Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Llais o'r Anialwch Pell.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Llais o'r Anialwch Pell. ARWYL GYFEILLIOX,—Yr oeddwn wedi myned yn Sh6n Tarw hollol y dydd o'r blaen; siaradwn, myfyriwn, breuddwydiwn, a chan- ttfn mewn rhyw fath o eiriau, y rhai a eilw y Sais yn iaith. Druan o hono! pe bai ond dysgu troi ei dafod trwm am yr hen Gymreig, gjtllai ddweyd yn eofn—dyma iaith Gwyr pawb fod "ymddyddanion drwg yn llygru moesau da;" felly yn gywir y dygwyddodd gyda mi. Yr oeddwn wedi gorfod siarad .Seisnig am dri mis heb weled na chlywed gair p Gymrieg. Dydd Sul diweddaf, cyfar- fyddes ag hen Gymro penwyn o Aberystwyth, ond deallais ei fod yn debyg i'r teiliwr aeth i Lundain am wythnos, yr hwn pan ddaeth adref, ni fedrai siarad Cymraeg na Seisneg; felly dywedais mewn byr amser, Ffarwel- wch, gyfaill;" atebodd yntau, Gwd bi, ffrend," a gadawodd fi eilwaith yn nghanol y Seisnig. Pe byddai gwaed Tichborne yn rfy ngwythienau byddai hyn yn ddigon i'm danfon i annghofio iaith fy mam yngyfan gwbl. Pan oeddwn felly rhwng dau feddwl, cyr- haeddais fy nghartref, ac er fy syndod wele ddau WLADGARWR yn gwenu o flaen fy llygaid! Annghofiais bob iaith ond yr hen iaith an- wylaf ar unwaith, a darllenais yn uchel: ■" Rhyfel ysbrydion Cwmtawe, Eryr y Foel a Llyffantod Cwmogwy, &c." Bum bronmedd- wl fod rhyfel wedi tori allan yn Nghymru, ond deallais yn fuan mai hen ryfel y tafod sydd o hyd yn uchel ei fri. Da chwareu, fechgyn, cribwch i fewn, galwedigaeth landeg ydyw bod yn filwyr yn myddin y Tafodau cribog (?) Ond rhaid yw cofio fy addewid 'r merched, sef rhagor o hanes CWYMPIADATT Y NIAGARA. Gadawsom Hennepin a'i gymdeithion mewn cynhwrf ar Lyn Ontario. Y Ilyn hwn ydyw y cyntaf ar y rhes o bump o lynoedd canol- .dirog mawrion, trwy ba rai y rhed y llinell wahanedig rhwng y Tiriogaethau Prydeinig ;a,'r Unol Daleithiau. Saif y rhestr fel y canlyn :— Pellder Uwch- Mill- o'r Dyfn- law tiroedd Môr. Hyd. Lied. der. y Mor. ys- millt. millt. millt. tr. tr. gwar. Tilyri Ontario 756 180 65 500 260 7,000 Erie 1,041 240 80 100 555 11,000 St. Clair 20 36 20 571 360 Huron 1,355 250 200 800 574 20,000 jj Superior 1,640 355 160 908 602 40,000 Rhed yr afon Niagara o Lyn Erie i Lyn Ohtario, am y pellder o 36 milltir, trwy wely o 250 troedfedd o ddyfnder, ac yn amrywio arhwng chwarter a thair milltir o led. Cluda yn ei mynwes holl ddyfroedd rhedegog Llyn- oedd Erie, Huron, St. Clair, Michigan, Nipissing, a llynoedd ereill o lai o faintioli. Ond pa beth am y cynhwrf ar fwrdd y Uông 1 Ni thaniwyd y magnelau, am nad oedd yno gi gwyllt, nag un bwystfil drwg .arall! Oywir fod ychydig Indiaid gwylltion AC y lan, ond yr oeddynt hwy, druain, wedi «u taro & gormod braw i symud llaw na throed. Wedi tawelu o'r bloeddiadau oerllyd ar fwrdd y llong, deallasant mai swn cwymp- iadau y Niagara a glywent, yn cael ei gludo ar adenydd y dyfroedd gloewon ar awyr ■deneu am bedair milltir a'r ddeg. Cyn hwyr y dydd aethant amryw filltiroetla i fyny yr afon, nes cyrhaedd y fan lie y saif tref Lewis- ton yn awr yn y fan hon gwnaethant gaban .a,goed, lie yr arosant am rai wythnosau; <crwydrent o amgyloh y wlad ar hyd y dydd, a dychwelent i gysgu yn y caban y nos. Ar yr ail ddydd wedi cyrhaedd y fan hon, y osafodd