Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Eisteddfod Ystalyfera.
Eisteddfod Ystalyfera. Cynaliwyd gwyl gerddorol gadeiriol yn y lie uchod, dydd Sadwrn, Mehefin 30ain. Yn absenoldeb y llywydd apwyntiedig, 8ef T. R. White, Ysw., cymerwyd y gadair gan y Parch. C. Williams, gweinidog y lie. Ar- weinydd Adolphus beirniad Eos Brad- wen, Rhyl. Wedi cael anerchiadau gan y llywydd a'r arweinydd, awd yn mlaen a gwaith yr eisteddfod. Canu '-Thou shalt bring them in;" dau yn cystadlu, ond cipiwyd y dorch gan Master Edwin Nicholas, Ystalyfera. Adrodd A ddywedais ti fod Cjymru yn dlawd buddugol, Mr. John Lewis, Glandwr. Canu Angels ever bright and fair buddugol, Miss Mary Griffiths, Cwmtawe a rhoddodd y beirniad ganmol- iaeth neillduol o dda i Miss Susanah Davies, yr hon, meddai, oedd yn meddu llais rhagor- Qt. Credwn pe gwnai cerddorion Ystalyfera ofalu am addysg gerddorol dda i'r ddwy eneth a nodwyd, y delent yn ddwy seren hynod o ddysglaer yn y byd cerddorol. Canu Yr Eden sydd fry i gorau plant, un c6r yn cystadlu, sef Dyffryn, ond am na chanasant i foddhad y beirniad, ataliwyd y wobr. Canu y-deuawd "And this will be heaven for me;" cydfuddugol, Mr. H. 'opkin a Miss Susanah Davies, a Mr. E. Nicholas a Miss Mary Smith, Y3t;j.lyfera. Canu Llawenydd y Gwanwyn;" buddugol, Dyffryn, Pontardawe. Canu "Y Hachgen Dewr;" gureu, Mr. S. Williams, Gland wr. Oanu "Ton arypryd;" buddugol, Mr. Waiter Morgan a'i gyfeillion. Ni ddaeth yr un parti yn mlaen i ganu Catch y Newyddiacturon." Canu" Y Wawr;" buddugol, cor Dyffryn, Pontardawe, dan arweiniad Alaw Meudwv. Yn awr daeth prif gystadieuaeth y dydd, sef canu Then round about the starry throne pedwar cor yn cvstadiu, sef Duuis, Glandwr DyffI yn, Pontardawe T.ibernacl, Sciwen; a Pantteg, Ystalyfera. Cafwyd beirniadaeth fanwi, ac yr oead y gystadieuaeth yn sefyll rhwng yr ail a'r olaf, ond dyfarnwyd y wobr i'r olaf yn nghanol ban Lief au o gymeradwyaeth y dorf. Arweinydd y cor buddugol oedd Mr. John Wiiiiams (Asaph Godre ? Graig). Yn yr hwyr, cynaliwyd cyngherdd ar- dderchog, pryd y bu y rhai canlynol yn gwasanaethu Eos Bradwen, yr hwn a gan- odd Chwifio'r Cadach Gwyn," Bugeiles y Wyddfa," Pwy sydd eisieu papyr new- ydd," a 'Rwyn sefyll wrth y gamfa." Oanodd Mr. Walter Morgan "Y gof du" (can newydd o waith y dyn ieuanc gobeithiol, Eos Dyfed), a cbafodd ei encorio, pryd y can- odd "The death of Nelson" yn dda iawn. Canodd Miss Susanah Davies, 13 oed, C&n y fam i'w baban cyntaf (gan Emlyn Evans) yn ardderchog yn wir, mae yn drueni o'r mwyaf os na wna rhywun gymeryd yr eneth hon i'w gofal, a i henderfyau ei chodi i sylw, canys meddiana "lais arianaidd iawn," a medra ei feistroli yn dda, yn enwedig gyda'r effeithiol. Cauodd Miss James, Briton Ferry, tl Y fwyalchen" yn lied dda. Darfu i Eos Dyfed ganu "In native worth" yn gampus encoriwyd ef, a daeth yn ol i ganu "How vain is man yr hon a ganodd eto yn ar- dderchog dyma ddyn ieuanc arall sydd heb erioed gael addysg gerddorol ond yn unig yr hyn ddysgodd ei hun ac er mai ieuanc ydyw mewn cydmariaeth, beiddiwn ddweyd na chlywsom neb yn canu How vain is man gystal ag y canodd Eos Dyfed ef. Yn nesaf, ymddangosodd yr Ystalyfera String Band, arweinydd pa un yw Eos Dyfed eto, a chwareuwyd Let the hills resound" yn rhagorol: credwn, pe byddai yr awdwr (Mr. Brinley Richards) yn bresenol, y c'ai ei foddhau yn fawr yn chwareu y band ieuano hwn &<: yr ydym yn llongyfarch Ystalyfera ei bod erioed wedi gallu codi bachgen mor