Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

" Y Tylwyth Teg."

News
Cite
Share

Y Tylwyth Teg." (THE FAIRY TRIBE). ADOLYGIAD, GAN A LAW DDU. CANTAWD ddramayddol, neu yn fwy priodol efallai, operetta Gymreig. Y geiriau Cym- reig gan Mynyddog, a'r Seisnig gan Mr. Titus Lewis, F.S.A. Cyfansoddedig gan D. Emlyn Evans. Yr ydym i gyd yn gwybod fod Mr. D. Emlyn Evans yn gerddor o radd uchel, yn un o'r rhai mwyaf llwyddianus yn ei ftordd neillduol ei hun ag a fedd y genedl. Y mae yn fab athrylith. Gwyddom fod ei ganeuon nwyfus diweddar, a'i ganigau ysgolheigaidd a gwr- eiddiol wedi tynu sylw cyff; edinol; ac wedi ein codi ninau i ddysgwyl llawer iawn oddi- wrtho. Nid oes achos iddo ef drafferthu, ac nid oes amser gan neb ohonom, os ydym am wneyd ychydig o waith yn ein hamser byr, i dalu Bylw i neb a daichon, o eiddigedd o bosibl, neu o ddiffyg gallu i wneyd yn well, redeg arnom, ac ar ein cerddoriaeth. Ein dyledswydd ni ydyw myned yn y blaen, a gadael boneddigion y tair llythyren i chwilio eu primers, a gweithio allan eu exercises. Da genym o'n calon ei fod wedi ymaflyd mewn rhywbeth mwy pwysig nag ysgrifenu pwt ar aden i'r eisteddfod, hyd yn nod i enill gwobr o bwys-rhywbeth sydd yn rhwym o gymer- yd gafael ddyfnach ar y werin, a pheth a'i cyfyd yntau yn uwch yn marn dosbarth Iled helaeth o gerddorion ei wlad. Y mae y Gantawd fechan hon, o ran geir- iau a cherddoriaeth, yn sicr o ddwyn clod ychwanegol i'r b^ft'dd a'r cerador. Y mae y libretto yn nodedig o bert a thlos, a llawn o farddoniaeth, yr hyn sydd raid ei gael, a'r hyn ddylai ein beirdd ieuainc rhydd ei astudio, os ydynt am i'w cyf.vnsoddiadau fvw. Y testyn yn fyr, fel y dywedir -wrthym, sydd fel y canlyn :—Y mae traddodind yn ein dysgu am grediniaeth ein cyndeidiau yn mod- olaoth I- Y Tylwyth Teg," y rhai a ddawns- ient ac a nwyfphwareuent ar bob glaslanerch -am swyn a hudoliaeth eu cykh, lie na allai un marwolddyn fentro yn mrig y nos, heb fod mewn perygl o gael ei dynu i mewn i'r cylch, a'i gario i ffwrdd i wlad y goblyn gan yr ellylleBau teg-bendith y mamau. Yn y I gerdd y mae y pethau a nodwyd yn cael eu cyffwrdd fel arwyddion i egluro y ffaith mai o flaen gwybodaeth, moesoldeb, a chrefydd, y mae ffol grediniaethau mewn ysbrydion ac ellyllon y fagddu yn, ac i raddau peli, diolch am hyny, wedi cilio. A chymeryd y testyn yn y wedd yma, y mae amcan y llyfr yn dda ac mae'r triniad a wneir ohono gan y cerddor yn hynod ddyddorol a chynhyrfus. Agorir y gwaith gyda chydgan,—cydgan y daearolion (mortals). Dawns ar y glaswellt ydyw,- Dewcli a'r delyn, dewch a'r dwylo, I roi tant mewn cywair clir. Yn y man, tery yr hen alaw, 'Hob y dery dan-do ar ein clustiau, a hyny yr ail waith fel intermezzo yn y Ileddf. Ffyddlon a natur- iol i'w rhyfeddu. Y mae ein cerddor wedi deall fod llawenydd, os wedi cyrhaedd pwynt uchel, yn wastad yn ymdoddi i'r cywair Ueiaf. Gwers y byddai yn dda i gerddorion sych y dyddiau hyn ei dysgu. Arweinia y recit fer, "0 ddedwydd ddydd," yr hon gyda