Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
.Gair o L'erpwl.
Gair o L'erpwl. PRUDD-DER a digalondid sydd yn nodweddu pob cwr o Brydain, a miloedd yn dyoddef eisieu bara nid yn unig yn y wlad ond yn y trefydd a'r dinasoedd mawrion. Nid prinder gwenith a phethau angenrheidiol ereill ydyw yr achos o'r caledi mawr, ond yn hytrach prinder arian i bwrcasu y cyfryw angenrheid- iau, pa rai sydd yn ofynol er cadw iechyd yn y corff a bywyd yn y gwaed. Fel y dywedais o'r blsen fwy nag unwaith, mae ystordai L'erpwl yn unig yn cynwys digon o ddefnydd cynaliaeth i'r werin am flynyddau i ddyfod, ond fod y cyfryw gyflenwad yn perthyn yn gyfangwbl i'r Upper Ten-y bobl hyny sydd yn feddianol ar gyfoeth a moethau. Mae y werin bobl yn dibynu yn hollol ar lafur y corff, er enill cyflog a phan na cheir lie i lafurio, bydded hyny ar wyneb y tir, neu o dan wadnan y mynyddoedd ac yn nghrombil y ddaear, nid oes cyflog i'w ddysgwyl, a'r canlyniad o hyny yw fod y tlawd yn gorfod dyoddef arteithiau nad oes neb ond y dyoddef- ydd ei hun yn gwybod dim am y dirdyniadau. Wn i ddhl), ar fy ngair, beth sydd i'w feddwl am weithwyr Prydain o dan y cyfyngder presenol, pan nas gallwn ganfod cymaint a llewyrch seren fechan o adfywiad yn y cylch masnachol. Pob peth i'w ganfod fel pe wedi ei daro gan y parlys mud, ac fel yn gorwedd fel creadur wedi cael ei orweithio, a phob gobaith wedi darfod am byth. Cofus genyf glywed dyn unwaith yn dweyd na fuasai yn un pwys 1 r werm weled y melmau Jhaiarn yn cael eu cau, a'r glofeydd yn sefyll am byth. Mae dymuniadau y creadur anystyriol hwnw -wedi cael eu sylweddoK erbyn heddyw, a'r gweithwyr yn teimlo pwys y canlyniadau gyda galar, tra yn adgbfio am a fu. Ofer dysgwyl cymaint o archebion tramor yn y dyfodol, am fod gwledydd y Cyfandir yn dibynu llawer ar eu hadnoddau cartrefol, fel na raid iddynt ddyfod mor ami i'r farchnad yn y wlad hon. Yn amser llwyddiant, fe redwyd pethau mor uchel yn ein marchnad- oedd Prydeinig, a dychrynwyd y tramoriaid nes agor eu llygaid, a gwneyd iddynt edrych gartref am gyflenwadau, er y gall y cyfryw fod yn llawer llai ei werth na'r hyn allasent bwrcasu yn ein porthladdoedd ni. Beth bynag am ddefnydd a gwerth adnoddau tra- mor mewn cyferbyniad i adnoddau y wlad hon, mae yn ddigon amlwg i'r hwn a fyno weled fod masnachwyr tramor wedi dychrynu gan yr uchelbris a ofynid iddynt fel nad ydynt yn awr yn dyfod i'r farchnad i gynyg pris 0 gwbl. Pwy sydd i'w feio am hyn? Wel, rhaid gadael hyna i'r darllenydd i'w ateb, wedi y caffo amser i synfyfyrio ar y pwnc. Mae y melldithion a'r rhegfeydd an- ystyriol a bentyrid ar fy mhen i ac ereill am feiddio dweyd ac ysgrifenu dim ar fasnach j byd wedi disgyn yn ol erbyu heddyw a'r dosbarth meddylgar o weithwyr fy n^wlad yn gweled fod yr hyn a ysgrifenwyd yn y gor- phenol yn wirionedd mor anhawdd ei ddy- chwelyd a phe ceisient daflu yr Wyddfa i For y Werydd. Rhaid cael cyfundrefn i wella sefyllfa y werin yn gyffredinol ac nid cymdeithas i lesoli yr ychydig, oblegyd os .Y cyfundeb bydded y cyfryw ar sylfaen eang a mawreddog, fel y byddo i bawb gael teimlo lies a bendith y cyfryw mewn ffurf weithred- ol. Nid yw y Small. Joint Companies a'r Limited Societies bychain yn dda i ddim ond 1 ryw ychydig o gynhyrfwyr ystrywgar, ffalst, a dichellddrwg, nad adwaenant rinwedd. Os wyf wedi deall rhywbeth am y byd a'i bethau, credwyf y dylai hyrwyddwyr ein symudiadau cyhoeddus a'n sefydliadau cym- deithasol fod yn ddynion o ymddiried ac yn gallu teimlo cymaint dros eu cyd-ddyn a throstynt eu hanain. Mae digon o engreifftiau wrth law i brofi ein gosodiad mai rhyw ych- ydig sydd wedi elwa oddiwrth lawer o symud- iadau a gychwynwyd yn Nghymru o dan yr enw o fod i amddiffyn hawliau y dosbarth gweithiol, ond nid atebasant y dyben sylfaen- ol o