Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
[No title]
ii y Rhoddwyd yn fy lia.Tv^ y lyniu* Jion, gan yr Rhoddwyd ya fy lia.Tv^ y lyniu* Jion, ganyr hen fenyw yma, tnewyddiactur Seisnig, <& gwelwyf ynddo newycid da gwerth si gofnodi rnewn llythyrsnau o aur—sef, fod y Parch. Joshua, Davies. Penygraig, wedi agor drws ei ysgoldy i dderbyn ymofynwyr am addysg o hob gradd a safyllfa. Dyma brawx- gwerth- fawr o wirionedd yr Hen Lyfr sef, "Ni edy yr Arglwydd ei saint ïe, pan mae hyd yn nod gaffers, a diaconiaid mewn enw, yn eu gwrthod, yr Arglwydd a'n derbyn. Deah- wyf fod Mr. Davies yn wr pur gyflawn yn ncwvbodaethau eksm-ol ein gwlad, ac yn meddu ar gymhwyader natnrioi yn gystal ag addysg iadol i addysgu ereill ac i goroni ei gymhwysder, mae yn meddu ar ewyllys i Jyfranu yr hyn sydd ganddo i gyfoethogi ei ddysgyblion. Dyma gyfleusdra nodedig 1 ddosbarth ieuanc y cwm-ïo, meddwyf, y wlad,-i gael eu haddysgu yn v rhanau hyny a ddewisont o elfenau amrywiol gwybodaeth Clywir y frawddeg bono, "Ni tu colled i neb heb ei fod yn enill i rai." Felly mewn cys- yllti-id a Mr. Davies. Gwir mai colled fawr oedd ei ymneillduad o'r swydd wemidogaeth- ol, ond bu hyny yn cnill i'r degau nyny sydd vn pesgi mewn gwybodaeth dan ei addysgiad, a hyny yn yr elfenau a ddewisont. Gall yr ymofynydd am gyfrinion daeareg, yr ym- chwiliwr am droellau dyfmon athroniaeth naturiol a moesol, a'r dwfn-dreiddiol am ddyfnderau Duwmyddiaeth, gael gan -lr. Davies ddiogel, syml, ac iachus egwyddonon sydd yn hanfodol i wir ddyrchafiad. Gan hyny, dywedwyf wrth y darllenwyr leuainc, fy mlilant, cymerwch afael ar y cyfleusdra hwn i gynyddu ohonoch mewn pob gwybod- aeth, heb ofni cael eich camarwain i athraw- iaethau dyeithr. Mao Penvgraig wedi dyfod, bellach, yn le pwysig ar gyfrif ei fasnach a'i lenyddiaeth ac i goroni y cwbl, wele ysgol raabarotoawl i gymhwyso pobl ieuainc i fod I) ddefnydd i gymdeithas. Clywais na oddefa Mr Davies i neb o'r dosbarth pregethwrol; sydd dau ei addysgiad ef i bregethu second- > hand sermons, niegva y mae arfer rhai yn y cwm. Da iawn fydd hyny, oblegyd y mae y wlad, yn enwedig Cwrn Rhondda, wedi hen flino ar gawl ail-dwym, fel y dywedir. Pe caftai mvreiddioldeb fwy o sylw gan bwyll- Sforau ein colegau, hyddai llai o bregethwyr a llawer llai o bregethu, oblegyd dynwaredwyr ydynt y rlnm luosocaf, y rhai a esgynant 1 r areithfa yr oes lion o't. hyn leiaf, dyna farn yr—n Wr.
Llith o Lanau Tawe.