llaw a yyfeilir yn ysgolheigaidd iawn, i fewn i alaw (tenor) y Priodfab, Mae Gwener deg yn codi." Mae y penillion hyn y rhai tlysaf yn yr holl gerdd, a thueddir ni i ddyfynu y penill olaf 0 Gwener mae ieuenctyd Tragwyddol yn dy w6n, Wyt fel o hyd yn dwedyd Daiff cariad byth yn bên j Ac yn dy wyneb dithau F'anwylyd bur dilyth, Mae dwyfol wen serchiadau A ddeil yn ieuanc byth. Dyna farddoniaeth yn canu ei hiinan- 'I'Da-iff cariad byth yn hen." Onid yw y llinell hon yn dra phrvdferth ? Ydyw, ac yr ydym yn anfoddlon iawn na bai y cerddor yn gwneyd mwy ohoni. Y gwir yw, y mae wedi ei gwisgo a brawddeg gerddorol wan, os nad yn rhy gyffredin. Yn sicr yr oedd y gan ysblen- ydd hon yn teilyngu, a gallasai yr awdwr ei gwisgo a cherddoriaeth mwy fresh a theiml- adwy. Yn dilyn y cynlluh, dichon, y mae yr awdwr yn rhy fanwl. Rhaid tori dros ben form ac unffurfiaeth brawddegau weithiau, er fo.rm ac un gwasgu allan fivoskj a meddwl o linell sydd yn feichiog o'r ddau. Ond dyna, fe faddeua ein cyfaill i ni. Yr ydym wedi datio ar y penill. Yn y rhif nesaf (No. 3), y mae yr awdwr yn ei elf en. Cydgan byr, cynhyrfus, a nwyd- wyllt ydyw, yn a leaif. Rhedeg a cheisio dianc y mae y bodau daearol oddiar ffordd ysbrydion a chorachod gwlad y- fagddu. Pwynt ardderchog iawn yw y diweddeb ar y Qbiff) yma, y mae y Tylwyth uffernol ar eu sodlau, a chyda eu bod yn troi megys o'u gafael, dyna'r giwaid yn pasio yn mlaen yn ngeiriau y bardd—" Yn dyrfa dlos." Ni buasai neb ond cerddor o allu desgrifiadol, ac o ymarferiad a dysg, yn gallu linkio diwedd un symudiad a dechieu un arall mor gelfydd a dramayddol. Llithra y cydgan hwn yn mlaen yn chwareus a phert iawn. Ond nid ydyw y frawddeg yn y soprani o Ein gwisg- oedd yw pelydr y loerwen lan," i'r diweddeb ar D, yn ein barn ni, yn cydweddu yn dda ag ysgafnder hoenus y rhelyw o'r dernyn. Ceir brawddeg aobyg yn un o'n anthemau Cymre mwyaf Úwys a dwfn, a gyfansodd- wyd Yl, ddiweddar. Prif amcan y cyfansodd- wr yn iiyn, gallem feddwl, oedd cael contrast, yr hyn a gyrhaeddir; a cheir climax tra effeithiol gyda'r dilyniad ar y geiriau "yn mlaen." Yma eto, cydir y symudiad hwn a'r symudiad dilynol gyda diweddglo cydgan y "Tylwyth Teg," ,ac un ban fel coda; a chedwir yn mlaen gysylltiad didor. Wedi tri mesur offerynol o frawddegau agoriadol y cydgan a glywid o'r blaen, yn 0 leiaf, gan y marwolion, daw y priodfab i fewn yn gyuhyrf- ua iawn gan floeddio, nid cymhell—" Diang- wn fy Ngwen y tro hwn yn G leiaf. Par- hau i waeddi y mae, a brenin y "Tylwyth Teg" (bass) yn chwerthin yn uchel am ei ben. "Ha! ha! rayfi ai pia, canys Brenin y Tylwyth Teg wyf ii," allegro, pomposo. Y mae yr episode yma wedi ei gynllunio a'i weithio allan yn dramatic a hynod gelfydd- gar; ond nia gallwn ddweyd ein bod yn hynod hoff o unawd y Brenin. Y mae yn agor hytrach yn ddiafael, a chollir y tonality yn rhy sydyn, a rhy ami nid oes ynddo fawr o sefydlogrwydd ac awdurdod brenin. Crech- wen a chwerthin y mae am bob peth, yn awr am ben y