysg yn y ddinas Formonaidd hon, fel yn y mwyafrif o ddinasoedd a sefydliadau Utah, trwy dreth orfodol, a llywodraethir y .cyfryw ysgolion gan fyrddau addysg, tebyg i School Boards Prydain Fawr. Mae'r addysg yn hollol rad mewn rhai o'r ysgolion hyn, tra mewn,ereill rhaid i'r plant dalu yehydig o cents yn wythnosol, fel yn Ysgol Bwrdd Cile- bebyll. Heblaw fod ysgolion dyddiol yn mhob rhanbarth, y mae hefyd Ysgolion Sabothol blodeuog yn mhob cwr o'r ddinas hon. Y mae mae awdurdodau yr Eglwys Formonaidd yn pleidio yr Ysgolion Sul mewn modd arbenig, fel, erbyn heddyw, y mae ugeiniau o filoedd o blant a dynion mewn oed yn perthyn i Ysgolion Sabothol Utah. Y mae undeb ysgolion yn perthyn i bob sir, a'r holl siroedd yn ffurfio undeb cyffredinol o'r holl diriogaeth. Gwelir ar wylia,u neillduol yn Salt Lake City gvinaint ag ugain mil o blant yr Ysgol Sabothol yn gorymdeithio, yn cario baneri'amryliw, a'r merched oil wedi gwisgo mewn gwisgoedd gwynion ardderchog. Heb- law yr ysgolion dyddiol a Sabothol hyn, y mae yn y ddinas hon lawer o ysgolion private, tebyg i eiddo Mr. Samuel, Tanyrallt, Alltwen, yn mha rai y cyfrenir addysg o'r fath flaenaf. Y mae yma golega,u o'r radd flaenaf, un ohonynt yn cael ei alw Morgan's College," oddiwrth Gymro o'r enw sydd yn brif athraw iddo. Cofier nad yw ysgolion Utah a'r ysgol- ion Americanaidd yn gyffredinol yn ailraddol i eiddo Prydain, ond yn y gwrthwyneb. Ac nid yw'r cyhuddiad a ddygir yn erbyn pobl Utah o fod yn bobl annysgedig ac anwybodus yn wirionodd. Y mae awdurdodau yr Eglwys formonaidd yn Utah yn bobl ddysgedig, gan xnwyaf, ac yn gyfryw a bleidiant addysg i'r fath eithaf. Cyhoeddir dau newyddiadur dyddiol yn y ddinas hon, o dan nawdd Eglwys y Saint, sef y Deseret News a'r Salt Lake Herald; golygir y blaenaf gan George Q. Cannon, cynrychiolydd Utah yn y Congress yn Washington, a chan Brigham Young, ieuaf, mab y diweddar Lywydd Formonaidd. Cyhoeddir hefyd yn y ddinas newyddiadur dyddiol arall, o'r enw Salt Lake Tribune, gan elynion yr eglwys Formonaidd, yn cynwys gwrthgilwyr, a ring o gyfreithwyr haner newynog prif waith y papyr hwn yw tywallt pob llysnafedd ac enllib ar yr Eglwys For- monaidd a'i phenaethiaid, gan wneyd y gwawd mwyaf ofnadwy o bobpeth cysegredig. Y newyddiadur hwn yw ffynonell y prif gel- wyddau a gyhoeddir am Utah a'i phobl. Mae'r papyr enllibus hwn wedi bod yn fodd- ion i barlysio anturiaethau masnachol Utah, trwy gyhoeddi fod y Mormoniaid mewn gwrthryfel, ac yn ymarfogi yn erbyn y Lly- wodraeth. Y mae Mr. Dillon, a gentiles ereill o capitalists perthynol i reilftyrdd a mwngloddiau Utah, wedi ceryddu yn llym eu cymdeithion cyfoethog am roddi y fath newyddion peryglus i fasnach y diriogaeth. Cyhoeddir hefyd y Juvenile Instructor i'r plant, a'r Woman's Exponent gan y benywod yn Salt Lake perthynol i'r Eglwys Formon- aidd, yn nghyd a chylchgrawn cerddorol a newyddiadur wythnosol gan y Daniaid, yn eu hiaith gynhenid. Prawf hyn nad yw y wasg yn cael ei hesgeuluso yn y brifddinas. (I'w barium.)

Gwerth Arianol Pendefigaeth.

Y FASNACH llAIAllN.

:SEFYLLFA PETHAU AR LANAU'R…

BWRDD YSGOL LLANGIWC.

AT ME. JEXKINS (GENFFIG WYSON).

Iawn i Loegr.