Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
[No title]
wneyd fy nyledswydd yn onest a gwyneb- agored o iiaeti y byd. Rhaid ymwrthod yn hollol a chynhyrfwyr cyn y dygir trefn ar y wlad, a chael pethau i redeg yn wastad fel cynt, cyn dyfod o'r chwyldroad i gylchoedd masnach y gwledydd. TIN. English f. 0, b. London or Liverpool. Per Cwt. Common Blocks and Ingots. 74s. to 75s. Common Bars (in barrels) 75s. 76s. Foreign in Warehouse, London. Australian (Fine) 70s. to 70s. 6d. Banea 74s. to 75s. Billiton 72s. „ 73s. Straits (Fine). 71s. „ 72s. IRON. Welch f.o.b. Per Ton. £ s. d. £ s. d. Bars (in Wales) 6 0 0 to 6 5 0 Bars (in London) 6 15 0 „ 7 10 0 Staffordshire f. o. 7). .4 Bars (in London) 7 15 0 „ 8 10 0 Nail Rods, do. 7 15 0 „ 8 5 0 Hoops do. 8 10 0 „ 9 10 0 Sheets do. 9 10 0 ,,11 10 0 [In Liverpool about 5s. less.] TIN PLATES. Per Box. Charcoal I C (f: o. b. London). 23s. to 26s. Coke I C ditto 18s. „ 22s. [In Liverpool 6d. less.] GLANIAD MYNYDDOG. Glaniodd Mr. a Mrs. Mynyddog o gylch deg o'r gloch bore heddyw (dydd LInn), Mawrth 12fed. Mae efe wedi gwaelu yn ei iechyd yn annghyffredin, fel nad all y cyfeill- ion yn Nghymru wneyd yn well na gadael llonydd iddo i orphwys am fis neu ddau o leiaf, wedi y cyrhaeddo gartref i Bron y Gan. Mae yr anhwyldeb wedi ei wneyd yn gwbl ddinerth, a chymer amser hir i ddyfod ato ei hun. Edrycha Mrs. Davies braidd yn well na phan ymadawsant o Gymru. Awgryma fod ganddo lawer i'w ddweyd trwy y wasg, wedi ymgryfbau ychydig; am hyny, caffed lonyddwch nes dyfod ohono fel cynt. CYMRO GWYLLT.
DABLLENFA A LLYFBGELL RYDD…
DABLLENFA A LLYFBGELL RYDD I ABERDAR. MR. GOL. -Mae pwnc y Ddarllenfa a'r Llyfrgell Rydd gynygiedig wedi dyfod yn .Y fater ag sydd yn lied debyg o orphwys am ychydig dymor. Cydnabyddwn y doethineb o'r rhesymau sydd yn dadleu fod sefyllfa masnach ar hyn o bryd yn rhy eithafol o dlawd i geisio gwneyd dim er sylweddoli yr amcan, hyd nes caffom fywiocad masnachol. Ond y mae a fynom yn awr a'r personau a wada yr angenrheidrwydd o eisieu y sefydliad. Mae sylwadau blaenorol un fel Y. fi wedi bod yn foddion i gael cynyrch meddyliol caboledig un o'n dynion mawr cyhoeddus o Heolyfelin i ymddangos ar dudalenau eich cydwythnosolyii. Y maent yn bwysig, os ystyrir eu gwerth yn ol eu hyd, a'r amser y bu yn eu llunio; hwyrach y ca bodau o'm bath i lawer o oleuni ar y pwnc, os llwydda Mr. Prosser i solvo ei broblem athronyddol yn hapus yn y diwedd. Hwyrach fod y rhan fwyaf interesting yn y parhad." Yr wythnos nesaf, addawn wneycl sylw ar ei eiddo yn gyflawn, os cyrhaedda y terfyn ni mewn pryd. Camsynied o'i eiddo oedd dweyd ein bod yn excited, na bod un gair a ysgrifen- wyd yn "gwyrdroi y gwirionbdd," &c. Caiff y cyhoedd fantais i farnu hyny eto. Braidd y teimlwn fod ymarhousedd Mr. Prosser yn •gyfrjw ag sydd yn deilwng o ddyn profiadol i ddadletl mater cyhoeddus, Yn ol ein barn ostyttgedig, ystyriwn mai dyledswydd Mr. Prosser oedd ateb trwy gyf- rwng y GwLADGARWR byddai yn dangos cysondeb a mantais i'r rhai sydd a thuedd ynddynt i ddiiyn ein syniadau dros ac yn erbyri y mudiad, a barnu ar y terfyn. Mae amryw ereill wedi arfer dwyn eu cynyrchion i'r golwec trwy yr un cyfrwng. Bydaed i'r gohehydd o'r Arsyllfa gyfeirio ei fagnel mawr at John v Gof a Tretlidalwr. Gwn y gwna. gynawnder a'n gosodiadau hwy 11 _yfia heb lawer o seremoni.—Yr eiddoch, H. WILLIAMS.