Llith o Lanau Tawe. 1. Er fod eich goliebwyr doniol wedi cofnodi llu o hynodion a, difyriou gwerth taflu llygad drostyut, ac wedi rhoddi gwyntylliad deilwng i rai pethau oeddynt yn galw am hyny, ar hyd y Cwm yara, nid ydyw y testynau wedi en dihysbyddu. Na, bydd yn rhaid myned a h ilio'^aeth Adda drwy dipyn o gyfnewidiad cyn byth v bvdd perygl i'r frawddeg a ganlyn fyned yn dda i ddim ond i'r domen, iVun- ders ivill never cease." Gwell peidio beichio y bechgyn cralTus yma ii gormod o rftgymadrodd, gan hyny at y pwno., sef yr hyn a welais ac a glywais. .1 Gweled llefarwr mawr yn mhwlpud y capel yn ca«i "awelon o G.ilfana fryn" i'w gy- northwyo i drill" ffydd, gobaith, a chariad, ac yn nghanol y dimfoldeb mwyaf yn rhoddi touch i'r iciU a'r comic actions, ac wrth hyny yn ystaeao meddyliau v gwrandawyr difrifol. Ciywod creadur prin o'r pwySàu cyffredia yn gwaeddu allan, u Well done, y machgen i." Oweleå tipyn o Jac-fnn-y-dw'r yn tori un üÏ aelodau ymaith, ac yn methu yn lari a rhoddi t ahain" am hyny. Clywed mai v/edi deall yr uedd efe fod mwy o ddoethineb yn yr aelod" hwuw na'r pen ei hun. Campus, Jac, am ochel y pervgl mewn pryd. Gweled fod y Telor wedi myned gyda'i fodryb (y Gwcw) i Affrica. Clywed fod ar- goel y bydd cystadleuaeth boeth rhyngddo a'l fodryb am sylw y werin y gwanwyn dyfodol. Gweled tpscimen o farddoniaeth a iaith y bardd (rhaid wrth y nodyn bycaan hwa gyda beirdd o'r doabarth yma)—gar. y Panther ar Udjorn y Korthyn. Meddwl wyf mai i ryw bar pnodasol yr oedd wedi ei fwriadu, 'HId yn sier marwnad dalcen slip" ddylasai fod uwch ei phen, druan. Campus, y Panther, yr vdwyt yn gwir deilyngu yr enw. Yn wir, dylai y coco3feirdd fod yn falch o honot Gwelecl clochydd Eglwys fwyaf y dyifryn yn brasgamu alian, drwy ganol y gyuulleidfa, ar ol darfod ei 8&rvic& of music* Clywed rhyw- un yn dweyd mai trie yn ei le ag ef fyddai ei gloi gvda'i delyn nes darfod y gwasanaeth clywed arall yn dweyd "Amen." Gweled hynafgwr o'r hen ffasiwn yn chwa- ren ei law gyda'r gynulleidfa pan yn canu yn y gwasanaeth, pan oedd organ fwyaf y De- heudir yn chwareu amser a'i phur seiniau perswynol. Clywed. llanc bychan yn dweyd mai nid chwareu amser yr oedd, nad oedd hyny yn fashionable nac yn weddus ychwaith yn y gwasanaeth, eithr mai chwareu Welwch chwi fi" ydoedd. Gweled fod pwyllgor wedi ei ffurfio i anfon Alaw Meudwy i Brifysgol Cymru. Ymrodded boys yr Ynys i farddoni ar gynllun newydd y Panther, oblegyd bydd Alaw yn corfanu a chyfansoddi fel y gwynt pan ddychwelo, gell- wch fentro. Y mae stwff iawn ynddo. Gweled fod Ieuan Glan Tawe, gorff ac es- gidiau, gyda mn«iv..d Alaw. Clywed mai y rheswm o hyny yw ei fod yn bwriadu cael tymor o ysgol i'w addasu. i sefyll arholiad am fod yn mining engineer. Diaii y bydd eisieu Alaw yn y cyngherdd.—Rooyn Goch.
DERI.
DERI. CON ad y Lle.—" le, coran y lie bellach, ac nid cor, neu, os mynir, cor undeboi galluog y lie wedi gwahanu yn ddau." Wei, darllen- wyr lluosog yGwiADGAitWR, chwi welwch oddi- wrth y rhifyn cyn y divveddaf fod pethau yn annghyffredin o isel yn y Deri. Mae arafwch y gweithiau, a'r t'iodi yn canlyn trwy hyny, yn hynod o annghysurus. Ond y corau yma sydd wedi gwneyd ein trueni yn annyoddefol, braidd na buasai yn well gweled y lie ar dan nag ar gan. Mae yn ddigon amlwg fod cyflwr presenol pethau yma, yn neillduol y corau, yn debyg o yru Osuian Pasha i'w fedd yn anamseroi, os na ddaw gwaredigaeth yn fuan iddo, ac os na dclaw, fe edy y Sultan o dan deyrnged fythol o barch i'w goffadwriaeth am dynu'r anadliad olaf mewn dymuniadau am ei lvvyddiant eisteddfodol. Ond am y dos- barth ymadawol, nis gallant ddysgwyl dim ond ei wa; parhaus, gan fod y Pasha hwn