alluog yn y byd cerddorol ag Eos Dyfed. Ond prif arwr y cyngherdd hwn oedd y Ty- newydd hero," Mr. Gwilym Thomas, yrhwn, pan ymddangosodd, a gafodd gymeradwyaeth wresocaf y gynulleidfa; a chanodd "The last man," "Gogoniant i (iymru," a "Give me a fresh new breeze," a digon yw dweyd ei fod yn canu yr un fath ag arfer—hyny yw, yn ardderchog. Canodd Cor yr Aelwyd, Treforis, yr hwn oedd yn cynwys tad, dau fab, dwy ferch, a dyn ieuanc arall, amryw ddarnau, ac yn eu plith rhai o ddarnau y Jubilee Singers-megys There's a meeting here to-night," "Mary and Martha," &c., &c., "Merry May," a "Good night," yn gampus. Cyfeiliwyd yn fedrus iawn gan Mri. R. L. Davies, Ystalyfera, a H. LI. Ed- munds, Gwauncaegurwen a chwareuodd yr olaf Y gwcw ar y crwth yn dda iawn. Ar ddiwedd y cyngherdd, canodd corau Zoar a Phant-teg, yn un, "MolwchyrArglwydd" (Joseph Parry), o dan arweiniad Mr. Gwilym Thomas. Dylaswn grybwyll, hefyd, mai yn y cyngherdd y cadeiriwyd Asaph Godre Graig, yr hwn a arweiniwyd i'r gadair gan Eos Dyfed, a Mr. W. Hinkin, Llanelli; yr olaf a ganodd, hefyd, "Bedd Llewelyn," a darllen- odd Mr. J. U. Stephens amryw benillion ar yr achlysur. Cafwyd eisteddfod gerddorol a chyngherdd ardderchog, a throdd y cyfan allan yn llwyddiant perffaith.—Gohebydd.
[No title]
Dyn araf a thawel ydyw Gounod, ac y mae yn 59 mlwydd oed. Medr Liszt siarad Saesonaeg gyda rhwydd ineb, ond ni fedr Wagner. '¡-r
Advertising
PELENI IOLLOWAY.—YB YBGYFAINT A'B CYLLA —Y mae ywydd twym a borev au a phrydnawnau >, oerion boL amser yn creu anhwylderau yn rhanau treuliol y corff, y rhai ddylai gael gofal prydlawn. Nid oee dim yn debyg i Beleni Holloway amwella y treuliad. Maent yn cael eu cydnabod yn gar- trefol a thramor fel y feddyginiaeth sicraf ac effeithiolaf at benau anhwylus, poen yn y cylla, diffyg treuliad, gwynt, ehwydcfiad, gwrtnwyneb- edd, pob math o ryddni, clefyd y gwaed, eychdwy 1 croen, a bol-rwymedd. Y mae y Peleni hyn yn j amddiffyn y cyfansoddiad rha^ y niweidiau am- ( rywiol sydd yn dilyn cyfnewidiadau y tywydd, ac felly o werth mawr yn y tymor hwn o'r flwyddyn. < ^Nia ydynt yn yaayraeth dim » gwaith na phlesaj, <
Oyfarfod y Glowyr yn Nghwm,…
Oyfarfod y Glowyr yn Nghwm Rhondda. Dydd Mercher wythnos i'r diweddaf, cynal- iwyd cyfarfod cyffredinol o'r glowyr yn yr Ystrad. Yr oedd tua mil o bob] yn bresenol. Llywydd, Mr. Evan Jones, yr hwn wedi agor y cyfarfod a alwodd ar Mr. Bryson i anerch y dorf. Gofynai ef paham yr oedd tueddiad i dori fyny ddyfarniad y Bwrdd 1 Yr oedd y tueddiad i hyn wedi tarddu oddiwrth wendid y gweithwyr. Eu sefyllfa ymranedig hwy oedd yr achos, nea peri i'r meistri gy- meryd mantais ar hyny. Pe buasent wedi ymdrefnu yn dda, gallent fod yn benderfynol na fyddai i'r arddangosiad hwn yn erbyn y dvfarniad gael ei wneyd. Yr oedd efe wedi d od lawr i gael hysbysiaeth i'w hachos cyflaf- areddol yn Northumberland. Diau eu bod yn wybyddus ddarfod i lowyr y sir hono ychydig amser yn ol fyned allan ar strike. Wei, credai ef iddynt wneyd yr hyn nad oedd iawn, yr hyn a brofai y gallai y gweith- wyr fyned ar gyfeiliorn, yn gystal a'r meistri. Yn gyntaf oil darfu i'r meistri yn North- umberland wneyd annghyfiawnder anarferol ac ysgeler ar y gweithwyr. Darfu hyny yn ddiau gynhyrfu y dynion i'r eithafbwynt eyferbyniol ac i wrthod pob cynyg i wastad- hau yr ymrafael. Fodd bynag, i ddangos iddynt pa mor dda y deuent yn mlaen yn Northumberland, darfu i'r meistri dynu yn ol eu gofyniad, a chynygiasant i osod