Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y EHIFEL. --

News
Cite
Share

Y EHIFEL. CYNLLUN" Y BLAENFYNEDI AD YN 0 BULGARIA. Rhydd gohebydd y Daily Telegraph y dea- grifiad canlynol pan yn ysgrifenu o Shumla —" Yr wyf newvdd gyrhaedd yma, ac yn awr yn alluog i anfon i chwi hahes amgylchiadau yr ychydig ddyddiau diweddaf, wedi chwilio yn drwyadl i sefyllfa. pethau. Darfu i'r Tyrciaid. -wedi atal y Rwsiaid am gryn amser i groesi yr afon Iantra, encilio yn ol tua Rutschuk mewn trefn dda. Yna, daeth y gelyn rhag ei flaen gan feddianu y lie ac ar ol hyny, dynesodd mor belled a Monastir. _un.:l CynUnn y iYluseoviaia o symuu yn mmeu sydd yn union yr un fath a'r un fabwysiedid gan y Germaniaid yn Ffrainc-meirch-filwyr yn itoddi gweithrediadau y fyddin, ac yn meddianu pob ystlys ac uchelfa. Yn manwl gadw at y cynllun hwn o flaenfynediad gofalus, y mae y gelyn wedi dyfod rhag ei flaen yn gyflyra. Darfu i dair ad ran feddianu trefvdd auainddiffynedifr Plevna, Selir, a Tirnova a chymerodd prif fyMin y Rwsiaid ei safle i fyny yn y lie olaf, lie y dysgwylir brwydr fawr, gan fod y byddinoedd gwrth- •wynebol yn awr yn ymyl eu gilydd. Yn y cyfamser, y mae ysgarmesion achlysurol yn myned yn mlaen, ac ambell ergyd o fagnel, heb un canlyniad gwerth son am dano. Y mae meirch-filwyr Rwsia yn gweithio eu ffordd trwy y wlad mor gyflym ag y gallant, ac y maent yn awr yn debygol yn nghymyd- ogaeth Gabrova. Dyma safle y Rwsiaid ond am un y Tyrciaid, rhaid i mi, wrth gwrs, ymatal rhag ei desgrifio. Gallaf ddweyd, fodd bynag, fod y fyddin Ottomanaidd yn Hawn brwdfrydedd, ac yn ffyddiog am lwydd- iant yn eu hymgyrchoedd dyfodol a chatrod- au y Czar. < « osodir cryn bwys ar gynlluniau Abdul Kerim er amddiffyn yr ymerodraeth, ac v mae uryn ffydd yn ei fedr a'i farn. Rhaid i'r wlad, wrth gwrs, ddyoddef yn drwm oddiwrth ddynesiad byddin elynol; ond ychydig ragfeddylient y dystryw dychrynllyd wneir gan y Rwsiaid, y rhai a ymddygant at gyfaill a gelyn yr un fath, gan orthrymu y Moslem a'r Cristion gyda barbariaeth gyffelyb. Yn hollol ddifeddwl o'r amcan neillduol oedd mewn golwg wrth gychwyn y rhyfel, y mae y Muscoviaid yn Ilosgi a difrodi can' belled ag y cyrhaedda eu harfau, yn enwedig y pentrefydd rhwng Selir a Tirnova, gan nodi eu blaenfynediad a than a lludw. Der- byniwyd hanesion dychrynllyd yma am gig- yddio y Ms-hometaniaid. Ar y cyfan, yr wyf yn rhwym o dynu y casgliad fod y rhyfel yn gwisgo gwedd ffyrnig a barbaraidd, ac yr wyf yn ofni fod golygfeydd dychrynllyd ar gymeryd He." Rhaid i ni gofio fod y papyr uchod yn bleid- iol i Twrci o'r dechreu. DAMWAIN I BONT Y RWSIAID YN SIMNITZA. Ysgrifenodd gohebydd y Daily News o Simmtza, Gor. lOfed, felycanlyn :-Cawsom ystorm fawr o wynt, taranau, a gwlaw, yr hyn ddarfu beryglu yn