yn ei sê1 filamllyd dros y cor undebol wedi beiddio gwneyd ymosodiad cvhoeddus a chel- wyddog ar ei gymvdogion, y rhai sydd wedi gwneyd cymainfc o garedigrwydd a'r c6r un- debol, mewn rhoddi lie iddynt am ddim i gynal eu hysgolion canu, a roddi benthyg y capel iddynt i gynal concert, pan wedi methu cael pob lie arall; nid yw yn haeddu cael dianc ynddisylw. Dechreuaeiymosodiadary Yfawr, heb gotio neu ysfcyried fod y gymydogaeth yn gwybod yn dda yn mha ochr y mae y Vs mwyaf mewn rhif a maintioli afluniaidd. Y mae y Pasha a'i barti mor fawr fel y tybiant na ddylai neb ryfygu gweithredu yn wahanol i'w gorchymyn a'u cynghor hwy. Ond gallant benderfynu y bydd rhaid iddynt godi cryn lawer o'n lefel presenul yn estimation eu cyd- nabod cyn y gwehmt hyny. Yna a y Pasha yn mlaen yn ei Vawredd arferol i ddweyd dau gelwydd, sef fod y dosbarth ymadawol, ar ol dysgn y peth nesaf i ddim o sol-fa, wedi cyflogi cerddor medrus i'w arholi. Naddo, Pasha nid arholi ond dysgu oedd y swydd- ogaeth. Ac yn nesaf fod hyd y nod eu hathraw wedi methu codi ei droed i ben gris isaf y system hono. Do fe wnaeth hyny o orchwyl yn rhwydd, er ei holl wendid ac an- wybodaeth. Er fod y Pasha hwn yn ceisio anwybyddu pob gradd o wybodaeth gerddorol yn mhiith y cor newydd (ond nid newydd mo hono, ond hen gor perthynol i. un gynulleidfa) beiddiaf ddweyd, heb fyned i derfynau gwag fost, eu bod yn meddu arddigon o allnoedd a I gwybodaeth gerddorol ag a wasanu-etha i'w gosod ar yr un level a'r undebwyr proffesedig, er bod hwy yn ddewisolion tair cynulleidfa. Tebygol yw mai bwyta y tamaid hwn sydd wedi chwerwi bol y Pasha, a'i gatrawd eiddig- eddus nior ofnaclwy. Dichon mai cystal yw iddynt i ymbwyllo, gan gofio fod cenfigen yn lladd ei pherchenog, ac mai oferedd iddynt hwythau dybied y bydd hi yn ddefnydd cyn- aliaefeh feithrin iddynt hwy. Y mae yn ddigon naturiol casglu oddiwrth oernad y Pasha fod rhyw werth wedi yr holl oga.nu arnynt yn y dosbarth auwybodus hwn, onide ni buasai yn peri i'r cyhoedd glywed ei gwyn- fanau torcalonus, yn herwydd ar ol y da y mae dynioa cali fel efe yn arfer teimlo colled. Ond ymgysurecl y Piishu. a'i gyfeillion yn y ffaith fod yr u 11 deb wedi cael gwared o'r fath grnglffyth o anwybodaefch o'i grombil, a bod y fath sw m anfertrh o athroniaeth gerddorol yn aros yn Ido. Gydag an wybodaeth y ma.e y Pasha yn gweled rhyw anfoneddigeidd- rwydd mavrr iawn yn y bobl hyn, am adael y pwyllgor anrhydeddua yn y fibs a gloddiasant iddynt eu hanain drwy eu liuchelgais a'u cynlluniau gorwyntog. Do, fe wriaeth y pwyllgor addewid anrhydeddua i'r cor (yn ol geiriau y Pasha), i'w cludo yn ddidraul i Llanwrtyd. Ond os nad oedd digon o iii- rhydedd yn perthyn iddynt i gyllawni en haddewid, y maeiit yn ddigon haerllug i bardduo dynion am beidio dwyn eu holl feichiau hwy. Mae y Pasha am i'r byd gredu fod llawer llai o egwyddor a boneddi'.reidu- rwydd mewn ymadael 11'1' cor undebol nag sydd yn ngwaith y pwyllgor yn arwain ieuenctyd y gymydogaeth i ymbleseru ar draws y wlad ar hen gount. Gallesid dysgwyl i bwyllgor gweithgar ac anrhydeddus i beidio gwneyd mor war thus ag arwain yr anwybod- usion dro- eu penau i hen gount. Ond, wedi' cwbl, credwyf y gwna yr ymadawiaid eu ran mor anrhydeddus a'r Pasha eto tuag at glirio y ddyled a chredwyf hefyd y gwna ei nodiadau sarhaus, er gwaeled ydvnt, fwy o les na gwasanaeth y cor undebol.-A.B.
Advertising
x MAE D. BUALLT JONES (Alaw Buallt) YN parhau i ymgs'mei-yd ii dysgu y Dosbarth- iadau Cerddorol (Tonic Sol- fa, a. Hen. Nodiant) i arholi am certificates, ac i wasanaethu mewn eisteddfodau, cyngherddau, a chymanfaoedd cerddorol. Cyfeirier i 1759 Tonypaniy, Pontypridd.
——- RESOLVEN.