y cwbl i gyflafareddiad. Efallai eu bod yn wyb- yddus fod gwyr y Gogledd yn meddu breint- iau amgenach na'r eiddynt hwy yn Neheudir Cymru. Er eugraifft, yr oedd ganddvnt dai rhyddion a gio am ddim. Yr oedd tuedd o rhyddion a gio am ddim. Yr oedd tuedd o du y meistri i gymeryd y breiritiav: hyny oddiwrth y gweithwyr. Dyna oedd sefyllfa gw:tr Northumberland, y rhai a roddasant rybuddion, ac a benderfynasant fyned ar strike. Ar ol hyny, fodd bynag, darfu i'r meistri gydsynio i osod y mater i gael ei benderfynu trwy gyflafareddiad. Darfu i'r dynion wrthod hyn, ac efallai yn hynyma eu bod yn fyrbwyll. Tybiai ef y buaBai yn fan- teisiol iddynt i gydsynio yn hyn. Yn awr, gofynai ef, paham na fyddai holl lowyr Deheudir Cymru yn eyfuno i gael undeb trwy yr holl ddyffrynoedd 1 A ydoedd am fod ganddynt yr oil a ddymunent yn ffurf cyflogau a breintiau, yr hyn a berthynai i weithwyr Gogledd i loegr 1 Anturiai ddy- wedyd nad ydoedd, a bod eu cyflogau yn is nag y dymunent gadw eu teuluoedd yn gysurus. Y rheswm oedd fod gweithwyr Deheudir Cymru wedi colli llawer o freintiau trwy fod yn anundebol-a gwaeth na hyny, fod cyflwr isel gwyr Deheudir Cymru wedi bod yn achos i wyr Gogledd Lloegr i gael eu tynu lawr yn is nag y byddent fel arall. Felly, yr oedd ganddynt reswm droa ofyn i feehgyn Dehepdir Cymru uno a'u gilydd- nid er ymladd a'r meistri—nid er adferu masnach-nid er gyru masnach allan o'r wlad, nac i gyrehu llai, ond yn syml fel y gallant gael llaia mewn gwneuthur ac am- ddiffyn cytundebau rhwng gweithwyr a'u meistri. Nid oedd arnynt awydd i ddinystrio cyfoeth y wlad, ond gofynent am gyfranogi yn y golud a gynyrchent mewn ffordd deg a rhesymol, yn ol gwerth eu llafur. Yr oedd gweithwyr Deheudir Cymru yn derbyn 10, 20, ac hyd y nod 25 y cant, yn llai na gweith- wyr Northumberland. Ar ol hyn, cafwyd araeth gan Mr. Abraham, yn mynegu ffrwyth y gynadledd gyda'r meistri yn Nghaerdydd. Derbyniwyd yr hysbyaiad fod y meistri wedi eydsynio i beidio rhoddi chwech mis o rybudd i ail ystyried y dyfarn iad gydag uchel gymeradwyaeth. Dywedai Mr. Abraham y dylent ddiolch i'r meistri am yr hyn a wnaethant, a gwasgai ar y gweith- wyr y pwysigrwydd o fod yn unol. Galwodd y oadeirydd ar y dorf i gydsynio &'r sylwadau uchod, yr hyn a wnaed trwy guro dwylaw. Yn nesaf, cafwyd araeth gan Mr. Halliday. Yr oedd yn dda ganddo weled cynifer o lowyr yn bresenol. Yr oedd rhai pobl eisieu gwybod pa un ai byw ai marw oedd efe. Yr oedd wedi gweithio ei hun i fyny, ac yn fyw a chicio. Wel, dylai ddweyd fod glowyr De- heudir Cymru wedi gwneyd yr anrhydedd o'i osod ar Fwrdd y Sliding Scale, ac ar y pryd, gwnaeth i fyny ei feddwl, cyhyd ag y bydd- ent yn dymuno ei wasanaeth, nid oedd fater ar faint o annghyfleusdra, y buasai yn eu gwaaanaethu goreu y gallai er delio & meistri Deheudir Cymru. Ni ddaethai efe i lawr i bob cyfarfod o'r pwyllgor, canys nid ystyriai fod hyny yn angenrheidiol, ond pan glywodd fod rhai o feistri Deheudir Cymru, nid yn unig yn dymuno gostwng y cyflogau, ond yn weithredol wedi gwneyd hyny, tybiai ef ei bod yn bryd edrych allan, rhag ofn y byddai pawb gael eu gostwng dan leiafswm y Sliding Scale. Cyn terfynu, 'dywedai fod yn ei fryd i sefydlu undeb newydd, ac y cawsent glywed y manylion yn fuan. Crybwyllodd un o'r siaradwyr i 134 o filiynau o dunelli o lo gael eu codi y flwyddyn ddiweddaf, tra ni chodwyd yn 1872 ond 123 o filiynau. Cariwyd y penderfyniadau gyda golwg ar ffurfio Undeb gyda chymeradwyaeth uchel.
