Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

HARRIET LEE.

News
Cite
Share

HARRIET LEE. GaD. Awdwr "Gomer Jones Powel," ac "Elen Wyn." PENOD XXXY. LLYTHYR AT FERCHEB CYMRU. Anwyl Ferched fy Ngwlad,—Caniat- ewch i un ag sydd yn gwir ddymuno eich lies i'ch hanerch fel hyn drwy y was, Carwn i bob merch a mab ieuane i ddarllen y llinellau hyn yn ystyriol, ond yn arbenig felly-y merched. Teimlaf fod y mater yn un cynil iawn i ymdrin ag ef, a dichon mai dyma'r achos ei fod yn cael mor lleied o sylw, fel ag i amcanu at gael diwygiad ynddo, yr hyn sydd raid ei gael, cyn byth y. gwelir aelwvdvdd dedwvdd yn aneddau Anwyl Wl .d fy Nhadau.' Y mae ffurfio eyfeillach garwriaethol i'r meibion a'r merched yn nhymor ieuenctydyn gw bI mor aaturiol ag ydyw i'r adar i gyplu yn y Gwanwyn-yn bollol felly. Ond dylai iheswm gael ei le priodol yn nglyn a'r cyplu ya mhlith y meibion a'r merched, ac mid myned oddiar reddf yn gyplau, fel y gwna yr adar. Credaf na ddylai y meibion a'r merched ddechreu cyfeillachu a'u gilydd ond oddiar ddeniadaeth serch pur. Y mae gormod o redeg gan feibion a merched ar 01 eu gilydd er mwyn bod yn y ffasiwn. Dafydd a Daniel yn ddau gyfaill, ac Ann a Jane yn ddwy chwaer, Aeth Dafydd i garu Ann, a chan fod Jane heb un sponer, cymhellodd Dafydd Daniel i fyned i garu Jane, yr hyn a wnaeth. Nid oedd yea ddim greddf, chwaethach serch, yn sylfaen i'r gyfeillach o un tu, dim ond cymelliad cyfaill, rhag fod y ddwy chwaer ar ffordd eu gilydd i garu. Cyplodd Daniel a Jane a'u gilydd oddiar gymelliad allanol ac is- raddol i'r adar bach, canys greddf fewnol 4ydd yn eu cymell hwy i lynu wrth eu gilydd, am ba achos y clywir hwy yn canu yn beraidd eu cydgerdd briodasol, ar ol gauaf du o fywyd oeraidd ac unigol. Ond beth a fu'r canlyaiad o gyplu israddol Daniel a Jane ? Trueni fod rhaid dweyd y gwir, ond hyn sydd oreu er hyny, nid er efelychiad, ond er addysg i ereill rhag gwneyd yr un fath. Fel hyn y mae am- linelliad eu hanes yn rhedeg:—Bachgen drwg oedd Daniel, ond yr oedd Jane yn gymeriad rhinweddol. Yr oedd Daniel yn ymhyfrydu halogi'r Saboth, ond ni wnaeth Jane hyny hyd nes iddi roddi ffordd i'w hud ef i hyny. Wedi ei chael i fyned i'r caeau a'r mynydd i ymrodio yn lie myned i'w dosbarth yn yr Ysgol Sabothol am rai troion, denodd hi ymaith gyda'r train, allan o gylch ei hadnabyddiaeth, ac wedi ei chael yno, aeth a hi i'r dafarn ar Ddydd Duw, yr hyn na wnaeth. yn ei hoes o'r blaen. Wel, beth am danvnt bellach ? Wedi tori ohonynt y pedwerydd gorchymyn, a'i sarnu « dan eu traed, torasant y chwecbed ar eu cyfer wed'yn. Cyn hir yr ydym yn cael Jane o dan ei baich. Yr oedd yn ystaen ar ei chymeriad iddi erioed fyned am fynud i gwmni Daniel annuwiol, ond gwnaeth eu dull o gyfeillachu a'u gilydd liwio yr ystaen yn dduach, duach yn barhaus, nes o'r di- wedd y mae yn blotyn du ar ei chymsriad, yr hwn wna gymylu ei holl fywyd dyfodol. Cafodd Jane blentyn yn dyst o'i hanniweir- deb; ciliodd Daniel i wlad estronol, gan ei gadael hi i ymladd brwydr bywyd o dan ei chlwyf, ac i fagu ei un bach a gwarth ei rieni yn gorphwys i raddau arno ef, canys 11 basdard ydyw. Yn awr, ferched Cymru, nid ffug ydyw hanes Jane! Na. Gelwch i'ch cof am fynud, ai nid ydych yn adwaen rhyw Mari, lieu Esther, neu Dinah, neu ryw enw arall a ddaeth i'r un plot a Jane ? Ha! odid Bad oes yn mhiith darllenwyr y llythyr hwn rai ydynt yn dystion mai gwir yd) w hanes Jane ofidus. Y mae rhai wedi dyfod i'r cyflwr hwn yn