Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

HARRIET LEE.

News
Cite
Share

HARRIET LEE. Can Awdwr U Gomer Jones Powel," ac "Elen Wyn." PENOD XXXVI. cwlwii cabiad—?:;iodas. Dyma'r drydedd waith i fi i gael cynyg ar briodi yn fy oes, a beth yw yr aehos o J hyn ? Mae Uawer o ferched llawn cystal a finau yn myned drwy'r byd heb gael un cynyg, ond wele'r trydydd cynyg ger-fy mron i yn bresenol, pa fodd y mae deall y dirgelwch hwn? Credaf i serch Roger Pryse,. y Voel, ataf i .dyfn mor naturiol ag yr oedd ef a minau yn dyfod o ddyddiau -plentyndod i ddyddiau nwyfianus ieuenc- tyd, ac yn ol ei eiriau addefol ef ei hun Yr oedd yn fy ngharu a'i holl. galon, braidd cyn ei fod yn gwybod beth oedd cariad.' Am yr hen Gadben Frost, rhyw gyffroad camsyniol oedd hwnw a ddaeth i'r lien wr, a ddylasai ymweled a mynwes rhyw ddyn ieuane ugain oed, neu a ddylasai fod wedi cyrhaedd ei fynwes ef tua'r amser y cefais i fy ngenu i'r byd. Er hyny, eefais eithaf cynyg gan yr hen father hefyd, tioff i, da am dano. Dyma Roderick Prosser etc, y mae hwn agos a bod yn gyfoed a fi, yn bob peth a all merch ddymuno mewn dyn ieuanc; Ond beth all fod y rheswm fod hwn eto, mewn amser mor fyr, mor wylltam bfiodi ? Ai am nad oes yr un ferch wen arall o fewn cyrhaedd iddo y mae felly? Neu, ynte, a ydyw yn fy ngharu fel y mae yn tystio ar ei lw ei fod ? Ag i fi i oddef y gwir; yr oeddwn i yn caru Roger Pryse garedig, ac y mae euogrwydd arnaf yn awr am i fi ddelio mor galed ag ef; ond i ba beth y meddyliaf am dano ef yn awr ? Gallaf ei gladdu yn ei gysylltiad a fi yn hen fedd Uydan diwaelod ebargofiant. Y mae rhai pethau tebyg iawn yn Roderick i Roger, yn neillduol ei garedigrwydd di- fwlch i fi; y mae hwn fel hwnw mor ys- twyth a'r elastic ei hun. Y mae'r ffaith ei fod mor agos o ran hyd, mor debyg yn ei gerddediad, ac yn acenu ei eiriau agos fel ag y gwnai ef-y mae hyn oil yn fy ngwneyd i deimlo yn well ato nag y gwnaem onibai hyny. Gwir fod gwallt hwn ychydig yn dduaeh, ei wyneb yn felynach, ac o liawer yn fwy barfog na'm hoffus Roger; ond ar y cyfan, y mae Roderick yn ddyn glan, a chyda gofal gwraig ana dano, deuai, i edrycb yn foneddwr i'r pen, ac yn an-j rhydedd i'r hon a allai ei alw fy ngwr. Y mae arnaf ofid calon am wrthod ohonof i dderbyn Haw Roger; nid yw'r hen Gadben Frost yn blino dim arnaf, canys rhyw hen weddw a Honed ty o blant a ddylai hwnw gael, er cael mwynhau yr arian a gynyg- iodd i fi; ond beth i wneyd a'r trydydd cynyg yma sydd ger fy mron ?" Dyna fel yr oedd Harriet yn ymresymu ar bwnc y priodi. Hawdd gwybod wrthi ei bod yn teimlo tuedd oryf at briodi, yr hwn sydd yn deimlad byw yn mynwes pob mab a merch, ond iddynt addef y gwir. Gwyddom am rai o'r ddau ryw yn brolio na fu hyn yn eu blino erioed, ond ystyriaf .bob amser fod un ystafell wag yn y llofft gan y rhai hyn, ac y gellid ysgrifenu to be let i'w osod i fyny yn y ffenestr iddynt. Beth yw yr achos fod yr hen lanciau" yn cadw cymaint o dwrw yn y wlad yn awr