ddifrifol fodolaeth y bont-fadau. Y mae y badau haiarn hefyd mor isel fel yr oedd y dwfr yn llifo iddynt gan fygwyth eu suddo, a gwnaed pob ym- drech i achub y bont; ond yn uchder yr ystorm, darfu i ddau fan ar y bont, yn croesi breichiau y Danube ar yr ochr Dyrcaidd, dori ymaith. Suddodd y badau, a'r boreu hwn y mae dau wagle, un yn fyqhan, a'r Hall yn cyrhaedd tua 100 llath. Gwneir pob ymdrech i adgyweirio y bont, ond cymer hyny o leiaf ddiwrnod. Y mae hyn wedi achosi oediad difrifol yn nghroesiad catrodau ac ymborth. CAERCVSTENYN, prydnawn dydd Gwner.— Trwy benderfyniad y Cynghor Milwraidd, y mae cadfridogion a llywyldion Sistova a Tirnova i gael eu galw i Gaercystenyn i gael eu cwestiyno a'u barnu am ddygwyddiadau diweddar. Y mae Is-lvwodraethwr Sistova a Muttessarif Tirnova hefyd wedi eu galw yma. Dywed y papyrau Tyrcaidd fod Safet Pasha wedi derbyn eirchion i roi ymwared i Tirnova, ond iddo aros vn Osman Bazar. Edrydd y Vakit, fod Montenegro wedi gofyn i Loegr am iddi gyfryngu gyda'r Porte, er cael cadoediad ar bob pwynt yn ffafriol i'r Llywodraeth Dyrcaidd. Ddoe gadawodd y llysgenadydd Tyrcaidd yma am Affghanistan. Derbyniwyd pum' mil o bunau yma oddi- wrth Mussulmaniaid Bombay tuag at filwyr «lwyfedig y Tyrciaid. Y mae seindyrf yn chwythu yn yr heolydd yma er cael milwyr newydd i'r fyddin. ST. PETERSBURG, (jOR. 13.—Cadarnha yr oruchwyliaeth Rwsiaidd y mynegiad fod Bismarck wedi cyhoeddi fod pob cyfryngiad ar yr amser .presenol yn anmhosibl. BUCHAREST Nos WENER.—Y mae y sibrwd yma fod ymladd difrifol yn myned yn mlaen yn ardal Biela a Corest, heb un canlyniad penderfynol o tifi ochr. CIGYDDWAITH GAN RWSIAID. Anfona un gohebydd bellebron o Shumla, yn union wedi i'r Rwsiaid feddianu Tirnova, darfu i'r. Bulgariaid fyned i aneddau y Mussulmaniaid, gan lofruddio y crwydriaid o'r fyddin Dyrcaidd.—" Yr wyf fy hun, ebe y gohebydd uchod, wedi derbyn amryw adroddiadau o'r natur fwyaf erchyll oddi- wrth bersonau yn dianc o benteen Batak, Diskot, Meddan, Visuli. Iaidzi, Trembect, Frenchi, ac Issari, yr oil o ba rai a; roddwyd i'r fflamiau. Y mae y llywodraeth di vn rwym au i borthi deng mil o deuluoedd gyda u gwartheg rhwng Osman Bazar a Eski D;ouma. Ymaeyrolygfa yn druenus iawn. Y mae cenedloedd Tyrcaidd yn ymdrechu dianc o faes y cyflafanau hyn yn mhob cyfeiriad. Hysbysir hefyd am greulonderau o leoedd ereill. Os gwir hyn, nid yw y Rwsiaid un jaymryn gweU na'r Tyrciaid, acy maentwedi J cyhoeddi rhyfel i fynu iawn am droseddau o ba rai y maent yn euog eu huna.m.. Y RHYFELAWD YN ASIA, Brysnewydd o Gaercystenyn a ddyvred y dysgwylir bob awr am i frwydr fawr gymeryd lie yn Zewin, Armenia, lie y mae 15,000 o'r Rwsiaid wedi ymgasglu, Y mae y Tyrciaid wedi penderfynu ymo^od arnynt; ac os try y frwydr allan yn llwyddianus, golygant