——- RESOLVEN. AT Bahcut Cwmolydach.—Yn y GWLAD- GARWR Tach. 23ain, cyfeiria y person uchod ychydig ofyniadau i mi mewn perthynas i hanes rhedegfa a ymddangosodd bythefnos cyn hyny. Ni fuaswn yn gwneyd un sylw ohonynt oni buasai v frawddeg ganlynol ar ddiwedd ei lith Os byddi yn ysgrifenu rhywbeth dywed y gwir a dim ond y gwir." Atolwg, Bareut, a elli di, neu rywun arall, brofi fod uri iot o anwiredd yn yr hanes dan sylw neu a elli di brofi fy mod wedi cofnodi anwiredd ar faes newyddiadur erioed 1 Buasai yr un peth i ti ddweyd na chymerodd y rhedegfa le o gwbl ag i ti ofyn y gofyniadau anmherthynasol hyny. Beth barodd i ti 1 feddwl am y fath beth ? Pe buaset yn gyfar- wydd ag ysgrifenu hanesion nl. fuaset byth yn gofyn y fath ofyniad a hwn- Pa fodd y daethost i wybod fod 50p. o bets ar yr am- gylchiad, a oeddet yn hysbvswr (reporter) yno ar y pryd?" Syndod A ydywt yn meddwl y dywed gohebydd ar goedd gwlad pa le y mae yn cael ei information ? Ni wnaf un sylw pellach o dy ofyniadau brwnt hyd nes y profi fy mod wedi dyweyd anwir- edd. "Y r hyn a. ysgrifenais a ysgrifenais." -Llew Nedd.
TYOROES, LLANEDI.
TYOROES, LLANEDI. Dydd lau, Tachwedd 22ain, cynaliwyd cyngherdd ardderchog yn y lie uchod, pryd y cymerwyd rhan ynddo gan Mrs. Magor Evans, Caradog, y Parch. E. Evans, Miss Lloyd, Blayne Lodge Miss Williams, Llanedi Miss Thomas, Plasycoed R. B. Christopher, Ysw., Rhos Colliery; Trevor Williams, Ysw., Parkyrhin Mr. Hughes, Miss Rachel Lewis, Rhosyfedwen Mr. Chance, yr ysgolfeistr; Roger Williams, Ysw., a Miss -Hardwick. Yr oedd Caradog cystal ag erioed, a rhoddodd foddlonrwydd i bawb. "Pwy fuase' yn meddwl gweled Caradog enwog yn Lianedi" (chwedl pobl y lie) ? Nid oedd Mrs. Magor Evans chwaith islaw y mark, ond yr oedd mewn tune ardderchog. Heb ddim pwffyddiaeth, addef- wn na fu gwell cyngherdd yn y lie hwn I erioed. —Mostyn.
PONTYPRIDD.
PONTYPRIDD. oW. R. M. A Chynghbrdd Penuel.— Dy- munwn eich caniatad i'r ychydig linellau canlynol gael ymddangos ar un o dudalenau y GwiADGAiiwR clodwiw. Yn y rhifyn cyn y diweddaf yr ydym yn cael hanes cyngherdd a gynaiiwyd yn nghapel Penuel, Pontypridd, ar nos lau, y 15fed o Dachwedd. Pe buasai y brawd athryiithgar hwn yn ymfoddloni wrth roddi yr hanes yn unig, tebyg na fuaswn yn codi fy ysgrifell i fyny ato y tro hwn ond gan ei fod of, cobler Creunant o Gwm Rhondda, yn myned i ddwrdio bachgen ieuanc sydd yn ymorchestu i gyfodi o'r llwch, nis gallaf ei oddef. Bachgen ieuanc, sobr, ydyw Mr. Morgan, ac y mae yn dda gan bawb, ag sydd yn ei adnabod, am dano. Ac yn nghylch ei allu fel camvr, y mae wedi j amlygu ei hun mewn llawer o fanau cisoes er nad yw ond ieuanc iawn ac yr ydwyf yn mentro dweyd pe buasai yn cael mantais ami i un v gwnelai ganwr yablenydd. Am hyny, cynghorwn y brawd hwn i beidio dywedyd iod Thomas Morgan wedi cynyg yn rhy uchei, oherwydd clywais na fuasai efe yn canu o gwbl oni b'ai fod y pwyllgor am iddo. -Cyfaill i Parvo.
EISTEDDFOD Y DERI.