Hennepin a La Motte am y tro cyntaf wyneb yn ngwyneb ag ardderchawgrwydd diorchudd cwympiadau y Niagara Yr oedd gab. y blaenaf lygad craff i syllu ar harddwch :a godidawgrwydd Natur ond, fel ymdeith- wyr ereill o'i flaen ac ar ei ol, yr oedd yn rhy axdff i esgyn i'r rhyfeddol." Pan ystyriom liejaethrwydd yr harddwch o'i flaen, gallem feddwl nad oedd galwad am ddefnyddio y tfath ffugiaeth addurniadol, a thrwy hyny iroddi desgrifiad rhy helaeth ac annghywir. Dyma ei ddesgrifiad :—"Rhwng Llyn Ontario .;a Llyn Erie y mae gorlifiad aruthrol o ddwfr yn rhedeg yn chwyrn anarferol, ac yn syrthio .dros ddibyn mewn modd brawychus, fel nad oea dim drwy y greadigaeth all gydmaru a'r olygfa. Mae y cwymp rhyfeddol hwn tua 600 troedfedd o uwchder. Tarawa dwy afon yn nghyd gerllaw ynys fechan uwchlaw, ac eil- waith ymranant yn ddwy ffrwd fawr. Yna -ayrthiant dros y dibyn erchyll, gan ddys- -trychu a berwi yn y modd mwyaf hyll a ellir -ddychymygu, acyn gwneuthnr y fath gynhwrf ffyrnigwyllt, fel y mae yn fwy dychrynllyd na'r taranau rhuadwy; a phan y mae y -gwynt o'r Gogledd, gellir clywed ei swn am •agos i bymtheg milltir Dyna ddesgrifiad -digon cryf i roddi'r bendro i feirdd englyn- ion. Tua naw mlynedd ar ol hyn cawn hanes y fan gan Baron de la Hontan, yr hwn a :gyfrif uchder y cwymp o saitli i wyth can' troedfedd, a thua haner milltir o led. Dros 30 mlynedd ar ol y Baron, talodd M. Charle- "voix ymweliad a'r fan, a rhodda hanes lied -gywir am y cwympiadau a'u hamgylchoedd. «Gyfrifa ef eu huchder tua 150 troedfedd. Gwir uchder yr Horseshoe Fall y dydd pre- senol ydyw tua 158 troedfedd, yr American Fall tua 160 troedfedd; felly nid oedd oCharlèvoix yn mhell o'i gyfrifiadau. Yn y 'Gentleman's Magazine am 1757 cawn hanes -arall gan lysieuwr o Sweden, o'r enw Halm, -yr hwn a ymwelodd iVr lie yn y flwyddyn flaenorol. O hyny allan cawn y Cruglwyth •wcabldraethau gwageddol" y soniais am dan- ynt yn fy llythyr diweddaf. Yn rhediad blynyddoedd daeth y fan yn ymgyrchiad pleser-deithwyr o bob rhan o'r ddaear. Yn raddol adeiladwyd tai yn y gymydogaeth, ac 11 -erbyn heddyw y mae pentrefi o bob tu i'r afon. Drwy yr oil o'r ganrif bresenol -edrychir ar Gwympiadau y Niagara fel xhyfeddodd mwyaf Naturynngwiad Mach- Judiad Haul." Rhaid gadael y Rapids a'u vdygwyddiadau erbyn y tro nesaf. Gwyr rhai o'm cyfeillion ieuainc rywbeth yn barod am y waedd oerllyd, Hoi f mae'r Rapids gerllaw! Safwch! safwch (Eisteddfod Mountain Ash, Nadolig, 1874). MANION. Yr wyf erbyn hyn wedi profi haf a gauaf yn ngwlad y "trwynau gleision." Nid yw y gwahaniaeth rhwng tymorau y ddwy wlad yn ddirfawr; ond gall dyeithr-ddyn deimlo fod rhyw raddau o wahaniaeth. Gall Gwalia ymffrostio mewn llawer o bethau, a gall Acadia ymffrostio hefyd; ond o'm rhan fy hun, gwell genyf fi "Hen Wlad fy Nhadau." Yna "mae'r adar yn canu Cymraeg," ond yma maent yn canu-nis gwn Ni chlywir per- aidd lais y gog, na chwibanogl y 'deryn du, pigfelyn drwy holl goedwigoedd eang Nova Scotia. Mae'r wenol fwyn yn ymchwareu yn yr awyr yma, yr un fath ag yn Nghymru. Mae'r fedwen dalfrigog yn tyfu megys yn ei hanian, ond nid oes nag eos na gog i harddu ei brigau gwyrddion. Gwir fod yma amryw- iol fathau o'r creaduriaid asgellog, ond ni fedrant arllwys allan y fath for o gynghanedd a'r adar a ganant