ddyrchafu y gweithwyr ond trodd yr olwyn, a darostyngwyd y cyfryw yn is nag y buont o fewn cof neb sy'n fyw. Odid na fydd rhywrai yn camesbonio fy sylwadau, ond cred- wyf nad oes un dyn o feddwl clir a diragfarn a wna hyny, am fod cydgordiad fy nodiadau ag amgylchladau yr amser aeth heibio mor amlwg a goleuni canol dydd. Ewyned a fyno, a minau ymfoddlonaf ar y dybiaeth fy mod wedi gwneyd fy nyledswydd fel gohebydd y GWLADGAKWII er dechreuad y rhyferthwy, a thrwy gyfuod y chwyldroad masnachol a'r cyfnewidiad mawr pan trodd pethau i fyned i lawr ar y goriwaered. Ysgrifena Gohebydd yn un o bapyrau Seisnig L'erpwl ar y caledi presenol yn Nghymru, a dywed y dylid gwneyd apeliad uniongyrchol at y Llywodraeth am gynorthwy i'r sawl sydd yn dyoddef cyn yr elo yn rhy bell, rhag i'r newyn droi allan yn haint, a hwnw i ysgubo y trigolion i'r bedd yn an- amserol. Deiseber yn gyntaf at yr Aeladau Seneddol, a cheisier ganddynt ddwyn y mater i sylw y Senedd, a hyny heb golli dim amser. Gwelaf fod un o'r aelodau dros y fwrdeisdref yn eich plith yn rhoddi cyfrif o'i wasanaeth yn Sant Stephan. Mae genych gyfle i wasgu ar ei wynt, a chael ganddo i godi ei law a'i lais dros y sawl sydd yn dyoddef. Gwrthododd wneyd llawer o beth- au, ond weithian dyma achos teilwng a phwysig, gwir haeddianol o sylw pob dyn sydd a gronyn o ddynoliaeth yn ei galon. Os gwrthoda, fe ddylid cofio am dano adeg yr etholiad nesaf. Mae y cyfyngder yn fawr wrth bob tebyg, a than y cyfryw amgylchiadau y mae angen cynorthwy. Dysgwyliaf weled fod rhai ohonoch yn codi y mater i'r gwynt trwy alw cyfarfod cyhoeddus i ymdrin a'r mater cyn yr elo pethau yn rhy bell.—Yr fiiddoch, CYMKO GWYLLT. J
Cyfarfod y Glowyr yn Aberdar.
Cyfarfod y Glowyr yn Aberdar. CYNALIWYD cyfarfod dirprwyol o gynrychiol- wyr glowyr Mynwy a. Dehendir Cymru yn y Bute Arms, Aberdar, dydd Llun diweddaf, er ethol cynrychiolwyr ar ran y gweithwyr ar Bwyllgor y Sliding Scale. Mr. John*Evans, New Tredegar, oedd yn y gadair is-gadeirydd, Mr. Thomas Phillips, Mountain Ash ysgrifen- yddion, Mri. J. W. Andrews a Joseph Price. Yn mysg pethau ereill pasiwyd y penderfyniad- au canlynol :— Fod yr hen gynrychiolwyr i gael eu hail ethol am y chwe' mis dyfodol." Os bydd apeliad i gael ei wneyd am unrhyw gyfnewidiad yn aelodau y Bwrdd, neu Bwyllgor y Sliding Scale, bydd rhaid i nodiad o'r cyfryw gyfnewidiad, yn nghyd ag enwau y partion, i gael eu danfon i ysgrifenydd y Bwrdd ar neu cyn y laf o Dachwedd bob blwyddyn." Dygwyd aehos gweithwyr Blaenafon gerbron, a dychwelwyd yr ateb gan y dirprwywyr nad oedd gan y pwyllgor un engraifft flaenorol fel ag i ddysgwyl i'r meistri ostwng graddfa y cyflogau. Siaradwyd ar achos Glofa Bodring- allt (gweithwyr nos), ac eglurwyd i'r dirprwywr nad yw dull gweithio mewn unrhyw lofa i gael sylw y Bwrdd, ond os crea gyfnewidiad neu ostyngiad yn ngraddfa y cyflogau, geill yr ach< s gael ei ddwyn dan ystyriaeth y Bwrdd. Pen- derfynwyd yn mhellach :— Yn marn y cyfarfod hwn, lie y mae y glo- wyr yn cael eu gorfodi, trwy orchymyn y gor- uchwylwyr, &c., yn y glofeydd, i weithio dri yn yr un talcen, yn y lie yr arferai dau fod, ac heb dderbyn 2g. y dunell am hyny, eu bod yn gweithio yn groes i ysbryd dyfarniad 1875." "Fod Mri. Evan Owen, Aberaman, a John Hughes, Rhondda, i gael eu hapwyntio yn ar- chwilwyr cyfrifon Bwrdd y Sliding Scale o du y gweithwyr am y deuddeg mis diweddaf." Fod y cw'estiwn o argraffu nodan y ber- ysgrifydd i gael ei siarad yn y cyfarfod dirprwy- ol nesaf cysylltiedig it'r Bwrdd." I Fod y cyfarfod hwn yn uchel gymeradwyo lamp Mr. Theophilus Thomas, lampmctn Aberdar, i ystyriaeth holl lowyr Mynwy a Deheudir Cymru, fel y lamp oreu at eu gwasan- aeth. "Fod diolchgarwch gwresocaf y cyfarfod i gael ei roddi i'r cadeirydd, is-gadeirydd, a'r ysgrifenydd."