CYNGHERDDAU "SAMSON."
CYNGHERDDAU "SAMSON." Mewn atebiad i ymholiadau cyfeillion o wahanol ardaloedd, dymunwyf hysbysu y bydd dau berfformiad o U Samson" yn Aber- dar, a dau yn Nghasnewydd. Dechreuir y cyngherdd cyntaf (yn y ddau Ie) am ddau y prydnawn, a'r ail am saith yr hwyr. Hefyd, dydd Gwener y Groglith, bydd trains rheil- ffordd y Great Western yn rhedeg megys y gwnant ar y Sul, ond ni wneir un cyfnewid- iad yn amser trains rheiiffordd y Taff Vale. Caniatewch i mi, yn mhellach, i apelio yn daer at y cyfeillion hyny ydynt wedi derbyn hysbysleni oddiwrthyf, i osod y cyfryw i fyny mewn lleoedd cyhoeddus. Mae tynged yr anturiaeth yn ymddibynu yn gyfursywbl ar gydweithrediad ein cyfeillion a'r cyhoedd; a clian mai anrhydeddu coffaindwi-iaoth y di- weddar Asaph Glan Taf sydd mewn golwg, drwy gynorthwyo i osod maen i nodi ei or- weddfan, teimlwyf yn hyderns y ceir help llaw ac ysgwydd" gan bob cerddor a phob Cymro drwy Went a Morganwg. Ar ran pwyligor y Cor Undebol,—Ydwyf, yr eiddoch, D. RHYS. YM.
- GATE AT DAFYDD 0 WENT.
GATE AT DAFYDD 0 WENT. MR. GOL. ,-Caniatewch i mi trwy gyfrwng eich papyr i ofyn i Dafydd o Went a fydd efe gystal ag anfon ei feirniadaeth ar gyfansodd- iadau Eisteddfod Melin Ifan Ddu i'r GWLAD- GARWR. Clywsais fod ganddo feirniadaeth benigamp a chan nad oeddwn yn bresenol, Byddai hyny yn gymwynas a n-ii yii gystal a IIawer ereill yn ddiamheu. A fydd Dafydd o Went gystal a gwneyd fy nghais, tybsd, neu yr ysgrifenydd, os cyflwynwyd hi i'r pwyligor ? Gan ddisgwyl yn bryderus y caf m. gweled ar fyr, y gorphwys yr eiddoch, YMGEISYCD.