GOGLEDD LLOEGR.
GOGLEDD LLOEGR. ER i ni, yr wythnos ddiweddaf, gofnodi am ddau berson wedi boddi yn yr afon Tees, y mae genym yr wythnos hon eto i gofnodi boddiad masnachwr cyfrifol a pharchus o Stockton. Dydd Mercher, yr 20fed cyfisol, cerddodd Mr. K. Atkinson (y trancedig) yn hamddenol i'w ddyfrllyd fedd. Bernir mai cyfyngder masnachol oedd wrth wraidd- yr hunan-aberthiad hwn. Gadawodd saith o amddifaid a chydmar bywyd i hiraethu ar ei ol. GwELAis yn y papyrau Seisnig, dechreu yr wythnos, fod meistri gweithfeydd haiarn y rhan yma o'r wlad yn bwriadu goatwng y cyflogau o 10 y cant. Pryd tyr y wawr y cyfyd haul llwyddiant eto i dywynu ar y mil- oedd gweithwyr sydd yn dysgwyl am hyny 1 YN nghanol cymylau dudew marweidd-dra masnachol, oeir ambell seren yn siriol wena 1 ar y gweithiwr tlawd sydd yn ymdrybaeddu mewn truemi ar wastadedd eang caledrwydd yr amserau. Mae gweithfeydd dur newydd- ion Mri Bolkow, Vaughan, a'u Cyf., yn prysur ddyfod i ben. Mae dwy o'r eaith o'r ffwrneisiau blast a godir at wasanaeth y Besemer wedi eu chwythu i fewn dydd Llun diweddaf, y 18fed cyfisol. Pan orphenir y gweithfeydd hyn, bydd yma waith i oddeutu 1,200 o bersonau. Yn nghanol noa aflwyddiant, Mae miloedd yn ein gwlad Heb oleu i allu oerdded I'r man lie mae mwynhad. "Prvd tyr hoff wawr adfywiad ? Pryd daw hi'n oleu dydd!" I'w pveddi'r fam aughenus, A r dagrau ar ei grudd. -Llwyn Hogyn.
LLANELLI.
LLANELLI. CYMANFA YR ANNIBYNWYR. Mewn un- deb y mae nerth." medd yr hen ddiareb, a phriodol y gellir dweyd fod y nerth yn cael ei ddangos yn amlwg ar ddydd cyflawniad y cyfarfodydd hyn. Cariwyd y cynllun hwn i weithrediad er's tair blynedd bellach, ac nid oes yr un amheuaeth yn llochesu, na gwrth- ddadlu yn mynwes neb, nad ydyw yn rhagori llawer mewn amryw ffyrdd ar yr hen, sef cynal cymanfa undebol ar yr un Saboth yn mhob capel Annibynol y lie. Cynaliwyd hi eleni dyddiau Sadwrn, Sul a Llun, y 23ain, y 24ain, a'r 25ain cyfisol. Dechreuwyd nos Sadwrn yn nghapel y Tabernacl, a phregeth- p I wyd yn rymus a nerthol gan y Parchn. J. T. Evans, Caerfyrddin, a D. Jones, Gomer, America. Dydd Sul, am ddeg, yn nghapel Als, pregethwyd gan y Parchn. W. B. Mor- gan, Maesteg, a D. ones, Gomer. Yn Siloah, gan J. P. Williams. Brynmawr, a W. Thomas, Gwynfe. Yn y Bryn, gan R. Rees, Ynysgau, a Mr. Samuel, Abertawe. Yn y Dock, gan R. Morgan, St. Clears, a W. Rees, Llechryd. Pregethwyd yn y Tabernacl gan J. T hvans, Caerfyrddin, a D. Thomas, Gwernllwyn. Yn Llangenach, pregethwyd gan L. Probert, Porthmadoc, ac E. Lewis, Brynberian. Credwn na fu deuddeg o wein- idogion mwy cymhwys a galluog yn traddodi Efengyl hedd o bwlpudau Cymreig Llanelli erioed. Felly gorphenwyd cyfarfod y boreu. Am ddau a chwech, eilwaith, cynaliwyd cyf arfodydd yn yr oil o'r capelau uchod, a phregethwyd gan y gweinidogion a nodwyd, ond yn gyfnewidiol, yn y lleoedd y pregeth- ent ond er eu bod yn cyfnewid eu haddol- dai, nid oeddynt yn newid gwrthddrych eu haddoliad, nac ychwaeth yn crwydro dim oddiwrth yr un Efengyl, ond ei phregelhu fel y uiae yn yr Iesu. Dydd Llun, am ddau o'r gloch, cynaliwyd cyfeillach agored (yn agored i bob enwad, yn gystal a phob dyn— aelod neu wrandawr) yn nghapel Als, o dan lywyddiaeth y Parch. T. Johns (y gweinidog), pryd yr oedd yr oil o'r gweinidogion a enwyd yn bresenol, ac yn teimlo yn wir barod i ufuddhau i alwad y llywydd. Gallwn eich