t Y Seithfed Adsain.
Y Seithfed Adsain. Ddarllenydd, a welaist ti fdestynau dewis- edig yr Eisteddfod Genedlaethol '78; os naddo, ti ddylet gael golwg arnynt, a bod yn sicr. Traethawd beirniadol ar Athroniaeth Locke mae hwna yn unig yn dal cymaint o berthynas a. chenedl y Cymry a phe cynygasid gwobr am draethawd ar "Fwncïyddiaeth," a phrofi yn hwnw fod y mwnci yn dad y dyn. Wn i ddim ai gwir y stori fod y gwr a gynyg- iodd y testyn wedi ymddiswyddo o'r pwyllgor, er mwyn cael y fantais o fod yn rhydd i gystadlu. Mae rhywbeth yn bwdr yn Llan- badarn. Beth nesaf, tybed ? Odid na chy- nygir, yndestyn, traethawd ar "Y cymhwys- der eydmarol mewn dyn i fod yn ysgrifenydd eisteddfod, a chasglwr trethi." Rhaid i'r clique gael pobpeth yn eu ffordd. eu hunain, onite ni fydd dim yn un gwerth. Hawdd adnabod pwyllgor unrhyw eisteddfod yn newisiad y testynau heb fyned gam yn mhell- ach. Cymaint a yna wrth fyned heibio am y crach eisteddfodau cenedlaethol, y rhai nad ydynt felly, ond yn hytrach yn Seisnigyddol yn mhob cysylltiad. Nid yw yr eisteddfodau agyneliryn awr yn y cymeriad "cenedlaeth- ol ond gwatwariaeth ar y wlad a'r genedl, pryd y dylai prif wyl y genedl fod yn tuedd- beni tuag at ddyrchafu ein cenedl yn foesol a chymdeithasol cefnogi talent Gymreig yn llenyddol a cherddorol a gwneyd pobpeth, fel y dywed Pobman, er gogoniant a dyrch- afiad y genedl yn mhob ystyr, yn lie gadael hyny i ddyfod yn mlaen fel ail beth ar y bwrdd. Fe ddeil ein cenedl feirniadaeth yn ngwyneb unrhyw genedl ar wyneb y byd o ganlyniad, paham y gadewir i Seisnigyddiaeth i fod yn flaenaf bob amser yn ein cyfarfodydd cenedlaethol. Clywais Saes (nid anenwog) yn cyfaddef yn y, geiriau canlynol :The merits of the Welsh nation-in literature, music, and political effusions-will stand the severest criticism." 0 ganlyniad, paham y mae yn rhaid i Gymro daro i lawr o flaen y Sais. Gwroldeb a phenderfyniad ydynt rai o nodweddion ein cenedl; gan hyny, i ba beth yr ymostyngwn yn wasaidd o dan draed cawciod diddawn, difeddwl, a diwybodaeth ? Gwlad yr hen Frythoniaid, Gwlad'y dewr a'r rhydd Cartref hen wroniaid Gwrol yn eu dydd. Mae y newyddion diweddaf o sir y Menyg Gwynion yn dweyd llawer, ac am wn i nad ydyw ymddygiad y bobl, ar foreu bythgofus y crogi, yn myned dipyn yn eithafol o blaid y troseddwr. Mae yr hwn allo anmharchu ei hun yn anmharchu ei wlad a'i genedl yr un pryd. Mae yn syn meddwl fod Ysgotiaid a Saeson yn cael mwy o barch yn Nghymru na phlant y wlad eu hunain. Profir y ffeithiau hyn yn ami ganddygwyddiidaudyddiol ac wythnosol. Dygodd damwain anffodus y Tynewydd rai pethau i'r golwg