EISTEDDFOD Y DERI. Saif y pentref hwn tua chwe' milldir o Merthyr Tydfil, a thua phedair o Rymni. Dydd Llun, Tachwedd y 26ain, cynaliwyd eisteddfod yma. Hywydd, Walter Hogg, Ysw. Beirniad y canu, Mr. D. T. Prosser (Eos Cyn'lais), Treorci; y traetliawd, y fardd- oniaeth, yr adrodd, a'r areithio, y Parchn. W. G. Williams, Rhymni; a J. Gwrhyd ¡ Lewis, Bargoed. Cyfeillydd, Alawydd y Daran, Deri. Awd yn mlaen a gwaith yr eisteddfod yn y drefn a ganlyn :-Anerehiad- au gan y beirdd. Canu "Let the lower lights be burningbuddugol, Mr. D. J. Price, Deri. r- Canu Beautiful land on high;" buddugol, Miss Mary Harris, Rhymni. Beirn;adaeth y ddau englyn i'r boneddigesau am anrhegu y pwyllgor a'r cydau gwobrwyon pump yn v gystadleuaeth buddugol, Mr. T. 0. Jenkins, heddgeidwad, Deri. Beirniad- aeth yr englynion i "Mr. A. Williams tri I yn y gystadleuaeth buddugol, Mr. T. C. Jenkins. Beirniadaeth y tri englyn ar "Onestrwydd masnachwyr pedwar yn y gystadleuaeth; Mr. Thomas Morris—sef Twin o'r Nant—oedd yn fuddugol, yr hwn nid atebodd ei enw. Canu Y glowr a'r cluvarel- wr buddugol, Mri. S. Richards a J. Jones, Deri. Beirniadaeth yr alargan i'r diweddar Miss M. A. Jones, Deri;" saith yn y gys- ,.n 7 tadleuaeth yn gydfuddugol, loan Gwent, Rhymni, a Mr. T. C. Jenkins, eto. Cwynai y Parch. Mr. Williams yn y fan yma, wrth weled fod llenyddiaeth Gymreig wedi myned iafael y gyfraith. Canu "Hoff fryniau fy ngwiad buddugol, Mr. John Lewis, Rhymni. Beirniadaeth yr englyn i'w osud uwchben drwa y Dilledydd 16 yn y gys- tadleuaeth buddugol, Mr. P. C. Davies (Ab Ithel), Rhiw. Canu."Swn chwertlun- iad plentyn bach" un cor o blant yn y gy- stadleuaeth—3ef Gosen, Rhymni, dan arwein- iad Gwylltfab, a chawsant y wobr. CYFARFOD Y PllYDXAWN. Araeth ar "Ryfel;" buddugol, Mr. T. Morgan, Largoed. Canu, Yr Haf buddugol, cor y Deri, dan arweiniad Eosydd Mynach. Beirniadaeth y gan ddesgriQadol ar '• Dystebau yr oes buddugol, Mr. T. C. Jenkins eto. Triawd, On Thee each living soul awaits;" buddugol, Mr. John Price, Rhymni, a'i gyfeillion. Traethawd ar Hanes Ruth cydfuddugol, Mr. D. Davies, Nelson; a Mr. E. Lloyd Thomas, Deri. Beirniadaeth yr alarg&n i'r diweddar Mrs. Jenkins; buddugol, Mr. P. C. Davies, Rhiw. Yn awr daeth prif gystadluaeth y dydd yn mlaen, sef canu Gwyn fyd a ystyria wrth y tlawd tri chor yn cystadlu, sef cor Tabernacl, Deri, dan arweiniad Mr. Edward Phillips cor Rhymni, dan arwein- iad Mr. T. Price a'r Deri Choral Society, dan arweiniad Eosydd Mynach. Cipiwyd y wobr o lOp. gan gor Rhymni, a chadair i'w harweinydd, Mr. T. Price. Fel hyn y dywedodd y Parch. J. Gwrhyd Lewis :— Cerddorion dewrion y Deri,—fwynaidd Anfonant i Rymni Y gtdair enwog, wedi I'w cor 'nawr ein curo m. Ctm, "Merch y Melinydd gan Miss Lizzie James, Mountain Ash. Canu, Man the Life-boat;" cydfuddugol, Mr. J. Jones, Deri; a Mr. John Morgans, Rhymni. Canu, Clychau AberdyG;" cydfuddugol, Miss Evans, Deri; a Miss Hughes, Brithdir. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngherdd pryd y gwas- anaethwyd gan Eos Cynlais, Mr. Jas. James a Miss Lizzie James, Mountain Ash Miss Agnes Lewis, Deri a Mri. James Phillips, Bargoed Thomas Evans, Cwmfelin S. Richards a Jenkin Jones, Deri; Alaw Idloes, yn nghvda'r Deri glee party. Gwnaeth Alaw- ydd y Daran ei waith yn dda iawn, a haedda gefnogaeth pwyllgorau eisteddfodau. Yr oedd yn dda genym v/eled Eos Cynlais wedi esgyn y sedd feirniadol. Y mae yn llawn bryd iddo bellach gael gwasanaethu ei gyd- genedl yn y cylch pwysig hwn.—M. M.
GILFACH GOCH.
