Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

IFOR PUW O'R HENBLAS: NBKJ.…

News
Cite
Share

IFOR PUW O'R HENBLAS: NBKJ Y Oymro Llwyddianus yn un o Drefydd Lloegr. XXI. UN diwrnod daeth cenad oddiwrth un o garcharorion Belle Tue Gaol yn dymuno ar y"Dr. Puw ddyfod yno i'w weled. Yr oedd y frawdlys yn agos, yn yr hon yr oedd llu o aehosion pwysig yn aros i'w profi. Yr oedd un achos neillduol yno, sef gwaith tri o ddynion ieuaino yn twyllo yr aflandy o 15,000p.; ac oni b'ai am eu cyf- addefiad hwy eu hunain tra mewn cyflwr o t'dddwdod, buasai awdwyr y twyll yn aros yn hollol guddiedig. Yr oeddynt ill tri yn awyddogion yn yr ariandy, ao un ohonynt, sef Mr. Sims, yn brif ysgrifenydd. Aeth y Doctor i'r carohar yn ol y dymun- iad. Yno yn un o'r celloedd yr oedd dyn ieoano o ymddangosiad ddeallgar ac o wedd fofaeddigaidd, ond edrychai ei wedd yn welw a chariedig, ao yr oedd gofid wedi ysgrifenu ei enw yn ddwfu ar ei aeliau dbuchtedig. Edrychodd yn wyneb y Xfoctor ar ei fynediad i'w gell gyda gwen fdclihaus, a gwnaeth ymdrech i siarad, ond tdrodd i wylo tel plentyn. Gofynodd y Doctor iddo i ba ddvben yr oedd wedi anfon am dano ef, yn nghyd a pha fodd yr oedd wedi dyfod i'r fan hono. -1 c, lyfl," meddai yntau, "ydyw un o'r tri carcharor sydd yn aros eu prawf am dw Ho yr ariandy." A. ydych yn gwadu y cyhuddiad?" gofynai y Doctor. Nac ydym," atebai yntau; mae y wpithred yn rhy amlwg i'w gwadu pe yr ewyllysiem, ac nid oes ynom awydd -chwaith i hyny." Pa fodd," gofynai y Doctor, "y darfu i ddynion o'ch sefyllfa a'ch talent chwi eyrthio i'r fath brofedigaeth ? Ai chwi ydyw Mr. Sims?" Nage, meddai yntau, fy enw ydyw Alfred Langley. Byddai rhoddi i chwi lianes manylion fy mywyd yn fwy nas gall fy nerth, ac yn wir fy nheimladau hefyd ganiatou yn bresenol, ac mae yr adgof am 4ano yn brathu fy mynwes fel ysgorpionau. Gttllaswn fod yn angel, ond yn lie hyny yr wyf wedi darostwng fy hun yn gythraul. JEfallai y daw adeg pryd y bydd i mi ddat- gufldio i chwi fy holl hanes. Yr wyf, fel y gvvyddoch; i sefyll fy mhrawf yn y ffawdiys nesaf. Y mae gan fy nghyd- ^archvorion berthynasau cyfoethog, y rhai \s nant goreu drost, ut; ond am danaf fi, vr wyf yu hoilol aiuddifad. Anwyl syr, fy nghais atoch ydyw, am i chwi wneuthur coelch goreu droswyf, os gwelwch fod yn -ddù; er nad wyf yn dysgwyl cael dyfod yn zhve,(i. eto caraswn i ymdrech gael ei gwnevd ar fy rhau i leihau y gosb, os oes .modd." 4fWel," meddai y Doctor, "mae eich achos yn hollol ddyeithr i mi, ac yn gofyn ystyriaeth. Gwnaf ymchwilmd i'ch hanes, ac yua gwnaf fy meddai i fyny, ac fe gewch ehwitbau wybod y canlyniad mor fuan ag y byddo modd." Yn unioa wedi ymadael a'r carchar gwnaeth y Doctor bob ymchwiliad i'w fcant-s ftg ydoedd yn bosibl, ond yn hollol ofer yr oedd y cyfan yn berJfaith ddirgel- weh. Ond yn mhen dau ddiwrnod derbyn- iodd y Doctor y llythyr canlynol Belle Vue Gaol.