Y WLADFA GYMBEIG.I
Y WLADFA GYMBEIG. I MR. GOL.-Derbyniaisy llythyr a ganlyn boreu 18eg o Chwefror, oddiwrth Mr. Aaron Jenkin, gynt o Merthyr, yr hwn sydd yn y Wladfa er ys 12 mlynedd bellach.—Yr eiddoch, 7, Brecon Rd., Merthyr. JOHN THOMAS. Bwlch y Ddol, Chupat, "Patagonia, Rhag. 3ydd, 1876. "GYFAILL HOFF.— Nid wyf wedi clywed oddiwrthych er ys amser maith, ac yr wyf yn ofni weithiau eich bod wedi marw i'r Wladfa. Nid wyf yn hoffi gweled pleidwyr gwresog y Wladfa yn fudion, ac yn peidio anfon eu cofio atom weithiau. Y mae yn wir fod yr ym- fudiaeth y flwyddyn ddiweddaf wedi bod yn aflwyddianus, trwy fod cynifer wedi dod yma ar flwyddyn mor anffodus. Bu hyny yn siomedigaeth fawr i'w phleidwyr, ac i rai o'r ymfudwyr ddychwelyd a rhoi an air i'r Wladfa. Gallwn feddwl fod hyny wedi peri i chwi a llawer ereill i ddistewi, llaesu eu dwy- law gyda'r Wladfa, a distewi am dro, a gobeithio mai am dro y bydd y distawrwydd hyny. Os ydych yn mhlith gelynion y Wladfa yna, y mae yma gyfeillion calon i chwi, a charem yn ein calon gael llythyr yn awr ac eilwaith oddiwrthych. Mae yma olwg dda iawn eleni, mae llawer o wenith wedi ei hau, a phawb yn gweithio yn brysur, a llawer wedi dechreu dyfrhau yr ail waith, a'r egin yn edrych yn iawn. Yr ydym yn bwriadu o hyn allan i godi yr afon trwy argaeau, fel y gallwn ddyfrhau yn barhaus, yr hyn fydd yn angenrheidiol ei wneyd er ein llwyddiant. Peth graddol iawn yw llwyddiant mewn gwlad newydd, nid mewn un flwyddyn y gellir ei ganfod. Y mae pobl sydd wedi arfer derbyn tal am eu llafur bob wythnos neu bob pythefnos, yn teimlo yn chwitliig pan yn gorfod aros blwyddyn neu ddwy am eu tal oddiwrth eu llafur ac am hyny y maent yn rhoi drygair i'r wlad, gan ddyweyd mai yn ei hoi y mae hi yn myned. Ond nid yw hyny yn rheswm mai yn ei hoi y mae hi yn myned, am eu bod hwy yn methu ei gweled yn myned yn mlaen. Ond, er hyny, llwyddo y mae y Wladfa mor gyflym ac y gellir disgwyl, ac yn gyflymach na nemawr o leoedd newyddion y mae genym hanes am danynt. Y mae llawer o guro ar y Wladfa am na fuasai wedi talu ei dyled. Wel, nid oes ond 12 mlynedd oddiar y gan- wyd hi a'i dyled. Carwn ofyn yn ngwyneb hyn, a ydyw Llywodraeth Prydain Fawr wedi talu ei dyled wladol eto, yr hon sydd wedi cael llawer mwy o amser na'r Wladfa Gymreig sydd ar lan y Gamwy'? Ac os daw hi o hyn i ben deg mlynedd eto i dalu y ddyled sydd ami, gallwn ddyweyd ein bod yn llawer cyfoethocach neu yn onestach beth bynag, na Llywodraeth Shon Tarw. "Y mae y brodyr Lewis Jones, Richard Jones, a minau, yncychwynidaithoarchwil- iad y foru (Rhag. 4ydd) tua'r gorllewin, yr ochr ogleddol i'r afon. Yr ydym yn bwriadu bod oddi cartref am chwe' wythnos neu ddeu- fis. Nid ydym yn gwybod yn sicr faint o amser fydd yn eisiau arnom i gyrhaedd yr amcan sydd genym mewn golwg. Gwnaf anfon adroddiad manwl o'n taith i chwi ar ol dychwelyd; hefyd, gallaf roddi gwell adrodd- iad o lwyddiant y flwyddyn i chwi y pryd hwnw. Yr wvf mewn brys yn ysgrifenu yn nghanol parotoi i'r daith. Yr ydym oil yn iach ac yn byw yn gysurus, gan obeithio eich bod chwithat yr un fath.—Yr eiddoch yn garedig, AARON JENIUN (Nimrod Fychan).
CEUDDORIAETH.