ag sydd yn gwbl groes i gyf- iawnder. Onid trwy ddiwydrwydd a llafur Morien y taenwyd y manylion hyny fu yn foddion i enyn teimladau y cyhoedd i gyfranu yn helaeth i'r trysorfeydd? Bu Morien wrthi foreu a hwyr yn gweithio fel Cymro er gwneyd yr hyn a allai o dan yr amgylchiad- au, ac er cymaint a wnaeth mae efe wedi ei adael yn hollol ddisylw ganj reoleiddwyr y trysorfeydd. Yn ngwyneb hyn y mae yn naturiol gofyn, beth a wnaeth McLucas dros y mudiad casglyddol pan yr estynir o 40p. i 60p. iddo ? Os teilynga Ysgotyn dal am beidio gwneyd dim, y mae yn sicr fod Morien, yr hwn sydd wedi gweithio mewn amser ac allan o amser, yn deikvng o gydnabyddiaeth, gan fod hyny yn cael ei wneyd 4 dynion na wnaethant ddim. Mae yr hen chwedl yn wirionedd digon safadwy, fod Sais ac Ysgotyn pn Nghymru yn cael gormod o'r byd da ac ielaethwych beunydd. Gall fod rhywun all roddi tipyn o eglnrhad a goleu ar hyn, gan fod ychydig o dywyllwch yn amgylchu y drafodaeth. Nid oes mo'r help genyf fy mod yn mynych gernodio y Sais am yr anrhaith y mae efe wedi ei gyf- lawni ar fy ngwlad. Melldith ar gymdeithas Gymreig ydoedd dyfodiad Saeson ystrywgar i Fynwy a Morgan wg ac herbyn heddyw mae meibion Cymru wedi myned mor ddall- bleidiol fel y maent yn haner addoli ambell i Sais cegrwth a gwyneb-galed nad yw yn gofalu dim am lwyddiant y wlad a'r genedl yn mhellach da chael cymaint allo o aur ac arian y gweithwyr. Pan fyddo dyn fel y cyfaill Morien wedi gweyd gwasanaeth cy- hoeddus i'r byd, fe ddylai gael ei gydnabod yr un modd, ac nid cael ei adael o'r neilldu gan gymeryd sylw o arall cwbl annheilwng. Y pwyllgor gweithiol sydd yn gyfrifol am y camwedd, ac oddiwrthynt y mae gan y cy- hoedd hawl i ofyn am eglurhad a goleuni ar y mater. Cawn alw sylw at hyn eto fe ddichon, ond am y presenol awn yn mlaen i ddweyd rhywbeth ar y pwnc teilwng o godi cofgolofn ar feddrod Williams, Pantycelyn. Meddylia rhai mai yr Hen' Gorff ddylai ym- gymeryd a'r gorchwyl, ond fe geir miloedd yn tybio fel arall, am y rheswm fod Pantycelyn yn ddyn rhy fawr i gylch plaid, ac mai dyn y genedl ydoedd y Perganiedydd. Mae yr yswain, Thomas Shencyn, o Rhyd y Brython, am osod ei ysgwydd wrth yr olwyn, ac nid wyf yn gwybod am neb gwell a chymwysach yn y De, ac yn Gogledd dyna'r yswain, John Roberts, o Tanyrallt, Abergele-dau ddyn o ymddiried i fod yn drysoryddion. Teilynga er ei goffa gael maen o fynor gwyn, I nodi ei orweddfan yn Llanfair ar y bryn. EpYn gymaint ag y bydd i mi gyfle eto i siarad am y mudiad yn mhlith ereill, gadawaf am y tro hyd nes yr aeddfedo y peth dipyn yn rhagor.—Yr eiddoch, yn gywir, JOHN JONES.
