Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

HARRIET LEE.

News
Cite
Share

HARRIET LEE. Can Awdwr "Gomer Jones Powel," ac Elen Wyn." PENOD XXX. Y CWMWL DUAF ETO. "Onifuasai yn fwy addas i mam i ym- -ddwyn fel hyn a finau, yn lie ymyraeth fel y gwnaeth ? Ei hachos hi yn unig yw fy mod i yn y cyflwr yr wyf heddyw. A ydyw hi yn meddwl fod Giffard yn fwy teilwng o gael Caroline na'r rhai y mae hi wedi wrthod i ddyfod i gysylltiad a'r teulu ? Dyma ddraenen eto yn fy ystlys, at y llu oedd yno'n flaenorol. Yr wyf yn falch o wr fy chwaer hon, y mae yn ddigon difai yn fy ngolwg, ond gallasai hi a Cordelia lod yn briod er's blynyddau gyda'i gystal yntau, a chyda llawer gwell Syr Michael, y Pabydd, onib'ai ymyraeth fy mam; a buaawn inau yn briod yn ddiau erbyn hyn, -onib'ai ei huchelgais melldithiol hi. Yr -wyf yn faich i mi fy hun! Pa beth a WDftf?1t Y mae Roger wedi myned i waeth cyflwr C, Bag y bu erioed, ac y mae ei rieni yn deall hyn, a'r ddau-yn neillduol ei fam—mewn gofid dirfawr o'i achos ef. Brnidd ntid wyf yn ddigon edifeiriol i anfon am Harriet yn ol, yn iawn am y Ifolineb a wnes." Fy mhriod anwyl, y mae'r ferch hono mor stiff a chwithau; pe anfonech i'w hoi, gwn na ddeuai." Ni chredaf hyny, Pryse. Merch dda oedd Harriet Lee, ac yr wyf yn argvhoedd- -edig fy mod wedi pechu yn ei herbyn, ond credaf y deuai yn ol pe anfonwn i am dani." "Aroswch dipyn, dichon y cawn lythyr oddiwrthi ar fyr, neu y mae rhywbeth rhyfedd arnaf yn nglyn a hi er's nosweith- iau lawer." .1 "Os na ddaw rhyw olwg newyaa ar bethau cyn hir, yr wyf yn sier o gynyg ei chael yn ol." Aeth Giffard a Caroline i'r Iwerddon i dreulio eu "mis mel," a dychwelasant yn 01 a hanes dwys am Babyddiaeth ffiaidd y vlad. Meddai Caroline :— 41 Mam, buasai yn well genyf i fy chwaer i briodi cardotyn o Gymru na myned gyda'r hen wr Pabyddol yr aeth gydag ef." "O! fy merch, peidiwch a dweyd rhagor, canys yr wyf o dan faich dirfawr o ofid eisoes, yn nghylch yr hyn a wnaethum. C Ni all neb fysgu a'i ddanedd yr hyn a iwymodd a'i dafod,' onide gwnawn i hyny a Harriet Lee." Yr oedd Roger yn ddiweddar wedi bod ymaith ddau a thri diwrnod o'r bron, ar rai adegau, a hyny heb ddweyd yn y Yoel i neb cyn ei fyned, a hyny am ei f,)d wedi oeri yn ddirfawr at ei fam, a phawb o ran hyny, canys nid oedd nemawr byth yn eymdeithasu a neb ohonynt, ond ei dad, pan y byddai gartref. Y mae ymaith yn awr er's pedwar diwrnod, cyn fod un cyffro aieillduol yn ei gylch, oherwydd ei fod wedi bod felly o'r blaen. Y pumed dydd, y mae cyffro drwy'r lie am dano; y chweched yn dyfod, a'r scithfed ar ei ol, heb un clyw am dano ef. Er anfon i'r lleoedd y byddai yn arfer ymweled a hwynt, ni chaed dim yn ei gylch. Anfoii i'r Iwerddon ar aden y fellten fyw, ond ddim yno. Beth am dano ? Dyna'r holiad cyffredinol. Y mae