CEUDDORIAETH. MR. GOL. — Yn eich newyddiadur am Chwefror 23ain, gwelsom hanes darlith a draddodwyd mewn cysylltiad a'r testyn uchod gan Alaw Ddu, yn Jerusalem, Ton, Ystrad, gan un a gyfenwa ei hun Tonarfcin. Oybwylla eich gohebydd am gyfres o ddar- lithiau a draddodwyd yn y capel uchod, ond fod y cynulliad yn y ddarlith dan sylw yn fwy llrtosog na'1' rha,i blaenorol, A'r rheswm rydd eich goliebydd am hyny yw, am mai ychydig mewn cydmariaeth sydd yn hoffi llenyddiaeth aruchel a phur. Y casgliad naturiol all y darllenydd dynu oddiwrth y frawddeg uchod yw, nad yw cerddoriaeth ddim yn lenyddiaeth aruchel nac ychwaeth yn bur. Os felly, y mae yn dueddol i lygr.u pawb ac sydd yn gwneyd rhywbeth ohoni, oherwydd tuedd pob peth sydd yn anmhur yw llygru. Yr oeddem ni bob amser yn meddwl fod cerddoriaeth a chaniadaeth yn ganghenau mor bur ac unrhyw ganghen arall I Iz, ac sydd yn perthyn i lenyddiaeth, ond feallai nad oeddem yn meddwl yn gywir. Beth bynag, y mae cerddoriaeth a chaniadaeth yn rhyw emblem o ddedwyddwch, a hyny yn fwy nac unrhyw gangen arall o lenyddiaeth ac mae ein gwybodaeth fach ni yn gwybod am danynt. Ac fe ddichon, mai dyma y rheswm fod y Bibl yn son cymaint 3,111. ganu y teulu dedwydd yn y byd sydd af ol hwn, pan ar yr un un pryd nad yw yn son dim y bydd yno ddarlithio ar feidrolion y ddaear, na phregethu, na gweddio, na son am y lenyddiaeth bur y sonia Tonarian am dani. —Yr eiddoch, HEN GERDDOR.
LLWYDCOED.
LLWYDCOED. Yr ydym yn deall fod Mr. D. R. Williams, Pen-y-yard House, Llwydcoed, wedi ei ben- odi yn b.if oruchwyliwr Glofeydd yr Aber- dare Coal Company, Cwmbach, ger-Aberdar. Teimlwn yn llawen yn nyrchafiad y Cymro a'n cydwladwr i'r swydd aruchel, ac yr ydym yn ei ystyried yn gaffaeliad i'r cwmni a'r gweithwyr gael y fath ddyn sobr a phrofiadol i'w gwasanaethu. Hefyd, deallwn fod Mr. Edward Pugh, mab Mr. William Pugh, un o oruchwylwyr hynaf y Gadlys, wedi ymgymeryd a'r swydd .Y o fesurydd (surveyor) yn ngwasanaeth yr un cwmpeini. Gwr ieuanc syml a gwir fonedd- igaidd ydyw yntau, a theimlwn yn fawr dros I ei lwyddiant ar gychwyniad ei oruchwyliaeth mewn bywyd cymdeithasol.—Ymdeithydd. I
CLYDACH.
CLYDACH. CYFARFOD CYSTADLEUOL HEBRON. — Cy- naliwyd ef dydd Sadwrn, Mawrth 3. Ar- weinydd, Parch. E. Owen. Beirniad y gerddoriaetli, Mr. D. Francis, Treforis. Beirniad y cyfansoddiaclau, y Parch. D. Onllwyn Brace. Wele drefn y dydd :— Adrodd y "Daran;" rhanwyd rhwng J. Bevan, Craigcefnparc, a P. Morgans, Ridings. Y goreu ar y solo Yr eneth ddall" ydoedd W. Morgan (Ehedydd Glan Tawe). Un cor a ganodd Can y plant," sef cor plant Craig- cefnparc, dan arweiniad J. Bevan canasant yn swynol, a chawsant y wobr. Yr oedd cor Calfaria yn rhagori ychydig ar gor Hebron ar Croesholiad," ac enillodd y wobr. Un ferch a gystadleuodd ar adrodd Bedd y dyn tlawd," sef Ann Williams, Craigcefnparc, a gwobrwywyd hi. Yr oedd pedwar yn cy- stadlu ar "Benillion i'r Pharisead a'r Publican rhanwyd y wobr rhwng Perllanog a Lewis Hopkins, Craigcefnparc. J. Jones a'i barti enillodd ar Ti wyddost beth ddy- wed fy nghalon." W. Morgan (Alawydd Glan Tawe) oedd y goreu ar ganu A ninau'r dysgyblion." Am y traethawd goreu ar .Y Ostyngeiddrwydd" yr oedd naw yn tynu am y dorch. Cawsant oil ganmoliaeth uchel, a rhanwyd y wobr rhwng Evan Williams, Castellnedd, a W. S. Powell, Pontardawe. Y brif gystadleuaeth gorawl ydoedd Canys bachgen a aned i ni cor Hebrop, dan ar- weiniad T. Jones, a chor Calfaria, dan ar- weiniad J. Jones, yn cystadlu—yr olaf enill- odd y wobr. Cynaliwyd cyngherdd yn yr hwyr gan rai o'r lie—P. George yn chwareu ar yr harmonium. Yr oedd yr holl weithred- iadau yn llwyddianus hollol, a chaed elw da. Y mae clod yn ddyledus i'r ysgrifenydd, Mr. D. Owen. Gwnaeth ei ran yn gam pus.— Gohebydd.