Family Notices
GENEDIQAETHA U. Rhagfyr laf, priod Mr. W. Roger Lewis, mining engineer, 6, Whitcombe-street, Aberdar, ar ferch gelwir ei henw Harriet Powell. Boed dwyfol nawdd i'r fechan ar ei rhawd, Nes esgyn fry uwch holl flinderau'r cnawd. -Brytlwnfryn. Dydd Mawrth, Rhagfyr 4ydd, priod Mr. T. Da vies, Gurnos, Ystalyfera, ar ferch, a gelwir ei henw Jane. Nadolig gwyn, plentyn teg, Unrhyw a'i mam yn anrheg; O'r nef wen daeth yr un fach, Eneth lwys b'le ei thlysach. < Duw uniawn, Tad pob daioni,-edrych O'th lywodraeth arni Diwall Dad, dy fantell Wastad ymdaena drosti. Ei Thad. Rhagfyr 8fed, priod Mr. Henry Williams, Dean-street, ar ferch, a gelwir hi Elizabeth. Rhagfyr laf, gwraig Mr. William Phillips (Gwilym Cynon), Aberdar, ar fab ei enw yw Gwilym Phillips. HenfFych well, yn hoff a cMn,—a eiliwn I Gwilym, eich maban Byd digroes, hir oes i'w ran, A dedwyddyd da dyddan.-G. ab loan. Rhagfyr 6fed, gwraig Mr. Phillip Davies, contractor, Llwynypia, ar fab; ei enw yw Demetrius Davies. Tachwedd 29ain, priod Mr. David Jones (Braich-y-deyrnas), Penycnap, Llanegwad, ar fab ac etifedd, gelwir ei enw David John. —Hen Wraig o'r Llan. PRIOD AS. Rhagfyr lOfed, yn nghapel Siloa, gan y Parch. D, Price, yn mhreaenoldeb y cofrestrydd, Mr. G. G. Jones, Mr. David Williams (Dewi Glan Gwenallt), Abernant, a Miss Caroline John, Aberdar. MARWOLAETHAU. Rhagfyr y 4ydd, yn 81 mlwydd oed, Jenkin Lewis, Mary Street, Davies Town, Aberdar, tad Mr. Morgan Lewis, furnace manager, Aber- sychan (gynt o Abernant). Yr oedd yr ym- adawedig yn ddarllenwr mawr, yn fyfyriwr dwys, ac yn un o'r dynion mwyaf deallgar mewn achoaion gwladwriaethol, hanesyddol, a chref- yddol, a gyfarfyddasom erioed. Claddwyd ef dydd Sadwrn canlynol yn Cemetery Aberdar, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. R. J. Jones. Tachwedd 12fed, yn Norton Villa, California, yn dra disymwth, o glefyd y galon, Ebenezer, mab hynaf Dr. Rees, Abertawe, yn 37 oed, gan adael gweddw a thair o ferched.
[No title]
Rhoddwyd ciniaw yn Llundain yr wythnos ddiweddaf, er anrhydeddu Mr. Forbes, y Daily News. Y MAE Dr. William Rees (Hiraethog), L'erpwl, wedi anrhegu Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a darlun hardd o'i hunan. Y mae Mr. Charles Thomas, Trenewydd, hefyd, wedi anrhegu yr un sefydliad a darlun o Ignatius Loyola (sefydlwr yr urdd o Jesuit- iaid), unwaith yn meddiant yr eghvys San Juan de Dios,. Lima, Peru. JJAMWAIN ANGEUOL YN MLAENAFON.—Tua chwech o'r gloch prydnawn dydd Iau, Tach- wedd 29ain, tra yr oedd dyn, o'r enw Charles Racks, yn myned allan o'r forge tua chartref, daeth trucks, yn llawn o haiarn, ar ei draws, a chafodd ei daraw i lawr, ac fe aeth olwyn- ion amryw o'r trucks drosto, gan ei dori yn ddau tua'r haner. Yr oedd yn noson bur dywell, ac yntau yn dyfod allan o oleuni tanau y forge yr oedd yn dywyllach fyth iddo ef. Gadawodd weddw i alaru ar ei ol. MR. SPURGEON YN BEYSTE.—Bu y pre- gethwr enwog uchod yn Bryste yr wythnos ddiweddaf, a phregethodd ddwywaith yn y Colston Hall, i gynulleidfaoedd mawrion, dydd Mercher. Yr oedd 50,000 o apeliadau am docynau wedi eu derbyn o Orllewinbarth Lloegr a Deheudir Cymru. Deil y neuadd tua 3,000, a gwasgarwyd y tocynau yn benaf rhwng aelodau y Bedyddwyr yn y ddinas a'r gymydogaeth. Yn y boreu, anerchwyd efrydwyr coleg y Bedyddwyr a choleg yr Annibynwyr, yn Stoke's Croft. Yr oedd Mr. Spurgeon fel efe ei hun, a'i sylwadau miniog a phwrpasol yn rhoi boddlonrwydd cyffredinol.