GILFACH GOCH. Nos Fawrth, Tachwedd 29ain, cynaliwyd cyfarfod mewn cysvlltiad ag ymadawiad Mr. Lewis Pierce, o'r lie hwn, am Lundain. Cy- merwyd y gadair gan Dafydd o Went. Yr oedd y capel ,yn llawn, a phawb yn teimlo dyddordeb neillduol yn y cyfarfod, a hyny oherwydd yr oedd Mr. Pierce yn un o'r dynion ieuainc mv/yaf parchus yn y lie. Yr oedd pob enwad crefyddol yn teimlo yn ddwys oherwydd ei golli am ei fod bob amser yn un parod gyda phob symudiad daionus yn y lie. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y personau a ganlyn :—Mri. R. Lloyd, R. Evans, J. Hege, Watkin Vaughan, E. Phillips, a T. Jenkins. Tua chanol y cyfar- fod darllenwyd gan Dafydd o Went anerchiad i Mr. Pierce, yr hwn a gyflwynwyd iddo dros wahanol gynulleidfaoedd crefyddol y lie. Bydd yr anerchiad prydferth yma yn ddang- oseg ardderchog o'r parch a'r edmygedd oedd yri bodoli rhwng Mr. Pierce a thrigolion y Gilfach. Yna cafwyd anerchiadau gan Cynfel Morganwg a loan Awst. Cymerodd y can- torion canlynol hefyd ran yn y cyfarfod :— Mri. J. Arthur Hege, Eurwy Lacy, W. Edwards, J. Clement, a Llew Ogwy a'i barti. Canodd c6r Bryn Sion ddau ddarn prydferth, sef yr "Alarch" a Molwch yr Arglwydd," dan arweiniad Mr. S. Thomas. Arddilvedd y cyfarfod cafwyd anerchiadau bywiog gan G-walch Cynon a'r Parch. J. G. Jones, Noddfa. Yr oedd y cyfarfod yn un o'r goreuon y bum ynddo erioed. Yr ydym yn dymuno llwydd iddo i fyned yn mlaen ar hyd risiau enwogrwydd yn Llundain. Y mae wedi gwneyd llawer o les yn y lie, yn neill- duol yn yr eglwys y perthynai iddi, sef Libanus, yn ystod y pum' mlynedd y bu yma. Cyngherdd.—Yn ddiweddar y bu Mr. Frost, Caordydd, a'i briod, a Miss Griffiths, o'r un lie, yn cynal cyngherdd yil nghapel Noddfa. Cafwyd cynulliad lluosog, a chyng- herdd ardderchog. Yr oedd yr elw yn myned at ddyleu dyled y capel.-Gohebydd.
".------Prifysgol Cymru.
Prifysgol Cymru. Deheudir Cymru—Ail -I.Ty.bysiad. Y mae casgliadau cynulleidfaol tuag at Drysorfa y Tan- Blynedd wedi cael eu gwueyd yn y manau isod :— SIR FE YCHEINIOG.-Bethlehem, Aber- lionddu, M.C. Danycastell, M.C. Llan. fihangel Nantbran, M.C.; Llangammarch, M.C.; Penkelly, M.C. Sirhowy, Carmel, B. SIR ABERTEIFI.—AberSrwd, M.C. Aber- meurig, M.C. Aberystwyth, M.C. Seisnig, a Tabernacl, M.C. Bronnant, M.C. Borth, Libanus, M.C. Bwlchyllan, M.C. Ciicwm (Ysgol Sabnthol), J.LC. Gwernllwyii, M.C. a A. Llanddeiniol, M.C.; Llanddewibrefi, M.C.; Llandyssul, M.C. Llanilar (Yagol Sabotbol), M.C. Liechryd, M.C. Lhvyndafydd, B. Llynygroes, M.C. Madog, M.C. Peuparciau, M. C. Penrhiw, M.C. Penuwch, AI.C. Talybont, B. Tregaron, Berth, M.C. SIR G AERP Y IIDDIN".—Bettws, M.C. Llandilo, M.C. Llandyfaen, B. Llanfynydd, M.C. Peniel, A.; Pontyberem, Soar, M.C. PLiLupsaint, M.C. Twynllanau, M.C. SIR FORGAI\WG.—Aber.),fon. M. C. Bovertou, Bethesda, A. Briton Ferry, B. Caerdydd,. Bethania. M. C, Cefucribwr. B. Gyfeillon, 'M.C. Mynydd CyniFig, M.O. Margam, Bwlch, M.C. Morriston, A., a M.C.; Pontypridd, Tabernacl, B. Tonyrefail, B., a M.O. TOIJ, Ystrad, M.C. SIR FYNWY.—Llanvachea, B. Pontlotyn, W. Rhymni, W. SIRBENFRO.—Carvarchell, M.C. Mynach- logdda, B. Capel Newydd, M.C. Newton Pants, B. Woodstock, M.C. SIR FAESYFED.—Bethany, B., Rhayader. SIR GAERLLEON.— New Brighton, M.C. SIR LANCASTER.—Barrow, M.C. Earles- town, M.C.; Pall Mall, M.C. L'erpwl; Rigby- street, Salford, M.O. Milton-street, Withies, M.C. SIR STAFFORD.—Hanley, W.