CAPEL NEWYDD LLANELLI.
CAPEL NEWYDD LLANELLI. Nos Fawrth, y 6ed cyfisol, cynaliwyd cyf- arfod cystadleuol yn y lie uchod. Y mae cor enwog y capel uchod wedi bwriadu cynal cyfres o gyfarfodydd o'r natur hyn, a hwn oedd y cyntaf o'r cyfryw. Ac yn wir, os oedd y cyfarfod hwn yn ernes o'r rhai sydd i ganlyn, gallwn ddweyd yn ddibetrus y bydd- ant yn wir ragorol. Beirniad y canu oedd Mr. D. Williams y farddoniaeth, Gwilym Glan Lliedi; y cyfansoddiadau cerddorol, y cerddor galluog Mr. E. Samuel (Alawydd y De). Agorwyd y cyfarfod drwy anerchiad gan y llywydd, y Parch. T. James, M.A. wedi hyny, cafwyd anerchiadau barddonol gan Ap Calfin ac Ap Elli. Dyma benillion pwrpasol Ap EIli :— Hen sefydliad bur anwylgu, Noddir genym ni y Cymry, Ydyw'r lwysfad ysgol ganu, Enwog yw eu bri; Hen ac l(wane a ymunant Yn y gan, mor fawr y'r mwyniant, Beunydd wrth eu bodd y canant Odlau melus cu. Ninau sydd yn canu Fel ryw ber awenlu, Yma'n N ghapel Newydd gu, Nes synu pawb o'n 'deutu Yn y gftn 'does neb mor hylwydd A chor enwog Capel Newydd, Lledu mae ei glod drwy'r gwledydd, Beiddiaf ddweyd yn hy'. Heno yn ein cystadleuaeth, Ni gawai hufen pur cerddoriaeth, Gyda diliau mel Ilenyddiaeth, A bardcloniaeth fad; Daw i'n cwrdd y glew lenorion, Gyda mintai o gerddorion, A Cheridwen ddaw a'i meibion, Cewri oil heb frad. Fe ddaw Trebor Alaw, Gyda Calfin hylaw, Ac fe do aw G-wilidon gu, I'n cuwyl ni heb gwynaw Glan Lliedi; Williams hylwydd, A'r glew gerddorDe Alawydd, Gyda'r parcbus James ein llywydd, Becligyn goreu'n gwlad. Na foed dim fo'n groes i heddwch Yn ein. cwrdd. ddifwyna'i harddwch, Yna ni gawn yr hyfrydwch Goreu fu erio'd. Yr amryfallanciau gwiwlon, A'r llancesau cudeg mwynion, Pur fydd yma'n bod. Gan yr awenyddiaeth, Llona'r galon bruddgaeth, F'allai try ein cwrdd yn fawl, Drwy lachar wawl peroriaeth; Canu per acenion dwyfol, 0 bur naws yr awen nefol, Er gogoniant lor tragwyddol, 1 Byth a fyddo'n nod. Enillwyd y gwobrwyon gan y personau can- lynol:—sol) treble, Miss Rogers solo tenor, J. Thomas solo alto, J. Edwards, Old Road canu "Alexander," i rhai dros 40 oed, J. Davies; dr-i/llen cerddoriaeth, Trebor Alaw S t elling B.-e Gymreig, W. H. Samuel, West End deui /vd < £ Y gareg ateb," J.Davies a'i gyfaill; triawd "Uchenaid am Gymru," Alaw Wyn a'i gyf y buddugol am gyfansoddi ped- z, 0 war penill i gor Capel Newydd, oedd Ap Elli Trebor Alaw oedd y goreu am gyfansoddi deuawd i ddwy ferch y prif ddarn oedd "Awake, iSolian Lyre," a pharti y Ffwrnes oedd y goreu. Yna daeth un o'r cyfarfodydd goreu ag y buom ynddo erioed i derfyn'iad.— I cl Llengar.