Advertising
Ail Eisteddfod Flynyddol Salem, Llanilltyd Fardref. OYNELIR yr Eisteddfod uchod DTDD GWENER Y GROGLITH, 1878, pryd Ylgwobrwyir yr ym- geiswyr llwyddianus mewn Rhyddiaeth, Barddon- iaeth. Areithyddiaeth, a Chaniadaeth. PRIF DDARNAU CORAWL 1. I'r c6r, o'r un gynulleidfa, heb fod dan 40 o rif, a gano yn oreu, Molwch yr Arglwydd," gan D. Jenkins, Trecastell; gwobr, 7p. 2. I'r c6r, heb fod dan 30 o rif, a gano yn oreu. Molwch yr Arglwyd," gan Joseph Parry gwobr, 2p. 3. I'r cor o blant,, heb fod dan 30 o rif. na thros 15 oed, a gano yn oreu, Teilwng yw yr Oen," o'r Messiah i Blant; gwobr, lp. PRIF DERTTYN TRAETHAWD 1. Diogi a'i ganlyniadau gwobr, 10s. BARDDONIAETH 1. Marwnad oreu i'r diweddar Mrs. Mary Jones, Llest Farm, Llanilltyd Fardref; gwobr, Ip. Is. 2. Wyth penill goreu, heb fod dan wyth llinell yr un, darluniadol o deimlad y pump glowr yn Nglofa Tynewydd cyn eu rhyddhad gwobr. Ip. BEIRNIAID Traethodau a'r Farddoniaeth: y PARCH. H. WILLIAMS, Llanilltyd Fardref. Adroddiadau, Areithio. a Darllen: y PARCH. T. GRIFFITHS a MR. JOHN REES. Y Ganiadaeth: GWILYM CTNON, Aberdar. Am fanylion y Farwnad ymofyner a MR. E. H. EVANS, Llest Farm, Llantwit Fardre, Pont- ypridd. Pob manylion, yn nghyd a'r gweddill o'r testyn- au, i'w cael ar y programme am y pris arferol gan yr ysgrifenydd. THOMAS WILLIAMS, Holly Bush, 1792 Llantwit Fardre, Pontypridd* Goreu art, arf dysg." Siloam, Gyfeillon. BYDDED hysbys y cynelir yr WYTHFED GYLcn- -U WYL LENYDDOL yn y lie uchod dydd GWENER Y GROGLITH, 1878, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol mewn Rhyddiaeth, Barddoniaeth, Can- iadaeth, Areithio, Adrodd, &c. Prif Destynau: Tmethawd-" Gwyrthiau Crist, a'u nodwedd- ion;" gwobr, gini. Pryddest-" Gwahaniad yr Iorddonen gwobr, gini. Caniadaeth—I'r Côr, heb fod dan 30 mewn nifer a gano yn oreu y Requiem ar ol y diweddar Ieuan Gwyllt, gan Proff. Parry, U.C.W.; gwobr, 7p., a metronome i'r Arweinydd, gwerth lp. 10s. Pob manylion pellach, yn nghyda'r gweddill o'r testynau i'w cael ar y programme (yn barod dde- chreu Ionawr), am y pris arferol, gan M. MORGAN, Ysg., 1793 Trehafod, Pontypridd. M6r o gan yw Cymru gyd." MUSIC HALL, CAERDYDD. BYDDED hysbys y cynelir Eisteddfod Gerdd- orol Fawreddog yn y lie uchod, DYDD GWENER Y GROGLITH nesaf. BEIRNIAD J. H. ROBERTS, Ysw., A.R.A., Caernarfon. PRIF DDARNAU: 1. I'r c6r heb fod dan 100 o nifer, a gano yn oreu, Then shall your light" (Elijah); gwobr, 30p. 2. I'r c6r heb fod dan 60 o nifer, nad enillodd dros 15p. ya flaenorol, a gano yn oreu, Datod mae rhwymau caethiwed (J. Thomas); gwobr, 15p. 3. I'r cdr, o'r un gynulleidfa, heb fod dan 40 o nifer, a gano yn oreu, "Molwch yr Arglwydd" (Parry) gwobr, lOp. Caniateir i bob cdr ddewis ei arweinydd. Am bob manylion pellach, yn nghyd a gweddill y testynau, gwel y programme, i'w gael gan yr ysgrifenydd-pris ceiniog, trwy y post 2c. JAMES REES, Ysg., 37, Gough-street, 1786 Temperance Town, Caerdydd. Gwell dysg na golud." Trydedd Eisteddfod Flynyddol y Sciwen BYDDED hysbys y cynelir yr Eisteddfod hon JLt yn y DRILL HALL, yn y lie uchod, Dydd NADOLIG, 1877, pryd y gwobrwyir yr ymgeis- wyr llwyddianus mewn adroddiaeth, areithydd- iaeth, barddoniaeth, a chaniadaeth. Prif Ddarnau Ooraivl. 1 I'r cor, heb fod dan 60 o rif, a gano yn oreu, "Gwalia Wen" gwobr lOp. 2 I'r cor, heb fod dan 40 o tif, a gano yn oreu "Llangristiolus," o Ychwanegiad Ieuan Gwyllt, gwobr 2p. BEIRNIAID Y Farddoniaeth: CRYMLUN, Llansamlet. Y Ganiadaeth: MR. H. MILLS (Tafonwy), Pontypridd. Cynelir Cyngherdd mawreddog yn yr hwyr, pryd y gwasanaethir gan y c6r buddugol, a phrif gerddorion yr ardal. Mae y Programme yn barod, yn cynwys yr holl fanylion, i'w gael gan yr Ysgrifenydd, am y pris arferol. 