ac eilwaith ? Am mai llestri gweigion sydd yn eadw fwyaf o swn, bid siwr. Y mae priodi yn osodiad dwyfol, ac felly yn rhinwedd, ac yn nod o anrhydedd ar bawb sydd yn ei gyflawni, heblaw fod rhyw ddiffyg pwysig yn bod yn y dyn neu'r ddynes fel ag i'w rhyddhau ohono. "Harriet arjwyl, dyma'r noson i roddi'r ateb cadarnhaol i'r gofyniad wedi d'od." Yr wyf yn deall, ond yr wyf am ei ohirio etc am fis o leiaf." Na, na, bydd ein tymor ni ar ben yma yn mhen tair wythnos, ac os priodi, yr wyf am briodi y pryd hwnw, canys ni allaf aros yn rhagor yn yr un lie a chwi heb -eich meddianu yn wraig i fl." Gadewch i fi gael wythnos arall ynte." "Harriet anwyl, i ba beth? Pa beth all wythnos arall o brawf arnaf wneyd i chwi? A oes rhywbeth yn nglyn a fi y carech ei wybod ? Os oes, beth ydyw ?" Oes, a gwyddoch hyny, Roderick. Yr wyf yn methu a bod yn rhydd i'ch priodi heb i fi i gael rhagor o'ch hanes nag sydd genyf. Yn awr, dywedwch yn rhydd wrthyf yn mha le y'ch ganed, beth yw helynt eich perthynasau, a pha beth yw'r achos i chwi i ddyfod i ranau estronol, os nad i wlad estronol fel hon ?" "Harriet, yr wyf wedi cynyg dweyd yr oil wrtbych er's misoedd, ar y telerau eich bod chwi i ddweyd helynt y fiwyddyn ddi- weddaf yn nglyn a chwi, cyn i chwi adael eich Cymru anwyl am y lie estronol ac annghjsbell hwn. Yr ydych yn awr yn gwrido fel arfer wrth son am hyny, ac os na ellweh chwi ddweyd peth o'ch hanes i ii, pa fodd, Harriet anwyl, y dysgwyliwch i fi ddweyd fy holl hanes i a'm cysylltiadau i chwi? Y mae eich. tri gofyniad heno yn cynwys fy holl fanylion i a'm perthynasau; er hyny, dywedaf yr oil wrthych ar na wyddoch ar y tir eich bod chwi i adrodd jpnm mynud o'ch hanes i fl." Yr ydych fel y cwmpawd yn union, Roderick, yn cyfeirio o. hy&i'r tu*faou" Harriet, Harriet, dyna' gystal gwirion- edd ag a ddywedasoch yn eich hoes! Y dwyf, Harriet, y mae nodwydd fy serch at eich calon chwi bron er y dydd cyntaf eich gwelais, ac y mae yn debyg iawn o barhau felly tra fyddaf ar y ddaear, gan nad pa. Ie y byddaf. Yr wyf yn ddifrifol yn hyn. •Yr wyf yn benderfyriol o adael y lie hwn a'r teulu caredig ar ben y tymor hwn. Nid oes raid i fi i fod yn was i neb, nid wyf ond fy hunan ar hyn o bryd, a gallaf fyned drwy y byd heb gaethiwo fy hun fel hyn i neb. Daethum yma megys o orfod, eto oeddwn yn rhydd ewyllysydd yn y wëith- red, ac ymddengys'mai dyfod yma i gyfar- fod a chwi a wnaethum, a hyny i wneyd gweddill fy oes yn fwy annedwydd na'r hyn a aeth heibio, neu ynte i wneyd fy oes yn ddedwydd o hyn allan, ao y mae ar eich llaw chwi yn hollol i lenwi fy nyfodol o ofidiau, neu i'w gyflawni o ddedwyddwch pur. Pa un o'r ddau a wnewch, Harriet?" Yr ydych yn siarad yn fwysaidd rhy- feddol; a gollwng ei ffrwyn ar war dychy- myg, gallwn wheyd cyfrolau o'r hyn a ddywedasoch, ond pa ddyben i ddychymygu, gan na chaf ddim o'ch hanes boreuol genych? Yr ydych mor gynil ar eich hatebion, onide gofynwn am eglurhad ar rai o frawddegau mwysaidd a thra