BLAENLLECHAU.
BLAENLLECHAU. CYFLWYNIAD TYSTEB.-Nos Sadwrn, lOfed cyfisol, cynaliwycl cyfarfod lluosog a brwd- frydig yn yr Assembly-hall, yn y lie hwn, i'r dyben o gyflwyno anrheg i Air. W. Williams, overman ar ei fynediad i ymgymeryd ag ar- olygiaeth glofeydd yr Oakwood, Maesteg. Cynwysai yr anrheg anerchiad hardd a phwr- pasol, gyda phwrs yn cynwys jE53 lis. mewn arian. Hefyd, cyflwynwyd teapot arian hardd i Mrs. Williams. Casglwyd yr arian, gan mwyaf, yn mysg y gweithwyr, yr hyn a ddengys ar unwaith y parch a enillodd Mr. Williams yn ei gysylltiad swyddogol, er ei ddyfodiad i'r lie, ryw wyth mlynedd yn ol. Gwasanaethodd Cor y lie, dan arweiniad Eos Taf, yn nghyd a seindorf pres Blaenllechau, ar yr achlysur. Cafwyd hefyd amrywiol o ganeuon gan Eos Wenallt, David Davies, Idris Thomas, yn nghyd a Miss Pritchard. Siaradwyd yn deimladwy ar wahanol ragor- iaethau Mr. Williams gan amryw o'r gweith- wyr, megys John Rowe, David James, a Timothy Davies, a Mri. Meredith a Thomas, arolygwyr, hefyd a siaradasant i'r un pwrpas. Yn ychwanegol at hyn, darllenwyd yr eng- glynion canlynol gan Gwilym Cyrwen :— Wel, wel, rhaid yw ffarwelio—a Williams, Teilwng yw hyn iddo Ah nid oes drefn, nid oes dro A erys yn ddiwyro. Rywsut, tybid, fod tidau-diwahan Yn dyn am Blaenllechau Rhwng Williams, ond, diamau Bu 'gyd yn ddim ond tyb gau. Er hyt), ein cysur heno— ydyw ei fyn'd I fan yr a rhagddo, I le sy' well i lywio, I fri uwch dyrchefir o. Yr awr hon a ro'ir o wir—deimladau Y mil" ydynt gywir Drwy gariad yr agorir Y noson hon, sai' yn hir. William Williams bob amser—adwaenid Yn ei swydd fel gaffer Ond un er hyny'n dyner, Ei enw byth fydd yn ber. Lowyr Maesteg, rai degau—a alwn Felly wrth eich henwau 0 boed, pan lania i'r bau, Agored fron a geiriau. Boed groesawiad canmoladwy—^iddo'n Rhydd ar lan y Llyfnwy Groesaw mawr, le groesaw mwy Felly i'r cyfaill rhag gofwy. Y mae Mr. Williams yn ymadael o'r lie gyda dymuniadau goreu yr holl gymydogaeth ac hyderir y bydd ei dderbyniad gan bobl y Maesteg yn deilwng o'r hyn a enillodd yn ystod ei arosiad yma.—:G. Cyrwen.
[No title]
Dechreuodd y Parch. Mr. Moody ei gyfar- fodydd diwygiadol yn Boston y Saboth olaf yn Ionawr diweddaf, ac yr oedd y Tabernacl yn llawn. Gall 6,000 eistedd yno a bernir fod 10,000 wedi methu cael He. Perthyna i'r -Tabernac1, i gydweithredu gyda Moody 700 i gadw y drysau, 1,000 i gymell pobl i edifar- hau, a 1,500 i ganu. Cynwysa y pwyllgor cyffredinol 15 o aelodau y pwyllgor gwein- yddol 11 o aelodau, a pherthyna saith i bwyllgor ystafell yr ymofynwyr pryderus. Cyfrifir y bydd cyfanswm y gost i gynal y cyfarfodydd diwygiadol hyn yw 250,000 o ddoleri. Y BACHGEN A'l DAID.-Un tro, gofynodd bachgen bychan i'w daid, "Faint yw eich oed chwi, nhaid?" Atebodd yntau, "Yr wyf yn tynu at ddeg a thrigain, Dafydd." "Dear me, meddai Dafydd," yr ydych yn fychan iawn o'ch oed byddaf fi gymaint a'r goeden acw erbyn y byddaf yn eich oedran chwi, os parhaf i dyfu fel yr wyf yn awr." Y BARNWR A'R DADLEUYDD.—"Gellwch dewi pryd y mynoch," meddai Barnwr Gwy- ddelig y dydd o'r blaen wrth y dadleuydd oedd yn gwneyd araeth hir iawn yn y llys "y mae y cwbl yr yr ydych yn ei ddweyd yn yn myned trwy un glust, ac allan drwy y Hall Atebodd y dadleuydd ffraeth, "Nid wyf yn synu dim, oblegid nid oes ond pur ychydig o ddim rhwng eich clustiau i'w atal!"
