Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
[No title]
Y PWLPUD YN Y TEULU: sef Pregethau gan y diweddar Barch. James Richards, Ponty- pridd. Rhan 9. Cwmafon Argraffwyd gan Griffiths & Sons, Machine Printers. Pan yr ymddangosodd y rhifynau cyntaf o'r gwaith godidog hwn, darfu i ni alw sylw mwyaf ffdfriol y cyhoedd atynt, gan argymhell ar bawb o'n darllenwyr i'w prynu, er mwyn vchwanegu at eu hystor lyfrau drysor an- nhraethadwy ei werth. Yr oeddym yn myned i longyfarch ein darllenwyr yn ngwyneb y ffaith dra dymunol fod y pregethau digymhar iiyn wedi cyrhaedd hyd Rifyn 9fed, ac yn bwriadu datgan y gobaith fod llawer o rifyn- au eto i ddilyn. Oud cyn cael ohonom y fraint o wheuthur hyn, darfu i ni weled yn Seven Cymru lythyr cyfiawn-gwynol oddiwrth y Parch. T. Lewis, Risca, o dan olygiaeth iedrus yr hwn y dygir y gyfres hon allan. Dywed Mr. LewisDrwg genyf hysbysu nad yw y gwaith yn talu ei ffordd hyd yma. Yr wyf yn sicr [yt. ydym Ininau hefyd yn sicr] too y pregethau hyn yn haeddu y derbyniad mwyaf cyffredinol a phe y dechreuai y bobl eu myfyrio, ni allent yn rhwydd eu rhoddi lieibio. Yr wyf yn awr yn penderfynu gor- phen y gyfrol mewn deg rhifyn yn lIe deu- ddeg, fel y meddyliwyd ar y cyntaf a bydd y rhifyn olaf gan mwyaf, os nad oil, yn gof- iant." Gan hyny, yr ydym i golli dau rhifyn o bregethau yr enwog Richards, Pontypridd, oherwydd nad yw Cymru yn eu gwerthfawrogi fel ag i'r anturiaeth fod vn ddigolledas. Wei, nid oes genym ni ddim i'w ddyweyd onci ein bod yn tosurio wrth ysbryd unappreciative yr oes. Nid yw yr oes hon dda i ddim ond i ganu, ac nid oes dim yn talu ei ffordd ond cerddoriaeth. Eto, yr ydym yn gobeithio y bydd i lawer a ddarllenant y llinellau hyn ddanfon am y pregethau ysblenydd hyn. Anfoned. y cyfryw eu orders at Mr. E. Richards, Grocer, &c.. Pontypridd."
Ysgoloriaeth Gterddoroi er…
Ysgoloriaeth Gterddoroi er Coffawd- wriaeth am "Ieuan Gwyllt." SYR,—Derbyniais amryw o lythyrau oddi- -wrth frodyr a chyfeillion, yn y Gogledd a'r iDetaeu, yn awgrymu y dymunoldeb i mi, fel ,hen gyfaill i'r diweddar a'r anwyl Ieuan •Gwyllt, i gychwyn symudiad er cael ysgolor- iaeth gerddorol yn Athrofa Aberystwyth, er ;anrhydeddu a pharhau ei goffawdwriaeth ac y mae cydsynio a'r cais hwn, i mi, yn anrhyd- edd ac yn fraint. Byddai yn anfri ar yr hwn y chwenychwn ei barchu i mi geisio traethu ei amryw ragor- iaethau, a maint y gwasanaeth a wnaeth efe -erom. Ac eto, yn y cysylltiad hwn, gweddus ydyw crybwyll iddo lafurio yn hir, yn ddys- taw, ac yn ddihunangais i ddyrchafu cerdd- oriaeth yn gyffredmol yn ein gwlad iddo Toddi hyfforddiant i luaws o ddynion ieuainc yn ngwahanol ganghenau y wyddoniaeth a r Wfyddyd hon iddo- ddarparu a chyfaddasu defnyddiau o'r fath oreu at wasanaeth ein corau trwy gyfrwng y Cerddor Cymreig &C iddo, yn arbenig, yn mlynyddoedd diweddaf ei oes, lafurio yn egniol a llwyddianus i buro a pherffeithio caniadaeth grefyddol, nes creu cyfnod newydd yn y dull y cyflawnir y gwas- anaeth hwn yn ein plith. 