Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Marwolaeth "Gohebydd."

YR ARSYLLFA.

LLYTHYR LLUNDAIN.

ORIEL Y BEIRDD

News
Cite
Share

ORIEL Y BEIRDD DARLUN R HIF XIII. DYN tua phum' troeclfedd a haner o daldra, amgylchedd cymedrol, a chadarn ny ei wneuthuriad. Ei wallt sydd o liw g.wineu, a'i farf sydd o liw tywodlyd. Eillia y wefus uchaf, a cheidw y gweddill mewn hyd cymedrol o dan lywodraeth y siswrn. Mae iddo wyneb llawn, gwrid- goch, gyda tlialcen llydan. Mae sirioldeb bob amser yn dawnsio ar ei wynebpryd. Siarada yn bwyllog, gan acenu ei eiriau fel wrth reol. Mae yr oil a ddaw dros ei wefusau yn ddoniol a phwrpasol; ac nid yw byth yn siarad er mwyn siarad. Pan mewn cyfeillach gwrandawa yn astud, a phan ddaw ei dro i ddweyd gair dywed ef yn ddifloesgni; a thraetha ei len ar unrhyw bwnc a ddichon fod mewn,dadl yn eofn a didderbynwyneb, hyd y nod pe dygwyddai farnu yn wahanol i bawb a fyddo yn ei gyfeillach. Mae yn sylwed- ydd manwl, ac yn un da iawn i ddeall pa fodd y bydd y gwynt yn chwythu yn y byd llenyddol. t, Mae yn un o'r beirdd mwyaf adnabydd- us a fedd y Deheudir; ac nid oes neb wedi cadw ei wisgoedd barddol yn lanach nag ef yn yr ymgyrchoedd eisteddfodol, yn y cymeriadau o gystadleuwr a beirn- iad Flynyddau yn ol, yr oedd yn ysgubo y gwobrwyon am farwnadau a chaneuon clod-meusydd ffrwythlon beircld y De ondyn yblynyddoedd diweddafymaewedi bod a'i "ffidil yn y to," heb ei thynu i lawr ond ambell i waith i'w chadw mewn .cywair priodol, rhag ofn y bydd arno chwant ei chwareu rhywbryd eto. Mae yr ysfa farddonol yn dechreu ei gynhyrfu eto y flwyddyn hon sydd ar fyned heibio. Yr ydys wedi cael teimlo yn ddiweddar nad ydyw duwies Ceridwen wedi ei annghofio; a chredir, gan rai sydd yn deall arwyddion yr amserau, y ca y llwyth barddol deimlo ei ergydion yn fuan eto, efallai cyn y gwelwn flwyddyn newydd. Cana y bardcl hwn yn nhemlau Dafydd ab Edmwnt lawn cystal ac ar y dragywyddol heol." Mae ei englynion mor gryno a chynwysfawr a diareb, nid oes ynddynt un camp ar gynghanedd, ond darllenant yn llithrig o'r dechreu i'r diwedd, ac odid fawr na fydd yn cario yr un syniad, hebun tor, o ddechreu i ddiwedd yr englyn. Mae y bardd hwn yn hoff iawn o gys- tadlu yn mhrif eisteddfodau y Gogledd. Mae wedi cynyg fwy nag unwaith am y gadair genedlaethol, ac yn yr ymgyrch ZIY olaf o'i eiddo i'r cyfeiriad hwnw yr oedd ar sodlau un o brif feirdd Cymru; a chredir, os ca einioes ac iechyd, na fydcl yn esmwyth yn hir heb wneyd hynt Ogleddol eto. Mae ei awdlau yn rymus, bywiog, a gafaelgar, ac ynddynt ddigon o glue i lynu ar y cof. Ei bryddestau a'i ganeuon sydd yn hynod o naturiol a llithrig. Wrth eu darllen gellir barnu eu bod wedi dyfod i fodolaeth mor rhwydd ag anadlu. Nid oes dim o olion y fwyell wedi bod yn tocio a chymhwyso arnynt; ac nid oes un drychfeddwl ynddynt wedi ei dorfynglu i foddio y corfan, nac un corfan wedi ei aberthu er mwyn y drychfeddwl. Mewn gair, nod- weddir ei holl weithiau gan lyfnder, naturioldeb, clasurioldeb, a gorphenedd. Fel beirniad, saif yn y rhes flaenaf o feirdd y De ond mae ein pwyllgorau yn meddu gormod o'r elfeii bendwp i weled hyny. Beirniad cheap yw y "go" y dyddiau hyn, pe byddai hwnw mor an- nghymhwys i'r swydd a phost llidiart. Er hyn, mae y bardd hwn ar y sedd feirniadol yn awr ac yn y man ac mae wedi bod yn beirniadu mewn eisteddfodau o fri, a rhai o brif feirdd y Do yn taflu eu cynyrchion i'w glorian. Nid yw efe ei hun yn awyddus i gystadlu dan bol) math o feirniad. Pan glywo am destyn yn taro ei chwaeth, ei ofyniad yw- "PlOy yw y beirniad ?" Huw MORIS.

Family Notices

Advertising

BARDDCNIAETH A BEIRDD.