Advertising
Temperance Hall, Tredegar. ■#YNELIR CYNGHERDD ARDDERCHOG Yn y lie uchod nos IAU, MAWRTH 29ain, 1877, pryd y gwasanaethir gan yr enwogion canlynol MISSES M. A LIZZIE JONES, Brynmawr. MR. DANIEL DAVIES (LLISW MORGANWG), Dowlais. GWILYM CYNON, Aberd&r. Mn. GWILYM THOMAS, P-orth, (gynt o America). CYFEILYDD :—MR. D. BO WEN, Dowlais, (Cyf- eilydd C'or Mawr Llundain.) Mynediacl i mown :—Cadeiriau, 2s.; Blaenseddau, ls.:01sedda.-n,6c. Bydd hwn yn un o'r Cyngherddau goreu a gynal- iwyd yn Nhredegar er's talm. 1526 Eisteddfod Fawreddog Llanwrtyd. Mis AWST, 1877. Prif destyn C&rawl" Then round about the starry throne;" gwobr, lOp. Enwir y Beirniaid yn brydlawn. Bydd y pro- gramme, yn cynwys yr holl fanylion yn barod yn fuan, i'w gael gan yr Ysgrifenydd,— Mr. D. MATHIAS, 2, Irvon Terrace, 1527 Llanwrtyd Wells. Town Hall, Castellnedd. BYDDED hysbysol y cynelir EISTEDDFOD yn NEOADD Y DHKF, GSVENER Y GBOGLITH, 1877.. Testijnwu. I'r cor, heb fod dan 50 mewn rhif, a gano oreu "Clyw, 0 Dduw, fy llefain" (D. Jenkins), gwobr, lOp. I'r parti, heb fod dan 25 mewn rhif, a gano oreu y "Soldier's Chorus," allan o Faust (Gounod);. gwobr, 3p. I'r ferch a gan.o oreu, "Dafydd y Gareg Wen;" gwobr, 5s. I'r hwn a gano oreu, "Mae'n Gymro bytll;" gwobr, 5s. I'r hwn a gano oreu, "In native worth," (Creaton); gwobr, 5s. I'r pedwar a ddarlleno oreu unrhyw don ar y pryd; gwobr, 4s. I'r sawl a adroddo oreu, "Tymhestl ar y mor," (o'r Adroddiadur); gwobr, 5s. I'r sawl* a adroddo oreu, "F'ewyrth William," (o Gt mau'r Adroddwr); gwobr, 5s. Beirniad yr holl destynau-EOS MORLAIS. Cyfarfodydd yr eisteddfod i ddechreu am 11 a 2 o'r gloch. Cynelir CYNGHERDD ardderchog yn yr hwyr, a chymerir rhan ynddo gan Eos MORLAIS a cherdd- orion enwog ereill. Y mae y Programme, yn cynwys yr holl fanylion, yn barod, ac i'w gael drwy y post am ltc. oddiwrth 2 yr ysgrifenydd. EVAN WILLIAMS, 1489 3, Albert Street, Neath. NEWYDD PWYSIG pAR AM: y dyoddefir oddiwrth glefydau e bob math? Am y rheswm nad yw't Bobl yn cymeryd y Feddygims,eth bwrpasol at 3 Doluriau hyny ag y mae y corff yn dyocldef oddi- wrthynt. Felly, dalier sylw,-Pawb sydd yn dyo oddef oddiwrth y Dropsy, yr hyn sydd yn arwydcW crynodeb o ddwfr a gwynt yn ngwahanol bibellara y corff dynol, yr hyn sydd yn gwenwyno y gwaed, a thrwy hyny yn effeithio ar yr Ymenydd, yr Mu.. yr Ysgyfaint, y Cylla, y Galon, yr Arenau, a'r Nerves, i'r fath raddau fel ag i achosi Foen yn y Cefn, yn yr Arenau a'r Perfedd, Diffyg- Dwfr, yr hwn sydd yn dew a chymysglyd, Gwynt yn y cylla a'r perfedd, cramp, cwsg a phoen yn y clun- iau a'r traed, cliwydd