sicrhau chwi, holl ddarllenwyr y GWLAD GARWR, na fuom mewn gwell cyfarfod erioed mewn gair, hwn oedd hufen holl gyfarfod- ydd y gymanfa. Y testyn rhag-apwyntedig ydoedd "Cenadaeth gartrefol yr eglwys," a chawsom ar ddeall yn eglur mai gweithio &'n holl egni yw ein dyledswydd er cadw gorch- ymynion Duw, a chael llwyddiant o'r achos yn y byd hwn. Am chwech, eto, cafwyd dwy bregeth benigamp yn yr oil o'r addoldai gan y gwaanol genhadwyr. Yn wir, yr ydym yn awr yn teimlo ein calonau wedi eu braenaru gan y fath athrawiaeth ac ni a obeithiwn fod yr had da wedi ei blanu ynddynt, a dylanwadu digon arnynt, fel nad oes modd cysgu gyda'r gwaith o hyn allan. DIWYGIAD Y TREFNYDDION.—Er llanw fy nyledswydd, a chyflawni fy addewid, gwnawn ychydig ol-nodiad i'r hyn a ysgrifenasom yr wythnos o'r blaen o barthed diwygiad a diwygwyr y Trefnyddion. Enwau y pregeth- wyr ydynt Mri. Hughes a Griffiths, o sir Fon ac y maent, erbyn hyn, wedi teithio cylch capelau yr enwad trwy y lie. Yn wir, yr ydym, bellach, wedi gweled llawer hen bechadnr euog ac aflan yn hidlo eu dagrau yn llifeiriant tros eu gruddiau wrth wrando y weinidogaeth yn, dyfod allan mor bur ac effeithiol o enau yr athrawon anfonedig yma, ac yn gwaeddi, cyn diwedd yr oedfa, "O! Arglwydd, pa beth a wnawn fel y byddom yn gadwedig?" Y mae yn llawen genym ddweyd fod crefydd mewn safle tra uchel a gobeithiol yn Llanelli ar hyn o bryd.—J. James (Llanellian).
ABERDAR.
ABERDAR. SETON.—Ar ddyddiau Sul a LInn, Mehefin y 24ain a'r 25ain, cynaliodd y Wesleyaid Cymreig eu cyfarfod blynyddol yn y capel uchod, pryd y cafwyd gwasanaeth werthfawr y Parchn. L. Wiiliams, Casnewydd; J. Griffiths, Pen-y-graig; D. Young, Aber- dar; a W. W. Davies, B.D.,M.A.,Ph.D., Llydaw. Pregethwyd am 10, 2, a 6 o'r gloch y ddau ddiwrnod. Cafwyd oedfaon bendith- iol, a gwell na'n dysgwyliadau yn yr.ystyr arianol. DARHTH.—Nos Fawrth canlynol i'r uchod, yn yr un capel, cawsom y pleser o wrando ar Dr. Davies, a nodir uchod, yn tradd tdi ei ddarlith ragorol ar Llydaw, Llydawiaid, a Llydawaeg." Mae'r ddarlith drylawn hon o wybodaeth am Llydaw, &c. yn werth i bob Cymro ei chlywed a'r Dr., hefyd, fel Cymro ieuanc dysgedig, yn haoddu ein hed- mygedd a'n cefnogaeth fel cenedl. Ond am y ddarlith yr oeddem yn son. Wel dygwyd ni yn gyflym ar daith bleserus, megys yn nghwmni y bardd a'r athronydd, nes i ni lanio'n ddiogel ar diriogaeth y Llydawiaid, heb gymaint ag arwydd annymunol o glefyd y m6r. Dangosodd i ni y wlad yn ei hyd a'i lied, uchderei mynyddoedd, hyd ei hafonydd, a chynyrch ei thir ac am ei phobl, cawsom I hanes manwl am eu dyfodiad i'r wlad, eu perthynas a'r Cymry, yn nghyda'r tebygol- rwydd sydd rhyngddynt—eu lletygarwch i ddieithriaid; eu gwroldeb; eu serch a'u hyrn- luniad at gartref, oherwydd hyny yn cael eu gormesu; eu crefydd, a'u hymluniad wrth draddodiadau y Pabyddion yr iaith, a'r tebygolrwydd sydd rhyngddi a'r hen Omer- aeg Protestaniaeth a Phabyddiaeth y wlad a chenadaeth y Bedyddwyr a'r Trefnyddion, &c. Buom dros ddwy awr yn nghwmni y Dr. dysgedig yn cael gwersi rhagorol am y wlad a'r bobl hynod sydd ynddi. Terfynwyd trwy i'r Parch. Mr. Evans, bethel, a'r Parch. Lewis Egryn, gynyg, eilio, a chefnogi diolch- garwch i'r darlithydd parchus ac yna, dra- chefn, i Delta am gymeryd y gadair, a llywyddu ar ddymuniad ueillduol Dr. Davies. yr hwn a'i gydnabyddai fel ei hen athraw-D.