yn sicr o fod wedi myned ar ol Harriet," meddai Giffard, "canys hono oedd ffynonell ei gysuroa er's blynyddau." Cafodd ef fyned ar ei union i'r porthladd i weled ai gwir hyn. Ond er chwilio porthladd ar ol porthladd, a manylu ar eu croniclau ei hun, ni chaed gair na sill am dano. Dychwelodd yn ol yn siomedig. a hiraethlon, gan gredu drwg yn ei galon am dano. "O! Giffard, a gawsoch chwi rywbeth hanes?" ft Dim sill, fy chwegr urddasol a galarus, dim sill er myned drwy holl groniclau ym- ftidol y porthl iddoedd fy hun." O! fy mab, fy mab! O! Roger fy mab anwyl! yr wyf wedi ymddwyn yn greulawn ato; ac O! a ydyw hyny wedi <a arwain i wneyd diwedd arno'i hun ?" Ar hyn, daeth yr yswain yn ei ol, wedi bod yn chwilio mewn cyfeiriad arall am ei Roger, ond yn ofer. "A ddaeth Giffard yn ei ol ? A gafodd ef fy rhab?" Torwyd allan trwy'r holl Ie. i wylo, canys yr oedd ei fod ef yn holi fel hyn yn brawf na wyddai ddim am dano. Y mae gweled plentyn yn wylo yn effeith- io ar y galon, os bydd yn ei lie; y mae gweled gwraig a mam yn wylo yn fwy felly; ond y mae gweled dyn mewn add- fedrwydd oedran, yn arbenig hen wr o dan goron henaint yn wylo, y mae hyn yn xhwygo'r galon galetaf, ac yn agor Ilif- ddorau i'r dagrau i gydredeg a'r eiddo yntau. 11 0 beth oedd colli y bachgen drwg Absolom gynt at golli yr addfwyn Roger ? O! Dafydd, tyr'd i lawr yma ataf i gyd- ymdeimlo a fl, canys nis gwn am neb arall a all ond dy hunan. 0! fy mab; 0! Roger fy mab! Ffarwel byth yma, Roger. 0! na wypwn pa le y mae dy weddillion marwol, fel y cydorweddwn ac y cofleidiwn hwy." Cododd y wlad fel un gwr i chwilio am dano. Ni adawyd na llyn nac afon, na godreu craig nac ogof heb eu harchwilio yn drylwyr, ond yn ofer. Cnuliwyd clychau llanoedd y wlad am ddyddiau, i arwyddo y galar am dano; ac er na phregethwyd pregeth angladdol iddo, eto, cyfeiriwyd lawer tro o'r fan hono ato. Mae erch gwmwl dwl a du,—awch y Voel, Ac ooh fawr drwy Gymru YmiFrost ei wlad fad a fu, 0 flinwedd gwnaeth ddiflaniu Wylo am Roger welir Ar ei daen drwy ei dir. Daeth y cwmwl dwl a du I gau amrant holl Gymru A yw Roger fwynber yn fyw ? Aer odiaeth, ai marw ydyw ? 0 ddu nod, Och di ddaw neb Atom a rydd un ateb. PENOD XXXI. MAE BLINDER TUDBAW I'R WERTDD. Byddai yr Indiaid yn galw yn awr ac eilwaith gyda Wm. Morgan, er prynu gwahanol nwyddau ganddo, a gwerthu eu nwyddau hwythau iddo. Un diwrnod, daeth dyn du yno, a bu yno am oriau, ond nid oedd ganddo ddim i'w werthu, ae Did am brynu dim iddo ychwaith. Yr oedd yn hawdd deall wrtho mai nid un o'r Indiaid ydoedd, canys nid oedd ei glustiau a'i wyneb mor hir, na'i ben o'r un ffurf ag eiddo'r Indiaid Americanaidd. Wedi bod yno am oriau, ymadawodd yn sydyn, heb ddweyd dim wrth neb. Daeth yno eilwaith yn mhen rhai dyddiau, a bu yno fel o'r blaen, ond yn fwy eofn na'r