0 hyn allan, bydd yn rhaid cael tri neu bedwar i gyflawni y gwaith yr oedd un leuan Gwyllt yn medru ei gwblhau. Wrth ddywedyd hyn am dano, ni ddymunwn annghofio y ffaith fod iddo rag- vafurwyr yn gystal a chyd-lafurwyr yn y icrwaifch, ac ni chwenychwn yn y mesur llexat dvnu oddiwrth y clod dyledus lddynt. Yn awr, fe dybir yn bur gyffredinol mai y Hwybr goreu i anrhydeddu ei goffawdwriaeth fyddai trwy sefydlu ysgoloriaeth gerddorol yn Aberystwyth, i weinyddu addysg o oes i oes i ieuenctyd Cymru, yr hyn a fyddai yn fendith barhaus. Fe dybir, hefyd, y bydd yn hawdd dwyn yr amcan hwn i ben. I tian fod llawer, a chredwyf fod llawer mwy, yn feared i danysgrifio yn helaeth, gwn hefyd '.fod llawer o gorau cynulleidfaol, a gobeith- viwvf y byddant oil yn barod l roddi eu gwas- anaeth vn llawen at yr amcan hwn. Bwriada rnai o'r <corau roddi cyngherddau uniongyrch- .«1 at fctvnyma, a bwriada erexll roddi elw .cyfarfod hwyrol y Gymanfa Gerddorol nesaf I gynelir ganddynt, Y mae dwy re^tern «offawdwriaethol eisioes wedi eu cyhoeddi Cornered pob un ei lwybr ei hun i roddx y yn barod i gyd- weithredu—naill ai trwy danysgrifio, neu trwy roddi gwasanaeth c«r-anfon yn rSedi i Bli ei enw a'l address yn gystal^a •enw v cor a'r enwad crefyddol l ba un y fel V oallaf ymohebu k hwynt; a tSwyddynt, i ddewis dau bwyllgor i wneyd T trefniadau, ao i gario y peth allan—un dros Z Gogledd, a'r llall dros y Deheu. 1 Bvdd cylch, fiurf, ac amodau, yr ysgolor- • T™ cael eu penderfynu gan yr ateb a laeth yn caei e P bieidlais y rhai a l £ aitraThen™u i mi yn ol y cyfarwyddyd uchod.—Yr eiddoch, yn gywir, Bryn-golwg, Swansea. DAVID SAUSBEBS.
REYMNI.
REYMNI. Nos Iau, Mehefin yr 21ain, cynaliwyd .cyngherdd mawreddog ao ardderchog yn YsSy Cenedlaethol y He uchod, pryd y isgoiay artistes enwog a gw^naethwyd^gan Mr< Sidney flower R'A-M. Llundain Misses Jenny a Gertrude' Lewis, Oaerdydd yn iaghyda Miss E Williams, EhymnL Yr oedd y datgauiad o eiddo y foneddiges leuanc obeithiol a thal- Ltoa hon ar y G'lomen wen," yn treiddio 1^1 trvdan'trwv bob meddwl a chalon, nes eu henyn yn wenffiam eirias 0 fwynhad. Digon TW clweyd fod y glee party^wedi cymeryd eu rhan. yn y cyngherdd. CWre'iwyd »r y nprdonee yn gampus gan Miss E. M. Kea- wood. Cafodd pawb «u boddloni yn y cyngherdd artistic hwn.-Oritic.
Eisteddfod Llantrisant
Eisteddfod Llantrisant Cynaliwyd yr eisteddfod hoD dydd Llun cyn y diweddaf, mewn pabell barotoedig, a'i haner dan orchuddlen. Llywydd, G. Williams, Ysw., Miskin Manor. Beirniad y traethodau. barddoniaeth, &c., D. Bryth- onfryn Griffiths, Aberdar y canu, Mr. Tom Williams. Poutypridd. Wedi cael can agor- iadol gan frawd o'r lie, gwnaeth y llywydd araeth gampus ar eisteddfodau. Dywedodd mai bai mawr cystadleuwyr eisteddfodol oedd chwyddo wedi iddynt enill gwobr, a meddwl eu bod yn fwy na neb yn y wlad. Yr oedd llawer o gamddarluniad wedi ei wneyd a'r Cymry gan y Saeson. Eu prif ddifyrion hwy oedd rtistic sports, rhedeg- feydd, ac