—At y Dr. Puw. ANWYL Syr,—Wedi eich ymweliad yma daeth i fy meddwl mae fy nyledswydd ydoedd rhoddi i chwi yn gyflawn fy holl hanes, oher- wydd gWll nas gellwch ei gael unrhyw ffordd arall. Bwriadaswn i wneuthur hyny ar y pryd, ond methais fagu digon o wroldeb, ond sancanaf gyflawni hyny trwy ysgrifenu ac 0 tia byddai fy hanes yn rhybudd i fechgyn ieuainc Cymru a fwriadant ymsefydlu yn nhrefydd Lloegr i ochelyd fy Uwybrau dryg- ionua ac annuwiol. Wai4 fy magu mewn amgylchiadau da .Y mewn teulu crefyddol, a derbyniais addysg e'r fath oreu. Wedi dyfod i oedran cyfaddas penderfynodd fy rhieni l'm hanfon i Gaer yn egwyddorwas mewn masnachdy brethynau. Gan fy mod yn aelod crefyddol, ymaelodais yu nghapel Yr oedd y masna<jfcdy y juwyaf yn y ddinas, ac felly perthynai iddo In o weisioia, ond yn mysg yr oil nid oedd ond fy hunan yn aelod crefyddol. Yn perthyn fr adeibd yr oedd yatafoll lie y chwareuid pob math o gampau, ond ni byddwn un amser yn mynychu y cyfryw, am y byddwn yn Btyned i'r moddion crefyddol wythnosol mor amI ag y medrwn. Byddwn yn derbyn ami lythyr oddiwrth fy mam, a dyma. oedd yn eu diweddu oil,—" Cofia ofalu am dy grefydd." Un Saboth yr oedd yno wibdaith tua L'erpwl, gyda pha un y bwriadai fy nghydweision Tfyned. Oytnhellent tinau i ddyfod, ond liiwedwu klNa" yn benderfynol. Y Sadwrn blaenorol gosodasant eu holl dalentau ar waith er ceisio fy nenu, ac yn wir byddwn sttabell i dro yn haner roddi i fyny, bryd arall 8Ifwn yn benderfynol i beidio, gan gofiv cynghor fy mam, sef gofalu am fy nghrefydd. Y nos Sadwrn hwnw ni chysgais nemawr gan bryder meddwl, a phan y cysgwn breudd- jrydi^n fy mod yn myned gyda fy mam i'r oedfa boreu Saboth i'r hen gapel, ac yno yn ymyl y cor mawr yn penlinio, fel y gwnaeth- um ugeiniau o weithiau. Boreu dranoeth pan oeddynt yn parotoi i gychwyn, clywn un ohonynt yn gofyn i'r llall, a oedd yr hen ben- grwn yn dyfod ac er na chlywais yr enw o'r blaen, deallais mai ataf fi y eyfairid. Daeth rhywbeth droswyf, fel y teimlais fy mod yn unig yn eu plith. Ar hyn daeth un o'm cyf- eillion goreu ataf, gan fy hysbysu fod yn well i mi ddyfod yn hytrach na bod yn destyn gwawd i ereill. Beth bynag, yn fuan iawn cefais fy hun yn rhodio heolyddlzerpwl ac yn wir mwynheais fy hun yn llawer gwell na'm dysgwyliad, er i mi yn ystod y dydd deimlo ami frathiad yn fy mynwes. Ond 0 gan Dduw na buasai i mi erioed weled yr haul yn codi ar y Saboth hwnw, oherwydd dyna ddydd fy ninystr a'm damnedigaeth. 