GLYNCORWG.
GLYNCORWG. Cynaliwyd eisteddfod yn y lie uchod dydd LluD, Mehefin 25ain. Beirniad y canu, Mr. H. Mills (Tafonwy), Pontypridd y farddon- iaeth, &c., Parch. S. D. Jones, Glyncorwg cadeirydd ac arweinydd, E. Plummer, Yew. Dechreuwyd cyfarfod y boreu am haner awr wedi deg. Cafwyd araeth bwrpasol gan y cadeirydd, yna aed yn mlaen yn y drefn a ganlyn :-Solo, "Curwch yr haiarn," rhan- wyd y wobr rhwng loan ac Un am Enill am y dadganiad goreu o Bedd Gelert, goreu, Eos Afan am y dadganiad goreu o'r Meudwy," goreu, parti o Maesteg am yr araeth oreu ar "Onestrwydd," rhanwyd y wobr rhwng C.iswalion a Hen V as Cwmlliw dadganu Dafydd y Gareg Wen," goreu, Miss Ed- wards y ddau englyn goreu i "Mis Mehefin," goreu, Mab Anian, ond nid atebodd i'w enw; i'r cor o blant a ganai oreu The briglit for evermore" (Sahkey), un yn cynyg, ac yn deilwng o'r wobr daeth dau prize, bag i law, goreu, Mrs. Jones, draper, Glyncorwg canu Morfa Rhuddlan," rhanwyd y wobr rhwng Eos Dyfed ac Eos Llyfnwy yna terfynwyd cyfarfod y boreu trwy gann Hen Wlad fy Nhadau." Dechreuwyd y prydnawn am ddau. Am y dadganiad goreu o Arm, arm, ye brave," goreu, Eos Dyfed y traethawd goreu ar Ddiwydrwydd," goreu, Win. Harry canu Thou shalt break them," goreu, Eos Dyfed; pedrawd, Oh will o'er the downs so free," goren, parti o Maesteg araeth fyrfyfyr ar Trech metal na maint," rhanwyd y wobr rhwng Caawallon, Hen Was Cwmlliw, a W. H.; i'r cor a ganai oreu "Pan rodia'r lloer," un parti yn cynyg, ond yn annheilwng o'r wobr canu "Wyres fach Ned Puw gan ferched, goreu, Eos Afan adrodd Y llong ar dan," rhanwyd y wobr rhwng Caswallon a loan Glan Afan; canu "I know that my Redeemer liveth," goreu, Eos Afan prif ddarn corawl, Y Ganaan glyd," daeth dau g6r yn mlaen, sef C6r Saron, Maesteg, a Chor Undebol Glyncorwg-dyfarnwyd y wobr i'r olaf, yr hyn a dderbyniwyd gan fanllefau o gymeradwyaeth gan y dorf. Felly terfyn- wyd yr eisteddfod. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngherdd ar- dderchog, pryd y cymerwyd y gadair gan y doniol a'r ffraethbert Dr. Davies. Gwasan- aethwyd gan Eos Dyfed, Eos Afan, Eos Sawel, Eos Llyfnwy, Miss Edwards, Miss Rogers, a'r Eos Fach. Cafwyd cyngherdd gogoneddus. Dywedai Tafonwy na chlywodd well canu erioed. Nid oedd y cynulliad yn lluosog, a hyny i'w briodoli i arafwch masnach y gymydogaeth.—Llanc o'r Glyn.
CENDL.