ymladdfeydd. Yr oe4d ef yn dra dyledus i'r eisteddfod am yr hyn ag ydoedd ef yn breseiiol, os oedd yn rhywbeth. Caf- wyd anerchiadau barddonol gan Mathonwy ac ereill, acyna aed yn mlaen a gwaith yr eisteddfod. Darllen y feirniadaeth ar y pryddestau i'r "Lleuad gwobr 2p., Hywel Morganwg a E. Evans (Emlynfardd), Castell- newydd Emlyn, yn gydfuddugol. Adrodd Dewrder y Milwr; gwobr 5s., goreu, John Davies, Llantrisant. Adrodd darn o bryddest Telynog, Dinystr yr Alabama;" gwobr 5s., goreu, Mr. Rowlands, Tonyrefail. Canu 0 thou that tellest good tidings to Zion;" dim cystadleuaeth. Yr englyn goreu i'r "Adsain;" gwobr 4s., a enillwyd gan Dewi Wyu o Essyllt. Adrodd" Can yn des- grifio galar rhieni ar ol ei mab" (Ceinion Essyllt); gwobr 5s., goreu, Mair Davi, s Llantrisant. Rhoddwyd ail wobr o goron i'r ail oreu. Dadganu "Now heaven in fullest glory shone;" gwobr 6s., goreu, David Williams, Llantrisant. Canu Rhyddid (Mrs. Watts Hughes), i gorau heb fod dan 30, gwobr 4p. Cor Llantrisant a Chor Llantwit yn cynyg—buddugol, Cor Llan- trisant. Beirniadaeth yr englynion i'r u Goieuni Goyleddol;" gwobr 10s., naw yn cystvUu, buddugol, Dewi Wyn o Essyllt. Araeth fyrfyfyr, gwobr 2s. 6c. rhoddwyd gwahanol destynau i'r pedwar; buddugol, Dewi Mabon, Liatifabon-ei destyn ef oedd "HUlo i^w- he )yn a llyncu camel." Canu y deuawd Y Glowr a'r Chwarelwr gwobr 8s., goreu, Joan Davies a David Williams, Llanti isaut. Felly terfynodd cyfarfod y boreu. Am 2! ymgynullwyd i'r babell, a chafwyd can agoriadol gan Mr. Tom Williams, y beirniad; ac wedi i Brythonfryn adrodd anerchiad barddonol i'r Ilywydd, darllenodd ei feirniadaeth ar y traethodau ar y Glo gwobr 2p., 19 yn cystadlu, goreu, W. Williams (Meton), Trehafod. Canu In native worth gwobr 5s., goreu, John Davies, Llantrisant. Beirniadaeth y chwech englyn i'r Gwlaw;" naw i fewn, goreu, Dewi Wyn eto, gwobr 10s. Un parti gystadleuodd ar Mae tri yn well na dau gwobr 12s., ond ni chawsom eu henwau. Cystadleuaeth y Drum and Fife Band yr oedd hon yn ddyddorol iawn, a'r llanciau bychain yn chwareu yn gampus y wobr oedd lp. 10s., tri band yn cystadlu, sef Ferndale, Porth, a Llantrisant; goreu, Llan- trisant, a rhoddodd y llywydd lp. i'r ail or6u, sef Ferndale. Beddargraff i ddiweddar Vicar Llantrisant; gwobr, 5s., 11 yn y gystadleu- aeth, goreu, Carnelian, Pontypridd. Yn awr daeth y brif gystadleuaeth gorawl, gwobr 12p., am ddatganu Rhyfelgan Gwalia" (Emlyn Evans); dau gor, sef C6r yr Efail- isaf, a Chor Llantrisant. Bu cryn ddadl cyn dechreu y gystadleuaeth hon, gan nad oedd cor yr Efailisaf ond wedi dysgu un penill, a gofynai y pwyllgor i'r ddau gael eu canu. Credwn y dylid canu y ddau cyn gwneyd cyf- iawnder a'r gan. Canwyd un gan gor yr Efail, a dau gan gor y Llan. Cor yr Efail farnwyd yn fuddugol, ond oherwydd mai un penill ganasant, ni chawsant ond haner y wobr, a rhoddwyd yr haner arall i gor y Llan. Pasiodd un neu' ddau o fan gystadleuaethau ereill, a chynaliwyd cyngherdd ardderchog yn yr hwyr.