Advertising
RHYBUDD.—Y mae Mri. Reckitt a'i Feibion wedi dewis y ffurf pedair-onglog i wneyd eu Paris Blue, a hyny oherwydd fod cymaint o liwiau g 1 As gwael yn cael eu gwneyd yn fodiau, peleni, phow dwr; ond eto, y maent yn gorfod rhybuddio y cyhoedd yn erbyn mathau gwael o liw glaa sydd yn cael eu gwneyd o'r un ffurf, yr hwn a werthir oherwydd yr elw ychwanegol a geir trwy hyny. Gofaler, gan hyny, am gael y Paris Blue pedair- onglog, yn dwyn enwau I. KEJCKITT A'I FEIB- ION yn nghyd a'r arwyddion masnachoL 1775.
ATHROFA LLANYMDDYFRI.
ATHROFA LLANYMDDYFRI. Ysgoloriaeth Gelli Auit.-Mae Iarll Cawdor yn haelionus wedi anrhegu Athrofa. Llanymddyfri (sefydliad. Cymreig sylfaeniad Thomas Phillips) ag ysgoloriaeth gwerth 25p. y flwyddyn, cyfyngedig i frodorion swydd Gaerfyrddin. Cofier fod tadcu yr larll wedi derbyn y rha,n hon o'i etifeddiaeth yn sir Gaerfyrddin ar ol y diweddar Mr. Yaughan, o Gelli Aur ac y mae y Iarll presenol, trwy y weithrecl haelfrydig hou, yn peri parhad coffawdwriaethol, ac uniad yr enw Vaughan gydag enw ei hun, tra. ar yr un pryd yn anrhegu brodorion y sir hono, o ba un y mae rhan o'i gyfoeth yn d'od, a. rhodd mor fawr. V mae yn hynod foddhaol i'r ymddiriedolwyr dderbyn y fath gydnabyddiaeth sylweddol o'r addysg ragorol a gyfrenir yn yr athrofa. uchod, yr hon sydd wedi ei gwaddoli yn ar bein g er llesoli esgobaethau Ty Ddewi a. Llandaf. Hon yw yr unig athrof.). waddol- edig yn y Dywysogaeth lie mae Annghyd- Ifurfwyr yn cael yr un rnanteision ag Eg^wvs- wyr, er eu cymhwyso at unrhyw swydd, crefft, neu alwad. Adaysgir yma y Gymraeg a'r Saesonaeg, hefyd Lladin, Groeg, gwyddon- iaeth, &c. Mae ymofyniadau am dderbyniad oddiwrth frodorion y Dywysogaeth wedi lluosogi cymaint nes ei bod yn anhebgorol angenrheidiol adeiladu amryw ystafelloedd newyddion, pa rai sydd, erbyn hyn, bron yn barod i dderbyn efrydwyr. Gwnaed hyn trwy roddion oddiwrth brif feddianwyr etifeddiaethau, y rhai sydd yn wybyddus o'r lies addyagiadol sydd yn deillio yn ilynyddol oddiwrth yr amrywiol ysgoloriaethau cysyllt- iedig a'r gwaddoliad gan yr hybarch sylfaen- ydd, yn nghyda'r un hon a chwanegir gan Iarll Cawdor.
; LLYSFAEN.