yn y traed, y cluniau, yr ymysgaroedd, a'r cylla, ciyiad y galon, diffyg. anadl, peswch, syched, corff-rwymedd, poen yn y pen, gloesiadau, penysgafnder, gwendid, diffyg, archwaeth, oerfel, traed oer, asthma, nerves egwar at yr anhwylderau hyn y mae PATENT Rhag y Gwynt, y Dwfr, a'r Grafel, yn anffaeledig, Ac os cymerir hwynt mewn pryd, fe gynyrch- ant wellhad uniongyrchol. Pan fydd y clefyd' o hir barhad dilyner arnynt am beth amser. Canoedd allant dystiolaethu i effaith neilldu- cry Peleni rhyfedd hyn. Rhai ohonynt a- ddodir yma:— Ciaf o Maes Iago, Pontardawe, a ddywed:- Derbyniais flychaid o'ch Pills hynod, Hughes's Patent Dropsy Bills' dydd LIun diweddaf, ac yr wyf yn eu cymeryd oddiar hyny hyd yn awr (dydd Sadwrn) ac y maent yn gwneuthur lies mawr i mi, mewn cyn lleied o amser.-Phoddes haner dwsin i fy nhad, ac y mae ar yr ychydig hyny yn teimlo- llawer oles. Yroeddwnynachwynoddiwrthboen yn pen ac yn y cefn, gwynt yn y cylla, dim ar- chwaeth, ac yn ami ddiffyg dwfr." Mr, Phillips, Glanmor, Llanelli, wedi bod rhwng pedair a phum mlynedd yn methu cerdded oblegyd y dropsy, chwydd mawr iawn dros yr holl gorff, diffyg mawr ar y dwfr ac ar yr anadl, y galon yn.. curo yn enbyd, yn awr, wedi cymeryd tua. thri> blychaid o Hughes's Patent Dropsy Pills" tuag- at y gwynt, y dwfr. a'r gravel, yn gallu myned oddi amgylch y dref-y chwydd yn llawer llai, yr anadl yn llawer gwell, ac wedi teimlo mwy o lea oddiwrth yr ychydig l'yn na holl foddion y doctor- iaid a gymerais am yr amser maith yr wyf wedi:' bod yn glaf. Yr wyf yn gobeithio y caiff y byd wybod am danynt. Gwellhad hynod SYR,—Yr wyf yn awyddus eich hysbysu fy mod wedi cael llwyr iachad wrth gymeryd eich Pills rhagorol chwi o'r enw "Hughes's Patent Dropsy Pills." Yr oeddem er's amser bellach yn cael fy mlino gan Chwydd yn y Cluniau a'r Ymysgaroedd. Diffyg Dwfr, ac ar yr Anadl, Poen yn y Cefn ac- yn y Pen, y Galon yn Curo yn enbyd rhai gweith- iau, Diffyg Treuliad, a'r gwynt yn fy mlino yn ami, ac er mawr syndod y maent hyd yn hyn wedi. symud ymaith Fits neu Heintiau, y rhai sydd' wedi fy mlino er's blynyddau. Yr oeddym yn eu cael weithiau yn bur ami.—Yn dra diochgar, yd wyf, A. E. JONES, William St., Llanelli. Registered Trade Mark—"Dropsy Pills." Y mae'r Pelenau hyn wedi eu Iiegutro ac yn Patent. Cospir pob dynwarediad. Gofaler cae enw JACOB HUGHES ar Stamps y Llywodraeth. Ar werth mewn Blychau gan holl Chemists y deyrnas am Is. lie., 2s. 9c.. a 4s. 6c., gydtti- Post 2 ls. 2c., 2s. lie,, a 4s. 9c., gan y Patentee- Jacob Hughes, Apothecaries' Hall, Llanelly. London Agents—Barclay & Sons. