Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

"Llais o G-ymru Wyllt."

News
Cite
Share

"Llais o G-ymru Wyllt." Fe anfonwyd llythyr oddiwrth un o astud- wyr Exeter College, Rhydychain, at Punch, gan apelio at ddarlun digrif a ymddangosodd yn ei rifyn tua phythefnos yn ol; a haera nad oedd naw o bob deg o Gymry wedi gwel'd ceninen erioed, a llawer 11 ai wedi ei bwyta. Rhyw Gymro digrif ydyw 1" Cymricus," ynte ? Fel mae siwgr i'r tô, felly mae'r geninen i gawl y Cymro, a pha un wedi ei fagu yn Nghymru sydd heb leicio caid 1 Feallai mai un o bob deg. Pe bai "Cymricus" ond dygwydd bod yn y Forth, Cwm Rhondda, ar Ddydd Gwyl Dewi Sant diweddaf, cawsai weled y geninen raor werdd. ac erioed yn cael ei gwisgo gan fechgyn Fife <b Drum Band ysgol y Bwrud. Yr ydym yn ddigon boddlon i Punch gael tipyn o ddifyrwch ar ein expense; ond eto, penderfyned pob Cymro "gwaed coch cyfan ddweyd gyda'r bardd :— Pob parch i ereill, ni waeth pwy, Ond ceisiwn ar ein hvnt Wneycl Cymru 'foryn'n llawer mwy Nag ydoedd Cymru gynt; 'Nawr, gyda'n gilydd, canwn gerdd, A phenill gyda'r tant: A gwisgwn fyth Geninen Werdd Ar ddydd Gwyl Dewi Sant.

.1. Anrhydedd i Gymro.

GWYL FLYNYDDOL YR HEN FRYTH-ONIAID…

BARGOED.

GLYN EBBWY.

Y TON, YSTRAD DYFODWG.

Nodion o'r Deri.

Bwrdd Ysgol Aberdar.

!Bwrdd Ysgol Merthyr. 1-1

AT Y BEIRPD.

[No title]

FY M \M YN WEDDW.

Y LLYSFAM DDA.

Helyntion yr Alltwen.

[No title]

DOWLAIS.

ABERDAR.

RHYMNI.

TROEDYRHIW.

BLAENRHONDDA.