lleuad, bryd arall dawnsia i nwaig gwynt y Hi' Digon disylwedd yw peth feIly, ac anhawdd ei bortreadu. Dyma y fath un yw Brenin Tylwyth y fagddu, a thebyg mai rhagoriaeth y desgrifiad yw ei wendid. Pa fodd bynag, y mae y darn, mewn ystyr gerddorol, yn gwella fel y mae yn myned yn y blaen. Dyna y 6 8, trueni ei fod mor fyr, ac yn ellwedig y quasi rec-it. tl ganu y braw- ddegau yma yn glir, byddant yn effeithiol. Gydag ond haner mesur, cysylltir hwn eto a'r symudiad a alwn yn ddiweddglo i'r rhan flaenaf o'r Gantawd. Deuawd a chydgan, y Briodferch (soprano) a'r Brenin; wedi pedwar mesur 6-8, pa rai a glywid eisoes yn y rhif o'r blaen, a chyda'r unffurf o gynghanedd, daw y soprano i fewn 4' Mae m mhriod yn dysgwyl, o goliwng fi Yn yr amser cyffredin y cana y ddau ya awr a gweithir y ddwyawd hon allan yn glir, a chydweuir cydgan yr Ellyll- esau Teg gyda'r ddau yn effeithiol. Y Brenin a'i dylwyth am ei swyno a'i thynu gyda hwy, a hithau ar ei heithaf yn tynu yn ol ond, mae'n rhaid i ti dd'od, ffiirwel i'r hen fyd," a thynir hi i mewn i'r cylch gan eu swynion. Gresyn na buasai rhywbeth yma i arwyddo- yn y rhanau offerynol o bosibl—i arwyddo, meddaf, ei bod wedi ei thynu o'i hanfodd, a hyny pan oedd ei gwr yn dysgwyl iddi dd'od ato ef. Rhywbeth tebyg i'r symudiad effeith iol a dramayddol sydd gan Henry Smart i'r offerynau, yn ei gantawd "The Bride of Dunkeron," lie y deagrifia. ymsuddiad y for- forwyn a'i chariad i lawr i'r dyfnder. Gormod o'r bramra o lawer geir yn niwedd y symud- iad hwn. Eisieu mwy o'r tyner, y teimlad angerddol a chalon-rwygol sydd yma. 0 !'r anwyl! meddylier, y fam ddiniwed yn cael ei denu megys gan swyn y sarff, a hyny pan oedd hi ar fin sylweddoli ei gobeithion sylw- er ar y bardd :— Mae 'mhriod n dysgwyl -0 goliwng fi, Mae gwledd fy mhriodas yn awr ar y bwrdd; Ni fynaf roi fyny i'th swynion di, 0 goliwng fy nghalon, a gad i'm fyn'd ffwrdd! Mor galon-rwygol y mae yn rhoddi i fyny, sylwer eto *j. ) gallaf wrthsefyll dy swynion di, J gelli wrthsefyll fy swynion L Ac yntau (y Brenin didosturi) yn ei gwawdio ar yr un pryd. Y mae'r olygfa yma yn gy- nhyrfus a thoddedig iawn. Portreadir teimlad y Priodfab wedi colli golwg ar ei diwedd, i mewn alaw o dynerweh a ilwyn anarferol. Dyma yr alaw fwyaf desgrifiadol ac awenydd- ol, a gwreiddiol hefyd yn yr holl waith, ond ei bod yn rhedeg dipyn yn uchel. Hi hefyd, hyd yn hyn, sydd fwyaf gorphenol; a synwn ni ddim na allai ddyfod yn boblogaidd. Y mae yr arweiniad i mewn yn hapus a thodd- edig rhyfeddol. Yn wir, yr ydym yn dechreu anadlu bywyd newydd gyda y gan brydferth hon. NODIAD.-Fel y gallo y darllenydd ein dilyn trwy y darn dyddorol o'r Ilyfr sydd ar ol, gwell iddynt bwrcasu y llyfr. Gellir ei gael oddiwrth yr awdwr, Ffynonau Terrace, Swan- sea, am 2s. 6c. (T-w orphen yn ein nesaf).

Urdd y Dyngarwyr.

i . , _— Ffrwydriad Weigfach.

-Pethau Od.

Nodiadau.

FELIN-FOEL.

GAIR 0 GWM RHYMNI.

TREHERBERT.

EISTEDDFOD FAWREDDOG LLANWRTYD.

ABERFAN.

CWMAFON.

MERTHYR.

TRECYNON.