Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

Adsain yr AiL

News
Cite
Share

X »► • Adsain yr AiL Mae y cwd gwenwyn a gluda Jack yn ei goiuddion wedi tori allan unwaith eto. Ddar- llenydd, dolur trwm ydyw y gwahanglwyf, a choir llarwer math ohono, a blinir Shon gan y trymaf o'r rhai'n. Nid oes dim yn lladd y dyn mewnol yn gynt na meddwl a chalon wen- wynllyd, a beunydd yn byw fel ci yn y preseb. Hawdd darllen yn ei wen ffalst fod y drwg tufewn, ac nad oes dim ond cyfraith y tir yn cadw y dagr yn ol: mae yr ewyllys yn ddigon parod, a chythreuleiddiwch y galon yn ddigon orlawn o fradwriaeth i wneyd unrhyw ddrygioni a melldith, er fod y dyn yn gapelwr mawr ond mae perygl fod Rawer o ffugiaeth a rhagrith yn ei honiadau. Mae tair o eisteddfodau i'w cynal tua chyrau y Gogledd yn mis Awst nesaf: y gyntaf yn Llanrwst, yn gwisgo agwedd wir genedlaethol; y nesaf yn Mhont-y-Berth, aef Eisteddfod Gadeiriol a Thaleithiol M6n .a'r drydedd i gael ei chynal, medda nhw, yn Birkenhead (dyna yr enw cyffredin, er i'ch gohebydd penodol geisio ei Gymreigio yn rhywfodd a gall fod yn iawn, am wn i, a chaiff fod felly hyd nes y ceir enw gwell). Cyhoeddodd y blaenaf destyn y Gadair, a maint y wobr, a dywedir fod y pres yn barod er's mwy na blwyddyn yn ariandj" Llanrwst. Testyn teilwng o'r wlad a'r genedl, sef awdl coffadwriaeth am y diweddar Doctor James (Dewi o Ddyfed), Panteg," dyn a wnaeth i'r byd Cymreig a Seisnig deimlo ei fodolaeth a'i bresenoideb. Offeiriad wrth ei swydd, ac yn Eglwyswr trwyadl; ond fel dyn, yn ddyn y genedl. Nid cylch bychan a wnelai y tro iddo, am fod ei feddwl yn rhy fawr i le cyfyngedig. Ni cheid ei ragorach gyda chyf- arfodydd y Gymdeithas Feiblaidd ac fel eisteddfod wr, yr oedd yn llawn o dan Cymreig, a byddai felly bob amser. Nid dyn un diwrnod oedd Dewi o Ddyfed—O na, dyn parhaus oedd efe heb ddim o'r llusgo yn perthyn iddo, a digon yw dweyd ei fod yn un 0 gewri yr areithfa yn mhob ystyriaeth a'r gofid mawr ydyw nad oes neb all lanw ei Ie. Pwy ydyw Thelema, pe tae fater? Ai tybed fod ganddo hawl i feirniadu y beirniad, ar ol y gystadleuaeth, o dan gyagod ffugenw 1 Nid wyf yn meddwl na ddywed neb ddim yn erbyn dy hawl i siarad ac ysgrifenu beirniad- aeth ar feiraiadaeth "Ewyllys" yn Nhondu, ond ein bod yn dysgwyl i ti wneyd hyny o dan yr enw ag yr adwaenir yn mhlith meibion gvrragedd, neu y llen-enw adnabyddus yn mhlith edmygwyr can ac awen. Chwaeth lied sych oedd gan yr hwn a ddewisodd y testyn ar dir mor syched a'r dyffryn hwnw a welwyd gan Ezeciel gynt, lie nad oedd dim end esgyrn sychion. Newidier y testyn erbyn y tro nesaf, a chaffed Thelema wen y duwiau i ganu nes cael y goron, a choroner ef wrth sain udgorn, am ei fuddugoliaeth ar ei gyd-gyfeillion yn yr ymdrech am yr orsedd eisteddfodol, &'r goron arian wemp. Myner testyn â, natar ynddo, fel y oeir ychydig o hufen barddonol ar fwrdd y wledd. Os nad wyf yn camdybio, mae Thelema a minau yn ffryndiau calon gynes; felly, nid dewisol genyf ei weled yn ymostwng i gwyno a dadlu wedi barn, os na fydd yn teimlo ar ei galon i wneyd hyny uwchben y bwrdd, fel y gwnaeth awdwr galluog y traethawd mawr ar Grach- feirniadaeth." Mae awn yn y gwynt fod eisteddfod flyn- yddol Mountain Ash i gael ei hadnewyddu eta; os felly, goddefwch i mi roi awgrym y dylid ei chynal ar y cyntaf o Fawrth, sef Dydd Gwyl Dewi, am fod cymaint o fån gyf- arfodydd ll^nyddol HO eisteddfodol yn cael eu e-ynal y Nadolig. C^i'wyd eisteddfodau llew- yrchus yn y Mount ar hyd y blyhyddoedd, a chamsyniad mawr oedd' gadael iddi syrthio i ddinodedd. Gobeithiwyf weled heulwen llwyddiant yn tywynu arni eto fel cynt, a chaffed y cyfaill Iorwerth Goch iechyd a hwyl i wasanaethu fel ysgrifenydd, gan ei fod yn fachgen cyfarwydd a'r gwaith. Beth ddaeth o'r athrylithgar Mabonwyson ? Ni welais dim o'i hanes er pan bu yn dyrnodio y Cymro Gwyllt am y crybwylliad a wnaeth ar ei ymweliad a Chymru. Tybed i'w fawr- hydi fyned dros y mor i'r Gorllewin ? Clyw- ais ddyn, yn Mhontypridd, yn awgrymu fod iddo gyfle gwych yn Utah i sefydlu lawr yn y byd am y gweddill o'i ddyddiau ar y ddaear. Lie bynag y mae, a lie bynag yr elo, bydded iddo fwynhau cyfran helaeth o fendithion y ddaear—yn fwyd a diod,-ar gyfrif ei allu- oedd fel bardd o ddosbarth uwch na'r cyffred- inolion sydd yn mynychu y darlleniadau ceiuioo, a'r m&n gyfarfodydd llenyddol. 01 Mae colofn farddol y Western Mail yn ym- ddaiigos fel pe yn cryfhau o dan olygiaeth y Gwyn o Essyllt, a thebyg ydyw fod y gystad- leuaeth chwarterol yn llawer o nerth iddi. Onid yw yn rhyfedd na wnelai y papyrau Cymreig gefnogi cystadleuaeth am ddarnau barddonol trwy roddi gwobrau o lyfrau gwerth eu darllen? Byddai yn sicr o gyf- nerthu y golfon farddol, a chadw allan lawer 0 bethau gwan a diwerth. Dylid cael ambell wobr am ysgrif deilwng ar bynciau dyddorol, er mwyn dyrchafu ein llenyddiaeth newydd- iadurol.-Boed felly, medd yr eiddoch, JOHN JONES.

Advertising

CWMTWRCH.

CAERFYRDDIN.

LLANFABON.

PENYGRAIG.

MYNWENT Y ORYNWYR.

PORTH, CWM RHONDDA.

Advertising

PONTYPRIDD.

EISTEDDFOD DEMLYDDOL DOS.BARTH…

DERI.

RESOLVEN.

TONYREFAIL.

ABERDAR.

LLANDILO.

LLANELLI.