priodi, rhai er glanhau'r spotyn a thywel yr amod briodasol, ac ereill ar gais eu rhieni neu eu cyfeillion. Do, yn siwr, priodasant; ond beth a fu eu dyfodol hwy. Rhyw Sedan a fu. Diosg- vyd coron eu hanrhydedd gan law anniw- eirdeb, a bywyd o ymrafaelion dichellddrwg a fu rhyngddynt, yr hwn a derfynodd cyn ei amser, dichon drwy ddwylaw eu gilydd! Ferched Cymru, gwyliwch. Aeth ereill i garu oddiar gymellion israddol, ond yn gymellion personol er hyny. Aeth rhai i garu drwy gymelliad ac hudoliaeth hardd- wch personol-llygaid duon, gwallt melyn modrwyog, a gruddiau rhosynog, a phethau felly hudodd rai i garu. Aeth cantorion i garu eu gilydd am eu bod yn gantorion, ac yn gallu chwareu'r piano. Ac aeth llawer i garu oherwydd cyioeth, gan seilio eu holl ddedwyddwch ar bethau felly. Beth yw yr achos o'r holl ymrysonfeydd teuluaidd y sydd? Y rhai a aethant gyda'u gilydd o dan hudoliaeth harddweh a hoender corff- orol; wedi i'r rhai hyn gilio, onid oedd yn naturiol i'r cariad ddarfod pan ddarfyddodd ei sylfaen ? Daeth y plant i ofyn am ofal y fam yn lie canu a chwareu'r piano, a chymerodd cyfoeth ei aden, a ffwrdd ag ef er ffawd arall, a pha ryfedd i fywyd rhai felly, yn absenoldeb prif gymellion eu hun- iad, i fyned i deimlo yn anfoddog ac yn ddraenogaidd ar eu haelwydydd ? Pa fodd y mae gwella hyn ? Peidio ar un wedd a dilyn eu llwybrau, dyna'i gyd. Peidied un mab byth a myned led ei droed ar ol un ferch am fod ei harddwch yn rhagori ar ereill. Dichon mai yr harddaf a fydd a lleiaf o n'odau sylweddol gwraig dda arni wedi'r cwbl; er nad yw harddwch yo un rhwystr hanfodol i un fod yn wraig dda, eto, y mae llawer o'r rhai hyn yn myned i addoli eu hunain ar allor balchder, ac yn esgeuluso ymarfer eu hunain i droi yn brof- iadol yn nghylchoedd hanfodol gwraig dda. Gwelais cyn hyn haner dwsin yn ymryson caru tua rhyw doll, ddiwerth, ac yn gadael merched ag oedd yn fil mwy teilwng yn ddisylw, a hyny yn unig am Dad oeddeni mor hardded ac mor hoewed a'r hon y gyrent ar ffordd eu gilydd ar ei hoi. Gem mown cymdeithas ydyw merch lan, ond y mae yn ddwbl felly os bydd yn dda hefyd, a gwyn ei fyd yr hwn a'i eaffo hi yn wraig iddo. Ond cofier geiriau gwirionedd y doethawr Solomon:—'Fel modrwy aur yn nhrwyn hweh yw menyw lan heb synwyr.' ( s am fywyd dedwydd ar aelwyd glyd deublyg gynes, bydded i'r gyfeillach garwriaethol gael ei bodolaeth mewn cariad, a'i llywio gan reswm goleuedig yn elfenau moesgar- wch, yr hon yw mam dyngarweh a ded- wyddweh y bywyd priodasol. Byddai yn fil gwell i ni i farw wrth y miloedd yn hen ferched gweddwon na byw bywyd o ym- rysonfeydd yn nghylch cysegredig y fodrwy briodasol. Oni ddarfu i lawer dyn ieuanc deimlo ei hun yn cynesu at lawer merch ieuanc cyn hyn, fel ag i holi pwy a pheth ydoedd, ac wedi clywed "ei bod wedi bod yn caru tua hwn a hwn, a hwn a hwn cyn hyny, a'i bod yn awr heb neb;" onid yw hanes fel hyn wedi diffoddi'r teimlad a fu yn achosi yr holi, a phwy all ddweyd nad oedd hyn yn diffodd cariad ? Dichon y caf ^yfle i'ch hanerch eto ar y pwne pwysig hwn, ond hyd hyny, bydded i chwi oil i astudio elfenau dedwyddwch teuluaidd, gan gofio peidio aberthu y mwyaf er cael y lleiaf. Peidiwch, er dim, a thynu gwg dwyfol ar dymor ieuenctyd, onide bydd yn gymylau duon uwchben eich teulu.—Yr eiddoch, ar dir rhinwedd, "HARRIET LEE." (l'w larhau.)

Masnach yr Haiarn a'r Glo.

Eisteddfod Cwmgarw, Tach.…

ABERDAR.

: GLYN EBWY.

DERI.

CAERNARFON.

CRICIETH.

.BALA.

[No title]