0 hyny allan dechreuais esgeuluso y moddion crefyddol, er nad eu llwyr adael. Yn yr amser hwn yr oedd Hamlet yn cael ei chwareu yn y ddinas, ac yr oedd fy nghydweision yn mynychu yno, ao anogent tinau i ddyfod trwy fy hysbysu nad oecUt dim drwg yn Hamlet, ac nad oedd yr un llyfrgell yn gyf- lawn hebddo, ac fod holl bregethwyr y wlad wedi ei ddarllen. Un noson aethum yno, ac yn wir yr oedd y golygfeydd tuhwnt i'm dychymyg. Nis gwn a adawodd Hamlet argraff ddrwg ar fy meddwl, oud gwnaeth hyn, sef creu serch yn fy mynwes at y chwar- eudy; ac os na wnaeth Hamlet ddrwg, gwnaeth canoedd o bethau a welais yno ar ol hyn galedu fy nheimlad a seriofy nghyd wybod. Dechretia,is yn awr i gael bias ar y gamblo, a braidd yn ddieithriad yr oeddwn yn fuddug- wr. Gadewais y moddion crefyddol yn hollol, ac er nad oeddwn eto wedi gwasan- aethu fy nhymor, ystyrid fi er hyny yr hap chwareuwr goreu yn y ddinas. Pan y daeth tymor fy ngwasanaeth i fyny, cefais fod mas- nachdy yn agos i'r lie y gwasanaethwn ar ddyfod yn rhydd ysgrifenais i hysbysu fy nhad, daeth yntau i Gaer ar unwaith, a phenderfynwyd ei gymeryd. Gwenodd llwyddiant ar fy masnach, ac felly byddai genyf ddigon o arian at fy ngwasanaeth. Prynais farch rhagorol, a phenderfynais ei ddysgyblu gogyfer a rhedegfeydd Caer, y rhai oeddynt yn ago3. Mentrais ganoedd o bunau ar ei draed, ond trodd ffawd yn fy erbyn, a chollais y cyfan. Daeth gal wad am arian, ond nid oedd dim i'w gael, ac felly rhaid oedd myned yn fethdalwr. Cefais arian eilwaith gan fy nhad i ail ddechreu fy masnach, ond yn lie cymeryd rhybudd oddi- wrth fy mywyd blaenorol, treuliwn y rhan fwyaf o'm hamser mewn hapchwareudai, a byddwn yn ami yn cyniweirio ei "thy hi." Aethum eilwaith yn fethdalwr y pryd hwn ffoais gan adael y oyfan i'm gofynwyr. Bum am dymor yn guddiedig, a newidiais fy enw. Yr oedd genyf un cyfaill yn Nghaer, yr hwn yn unig a wyddai He yr oeddwn. Un noson tra yn dilyn fy chwantau derbyniais lythyr oddiwrtho yn hysbysu fod y cyfan o eiddo fy rhieni wedi ei werthu, ac fod fy mam wedi marw o doriad calon. Fe mam wedi marw yr hon y sugnais ei bronau, ac a'm gwasgai mor dirion at ei mynwes pan yn faban eiddil, a phan y byddai corwyntoedd nosawl y gauaf yn suo pawb ereill i gysgu, byddai hi fel angel gwarcheidiol yn effro yn gwylio ei phlentyn claf. Y fam yna wedi marw Ie siwr eto deliais y newydd fel craig ni redai deigryn o fy llygad nac ochenaid o fy mynwes. O'r diwedd penderfynais ddechreu arwain bywyd newydd, ac yn y cyfryw amser daethum i Manchester, ac nid hir y bum cyn dyfod yn barchus yn ngolwg y ddinas, a chefais le fel ysgrifenydd yn yr ariandy. Aethum eto i ymhyfrydu mewn