Eisteddfod y Gilfach Goch.:
Eisteddfod y Gilfach Goch. BEIRNIADAETH Y DON. Daeth i law y nifer o saith yn dwyn yr enw- au Paul Priestly, Myfanwy, Disgybl ap Dewi, Shon o'r Glyu, Telynor o St Helena, Dafydd y Gareg Wen, a Madawg Llwyd. Paul Priestly a Myfanwy.—Gallem feddwl mai yr un yw y ddau, y maent yn syrthio ir un amryfusedd. Nid oes yn y rhai hyn un math o ddangoseg eu bod wedi darllen gair ar un gramadeg cerddorol erioed. Y mae eu gwailau y fath, fel o'r braidd nad oes yr un nodyn ganddynt yn ei safle priodol, oad am- bell un a ddigwydd yn eu hanwybodaeth. Y cynghor goreu fedrwn roddi i'r rliai hyn I yw, iddynt astudio ychydig ar gerddoriaeth cyn mentro byth eto i un math o gystadleu- aeth. Disgybl ap Dewi.—Gallem feddwl fod Dewi wedi darllen ychydig ar gsrddoriaeth, ond pur wan yw ei stock er hyny. Y mae yn llawn o'r gwallau [lau ac 8au dilynol. Gwna fyned i hwyl yn yr adran ddiweddaf, gan ei hail adrodd. Cofied fod hyn wedi ei rifo. Cynghoraf ef i ddyfal astudio (00 yn ieuanc), ond os yn hen, cymered y goes. Shon o'r Glyn a Telynor o St. Helena. Yr un darlun sydd yn *nhonau y ddau hyn eto, er y teilynga y rhai hyn lawer o ganmol- iaeth. Gwna y rhai yma gynyg am ddyeithr- wch, ac wrth hyny, syrthiant i ddyryswch aflywodraethus. Y maent yn dra hoff o acci- dental notes heb ddeall am un dyben iddynt. Cynghorem.hwynt i ymdrechu bod yn syml, gallant ddyfod i ryw obaith wed'yn. Dafydd y Gareg Wen.-Nid yw y Dafydd hwn wedi bod mor ffodus i ddyrchafu ei enw a'i hen ragflaenydd o'r Gareg Wen, er hyny, dengys lawer o fan ddyfeisiau. Y mae yn weddol gywir o ran troseddau amlwg, ond eto, ei feiau penaf ydynt unffurfiol, cordiau gweiniaid, yn nghyd a ieuad annghydmarus o'r penill; er hyny, y mae ynddi lawer o bethau canmoladwy. Ymrodded ati. Madawg Uwyd.—Dyma don syml a natur- iol heb fod yn rhy gyffredin. er mai tuedd i'r ochr hyny sydd ynddi, fwy na ddymunem i gael achos digon mawr i'w chanmol; er hyny, credwyf ei bod yn fwy cryne (compact) na'r un o'i chyd-gyfansoddiadau. Y mae iddi gynghanedd nerthol a chyfoethog. yn enwedig y rhau diweddaf. Felly gan mai ton Madawg Llwyd yw y goreu, teg yw dyweyd mai efe bia y wobr felly, rhodder hi iddo.—Ydwyf yn ostynedig, J. CLEDAN WILLIAMS.
Gair o L'erpwL
Gair o L'erpwL GALL y neb a fyno weled ganfod yn eglur fod ysbryd ymddial wedi meddianu y bobl hyny a adnabyddir fel pendefigion y glofeydd. Nid oes dim yn galw am y fflangell mewn ystyr fas- nachol, am nad oes un cyfnewidiad wedi cymer- yd lie yn mhris gwerthiant y glo-ymgais an- nheilwng o ddynoliaeth wareiddiedig mewn gwlad mor uchelfreintiog a Chymru a Lloegr. Mae cyfiawnder yn cael ei fathru o dan draed, a barn ac uniondeb wedi eu cludo ymaith ar gefn y llifeiriant; awgrymwyd am y traha presenol amser yn ol, a gwelsom yr awgrymiad- au mewn argraff y cawsai'r gweithwyr deimlo wedi dyfod o'r adeg oddiamgylch. Gormes wedi rhagarfaethu dialedd yn ngl alonau y meistradoedd Cristionogol, a phan gawsant y cyfleusdra dyma yr ordd fawr i lawr ar ben y truan gorthrymedig gyda nerth dauddyblyg. Ni wiw son am gyfiawnder, mae hyny allan o'r pwnc yn hollol; wedi cae] cyfie i ddial, rhaid gwneyd hyny yn deilwng o urddas y gorthrym- wr, onite ni bydd neb' yn ei adnabod rhagllaw. Mae gwirionedd yn cywilyddio tra yn edrych ar ffug-ystumiau y gormeswr pan yn ceisio gosod ei hun allan o flaen y byd yr hyn nad ydyw yn winoneddol. Bu yn galed ar Israel, ond mae yn galetach lieddyw ar weithwyr Cymi a, a dim gobaith buan am ryddhad o'r caethiwed. Goddef- wn yr ymresymiad fod y glowyr wedi dal yn ystyfnig flynyddoedd yn ol; ond eto, nid yw hyny yn cyfiawnhau y meistri i ormesu yn eithafol o dan ysbryd dial. Mae ymrysonair wedi esgor ar ofidiau fil, a gallesid yn hawdd rhagflaenu y trychinebau gyda phwyll ac ystyr- iaeth briodol. Nid felly bu, a'r canlyniad oedd i'r wlad, mewn ystyr fasnachol, gael ei hyrddio i ganol trobwll o ddyryswch, tlodi, ac angen. Y werin