tro hwnw. Magai y plant, a dilynai Harriet o fan i fan ar hyd y ty ac allan. Daeth Harriet i deimlo yn ofnus am hyn, a pharodd iddo beidio ei dilyn hi fel hyny. Ymadawodd y tro hwn eto yn aydyn fel o'r blaen. Wedi iddo ymadael aeth Harriet at ei meistr a'i meistres i siarad yn ei gylch, am ei fod yn peri blinder iddi. Yr oedd- ent hwythau wedi sylwi ar y dyn, ac yn ei ddrwgdybio yn fawr, er na ddangosasant hyny iddi hi. xr wyf yn methu deall i ba beth y mae'r black yn fy nilyn i bob man yr af." 0! y mae wedi cwympo mewn cariad a chwi, Harriet." Meistr, pe gwypwn hynv, gadawn y lie ar godiad haul boreu '£ory!" Pw, pw, .peidiwch gwrando ar eich meistr, Harriet, cellwair a'ch teimladau chwi y mae ef." Mae rhyw ddrwg yn y dyn hwn, canys nid black ydyw. Pan fu yn eistedd yn y cornel, ger y tan, ychydig cya ymadael, darfa iddo chwysu, a thynodd ei gadach o'i logell er sychu y chwys, a sychodd ei dalcen, nes oedd darn mawr ohono mor wyn a'ch talcen chwithau. Pan welodd y lliw du ar y cadach, cododd, a ffwrdd ag ef fel ei wedi tori'ei gwt." Parodd hyn i'r ddau i wrido, 'gan edrych yn gynhyrfus ar eu gilydd. "Yn wir, William, rhaid i ni wneyd rhywbeth, y mae y dyn hwn yn ddyn rhyfedd iawn. Gwn mai nid Indiad yw canys nid yw yn acenu ei eiriau fel hwy, ac yr wyf wedi ei glywed yn siarad Cymraeg yn ddystaw gyda'r plant hefyd." Beth sydd genym i wneyd?" "Cadw gwyliadwriaeth ar y ty, bid sicr." Gosod rhai o'i frodyr i edrych ar ei ol ef a feddyliwch?" Wn i ddim beth wyf yn feddwl yn wir, ond wn i ddim ffordd y mae cysga heno o'i achos." O! gorwedd yn y gwely gyda fi wrth reswm Ni ddaw yr un black atoch yno Na, meddwl wyf yr af fi i'r gwely, ac y cewch chwi wylio drosom oil." Aeth y siarad yn ddigrifwch fel hyn rhwng Mr. Morgans a'i wraig, a darfydd- odd felly ar y pryd. Tua brig yr hwyr y noson hono, yr oedd Harriet yn parotoi swper wrth y bwrdd gyferbyn a'r ffenestr, ac wrth edrych allan gwelai ddyn wrth yr ysgubor, yr hwn oedd mor debyg i'r dyn du a fu yno, o ran maint a gwisg, fel y gallai wneyd ei llw mai efe ydoedd. Rhed- odd a'r newydd i'w meistr, rhuthrodd hwnw at y dryll, ac allan ag ef. Deallodd y crwydryn eu bod ar ei ol, a ffwrdd ag ef i gyfeiriad yr allt, ac yn lie lladd y dyn, lladdodd un o'r gwartheg goreu a feddai. Cyrhaeddodd y dyn y goedwig yn ddiogel, ac nid oedd digon o feiddgarwch yn holl breswylwyr y fferm i fyned ar ei ol yno. Tro tost ydoedd saethu y fuwch mewn cam- synied hefyd. Yr oedd yn sobr yn y ty yn awr Er i Mr. Morgan ladd y fuwch, yr oedd yn dda gan ei wraig ei gael ef yn ol yn fyw, am mai hen arfer dynion drwg oedd tynu rhai i'w herlid i'r coedwigoedd, er eu llofruddio yno. Yr osdi wedi clywed yr ergyd yn myned allan, ond ni wyddai pa un ai efe oedd wedi saethu, ai wedi cael ei saethu yr oedd. Os drwg o'r blaen, saith