gamblo, a chefais gyfeillion ffyddlawn yn fy nau gyd- garcharor. Gan fod ein cyflog yn rhy fychan i ateb i'n treuliau, penderfynasom dwyllo ein meistri, a thrwy hyny ddarostwng ein hunain i'r sefyllfa druenus hon. Gwn y synwch pan y dywedaf wrthych mai fy ngwir enw ydyw Evan Lewis, mab Ty'nwern, o ddyffryn Llawrnant. Yn awr, anwyl syr, os ydyw fy nhad yn fyw, carwn ei weled, er y byddai hyny yn orchwyl caled ao anhawdd i mi, ac yn newydd trwm iddo yntau. Os oes cyrnhorth yn bosibl, byddaf yn wir ddiolchgar.—Yr eiddoch, ALFRED LANG LEY. Nid ychydig oedd syndod y Dr. Puw pan y deallodd mai un o'i hen gymdeithio-i oedd y carcharor. Ysgrifenodd ar unwaith er holi hanes ei dad; cafodd ei fod yn fyw, ond yn diawd iawn. Anfonodd ato hanes ei fab, yn nghyd a nodyn 5p. er talu ea dreuliau i Manchester. Cyflogodd y Doctor y bargvfreithiwr goreu i'w amddiffyn Cyrhaeddodd yr hun wr Manchester yn ddiogel, ao yr owld y Doctor yn yr orsaf yn ei ddysgwyl. Wylai fel plentyu, a dywedai mewn dagrau mai ychydig feddyliodd mai hyn futtsai diwedd ei fab. Carasai gael golwg arno, ond yr oedd yn noswaith cyn y prawf, ac felly yn anmhosibl. Yr olwg gyntaf a gifoid yr hen Rolant ar ei fab ydoedd dranoeth yn y gyhudtifa criminal f ox). Edrychodd y carcharor o'i amgylch, syrthiolid ei lygaid ar unwaith ar !5 t5 ei dad, yr hwn oedd wedi ymwthio yn mlaen mor agos ato ag ydoedd bosibl. Plygodd ei ben a wylod"); wylodd yr hen wr hefyd nes oreu cydvmdeimlad yn mhawb o'i amgylch. Gwnaeth y bargyfreithwyr eu goreu i'w amddiffyn, oud er y cyfan cyhoeddwyd hwy yn euog, a dedfrydodd y barnwr hwy i ugain mlynedd o benyd was anaeth. EJrychodd Evan ar ei dad, ac estynodd yr hen wr ei freichiau tuag ato fel pe am ei gofleidio, a gwaeddodd allan, 0 fy mab anwyl! Agorodd Evan ei freichiau yntan, a llefodd allan mewn ilais torcalonus, 0 fy nhad anwyl I rhoddwch; i mi eich Haw ymadawol." Ar hyn daeth y swyddog yn mlaen, a dygwyd y carehar- orion ar unwaith o'r golwg. Yn mhen tua thair wythnos derbyniodd y Doctor nodyn yn hysbysu fod Alfred Langley wedi tynu yr anadliad olaf yn ngharchardy Manchester. Ysgrifenodd y newydd trist ar unwaith at ei dad i Gymru. Yn mhen tri diwrnod derbyniodd lythyr yn ol yn hysbysu fod yr hen Rolant, Ty'.uy- wern, wedi marw o doriad calon y mynudau yr oedd y llythyr a hysbysai am f rwolaeth ei fab yn dyfod i'r ty. Er fod llais Evan, Ty'nywern, wedi dystewi yn yr angeu, a'i fedd heb gareg arw a dwy lythyren" i'w ddyno ii, mae ei hanes yn fyw, ac yn llefaru Gochel, gochel," yn nghlust pob Cymro. (r w barhau.) I

Eisteddfed Undebol Pontardawe…

Tan Dinystriol yn Nghaerdydd.

[No title]

[No title]

--Masnach yr Haiara a'r (Ho.