Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

YCHYDIG GWESTIYNAU AT DEWI…

News
Cite
Share

YCHYDIG GWESTIYNAU AT DEWI WYN 0 ESSYLLT. SYR,—Heb ymdroi, dyma nhw :— 1. Pa un ai mewn papyrau Cymreig ynte Seisnig y dysgwylir gweled berniadaethau "Eisteddfodau Cymreig ? 2. A ydyw y Pontypridd Advertiser ar Weekly Mail yn cael cylchrediad helaethach jm mysg Cymru y De na'r GWLADGARWR, &3.? Pa un ai dysgwyl i Gymry ddysirti Seisneg, ynte dysgwyl i Saeson ddysgu Cymraeg yr ydych wrth gefnogi lobscwns o bapyrau newydd 1 4. Onid ydych yn meddwl eich bod yn sarhau Cymry wrth ysgrifenu fath lythyr yn nghyleh eich beirniadaethau yn y GWLAD- UARWR am Medi 21ain, 18771 5 A ydych yn dangos eich gwladgarwch(0 a'ch gofal amddiffynol (1) o'r hen iaith drwy gyhoeddi beirniadaethau mewn papyrau, a'r, rhai hyny yn bapyrau Seisnig, nad oes ond ychydig Gymry yn eu derbyn 1 6. Paham na fuasech yn cyhoeddi y beirn- iadaethau yn y GWLADGARWR, neu yn rhyw bapyrau Cymreig adnabyddus 1 7. Pa un yw y draul leiaf, prynu papyr newydd am 2c., ynte am 1e. ? 8. Pa un fwyaf y drafferth, ysgrifenu Cymraeg i bapyr Cymreig, ynte i un Seisnig 7 Atebion diamwys a foddlona, CATECHIST.

UNDEB NEWYDD Y GLOWYB.

YMADAWIAD GLAN TEES 0 LAN-GENNEGR.

YR YSGREPAN.

ORIEL Y BEIRDD.

BRYNMAWR.

MOUNTAIN ASH.

[No title]

Advertising

Darllenwch, Ystyriwch, a Chredwci…

Gair o L'erpwl.