oresgyn y tiriogaethau Rwsiaidd, a myned yn mlaen i Alexandropol a Abhalkalaki. Y GWEITHREDIADAU YN MONTE- NEGRO. Newyddion o Vienna, dydd Sadwrn, a fynegant fod Pero Pejoritz wedi gorchfygu y Tyrciaid ger yr afon Tara, Gorphenaf 10, gan beri colled fawr iddynt. Y n ganlynol i hyn, darfu iddo gymeryd meddiant o chwech o bentrefi Tyrcaidd. CREULONDERAU YCHWANEGOL GAN Y RWSIAID. "Nis gall fod, mwyach, unrhyw amheu- aeth (ysgrifena gohebydd y Daily Telegraph dydd Sadwrn) nad lie bynag y daw y Rws- iaid yn eu goresgyniad o Twrci yn Ewrop, Ily fod y barbarwaith mwyaf didrugaredd a dychrynllyd yn cael ei gyflawni. Y mae y Cristionogion Bulgaraidd yn cael eu cyflogi fel goruchwylwyr i ddwyn yr anfadwaith hwn yn mlaen. 0 bob cyfeiriad, daw ffoaduriaid i fewn am noddfa, gan gludo gyda hwynt adroddiadau calon-rwygol am gigyddiad dyn- ion anarfog, gwragedd, ac hyd yn nod blant bychain. Y mae y milwyr Rwsiaidd yn treisio gwragedd a merched y Tyrciaid, ac yna yn eu gadael i gael eu cigyddio yn eu gwaradwydd gan y Bulgariaid. Y mae genyf brofion diymwad fod canoedd o'r ysgelerder- au hyn a chigyddweithiau wedi eu cyflawni yn y wlad rhwng Sistova, Monastir, a Tir- nova." Ysgrifena gohebydd yr un papyr, yr hwn a gyrhaeddodd Shumla, dydd Sadwrn, o Ruts- chuck Dydd Gwener, gwelais amryw bentrefydd mewn fflamiau ger Vetova; ac ymddyddanais a rhai o'r gwibfilwyr Circass- aidd, y rhai a ddywedent fod y Bulgariaid yn y rhan fwyaf o fanau yn ymuno a'r gelyn, ac yn dechreu ar eu llofruddiaethau cynllunedig. Y mae y traed-filwyr Rwsiaidd, a'r Cossac- iaid hefyd eu hunain, yn cigyddio wrth yr ugeiniau a'r canoedd Mahometaniaid diam- ddinyn y rhai na fuant yn alluog i ddianc, ac y maent wedi troi pentref Dilkili Fash, ger Rutschuk, yn gigyddfa berffaith. Yn Tchaioli, yn nosparth Rasgrad, goddiwedd- wyd 200 o ymnoddwyr o Sistova gan y Cossaciaid, a lladdwyd pob un o honynt gan y fidog, y ddryll, neu y pastwn. Yn Haratchormak, ataliwyd 10 o gertwyni yn cynwys ffoaduriaid o Arnoglon, a chigydd- iwyd yr holl deuluoedd a gynwysent. Yn Arnoglon ei hun llofruddiwyd yn erchyll 11 o wragedd a 10 o blant." Ysgrifena gohebydd y Times o Pera, dydd Sul, fel y canlyn Yr wyf newydd ddych- welyd o'r Palas, lie y derbyniais y sicrwydd cadarnaf oddiwrtlx y Sultan ei hun, am .wir- ionedd llofruddiaeth y boblogaeth Dyrcaidd gan y Bulgariaid. Y mae y Rwsiaid- yn arfogi y Bulgariaid, ac yn diarfogi y Tyrciaid. Treisiwyd gwragedd, lladdwyd plant, a llosg- wyd pentrefi. Dymunodd y Sultan arnaf yn arbenig ddeall fod 500 o ymnoddwyr wedi cyrhaedd Stamboul dydd Sadwrn, a llawer o honynt a'u dwylaw wedi eu tori ymaith. Y mae y boblogaeth Dyrcaidd ar y Balkan yn ddidai ac yn newynu."

Hunanladdiad un o Efrydwyr…

Gwyl Gerddorol Castell Harlech.

Advertising