awgrymiadol ag sydd yn eich araeth ddiweddaf." "Harriet anwyl, deuant oil yn oleu ddydd i chwi eto, a dichon y byddweh yn rhyfeddu at eich dyryswch presenol." Gwaeth eto. Yr ydych wedi fynghylchu a gwyll yn blygiadau ar eu gilydd, fel nas gwn pa beth i wneyd." Harriet anwyl--a pheidiwch digio wrth- yf am ddweyd rhagor--sef Harriet ystyfnig i raddau. Onid wyf yn foddlawn eich cymeryd chwi yn wraig ar y wybodaeth a feddaf ohonoch chwi? Ac a oes rhywbeth yn fwy pwysig mewn i chwi gael fy hanes i nag sydd i fi i gael yr eiddoch chwi ? Cladder y gorphenol, anwyl Harriet, a bydded i ni i ymuno a'n gilydd oddiar yr hyn ydym yn wybod yn brofiadol am ein gilydd er pan yn y lie hwn. Ni waeth genyf gymaint a hyny am yr hyn oeddech, digon i mi yw fy mod yn gweled ynoch yr hyn a ddymunaf gael mewn un i fod yn wraig i fi. Os nad ydych chwi yn cael ynof fi yr hyn a garech ei gael yn yr hwn sydd i fod yn wr i chwi, er eich cysur dyfodol, dywedwch hyny, ac er y bydd yn galed ei wneyd, ymadawaf a'r lie a'r oil sydd ynddo. Crwydraf y byd o fan i fan i weled a gyfarfyddaf a rhai o'r Iuddewon crwydrol' ar fy nhaith." "Aroswch yma chwe' mis arall, Roder- ick, peidiwch ymadael yn wir, peidi<vch." Pe gwybyddech sefyllfa fy meddwl llwythog, ni ofynech genyf i aros yma chwe' diwrnod, ond Harriet anwyl a hoff gan fy enaid, gofynaf eto i chwi, ag i fi aros yma chwe' mis arall, a wnewch chwi ddyfod yn wraig i fi y pryd hwnw ? Ateb eglur yn awr, Harriet." "Aroswch hyd nos yfory am yr ateb, Roderick." Ni fvdd nos vforv i gael vn hanes fv mywyd i hyd oni chaf ateb, am mai pan y caf yr ateb y bydd y wawr yn tori arnaf, bydd yn nos hyd hyny pe byddai am chwe' mis. Ond pa eisieu aros hyd nos yfory, fy un anwyl. Gwyddoch yn awr beth ydych yn feddwl wneyd a'r gofyniad, gan hyny, atebwch ef. A fydd i chwi ddyfod yn wraig i fi yn mhen chwe' mis ?" Gwyr pawb fod ambell i gusan yn cael ei roddi ar adeg fel hon, ac ambell i ddeigr- yn lladradaidd yn llithro yn ar wydd o bwys- igrwydd yr amgylchiad difrifol. Harriet hoff, beth am ben y chwe' mis? A oes golaith eich cael yn addfed y pryd hwnw i wneyd yr hyn a ddylem ei wneyd yn awr?" Oes." "Diolch am y tair llythyren hyna, er mor ddrud ydynt." Bu cryn ddystawrwydd ar ol hyn, a'r ddau yn nofio yn y mwyniant aruchel o ddyfod yn eiddo eu gilydd yn mhen y chwe' mis. Os gwnewch ddyfod yn wraig briod i fi yn mhen chwe' mis, paham na ddeuwch yn awr? Harriet anwyl, rhyw chwe' mis hirfaith a fydd y rhai hyn i chwi a minau Anhawdd genyf gredu na fyddem ein dau yn hen bobl cyn y d'ont i ben am hyny, O! Harriet, deuwch yn awr, ac felly bydd y chwe' mis yn fisoedd o fwynhad gwirion- eddol i ni, yn 4iytrach na bod yn fisoedd o ddyheu am wei'd eu diweddeyneudeehreu." "Bydd chwe' mis yn ddigon bach i ni i drefnu ar gyfer byw ar ol priodi." Eithaf teilwng ohonoch, Harriet gall, ac y mae yn drueni fod cymaint yn priodi heb feddwl am fyw ar ol hyny, hyd nes y maent yn briod; dyma'r achos fod llawer yn byw mor annedwydd