Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Beth ddaw o'r Gweithwyr?,

News
Cite
Share

Beth ddaw o'r Gweithwyr? Wele wythnos arall wedi myned heibio er pan ysgrifenais fy llith olaf. Wythnos heb fod ddim gwell, o ran y gwaith a gyflawnwyd ynddi, na'r wythnosau blaenorol. 0 fewn y chwech niwrnod olaf yma ni chawsom ond enw o dri niwrnod o waith a pha fodd y! mae i lawer o deuluoedd gael eu diwallu ag angenion corfforol yn y modd yma ? Rhaid cael tamaid o rywbeth i'w fvvyta yn barhaus onide bydd ysgariad yn sicr o gyxneryd lie rhwng y corft' a'r enaid. Nis gall dyn fyw 1 heb fwyd, ac nis gall dyn gael bwyd yn hir j ychwaith os na chaiff weithio er enill i dalu aln dano. Y mae edrych yn wynebau llwydion, a gweled ein cyd-ddynion yn ein tai ac ar yr heolydd y dyddiau hyn, yn profi i raddau helaeth wirionedd yr hyn a ddywed- ais. Nid oedd ein henillion tra yn y gwaith y tri niwrnod a nodais ond ychydig iawn, a hyny yn herwydd y pris isel sydd am dori y dunell lo, a'r llawnâer. mawr o weithwyr sydd yn ymddibynu. ar yr ychydig ddrams sydd yn dyfod i'w gludo ffwrdd. Y mae meddwl yn ddifrifol dros ychydig amser am sefyllfa bresenol Dyffrynoedd Aber- dar a'r Rhondda, yn ogystal a llawer o leoedd ereill, yn ddigon i wneyd y galon galetaf i deimlo. Pe byddai i bob gweithiwr gymeryd hyn at ei ystyriaetli ei hun yn ddifrifol, gan I osod y peth o flaen ei feddwl yn ei liw a'i lun priodol, tebyg na fyddem yn hir cyn cael rhyw adfywiad er ymdrechu symud ffwrdd y tlodi a'r gorthrwm caled yr ydym ynddo yn bresenol. Wrth ystyried am enyd gynifer o filoedd sydd yn y dyffrynoedd a nodais yn dysgwyl am eu bara beunyddiol wrth y ddram lo, yr ydym yn barod i ofyn-A oes neb i gael a'n tywys o'n caethiwed presenol (l Ai nid oes rhyw Foses i'w gael a'n harweinia ni trwy yr anialwch hwn i ryw Ie sydd yn well ? Credwn nad oes raid i bethau barliau fel yma, pe cymerem ni fel gweithwyr y llwybr priodol i'w symud ffwrdd. Mae yn hyfrydwch genym weled fod ein cydweithwyr yn yr America wedi dechreu ymysgwyd o'u caethiwed yn y gweithfeydd, gan ffurlio cymdeithasau ymfudol ac amaeth- yddol yn eu plith er cynorthwyo eu gilydd i fyned i'r gorllewin i amaethyddu. Mae yno filoedd lawer o erwau o diroedd bras a iffrwythlon yn aros yn segur a diffrwyth o eisieu dynion i'w boblogi a'i drin i bwrpas. Yn NUarian y Bobl, newyddiadur American- aidd, am Hydref lTeg, yr ydym yn cael yr hanes a ganlyn Y mae yr amser caled presenol yn peri i drigolion y gweithiau glo a haiarn i edrych yn mlaen am sefyllfa rnwy dedwydd a llai peryglus na'r hyn sydd gan- ddynt yn bresenol. Nid oedd llai na thri- ugain a phymtheg o deuluoedd o weithiau glo yr Allegheny yn myned yn un fintai I gryno dros y Pan Handle Road er sefydlu yn nhiriogaeth swydd Iowa yr wythnos ddi- weddaf. Yr oeddynt yn myned â, phobpeth augenrheidiol gyda hwy, megys dodrefn at wasanaeth teuluol, &c., &c." Onid rhyw- beth fel yma fyddai oreu i ninau wneyd yn y wlad hen ? Sefydlu cymdeithasau er cynorth- wyo ein gilydd i fyned allan i amaethyddu yn y gwledydd hyny lie mae tiroedd yn cael eu cynyg mor rhad, a phob manfceision angen., xheidiol i'w cael ond i ddynion ymgalonogi i gydio ynddynt yn wrol. Pe buasai y miloedd punau hyny a wariwyd genym ni yn Nghymru yn amser y strikes diweddar, a phan oedd yr Undeb yn ei gryfder, wedi eu defnyddio i gynerthwyo dynion i fyned i amaethyddu mewn gwledydd amaethyddol, credwn, yn ddiysgog, yr un fel ac y mae llawer ereill yn credu, y buasai golwg wahanol iawn ar ein gwlad a'i gweithwyr y dydd heddyw i'r hyn ydyw. Gwir mai nid gwiw i ni yn bresenol goffa a.n yr hyn a basiodd, yn rhagor na I .cheisio agor llygaid ein meddwl i edrych a fedrwn ni ddim tynu rhyw wers oddiwrth yr hyn a wnaethom a fydd yn lies yn y dyfodol i ni. Tybed nad oes rhywun yn barod i roddi rhyw gynllun o'n- blaen fel gweithwyr, fel y gallom weithredu wrtho er dechreu cario allan ryw fudiad a fydd yn lies i ni. Ble mae hen ysgrifenwyr y GWIADOAIIWK ? Ble mae arweinyddion y gweithwyr I Deuwch allan, a gadewch i ni ymysgwyd fel un gwr iunwaith eto. Mae yn dda genyf fod y GWLADGAKWR yn barod i gynorthwyo pob mudiad daionus -yn berffaith rydd i gyhoeddi unrhyw erthygl a fydd o les i ni fel gweith- wyr, er cymaint a gurir arno gan rai bodach hunanol a checrus. Nac ymfoddlonwn, ynte, ar y gorthrwm a.'r caledi yr ydym ynddo yn bresenol, gan haner newynu a'n teuluoedd trwy ymboeni i weithio am y peth nesaf i ddim yn y gweithfeydd yma. Eithr ymddi- dolwn, ac awn allan i'r Gorllewin ac i'r De i wahanol ^vledydd i amaethyddu. Gan ei bod yn hwvr, a minau yn flinderog, rhaid ymatal hyd y tro nesaf. HEX LOWR. -0.

[No title]

[No title]

Advertising