1718 LEWIS JONES, Francis St. Allan o'r Wasg, pris 6c., CAN (SONG), YN Y DDAU NODIANT, "Charlie Bach ar Fedd ei Dad." I'w chael gan yr awdwr—Eos HAFOD, Ystrad, Rhondda, Pontypridd. Dywed Alaw Ddu am dani fel y canlyn Yr wyf -yn meddwl mai dyma y peth goreu, mwyaf awdurol a nodweddiadol a welais yn dyfod o dan eich dwylaw eto. Yn wir, mae yr Alaw yn oilawn o'r dwys, y tyner, a'r naturiol. Mae y piano pwrts hefyd yn profi cryn dipyn o gynydd gyda'r cyfeillio ond buasai yn well a mwy cywir pe buasai y symphony yn bedwar un wyth ban y& lie tri, neu fel y rhenwch y gan yn chwech mesur. Y mae tri bar rhythm yn ddrwg yn ngolwg ysgol- beigion cerddorol." 1745 1_ John Jones a John Bull ydyw'r bobol Syn'n cadw 'r hen fyd yn ei le." DIFYRWCH AC ADEILADAETH. Yn Ionawr, 1878, cylioeddir y Rhifyn cyntaf o'r Cylchgrawn hynod, "JOHN JONES:" SEF cyhoeddiad darluniadol misol i'r Cymry, er budd a phleser yn eu horiau hamddenol. Cynwysa y rhifynau cyntaf ddarluniau o gerddor- ion Cymru, gyda by wgraffiadau ohonynt. Darlun- iau digrifol. Darluriiau dyddorol a tharawiadol, yn nghyd ag ysgrifau difyrus ac addysgiadol. Dan olygiad y Parch. E. Gurnos Jones. PRIS CEINIOG. Dosbarthwyr yn eisieu yn mhub ardal. Anfoner archebion yn ddioedi i'r cyhoeddwr—P. M. EVANS, Printer & Publisher, Tal-y-sarn, Carnarvon. 1791.
Darllenwch, .Ystyriwch, .a…
Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwck yr hyn sydd Wir. GWILYM EVANS' QUININE BITTERS, NEU VEGETABLE TONIa. Y Feddyginiaeth oreu a ddychymygwyd <xc a ddyfeisiwyd er cryfhau y cyfansoddiad a phuro y gwaed. Y" MAE y Bitters hyn yn hollol lysieuol, ac yn cynwys chwerw-lysiau a mejjjp- lysiau wedi eu haddas gymysgu, sef Quinmfe Sarsaparilla, Saffron, Lavender, Burdock, T jwfr. w°rt, Grentian Root, &c. Mewn gair, y maej^bfl bob llysieuyn a gwreiddyn gwerthfawr yn y feddyginiaeth.^ ryfeddol hon, ac y maent wedi cael eu parotoi ar ol llawer o fyfyriaeth yn y modd goreu er eu perffeithio i fod yn wellhad difethiant at y doluriau canlynol (1). Gwendidau o bob math yn ymddangos fel un neu r agor o'r anhwylderau canlynol-iselder ysbryd, nervousness, curiad y galon, chwysa teimlad blinedig a chysglyd, y gwaed yn rhutfffo ddisymwth i'r gwyneb, llewygon, teimlad; o bwysau ar y chest, poen ar y chest, poen rhymg yr ysgwyddau, diffyg anadl, phlegm, y gwaecf^n tori, peswcb, a thueddiad at y darfodedi^aeth (decline). a v-J. JJ1Dyg treuiiad a l ganlyniadau, sef gwael- der cyn bwyd, trymder anarferol ar ol bwya, diffyg archwaeth at fwyd, yr ystumof yt chwyddo trwy wynt, yr anadl yn drwm, genau yn sych ac yn boeth, brathiadau disym. wth yn yr ochr, y plevrisy, yr afu yn aflach, thrwy hyny yn aehosi y clefyd melyn, poen groes i'r llygaid, ac ysgafnder yn y pen. (3). Trwy effaith y Sarsaparilla a'r Burdoo argylchrediad y gwaed, y maent yn hynod efteithiol at y blast neu'r awelon, gwynegoB ystyffdra y cymalau, y croen yn bigog ac anes4- mwyth, a phob math o ddistemper yn y Y mae tystiolaethuu pwysig yn cael eu dertf^n yn barhaus. Cyhoeddir pump yn unig o'r lluaws. Gellir cael pob hysbysrwydd trwy ysgrifenu at y perchenog. Os bydd rhywun yn amheu gwirionedd y can- ynol, dymunir arno ysgrifenu at yr enwau a roddir yma. December 14th, 1876. DEAR BIR,- I have been suffering severely ft)v,,a long time with indigestion and nervous debilfty and their attendant inconveniences. After trying numerous remedies (to no purpose) I tried your Quinine Bitters, and the result is I am now a healthy man. Had I tried it sooner, I believe I should have escaped many restless nights and many pounds in money. Publish this for the benefit of others.