Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Marwolaeth "Gohebydd."

News
Cite
Share

Marwolaeth "Gohebydd." Yn sier, y mae y flwyddyn 1877 fel pe yn penderfynu medi ein prif ddynion i'r bedd. Erbyn i Ieuan Gwyllt gael ei gipio i'r gweryd, dyna Mynyddog ar ei ol a chyn i'r flwyddyn dynu ei thracd i'r gwely i farw, dyma'r Goheb- ydd eto wedi suddo dan y gorwel. Yn wir, oddiwrth ein hadnabyddiaeth ohono, ac o natur ei glefyd, synem ei fod wedi byw cyhyd. Lawer gwaith, pan yn ei gwmni, gwelsom ef yn cael ymosodiadau oddiwrth ei glefyd dirdynol, yr asthma, nes y tybiem ei fod yn mogi yn 1 fin. Pe buasai fyw hyd-ddydd Sul diweddaf, buasai yn 57 mlwydd oed. Mab ydoedd efe i chwaer yr enwog John Roberts, Llanbrynmair felly, yr oedd yn gefnder i'r enwogion S. R. a J. R. Fel ysgrifenydcl i'r wasg newyddiadurol, safai Gohebydd yn y rhes flaenaf, heb eithrio prif ohebwyr y newyddiaduron Saesonig. Yr ydym yn cofio, flynyddau yn ol. pan gymerodd damwain fawr Hartley Ie. Darllenosom fanyl- ion y ddamwain yn y Daily Telegraph, a phapyr. au Saesonig ereill. Aeth y Gohebydd yn bersonol i Hartley, a beiddiwn ddweyd fod y desgrifiad a roddodd efe yn curo o ddigou bob- peth a welsom yn y Dcdly Telegraph, a phob papyr arall. Dywedai Mr. Henry Richard, A.S., am dano ei fod y dyn mwyaf dylanwadol yn y Dywysogaeth, a'i fad yn frenin,bychan yn Nghymru. Am ei lythyrau ef yr edrychid gyntaf gan ddarllenwyr lluosog y Faner, ac fel y canodd Emrys ar ol y bachgen galluog hwn:— A theimlir chwithdod maith yn mysg Ein gwyr o ddysg a doniau. Yn 1872, cawsom y pleser o letya dan yr un gronglwyd tig ef ddydd a nos, a phrofasom ef yn thorough friend. Cyfarfyddasom ag ef wedi hyny, ac ni newidiasom ein barn am dano. Bydd bwlch hir ar ei ol, yr hwn ni lenwir yn hawdd, os byth. Derbyniasom nodyn oddiwrth y Parch. D. M. Jenkins, L'erpwl; Mr. Griffith Griffith, a Mr. Richard Griffith, yn hysbysu iddo farw boreu dydd Iau, Rhagfyr y 13eg, 1877, yn ddisymwth oddiwrth ymosodiad o'r bronchitis. Hysbysid yn y nodyn, hefyd, ei fod i gael ei gladdu dydd Llun, yn Cemetery Llangollen. Diau i ganoedd, os nad miloedd, o'i gyfeillion dd'od yn nghyd ar yr achlysur pruddaidd. Gwnaeth y Gohebydd enw iddo ei hun yn Nghymru, yr hwn a fydd byw tra pery Cymro a Cuymraeg. Ni ryfeddem na chyhoedd- ir cyfrol o'i brif lythyrau gan Mr. Gee yn mhen amser. Ffarwel, anwyl frawd, Hyd oni yn*- gyfarfyddom oil."—Brythonfryn. Dydd Llun claddwyd ei weddillion, yn Llan- gollen. Yr eedd dros dair mil o bobl, yn cyn- wys y rhan fwyaf o enwogion Cymru, yn feirdd, Ilenorion, a phregethwyr, yn cyfarfod a'r corff yn Ngorsaf Llangollen. Gweinyddwyd gan y Parchn. Dr. Thomas, L'erpwl, a John Roberts, Brymbo. Siaradodd Mr. Thomas Gee, Dinbych, ychydig eiriau teimladwy ar lan y bedd. Yr oedd llythyrau o gydymdeimlad wedi eu derbyn oddiwrth luaws o aelodau seneddol dros Gymru.

YR ARSYLLFA.

LLYTHYR LLUNDAIN.

ORIEL Y BEIRDD

Family Notices

Advertising

BARDDCNIAETH A BEIRDD.