CENDL. Nos Lun, Mehefin 25ain, dygwyddodd i'm coelbren syrthio yn y lie uchod, ac yn fuan cawsom ar ddeall fod cyngherdd i'w gynal yn Zoar. Am haner awr wedi saith, yr amser penodedig i ddechreu, aethum i'r capel, ond gorfu i ni gymeryd < in blino hyd chwarter wedi wyth cyn i'r cyng terdd ddechreu. Rhy ddrwg, onide ? Yn eithriad i gyngherddau y dyddau hyn, yr oedd llywydd yma yn mher- son y Parch. J. A. Jones, Blaina ond beiddiwn ddweyd nad oes angen llywydd o gwbl mewn cyngherdd. Pa angen ilywydd, tybed, yn mhlith cerddorion i'w pwffio i fyny ? Gadawer i gantorion a phawb dynion ereill i sefyll ar eu gwandau eu hunain. I ddechreu gyngherdd chwareuodd Miss Orchard ddarn ar yr harmonium. Yn nesaf, ymddangosodd Hero y Porth," sef Mr. Gwilym Thomas, a chanoedd "The Village Blacksmith" yn rhagorol. Canodd Mr. D. Bowen, Abercarn, Will o' the Wisp a "The White Squall," yn dda iawn. Y Misses Jones, o Brynmawr, a ganasant "0 lovely peace," yn rhagorol. Cafwyd datgan- iad campus gan Eos Carno o Curwch yr haiarn," "Waste not, want not," "Cwymp Llewelyn," a "There's better time coming." Tra yn canu yr uchod gwisgai Eos Carno y gold medal a gafodd er's tro yn ol gan Ficer Tredegar am ei allu cerddorol, yn ol tystiol aeth Mr. Brinley Richards. Canodd amryw ereill yn ystod y gyngherdd, rhy luosog i'w henwi, yn nghyd a glee party Zoar, yr hwn a ganodd "Y Gwanwyn" a'r "Haf." Yr oedd y capel yn orlawn, ac y mae yn dda genym ddeall fod tipyn o elw wedi ei wneyd. Cafwyd cyngherdd lied dda ar y cyfan.- Tali-esyn.
PORTH.
PORTH. GWYL DE I AELODAU Y BAND. -Dydd Iau yr wythnos ddiweddaf, rhoddwyd gwyl o d6 a bara brith i fechgyn Drum and Fife Band y Bwrdd Ysgol. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y boneddigesau Austin, Wil- liams, Davies, a Price, ac yn bresenol yr athrawon a chyfeillion ereill. Ar ol iddynt fwynhau y gwpanaid adfywiol, cafwyd llawer o ddifyrion bywiog a phleserus. Pan y gorphenwyd aeth pawb tua'u cartrefleoedd wedi eu llwyr boddhau. Bu y band hwn yn cystadlu yn Eisteddfod Jolantrisant er's ychydig amser yn ol, ae, fel mae yn hysbys, ni fuont llwyddianua; eto i gyd nid yw y llanciau yn y mesur lleiaf yn isel eu calon oblegyd hyny, gan eu bod, y diwrnod hwnw wedi myned trwy anhawaderau mawr i'r frwydr gerddorol. Ewch rhagoch, feehgyn. He that fights and runs away, May live to fight another day." Ab Penfelyn.
GOPPA, P'. ¡NTARDULAIS.
GOPPA, P'. ¡NTARDULAIS. Cynaliwyd eisteddfod yn y He uohod y dydd olaf yn Mehefin. Arweinydd y 'dydd ydoedd y Parch. Wm. Prydderch, gweinidog y lie. Beirniad, Mr. Silas Evans (Ovnon). Rhanwyd y gwobrwyon fel y canlyn — 1. Thos. Williams a'i gyfeillion, Babell, oeddynt yn oreu ar ganu y pedrawd, Oan- wn am gael bod yn rhydd." 2. Mr. J. Jones, Gland wr, oedd yn fuddugol ar ganu "Serch hudol." 3. Triawd, Flora Decka;" Alaw Cynon a'i gyfeillion, Waunarlwydd, oeddynt yn oreu. 4. T. Morris, Handy, oedd yn oreu ar ganu "I dref y Bala," i rai dan 15 oed. 5. Eos Waunarlwydd oedd yn fuddugol ar Mae 'nghalon yn Nghymru." 6. C6r Hope, Pontardulais, oedd fuddugol ar ganu y "Gwanwyn" (Miiller). 7. Un o Waunar- lwydd oedd yn oreu ar ganu yr unawd, Y ddraig goch." 8. Wm. Thomas a Thos. Williams a enillasant ar y deuawd, Mae'n hiaith yn fyw." 9. Darllen cerddoriaeth i bedwar—pedwar o Llanybie yn fuddugol. 10. Am y caniad goreu o'r Ffrwd (Gwilym Gwent) pumpcdryn cystadlu, goreu, Pentre Estyll, dan arweiniad y gwr ieuanc galluog, Mr. D. Ditvies-y wobr oedd 8p., a chadair hardd i'r arweinydd.—Oohebydd.
CWMAFON.