LLYSFAEN. CYNGHERDD.-Nos Fercher, Tach. 21ain, cawsom y fraint o fwynhau un o'r cyngherdd- au goreu a fuom ynddo er ys blvnyddau, yn Nghapel y Bedyddwyr, Llysfaen. Daeth yno gynulliad da iawn ag ystyried fod yr hin mor afriwiog. Prif arwyr y cwrdd oeddynt Misses Jenny Lewis a Gertrude Lewis, Caer- dydd, yn cael eu cynorthwyo gan glee party Mr. D. L. Roderick, Caerdydd. Sicrhaodd Miss G. Lewis gymeradwyaeth wresocaf y dorf yn ei chanu, yn enwedig yn ei datganiad o "Angels ever bright and fair." Bu Miss Jenny Lewis yn hynod ddedwydd yn ei datganiad o He was despised." Gwelsom. amryw yn wylo'r dagrau yn hidl pan yr oedd Miss Lewis yn canu'r darn effeithiol yma, a chredwn pe byddai yr anfarwol Handel yn. bresenol y byddai yn sicr o gael oi foddloni. Yr oedd "Cwymp Llewelyn," gan Mr. E. Morgan yn gymedrol o dda. Cafodd Mr. D. Bryant hwyl dda yn ei ddatganiad o I Bias Gogerddan "a Death of Nelson." Mr. A. D. Jones fel arfer yn y gan The Anchor's Weighed." Chwareuwyd una,wd ar y crwth gan Master R. W. Lewis, mab bychan Eos Ebrill, yn feistrolgar iawn. Credwn fod dy- fodol Uwyddianus i'r ieuanc hwn ond iddo ymdrechu. Difyrwyd y gynulleidfa mewn modd neillduol iawn gan Mr. Murdock, Caerdydd, gyda'i concertina. Byddai cael y boneddwr hwn mewn concert yn sicr o dalu yn dda. Medrai ddynwared pobpeth braidd ar ei offeryn. Yr oedd Mr. Roderick a'i barti yn canu y darnau yn lied ganmoladwy, yn neillduol Lee our oars" a "Chydgan y morwyr." Yn ol ein barn ostyngedig ni, byddai ychydig sopranos yn gwneyd "Hail smiling morn i gymeryd yn well. Cafwyd cyngherdd lwyddianua iawn.—Ap Dkhjmns.
EISTEDDFOD BRIALLEZ^ GLAN…
EISTEDDFOD BRIALLEZ^ GLAN RHONDDA. Cynaliwyd yr eisteddfod uchod dydd lau, Tachwedd 22ain, yn Ysgoldy Cenedlaethol y Gyfeillon, trwy garedigrwydd y Ficer. Beirniadwyd gan Rhedynog, Gilfach Goch. Llywydd oedd Mr. Howell Williams (Hywel Ddu), Abernant House, Llanwonno. Gan fod y tyvyydd mor anlfafriol, nid oedd y cynulliad yn y cyfarfod cyntaf ond bychan iawn or hyny, cafwyd cyfarfod da yn yr hwyr, pan y traddodwyd araeth wresog i ddechreu gan y llywydd ar farddoniaeth Gymreig. Enillwyd y gwobrwyon ar y tri thestyn canlynol gan Carnelian, sef 10s. 6c. am y gan. ddesgritiadol oreu ar y llifogydd diweddar 5s. am y ddau englyn anerchiadol goreu ar briodas Miss Helen Morgan, o'r Hafod Fawr, a Mr. Bevan a 2s. Gc. am yr englyn goreu i'r "Fegin." Cipiwydywobr 0 10s. Oc. am y traethawd goreu ar "Ddi- dwylledd Masnachol," gan G-walch Cynon, Gilfach Goch. Ysgrifenu llythyr ar ffeithiau a roddir ar y pryd (i rai dan 20 oed), goreu, Wm. Davies. Pant-v-graigwen; gwobr, 2s. 6c. Adrodd, "Iforiaeth," goreu, M. Llewelyn, Graigwen.; gwobr, 2s. Rhoddwyd dwy wobr am chwareu ar y iifeJ (pedwar) "Ddi- fyrwch Gwyr Harlech enilhvyd y 6a. gan bedwar o'r Gilfach, a'r 4s. gan bedwar o ysgolheigion Ysgoldy'r Bwrdd, Heolvfelin, Pontypridd. Cor o'r lie, dan anveimad Mr. J. Evans, gafodd y wobr am ganu yr "Haul gwobr, 2p. Parti o'r lie, dan arweiniad Mr. J. Morgan, enillodd y wobr am gaim v "Tar Song; gwobr, lp. Mr. Walter Morgan (Perorydd), Cymer, a'i dri chyfaill, enillodd y wobr am ganu v Boat Song (Brinley Richards. gwobr, Gs. Perorydd a'i ddau gyfailla, enillodd ar ganu "Fair Flora. Decks;" gwobr, 4s. Deuawd, Dring, dring i fyny," goreu, Perorydd a J. Morgan Enillwyd y wobr ala ganu Ffarwel i Gymni" gan Perorydd. Mr. Jonathan Morgm, Cyrner, enillodd y wobr am ganu y Gudlys." Ni ddaeth ond parti Per- orydd yn mlaen i cidarlleu carddoriaeth ar y pryd, a thorasant i la^-r. Rhoddodd y beirni vI, Mr. Rhedynog Price, Iwyr foddlon- rwydd i bawb. GeUir dywedyd yr un peth hefyd am y llywydd Cymroaidd, gwladgar, a gwreso A chymeryd sefyllfa isel masnach i yatyri i,eth teimla'r pwyllgor yn ddiolchgar am y gjfnogaeth a dderbyniasant gan hyderu 0