sydd yn dyoddef, felly, mae yn natur- iol meddwl mai y werin a ddylai deimlo y pwys ac ymysgwyd o'r llwch, gan edrych yn mlaen i'r dyfodol am ddyddiau gwell, gan fod yn bwyllog a synwyrol. Pan oedd awelon llwydd- iant yn cyhwfanu dros gyrau ein gwlad, ychydig mewn ystyriaeth a enillodd y gweithiwr yn wir- ioneddol iddo ei hun, am fod marchnad y dillad ir ymborth wedi rhedeg i fyny mor eithafol o uchel, fel nad ellid pwrcasn dim heb dalu crog- bris mawr am dano. Mae milotdd yn teimlo, ond yn methu a chanfod, y bwlch gwaredigol lie y gellir dianc o dlodi a newyn i wlad o lawn- der. Hawdd gweled yr achos o'r gorlawnder, pan oedd haulwen Ilwyddiant yn tywynu, fe redai pawb irr glofeydd a'r melinau haiarn, a phan ddaeth yn bangfa ar fasnach, dyma fwy na haner y boblogaeth yn ardaloedd y gweith. feydd heb ddim i'w wneyd, a hwythau yn gorfod dyoddef y canlyniadau. Y gofyniad naturiol a gwyd yn awr ydyw beth sydd i'w wneyd o dan yr amgylehiadau ? Mae y strikes wedi methu ag ateb dyben, oblegyd mae y gwersi a ddysgwyd trwyddynt yn argrafedig ar galonau y miloedd, fel na ddiflana yn fuan, am ei fod wedi ysgrifenu megys a phin o haiarn yn y graig. Mae ffug-deimladau rhai o awdurdod- au y glofeydd yn amlygiad eglur nad oes dim ond huaanles yn gorphwys ar feddwl y cyfryw hyny ag sydd wedi caniatau i gadw yn ol yn swyddfa y gwaith gyfran o gyflogau y glowyr er cyiaorthwyo strikes mewn lleoedd ereill. Gall y difeddwl a'r anystyriol edrych ar y fath weith- red fel peth daionus ond os chwiliwn y mater i'r gwraidd, ni gawn rywbeth duach ei liw nac uniondeb yn y dyfnder. Mae y cyfryw ym- ddygiad yn arddangosiad digon trylwyr fod y sawl a'u cefnoga am lyncu y cyfan ynddo ei hun, fel y pysgodyn hwnw a elwir y pike, yn llyncu Ktitn bysgod y llynoedd a'r afonydd. Gellid dweyd llawer yn y cyfeiriad hwn, ond rhaid tewi am y tro hwn, gan addaw i mi fy hun y mwyn- [ had o wneyd tylwadau pellach ar y mater. YMEUDIAETH wedi adfywio ychydig yr wyth. nosau aeth heibio, lluaws o Gymru Amerean- aidd yn myned yn ol wedi bod ar ymweliad a dyffrynoedd Gwalia. Hwyliodd y City of Brussels dydd Iau, Mehefin 21ain, ac ar y bwrdd luaws o Gymry o Dde a Gogledd. yn eu plith yr oedd R. W. Jones (Cymro Clot Aber- honddu, a dywedai wrthyf ei fod yn meddwl cyfarfod a'i gyfaill Mabonwyson, er cael ei gwmni yn groes i'r Werydd ond yn hyn caf- odd ei siomi yn fawr. Yr oedd y Parch. J. W. Lewis, gweinidog y Bedyddwyr yn Victoria, Mynwy, ar y bwrdd, yn myned am dro i Wlad y Gorllewin er mwyn ei iechyd yn benaf. MAE sibrwd yn y gwynt fod tebygolrwydd y sefydlir trefedigaeth Uymreig yn Texas, a bod I y wlad yn ateb y Cymry fel cenedl braidd. yn well na un parth yn y gorllewin, ac eithrio glanau y Tawelfor. Dyma Ie i'r werin Gymreig i fwrw i mewn a'u holl nerth, a chael iddynt eu hunain gartrefi dedwydd mewn gwlad orlawn o bob mwynderau ag sydd yn ofynol ar ddyn ac anifail Gan y bydd dirprwywr Cymreig yn cymeryd y pwnc mewn Uaw yn fuan, odid na chawn gan hwnw bob manylion am y wlad yn amaethyddol a mwnawl. MEWN llythyr o'r Amerig deallwyf fod Parson Price wedi agor ysgol yn Efrog Newydd, ac ymsefydlu yno fel athraw cerddorol. Mae digon o'r go-aliead Yanciaidd ynddo, fel y bydd yn debyg o Iwyddo, a gobeithio y llwydda fel y byddo un Cymro arall yn esgyn i enwogrwydd. Gan ei fod yn Ddemocrat eithafol, goreu yn y byd iddo fydd gadael politics yn llonydd, os nad yw am redeg dros yr un llinell ar Aneurin Fardd, trwy fod yn wahanol i'r mwyafrif o Gymry America, y rhai sydd gan mwyaf o honynt yn Werinwyr. BWRIADA y Parch. Wm. Parry, Nortonville, Califfornia, draddodi darlithiau ar y dalaeth hono yma a thraw ar hyd Cymru. Mae ganddo saith mlynedd o brofiad yn y wlad, a gall ddweyd llawer am a welodd ar ei deithiau. BYDD Golygydd y Drych yn debyg o ym- weled a'r Deheudir i ddarlithio cyn y dychwelo i'r Amerig. Mae efe wedi byw yn y wlad er ys tri deg o tlynyddoedd.-Yr eiddoch, CYMRO GWYLLT.