CWMAFON. DAMWAIN. Prydnawn dvdd IRU. Meh. 21, cwympodd Mr. Llewelyn Morgan, fitter, yn farw pan wrth ei orchwyl yn y Depot. Ychydig amser cyn hyny, gwelwyd ef yn cerdded oddiamgylch, ac nid oedd dim yn ei ymddaugosiad yn wahanol nag arferol ond ar darawiad amrant, ehedodd ei enaid i'r byd anfarwol. Yr oedd yn ddyn 8,- berchid gan bawb, a theimlir colled yn y teulu ac yn y gymydogaeth ar ei ol.-Cyfaill. HELYNTION GWEITHFA-OL.—Nid oes un cyfnewidiad pwyaig wedi cymeryd lie oddiar y mae y gwaith yn y Chancery. Araf iawn mae pethau masnachol a gweithfaol yn yagogi. Edrych yn mlaen i'r dyfodol y mae llawer un, ac yn barnu yn ol eu Byniadau eu hunain, beth ddaw o'r lie ond erbyn fod yr amser wedi dyfod i ben, nid oedd dim yn debyg i wirionedd. Wrth bob tebygolrwydd, ceir gweled a chlywed am lawer o gyfnewidiadau yr wythnosau dyfodol mewn perthynas i amgylchiadau y gwaith. Daeth Mr. James Shaw, cyn-Sheriff i'r lie, dydd Sadwrn di- weddaf, ar yr amcan o wneyd trefn yn y lie. Yr oedd ys amser yn rhy fyr i mi gael un crynodeb o ddim ond clywais gymaint a. hyn, fod rhagolygon da am y dyfodol wedi eu rhoddi ganddo. Cewch glywed ychwaneg y tro nesaf.—Gwyddonydd Glan Afan.
AT Y CERDDORION ALAW DDU A…
AT Y CERDDORION ALAW DDU A PENCERUD AMERICA. FONEDDIGION.—Trwy ganiatad golygydd y GWLADGARWR, dymunaf arnoch yn enw lluawB mawr o gerddorion am i chwi fod mor dda a dwyn allan eich Requiems ar ol y di- weddar Ieuan Gwyllt yn nodiant y tonic solfa ar eu pen eu hunain. Gwir eu bod mewn solfa yn barod ar y copies hen nodiant, ond y maent ar scale dipyn yn uchel i luaws allu eu cyrhaedd fel hyny. Diau na fyddai dim perygl yn yr anturiaeth gan fod Cyman- faoedd Undebol Merthyr, Dowlais, Aberdar, ac Hirwain wedi pasio penderfyniad i ddysgu y ddwy Requiem erbyn y Cymanfaoedd nesaf, a chymer y lleoedd hyn yn unig amryw gan- oedd ond eu cael yn y ddau nodiant ar wahan fel y nodwyd. Hyderaf y gellwch wel'd eich ffordd yn glir i gyflawni yr angen hwn, oblegyd y mae yn bwysig, medd eich ewyllys- iwr da, JOHN Y FELIN.
EISTEDDFOD LLA NTRISA NT.
EISTEDDFOD LLA NTRISA NT. AT MR. TOM WILLIAMS, PONTYPRIDD. SYR, -A fyddwch chwi mor garedi4 ag anfon y feirniadaeth mewn cysylltiad a'r drum and file bands yn yr eisteddfod uchod ? Yr wyf yn gofyn y ffafr hon genych, syr, am fod Ilawer yn amheu y reports arddangoawyd yn y newyddiaduron mewn perthynas a hwy felly, os caniatewch fy nghais, y teimlaf yn ddiolchgar, yn nghyd ag amryw ereill,—Yr eiddoch, &c., JUSTITIA.
Advertising
Eisteddfod Fawreddog Llanwrtyd. Dydd LLUN, AWST 6, 1877. Rhoddir gwobrwyon mewn Gerddoriaeth, Caniad- aeth, Rhyddiaeth, Barddoniaeth, &c. Prif destyn Corawl" Then round about the starry throne;" gwnbr, 20p.. a baton hardd i'r arweinydd. BEIRNIAID Tratthaucd— D. DAVIES, Ysw., Troedybryn. Llandilo. Bwrddoniaeth, <{•< — Parch. J. R. KILSBT ,TONES. Verddoi'iaeth — Eos DAB, a MR. J CLEDAN WILLIAMS. Ariwinydd—KTLSBY. Prwrrammes yn awr yn barod, i'w cael oddiwrth yr Ysgrifenydd am y pi-is arferol. — Mr. D. MATHIAS, 2, Irvon Terrace, 1527 Llauwrtvd Wells. Mae'r brif wobr gerddorol wedi ei chodi i 20p. t Libanus, Treforis CYNELIR EISTEDDFOD GERDDOROL yn y lie uchod, DYDD NADOLIG nesaf. Bcirniod :-Eos MORLALS. Y mddengys y manylion yn fuan. J. H. GRIFFITHS, YSG. (Pro Tem). Mehefin 16eg, 1877. 1580