—Address—THOMAS REES, De- corator and Valuer, Forester's Arms Hotel, Llan- elly, late of Fishguard. Old Globe, New Dock, Llanelly, May 24th, 1876. ANWYL SYR,—Dymunaf hysbysu i chwi fy mod wedi # cael fy ]lwyr iachau trwy gymeryd eich Quinine Bitters. Yr oeddwn wedi myned bron xn rhy wan i gerdded, ac yr oedd y clwyf ar fy mraich yn myned yn waeth bob dydd. Yr oedd meddyg- on Llanelli a r ardaloedd am dori fy mraich ymaith er achub fy mywyd; ond trwy gymeryd y Quinine Bitters, yr ydwyf yn awr wedi gwella, ac yn gweithio bob dydd. Rhoddaf fy enw yn llawn, fel y gallo ereill gael manylion pellach oddiwrthyf os mynant.—Yr eiddoch, yn barchus, -R.. „ GRIFFITH WILLIAMS. i>ylaswn ddweyd fy mod wedi bod dair blynedd heb weithio ond ychydig. „ n<r 7, Cambrian-street, Llanelli. bYR,-Mewn geiriau byr, dymunaf ddweyd fy mod wedi cael llesad PARHAUS trwy gymeryd eich "Quinine Bitters." Rhyfedd yw eu heffaith. Blinwyd fi beunydd gan boen anferthol yn fy mhen, weithiau uwchben y llygaid, w- ithiau yn yr ochrau, a phryd arall yn curo fel morthwyl, fel ag yr oedd ofn arnaf ddilyn fy ngalwedigaeth ar ben y tJ. Poen yn fy hips a rhwng fy ysgwyddau, a gwendid mawr. Dim awydd na bias at fwyd, ond ar brydiau anamserol. O'r diwedd cymerais eich Quinine Bitters," ac yr ydwyf wedi fy Hwyr welMu. Cyfrifir eich "Bitters" yn ddrud, ond gallat yn awr ddweyd yn ddiofn mai dyna y moddion rhataf a'r goreu a gefais erioed. Gall neb yn gydwybodol ddyoddef poen heb dreio hwn. —ROBERT GUY, Builder. The Grand Hotel, Brighton, July 28th, 1876. DEAR SIR —I feel it is my duty to the public and yourself to inform you that I have derived immense benefit from your Quinine Bitters Vegetable Tonic. I have been for some months victim to headaches, pain in the back, and I believe a general derangement of the liver. I am happy to say I now feel well, but take a dose of your "Bitters" occasionally when my appetite fails.- Yours faithfully, ROBERT FOSTER. Ruthin, Awst 15fed, 1876. i wy £ wedi derbyn lies mawr oddiwrth eich Quinine Bitters. Bu'm yn cael poenau an- nesgritiadwy j n fy mhen a'm danedd, yn cael ei achosi (meddai'r Doctor) gan fy ystumog. Yr oedd y bwyd yn gwasgu cymaint fel yr oedd arnaf ofn bwyta dim. Yr oedd y gWynt yn fy ngofidio. bias cas yn fy ngenau, yn enwedig yn y boreu, tel bwystl. Yr oeddwn yn hala haner fy amser yn y gwelj trwy wendid* ac feallai ychydig iselder ysbryd. Cymerais ddwy botelaid o'ch moddion, ac yr ydwyf yn awr yn teimlo yn gryf a diboen.- Yr eiddoi h. Mr. Gwilym Evans. JANE S. THOMAS. BYDDED HYSBYS I BAWB. (A.) Nid ydyw yn bosibl dodi'r holl gyffeiriau sydd yn y feddyginiaeth hyn mewn PILLS. (B.) Y mae y pris mor isel ag y gall fod, os cymerir i ystyriaeth brinder y Quinine a'r Sar. saparilla. (C.) Gellir gweithio beunydd fel arfer heb un annghyfleusdra, ac nid oes perygi anwyd, ond yn hytrach y mae yn atal anwyd. (D.) Y mae y Bitters yn cryfhau y rhan neu'r aelod o'r corff sydd yn wanach, ac felly yn fwy agored i heintiau ac afiechyd nac arferol, a dylid cofio fod bron bob math o BILLS yn gwanhau y cyfansoddiad ac yn aflonyddu y cylla. (E.) Nid Quinine Wine, na Tincture of Quinine, nac unrhyw gymysgedd arall o eiddo y Druggist ei hun, ond Evans' Quinine Bitters" mewn potelau 2s. 9c. a 4s. 6c., a'r enw "Gwilym Evans, Ph. C., M. R. P. S., wedi ei ysgrifeuu a. Stamp y Llywodraeth heb hyn, twyll a ffus- iad ydynt. Ar werth yn mhob tref, neu yn direct i bob man o'r wlad oddiwrth y perchenog- MR. GWILYM EVANS, Pharmaceutist, Llanelly. D. S. -Os na ellir cael y "Bitters" heb dra; aerth, ysgrifener at y Perchenog. 1723
BLAENAFON.
yn iach,—y mae hanes y ci du, a syniadau ) Jack o'r Bryn am wfr y forge, a lluaws mawr o bethau na feddyliodd neb erioed ond hwy am danynt. Wel, cymaint a hynyna nes y cewch y dose nesaf. PARVO.