Gohebiaeth o America.
Gohebiaeth o America. St. Clair, Pa., Meh. 8. Dydd Iau, yr 21ain cyfisol, a fydd yn ddiwrnod a hir gofir yn y cylchoedd hyn. Yn ngharchar Pottsville, rhwng deg y boreu a thri y prydnawn, bydd chwech llofrudd yn cael eu crogi. Yn yr un dydd, ar yr un amser, crogir pedwar arall yn Munch Chunk, swydd Carbon. Mae y deg yn Follie Ma- guires, yn medda y cymeriadau gwaethaf. Mae Gwyddel arall o'r enw Lanahan i oddef y gosp yn Wilkesbarre, ond nid y w ef wedi ei brofi yn Follie, er mai am ladd y mae yntau yn y ddalfa. Donahue oedd enw y gwr a laddodd Morgan Powell, ger Summit Hill, tua chwech mlynedd yn ol. Yr oedd Powell ynfoss-o d;Lll y cwmpeini mawr, fel y dywedir. Ar ei ffordd adref un noson pan yn dywell a neb ganddo, saethodd Donahue ef, a bu farw yn mhen ychydig oriau. Ni ddaeth neb i wybod dim am y llofrudd, er gwneyd ym- chwil manwl gan y cwmpeini ac ereill, hyd yn ddiweddar. Cyffesodd y llofrudd ei hun mai efe gyflawnodd y weithred. Ond wedi lladd Powell, darfu John P. Jones (Cymro arall) gael ei swydd, a thyna fu ei dynged yntau. Kelly a Doyle a'u lladdodd yn mis Medi, 187&. Y mae Kelly wedi gwneyd llwyr gyffesiad o'r cwbl, gyda dweyd nad oedd yn cyffesu gyda golwg ar gael yr un drugaredd, ond ei fod yn haeddu cael ei grogi am yr erchyllwaith. Dywedai ei fod yn perthyn i gymdeithas y Mollie Maguires -fod ei lot ef wedi disgyn i ladd Jones—ac fod yn rhaid iddo ufuddhau i'r body masters, yn ol rheol y gymdeitnas. Campbell oedd enw y body master oedd ger Summit Hill. Dyma y diafol a dynodd y cynllun i ladl Jones. Y r oedd Campell yn cadw tafarn ac yn ei dy ef y dodwyd y pylor, y bwledi, a'r llaw-ddrylliau. Munley, Carrol, MacGehan, Boyle, Koarity, a Duffy sydd yn y carchar yn Pottsville. Munley, yn nghyd a phedwar arall, a laddodd Thomas Sanger a William Unren, pan oedd ynt yn myned tua'r lofa, boreu dydd Mer- cher, Medi laf, 1815. Yr oedd Sanger yn boss yn Raven Run, gerbron Mahonoy City, a dygwyddodd Unren fod yn ei gyfeillach y boreu hwnw, a saethwyd ef rhag y buasai yn ol llaw yn gallu rhoddi cynorthwy i ddal y rhai lofruddiasant Sanger. Carrol,. McGehan, Boyle, Roarity, a Duffy a lofruddiasant Heddgeidwad Yost yn Tama- qua. ltyw dro, i an oedd Duffy wedi meddwi ac yn afreolus cymerodd Yost ef i'r lock-up, a bu yno y dydd a rhan o'r noson ganlynol. Ar ol hyny yr oedd Duffy yn mynwesu y dig- ofaini mwyaf at Yost, ac yn gwylio mantais i ymddial arno. Carrol oedd y body master yn y rhan hono o'r wlad, ac yn ei westdy ef yr oedd y Mollies yn ymgynull, Un noson cvnvgiodd Duffy ddeg doler am ladd Yost. Ymgymerodd McGehan, a Roarity ar gor- chwyl dieflig, a thalwyd yr arian. Tua 12 o'r gloch y noson ganlynol yr oedd y weithred i gael ei chyflaWni. Daeth amryw o honynt yn nghyd y noson hono, a rhwng naw a deg o'r gloch daeth galwad ar Roarity fyned tua thref am fod ei wraig yn glaf. Yn ei absen- cideb aeth Boyle yn ei Ie. Ar amser penodol o'r nos yr oedd Yost yn arfer diffodd y street lamps yn Tamaqua, a phan yn diffodd y ktmp olaf, yn ymyl ei dy ei hun, a'i wraig yn edrych arno drwy y ffenestr, saethwyd ef drwy ei goluddion. Ffodd y llofruddion, ac ni chafwyd o hyd i neb ohonynt nes i Macparlane, y detective, ymuno a'r Mollies, a dysgu eu holl gyirmion, ar camyniaa yw fod°y gymdeithas hyllig wedi ei llwyr ddin- ystrio. Mae pob ymgais wedi ei gwneyd gan berthynasau y carcharorion i arbed eu byw- ydau, ond hyd yn hyn yn ddieffaith. Mae treuliau y gyfraith- wedi costio i'r swydd hon yn mhell dros gan mil o ddoleri. Y mae y genedl Wyddelig wedi cael ei darostwng yn is nag un genedl arall yn y wlad hon, yn neillduol yn y cylchoedd hyn. Hynyma ar y Mollie Maguires y tro hwn. Ar ol yr 21ain o'r mis gellwch ddisgwyl llith arall byddaf yn myned i Pottsville, os byw ac iach y byddaf. TLODI YR A:.ISER. Y farn gyffredin yw na welodd neb byw yr amser mor dloted yn America ag ydyw y dyddiau presenol. 