wedi priodi. Dylai, a rhaid i bawb barotoi erbyn gwneyd hyny, neu ynte deimlo oddiwrtho yn ol Haw. Gwn am rai wedi priodi heb feddwl am le i gysgu y noson gyntaf, a gadael son am fyw ar ol hyny Ond, fy un synwyrol ac anwyl, nid wyf wedi gofyn i chwi am uno mewn^tan briodas a mi >neb fod genyf ddigon i'n cynal yn* ddedwydd -hyd nes. y gwuawn sefydlu ein meddwl am lè, wrth ein bodd i fyw, ac i sefydlu yno wed'yn. Gan hyny, pttham. yr awn i aros chwe' mis arall yn gaethion yn ngwlad y caethion duon gynt ?" Roderick anwyl, gan eich bod felly— PRIOJDWX." A. chusan yn Amen y cymod, meddaf finau." Rhoddasant y newydd dymunol anny- munol hyn i Mr. Morgan a'i wraig y boreu canlynol. Yr oedd yn wir ddrwg ganddynt eu colli, ond yr oedd yn dda ganddynt eu bod yn myned o'u gwasanaeth i rwymyn hardd prioàasL Yn mhen diwrnod neu ddau, dyna'r ddau yn cael eu galw i'r brif ystafell, at eu meistr a'u meistres, ac meddai Mr. Morgans:- Yr ydych eich dau yn myned i'r nndeb priodasol. Credwch fi, y mae yn wir dda genym ni ein dau am danoch, ac y mae'r plant yma mor hoff ohonoch eich dau, fel nas gwyddom pa fodd i feddwl am fyw yma heboch chwi. Buom yn siarad a'n gilydd am gynyg i chwi i aros yn ein gwasanaeth, ar yr amod ein bod i godi ty i chwi i fyw ar y fferm; ond yr ydym wedi dyfod i bsnderfyniad arall, mwy anrhydeddus i chwi, sef ymneillduo i fyw ar y cyfoeth a gasglwyd genym ar y fferm hon, a gadael yr oil i chwi o dan ardreth resymol Daeth- om ni yma ag ychydig genym, gweithiasom yn galed, ac yr ydym yn ymadael oddiyma a digon i'n cynal ni a'n plant, gobeithio, yn anrhydeddus." Feistr a meistres ddyngarol, diolch calon i chwi am eich cynyg haelionus a rhesymol. Ond nid ydym ni yn meddwl am sefydlu, nac addaw hyny am y chwe' mis cyntaf. Cymerwn y rhai hyn yn fwyn- had dilwgr i deithio o fan i fan, a dichon, o wlad i wlad, fel ag i chwilio, gyda llaw, am le i sefydlu, a diameu y byddwn wedi gweled rhywle erbyn hyny a digon o swyn ynddo, fel ag i wneyd cartref ohono. Can- iatewch i fi eto i ddiolch i chwi yn y modd mwyaf cynes am eich darpariaeth ddyngar- ol ar ein rhan." Synodd hyn eu meistr a'u meistres. fel ag i ofyn-" Mewn difri', pwy yw y rhai hyn ? yn neillduol pwy ydyw y Roderick Prosser hwn ?" Aeth Roderick i dref y sir i ymofyn trwydded briodasol; a chan fod hawl gan bob tirfeddianydd (freeholder) yn y wlad hono i weinyddu priodas, cafodd William Morgan, eu meistr, eu priodi. Dyma'r tro cyntaf i'r dynion duoii i weled y dull hwn o briodi, a mawr oedd eu llawenydd ar yr amgylchiad. Nichafodd na thraul na thrafferth eu hebgor er gwneyd yr amgylchiad hynod yn un hynod mewn gwirionedd. Dyna Harriet Lee yn wraig briod, ac yn awr yn Harriet Prosser. Mae Harriet Lee yn briod A Roderick Prosser gu, Yn dystion o'r briodas Mae llu o ddynion du v Bu llawer ymdrech galed Ar dir ac ar yr aig, I ddenu calon Harriet, Ond wele hi yn wraig. I (I'w barhau.)

Eisteddfod y Gyfeillon.

Masnach yr Haiarn a'r Glo.

Iawn i Loegr.