seithwaith gwaeth yn awr. Rhaid gwneyd rhywbeth yn awr, beth bynag. A dyna lie yr oedd- ent oil yn yr un ystafell, y plant, a'r fam, a Harriet, ar eu gilydd yn y gongl eithaf, a Morgan4 a*r gweision dan eu hsrfaur yn barod erbyn y gwaethaf, a phob calon yn euro awr bob pum' mynud, acyr oeddent bron mewn ysbryd taeru fod yr haul yn hirach cyn codi o'i wely y boreu hwnw nag erioed, os nad oedd wedi gwneyd ei feddwl i fyny i aros yn ei wely a pheidio hefyd Ond torodd y wawr, a mawr y diolch oedd ynoam hyny. Y fam yn ymofyn i'r plant i fyn'd i'r gwely, a'r rhai hyny yn gofyn os oedd y ffasiwn wedi newid, i gysgu'r dydd a' gwylio'r nos ? Torodd y wawr arnynt oil yn fyw y tro hwn eto, ond y fuwch, yr oedd hi yn gelain farw ar y cae. I I Wel, wel," meddai Mrs. Morgan, "fi gofia i dymor am y nos neithiwr, ac nid heb achoB. s Ac meddai Edith fach yn ei hateb :— Fe gofia Bronwen, y fuwch, yn hwy na neb ohonom, greda' i, canys collodd hi, yr un fach, ei bywyd ar y noson ryfedd!" Ie, tro od yn hanes ei bywyd hi oedd i fy nhad ei saethu yn lle'r black," meddai John bach, yn dristwch i gyd drosto. Gwelai William Morgan fod yn well gwneyd rhywbeth; yr oedd ei wraig a'i blant yn wir ofnus, a gwyddai y buasai yn colli Harriet, yr hon oedd wedi bod yn gaffaeliad mor werthfawr iddynt. Yr oedd Mrs. Morgans am werthu yr oil, a dychwelyd i Gymru i fyw weddill eu hoes. Ond er eu bod yn lied gyfoethog, yr oedd ei gwr am iddynt i aros yno bum' mlynedd arall, fel ag i osod eu plant a digon iddynt i fod yn wir foneddigion am eu hoes. Cydunodd ei wraig ag ef i anfon hystiys iad allan am Gymro i ddyfod i'w gwasan- aeth fel keeper a gwahanol bethau ereill o gylch y fferm. Rhedai yr hysbysiad fel hyn:— YN EISIEU. CYMRO i gymeryd gofal fferm fel Ceidwad Helwriaeth, ac i wneyd ei hun yn fuddiol at wahanol angenion ereill y teulu. Cyflog dda. -Cyfeiriad, WM. MORGAN, Vox. II. Ind. Yr oedd yr hysbysiad i ymddangos am fis. Wrth odreu hwn yn yr ail rhifyn o'r n&w- yddiadur, wele'r hysbysiad canlynol:— EISIEU LLE MEWN teulu Cymreig yn yr Amerig, CYMRO tua phedair-ar-ugain oed, yn hen keeper, ac yn gyfarwydd a phob math o greaduriaid. Goheber A mi i'r swyddfa hon, RODERICK PKOSSER. Pan welodd Mr. Morgans hyn, dywedai:- "Cyd-darawiad rhyfedd iawn, onide? Beth pe gwnaem anfon ato ar unwaith, Mari ?" "Ie, mewn difrif, canys y mae llawer fel ninau a garent gael gafael arno, ond odid fawr Anfonwyd ato, ac yr oedd yno yn mhen wythnos gyda hwy, ac ni fa fawr geiriau rhyngddynt a'u gilydd cyn amodi, am fod y naill mor addfed a'r llall am iddi fyned yn fargen, ac nid rhyfedd hyny hefyd. Dyn o tua phump troedfedd a naw modfedd o hyd oedd hyf yr olwg, ond yn wir ufudd a hawddgar bob amser. (lw barhau.)

Masnach yr Haiarn a'r Glo.

Advertising

PA FODD I WRANDO YR ELIJAH…

Advertising