'Gweithfeydd yn sefyll yma a thraw drwy y wlad, a phob math o fasnach heb yr un math o fwyd ac er de- chreuad son am rhyfel rhwng y Tyrciaid a'r Rwsiaid, mae ymborth wedi myned mor uchel fel mae yn anhawdd iawn i lawer teulu i gael yr hyn sydd angenrheidiol i gadw corff ae enaid yn nghyd. Yma, nodaf brisoedd pethan fel maent yn cael eu gwerthu yn bresenol:— Y blawd (can), 11 doler y barrel; yr ymenyn, 24 cents y pwys; caws, 18 cents y pwywj hams, 14 cents y pwys; shoulders, dry sait, 8 cent y pwys lard, 13 cents y pwys pejjS* 8 cent y cwart; beans, 10 cent y cwart; ricp, 8 cent y pwys te, 40 cents i ddoler a haner y pwys coffi, 20 i 42 cents y pwys currants, 10 cents y pwys, raisins, o 8 i 20 cent y pwys; cig ffres, 15 i 18 cents y pwys tatws, doher a haner y bwsel. Mae yn debyg fod yr haint wedi gwneyd y fath ddifrod v flwyddyn ddiweddaf. Mae dillad yn rhad, lied debyg, am fod pobl yn methu en cael. Tai, genir cael ty da o bump i chwech doler y mis. Digon o lo am ddoler wrtli y ty. ENILLION POBL. Mwnwyr (colliers), 20 i 35 o ddoleri y mis; bechgyn 15 i 18 oed, pedwar i bump doler yr wythnos; seiri, doler a 50 cents y dydd; gofiaid a engineers yr un fath. Tair blynedd yn ol, yr oedd y cyfryw yn enill cymaint arall, a'r bwyd yn rhatacli nag y mae yn awr. Pe byddai dynlon yn cael gweithio amser llawn, lied debyg na fyddai cynddrwg ag y mae. Yr wyf yn deall ei bod yn dlaAvd gyd»- chwi hefyd*; ni chynghoraf neb ddyfod i'r wlad hon hyd nes yr adfywia pethau, ond ffirmwyr pe buaswn yn rhyw rith o ffarm- wr yna, ni fuasai dim os am dani. Yr oedc) dau ffarmwr yn siarad a mi dechreu yr wvtb- nos hon, un o ba rai yr ceddv/n yn cydweithio ag ef bymtheg mlynedd yn ol yn ngwaith glo y lie hwn. Tua deng mlynedd yn ol, taraw- odd awydd ynddo i fyned i ffarmio, ac wrth ychydig yuidrech, mae heddyw uwchlaw ei ddigon, fel nad oes eisieu iddo ymostwng i neb. Mae ganddo 25 o wartheg yn cael ea godro bob dydd, a llawer o ddefaid. pump o geffylau, heblaw gvyyddau a ieir sydd bron yn. ddirif. Yn wir, mae arnaf drueni meddwl am fy nghydgenedl fel ffarmwyr yn y wlad yna, yn talu rhentoedd uchel ac yn llabyddio eu hunain drwy y blynyddau, arhoieu Uafnr caled, ïe, caled meddaf, i lien estroniaicfc sydd wedi dyfod i'w gwlad a fy ngwlad inäQo gynt, ond byth mwy i aros. er fy mod yn caro fy Hen Wlad a'r man lle'm magwyd eto i gyd, cariad natur yw. Nid yw yn gariad, fel y dywedir, y ci at y cosyn, ac nid oes dim eisieu i mi hiraethu ar ol y lie na'r wlad. DAMWAIN TYNEWYDD. Yn wir, ni ddarllenais hanes mor ddifrifot erioed o'r blaen. Ni allwn lai na cholli llawer o ddagrau pan yn darllen yr hanes, wrth feddwl fod fy nghydgreaduriaid yn- eigion y ddaear am ddeg diwrnod heb damaidf na goleu, rhwng nenfwd a dwfr. Mae clodl ac arian mawr yn deilliaw i'r gwroniaid a- wnaeth gymaint o ymdrech eu cael allan rly dylasai eu henwau fod wedi eu cerfio mewn- man amhvg i'w gweled am yr oesoedd a ddel. Blm iawn oedd genyf weled fod Happy Dodd, fel y gelwch ef ar y GWLADGAKWR, wedi llosgi, wedi iddo wneyd y fath ymdrech; ac er yr holl frolio am ei d dewrder, yn cael ei adaei yn y fath le i enill ei fara beunyddiol yn y diwedd. Mae eu lluniau ger fy mron yn awr, ac y mae yr olwg ar y tri llanc yn ddewr a phenderfynol; bydd i mi ei fframio, fel y gallwyf ei ddangos- i bawb a ddelo yma. Sicr yw, osfcyw fydd Gwilym, fe ddaw yn ol ir Amerig eto.—Yr eiddoch, St. Clair. T. D. GRIFFITHS. [Yn y Time* am ddydd Gwener diweddaf, yr yr oedd bryslythyr yn hysbysu fod y Mollie. Maguires yn Pottsville, Munch Chunk, a'r llofrudd yn Wilkesbarre, wedi dyoddef cosb eitiiaf y gyfraith dydd Iau di.weddaf.-G &L.)