Gymreig. Y miwsig naturiol goreu sydd yma ydyw eiddo y llyffaint a'r ceil- iogod y rhedyn! Mae y creaduriaid hynyn fwy eu maint na'rrhai Cymraeg, felly ynoleu mamt y mae eu swn. Mae eisteddfodau y llyffaint wedi darfod bellach, ac yn awr mae gwyr y rhedyn megys yn cynal cyngherddau yn hwyr y cystadleuaeth. Dyma pro fifes wrs" canwyr y Gors, canys y mae eu lleisiau yn llawn "trills" o'r dechreu i'r diwedd. Mae y inll chorus yn debyg i swn dau neu dri chant o gricellau (criclcets) yn chyrnu o flaen tywydd garw. Ond er fod prinder talent yn mhlith y creaduriaid man, y mae gan y Blue Noses" elfen gref at ganu. Meddianant safnau mawrion, a lleisiau cryfion. Ar ol unwaith dechreu y gan, gwaith anhawdd yw -rhoi ter- fyn ami yn lie defnyddio'r ffrewyll, fel yn Nghymru, rhaid cymeryd y reins er eu cadw ar y track. Yn gyffredin canant yn unsain, a chredant mai yr hwn a fedr ganu gryfaf yw y goreu felly, bloeddiant am yr uwchaf, nes duo yn eu gwynebau, a cholli eu hanadl. Yn nechreu y gauaf aethum i le bychan ar lan y mor, nid oedd yno heol o un fath am filldiroedd, ond anialwch blin ar un llaw, a m6r terfysglyd ar y Haw arall. Ond, er fy syndod, cefais fod yno dalent canu ardderch- og Wedi eu dosbarthu yn bedwar llais, dechreuasom ar gasgliad Sankey a chyn pen tri mis medrent eu canu braidd oil. Oynal- iasant gylchwyl gerddorol, am y tro cyntaf yn eu bywyd, yn Gorphenaf diweddaf. Erbyn hyn maent wedi dysgu rhai darnau clasurol, megys, "Hail, Judea," "Starry Throne," &c. a medr amryw ddarllen cerddoriaeth y Tonic Solffa! Gyda llaw, a fydd Shencyn Ofnadwy neu'r Cerddor Coch mor garedig ag anfon copi o Follow the Leader i mi 1 Y NOS. Dyma. ogoniant Gwlad y Gorllewin. Tafia y lleuad dlos ei gwenau siriol ar wynebau y llynoedd mawrion, nes y dysgleiria eu tonau man fel myrddiynau o emau gwerthfawr ymsaetha aurora borealis ou fllacshiadau tan baid trwy y cymylau fel miloedd o ffaglau arian; chwareua y cler tanllyd trwy awyr nwyedig y gors, gan ddysgleirio fel nenfwd o ser sigledig cluda'r awel fwyn, ar ei haden- ydd nosawl, holl gyfoeth bedmaidd y blodau amryliw, a'r coedwigoedd ffrwythlawn; a llewyrcha'r ser a'r planedau fel tlysau glandeg dirifedi yn y ffurfafen las ac yn nghanol y dwfn ddystawrwydd, toraf allan i ganu :— Mor awynol ydyw'r nos 5 Yr wybren sydd yn hardd, Pob^eren sydd yn dlos, Fel siriol flodau gardd, &c. Gwelwyf yn y GWLADGARWR fod bechgyn Mynyddislwyn yn penderfynu dyfod yn eis- teddfodwyr. Da iawn, gyfeillion. Ewch rhagoch, hyd nes y delo eisteddfod Twyn Tudur yn enwocach na holl eisteddfodau y byd Tynwch y tanau, fechgyn a merched y gan hwyliwch eich camrau i ben y Twyn, a mynwch wybod pwy sydd oreu. A ydyw y "Mor o wydr" yn gystadleuol eleni 1 Os felly, boed i Yswain Edmunds ei mwynhau, a pheidio annghofio y lunch ar ganol y gan Os anfon yr ysgrifenydd hysbyslen i mi, dywedaf o galon, Diolch yn fawr-talaf eto." Rhaid terfynu y tro hwn, rhag blino bysedd y cysodydd, a llygaid y darllenydd.—Yd wyf, fechgyn a merched, a phawb oil, yr eiddoch yn gywir, ALAW WYLLT. Alban Newydd, America, Medi|7fed, 1877.

ANNEALLTWBIAETH Y BWLLFA.

RIIIANGERDD GYNFELYN.

Advertising

AT MR. J. JAMES (FELINGWMIAD).

GOBAU Y DEHEUDIR A'R EISTEDDFOD…

Y CANU CELFYDDYDOL YN LLAN-WBTYD.

LLITH TWMI TYNYPANT.

Gair o L'erpwl.