Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Eisteddfod Ystalyfera.

News
Cite
Share

Eisteddfod Ystalyfera. Cynaliwyd gwyl gerddorol gadeiriol yn y lie uchod, dydd Sadwrn, Mehefin 30ain. Yn absenoldeb y llywydd apwyntiedig, 8ef T. R. White, Ysw., cymerwyd y gadair gan y Parch. C. Williams, gweinidog y lie. Ar- weinydd Adolphus beirniad Eos Brad- wen, Rhyl. Wedi cael anerchiadau gan y llywydd a'r arweinydd, awd yn mlaen a gwaith yr eisteddfod. Canu '-Thou shalt bring them in;" dau yn cystadlu, ond cipiwyd y dorch gan Master Edwin Nicholas, Ystalyfera. Adrodd A ddywedais ti fod Cjymru yn dlawd buddugol, Mr. John Lewis, Glandwr. Canu Angels ever bright and fair buddugol, Miss Mary Griffiths, Cwmtawe a rhoddodd y beirniad ganmol- iaeth neillduol o dda i Miss Susanah Davies, yr hon, meddai, oedd yn meddu llais rhagor- Qt. Credwn pe gwnai cerddorion Ystalyfera ofalu am addysg gerddorol dda i'r ddwy eneth a nodwyd, y delent yn ddwy seren hynod o ddysglaer yn y byd cerddorol. Canu Yr Eden sydd fry i gorau plant, un c6r yn cystadlu, sef Dyffryn, ond am na chanasant i foddhad y beirniad, ataliwyd y wobr. Canu y-deuawd "And this will be heaven for me;" cydfuddugol, Mr. H. 'opkin a Miss Susanah Davies, a Mr. E. Nicholas a Miss Mary Smith, Y3t;j.lyfera. Canu Llawenydd y Gwanwyn;" buddugol, Dyffryn, Pontardawe. Canu "Y Hachgen Dewr;" gureu, Mr. S. Williams, Gland wr. Oanu "Ton arypryd;" buddugol, Mr. Waiter Morgan a'i gyfeillion. Ni ddaeth yr un parti yn mlaen i ganu Catch y Newyddiacturon." Canu" Y Wawr;" buddugol, cor Dyffryn, Pontardawe, dan arweiniad Alaw Meudwv. Yn awr daeth prif gystadieuaeth y dydd, sef canu Then round about the starry throne pedwar cor yn cvstadiu, sef Duuis, Glandwr DyffI yn, Pontardawe T.ibernacl, Sciwen; a Pantteg, Ystalyfera. Cafwyd beirniadaeth fanwi, ac yr oead y gystadieuaeth yn sefyll rhwng yr ail a'r olaf, ond dyfarnwyd y wobr i'r olaf yn nghanol ban Lief au o gymeradwyaeth y dorf. Arweinydd y cor buddugol oedd Mr. John Wiiiiams (Asaph Godre ? Graig). Yn yr hwyr, cynaliwyd cyngherdd ar- dderchog, pryd y bu y rhai canlynol yn gwasanaethu Eos Bradwen, yr hwn a gan- odd Chwifio'r Cadach Gwyn," Bugeiles y Wyddfa," Pwy sydd eisieu papyr new- ydd," a 'Rwyn sefyll wrth y gamfa." Oanodd Mr. Walter Morgan "Y gof du" (can newydd o waith y dyn ieuanc gobeithiol, Eos Dyfed), a cbafodd ei encorio, pryd y can- odd "The death of Nelson" yn dda iawn. Canodd Miss Susanah Davies, 13 oed, C&n y fam i'w baban cyntaf (gan Emlyn Evans) yn ardderchog yn wir, mae yn drueni o'r mwyaf os na wna rhywun gymeryd yr eneth hon i'w gofal, a i henderfyau ei chodi i sylw, canys meddiana "lais arianaidd iawn," a medra ei feistroli yn dda, yn enwedig gyda'r effeithiol. Cauodd Miss James, Briton Ferry, tl Y fwyalchen" yn lied dda. Darfu i Eos Dyfed ganu "In native worth" yn gampus encoriwyd ef, a daeth yn ol i ganu "How vain is man yr hon a ganodd eto yn ar- dderchog dyma ddyn ieuanc arall sydd heb erioed gael addysg gerddorol ond yn unig yr hyn ddysgodd ei hun ac er mai ieuanc ydyw mewn cydmariaeth, beiddiwn ddweyd na chlywsom neb yn canu How vain is man gystal ag y canodd Eos Dyfed ef. Yn nesaf, ymddangosodd yr Ystalyfera String Band, arweinydd pa un yw Eos Dyfed eto, a chwareuwyd Let the hills resound" yn rhagorol: credwn, pe byddai yr awdwr (Mr. Brinley Richards) yn bresenol, y c'ai ei foddhau yn fawr yn chwareu y band ieuano hwn &<: yr ydym yn llongyfarch Ystalyfera ei bod erioed wedi gallu codi bachgen mor alluog yn y byd cerddorol ag Eos Dyfed. Ond prif arwr y cyngherdd hwn oedd y Ty- newydd hero," Mr. Gwilym Thomas, yrhwn, pan ymddangosodd, a gafodd gymeradwyaeth wresocaf y gynulleidfa; a chanodd "The last man," "Gogoniant i (iymru," a "Give me a fresh new breeze," a digon yw dweyd ei fod yn canu yr un fath ag arfer—hyny yw, yn ardderchog. Canodd Cor yr Aelwyd, Treforis, yr hwn oedd yn cynwys tad, dau fab, dwy ferch, a dyn ieuanc arall, amryw ddarnau, ac yn eu plith rhai o ddarnau y Jubilee Singers-megys There's a meeting here to-night," "Mary and Martha," &c., &c., "Merry May," a "Good night," yn gampus. Cyfeiliwyd yn fedrus iawn gan Mri. R. L. Davies, Ystalyfera, a H. LI. Ed- munds, Gwauncaegurwen a chwareuodd yr olaf Y gwcw ar y crwth yn dda iawn. Ar ddiwedd y cyngherdd, canodd corau Zoar a Phant-teg, yn un, "MolwchyrArglwydd" (Joseph Parry), o dan arweiniad Mr. Gwilym Thomas. Dylaswn grybwyll, hefyd, mai yn y cyngherdd y cadeiriwyd Asaph Godre Graig, yr hwn a arweiniwyd i'r gadair gan Eos Dyfed, a Mr. W. Hinkin, Llanelli; yr olaf a ganodd, hefyd, "Bedd Llewelyn," a darllen- odd Mr. J. U. Stephens amryw benillion ar yr achlysur. Cafwyd eisteddfod gerddorol a chyngherdd ardderchog, a throdd y cyfan allan yn llwyddiant perffaith.—Gohebydd.

[No title]

Advertising

Oyfarfod y Glowyr yn Nghwm,…

GOGLEDD LLOEGR.

LLANELLI.

ABERDAR.

GLYNCORWG.

CENDL.

PORTH.

GOPPA, P'. ¡NTARDULAIS.

CWMAFON.

AT Y CERDDORION ALAW DDU A…

EISTEDDFOD LLA NTRISA NT.

Advertising