Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

• Y RHYFEL.

News
Cite
Share

1 4 IDA • Y RHYFEL. —+.— Newyddion o Gaercystenyn, dyddiedig yr "Sllain cyfisol, a fynegant fod Faik Pasha wedi oi hysbysu o ddynesiad 10,000 o Rwsiaid, ac wedi anfon corff-luoedd o feirch a thraed- filwyr yn eu. herbyn. Gorchfygwyd y Rws- iaid, a ffoisant i Bayazid, yr hon a amgylch- -wyd gan y Tyrciaid. Gan fod Faik Pasha wedi tori ymaith oddiwrthynt bob cyflenwad- au dyBgwylir y bydd iddynt roddi eu hunain fyny. BRWYDR FAWR GER DELIBABA. r350 O'R TYRCIAID YN GARCHARORION, A 1,000. WEDI EU XLADD A'U CLWYFO. Y sgrifena gohebydd y Daily Telegraph o Erzeronm, dydd Mawrth, wythnos i'r. di- weddaf, a dywed fod hanesion wedi cyrhaedd yno fod ymladd poeth wedi cymeryd lie ar hyd yr holl linell Dyrcaidd, ger Delibaba. Ym- ddengys ddarfod i'r traed-filwyr ddynesu yn mlaenaf ac yn cael eu cynorthwyo yn dda, Ilwyddasant i yru y Rwsiaid yn ol gyda cholled fawr o bob ochr. Yn fuan, daeth yr ymladd yn angerddol a gwaedlyd iawn, gan fod adgyfnerthion yn C^el eu dwyn i fyny. Am dymhor, ai y frwydr yn mlaen ar ganolfau, ac ar hyd ddeheuran y llinell Dyrc- aidd. Yn y cyfamser, gwnaeth y Rwsiaid ymdrech egniol o'i hadran dde, a Ilwyddasant i gymeryd i fvny safle, yr hon a roddai i'w magnelau fantais dros yr holl linell Dyrcaidd. O'r uchelfeydd, yr oedd y milwyr Muscovaidct -yn agor croes-dan dychrynllyd, yr hyn a gadwai yn ol ysgogiadau eu gwrthwynebwyr, gan fygwth arnynt golledion mawrion. Wedi i'r Tyrciaid gadarnhau eu magnel- feydd, Ilwyddasant i gadw i fyny danio brwd, a chymerodd brwydr gyflegrol fawr Ie. Tra yr oedd hyn yn myned yn mlaen, gwnaeth y Rwsiaid ymosodiad ar ddwy asgell y Tyrciaid gyda chorff-luoedd mawrion. o feircJi filwyr. Ymwthient yn miaen yn mhob cyfeiriad, er yn agored i dan dinystriol oddi- wrth fagnelau y Tyrciaid. Gorfodwyd y Tyrciaid gilio yn ol i wastadedd Passin. 'Collodd y Tyrciaid 350 yn garcharorion, a thua 1,000 wedi eu lladd a'u elwyfo.' Diang- odd y Cad. Kemball, trwy gyflymdra ei f^rch. gwnaeth y Cossaciaid ymdrech galed i'w ddal, gan y credent fod swyddog Seisnig yn eu llywyddu. Y mae Mukhtar Pasha eto niewn cyflwr peryglus yn Khorem Duzee. Y mae y Tyrciaid yn dra ffyddiog, a dywedant yr ymladdant frwydr derfynol lie y gwersyll- ant yn awr. <JETOESIAD Y DANUBE GAN Y RWS. IAID. [BRAILA, Meh. 22.—Neithiwr croesodd3000 o'? Rwsiaid y Danube o Galatz. Aeth y Cos- -aaciaid, eu gynau, a'u ceffylau, yn groes ar pydfadau wedi eu gwneyd yn y fath fodd fel ag i'w hamddiffyn rhag tan y gelyn tra aesai y troedfilwyr mewn badau. Wedi Eio ni chymerasant yr heol gyda gian y ube, ond aethant rhag eu blaen yn union iua'r canolbarth tu cefn i'r bryniau, a chy- merasant feddiant o'r uchelfeydd uwch Matchin wedi brwydr ystyfnig gyda r Bashi Bazouks, yr hon a barhaodd o doriad gwawr hyd y prydnawn. Golygir y cymerant Matchin yn ddioed. PARIS, Meh. 23.—Derbyniwyd pellebryn yma heddyw o Ibraila, dyddiedig, ddoe, yn ■hysbysu fod 6000 o Rwsiaid wedi croesi y Danube o Galatz. TANBELENI RUTSCHUK. RTJSTCHUK, Nos Sul.-Mae brwydr yn myned yn mlaen yn awr rhwng amddiffyn- feydd y lie hwn a'r rhai ar yr ochr arall i'r Danube. Mae y Rwsiaid yn parhau i dan- beleni y dref hon, ac y mae y dinystr yn ofnadwy. Disgynodd tanbelen yn y car- '>char, a lladdwyd dau o'r carcharorion. Mae preswylfeydd y consuls Prydeinig, German- ;aidd, a Belgaidd, wedi eu taro gan beleni o'r magnelau Rwsaidd. MATCHIN YN NWYLAW Y RWSIAID. BRAILA, Nos Sadwrn.—Mae y Rwsiaid wedi croesi y Danube, ac wedi cymeryd meddiant o Matchin. Yr oedd y Tyrciaid 'wedi cilio. Maent wedi cilio i gyfeiriad Medislje, a gellir dweyd fod gogleddbarth y Dobrudscha yn rhydd oddiwrth filwyr Twrci. 'CJredir na fydd. iddynt wrthsefyll y gelyn tu yma i Silistria. SHUMLA, Meh. 25ain.-Mae y Rwsiaid yn parhau i groesi y Danube. Mae 8,000 o honynt wedi croesi i'r Dobrudscha, gerllaw Matchin. BUCHAREST, Meh. 26ain.—Y mae y Rws- iaid wedi meddianu Hirsova, ar ochr dde- lieuol y Danube, yr hwn sydd le o gryn bwys. ♦

Tan mawr yn St. Johns, New…

MERTHYR.

Y RHYFEL

Advertising