YSBB YD1 ON (JIVMTA WE.
YSBB YD1 ON (JIVMTA WE. Mr. GOL. ,—Gwelaf fod yn ofynol i mi fod yn gynil wrth ymdrafod a'r giwaid drahaua yma. Dengys hanesiaeth eu gweithredoedd^ mai rhai anhydrin iawn ydynt i ymerlid a. hwynt, os unwaith y cant oruchafiaeth ar yr hwn fyddo yn ymgynyg at hyny. Bu yn gy- .Y fyng annghyfiredin ar saith o feibion Scefa- yn Ephesus, gynt, pan ruthrodd y dyn hwnw oedd a'r ysbryd drwg ynddo arnynt. Gor- Íoowyd hwy i roddi eu traed yn y tir a ffoi am eu bywydau, yn noethion ac archolledig, oherwydd eu rhyfyg i geisio awdurdodi ar yr ysbryd. Sicr yw y bydd i minau i'w chaet fel meibion yr Iuddew, os na fyddaf yn ofalus Felly, gofalaf am wirionedd i fy ysgrifau. Caiff y gwirionedd fod yn darian i mi wrtht fyned yn mlaen, ac yna nid ofnaf leng o hon- yrit. Wedi i mi ysgrifenu o'r blaen. y mae yma barotoadau am ryfel wedi ymdda^gos y mae'r pleidiau gelynol a'u hysbrydoedd mor anhywaeth ag erioed, ac wrthi i'r eithaf yn cryfhau eu rhengoedd, ac yn casglu defnydd- iau rhyfel i iaes y gynafan. Clywais fod yma. bump o amddiffynfeydd cedyrn wedi eu codi o gylch y berllan, a magnelfeydd trymiott arnynt, i'w chadw rhag ymosodiad lluoedd "ysbryd y coed gooseberries. Mae un o- honynt ar y by-if fynedfa sydd yn myned i mewn iddi, a'r llall wrth dalctsn y ty, (cafwytL gryn drafferth wrth godi hon, am fod yma hen gasgen i'w thynu ymaith cyn cael syl- faen.) D\vy arall yn y cwr gogleddol, yn y manau lie yr oedd yr hen gareg fawr a'r prexv cylchau gorwych hwnw yn sefyll. a'r pumed rhwug y coed gerilaw y pistyll. Diau y bydd yma le arswydus y dyddiau nesaf. Ma.e trigolion heddychol y Graig drwyddi yn frawychus wrth edrych yn mlaen ar yr amser na fydd dim i'w glywed ond swn rhuadau y magnelau, a cldecian arfau o bob tvi, nes- merwino clustiau dynion diniwed na dim i'w weled ond colofnau o fwg yn dyrchafu. Addewais fyned at ysbrydion ereill—ceir hyny yn y dy" dol. Mae yma amryw o bob- rhywogaetho h<>nynt, a chant ein sylw yn en tro. Un ysbryd sydd yn hyf iawn trwy y lie- ydyw "ysbryJ benthyca newyddiaduron," ac y mae cyngrair yn ein plith ni sydd yn- dderbynwyr cyson o honynt i lethu yr ysbryd hwn i farwolaeth. Gorfu arnom, wedi ym- ddangosiad Ysbrydion Cwmtawe", fod heb ein papyr ein hunain gan hyny, o hyn allan, gofaled pob un am bapyr iddo ei hun. Mae. llawer eto i'w ddeyd am ysbrydion y Cwnv. hwn.—Yr eiddoch, WIL O'R WENALLT.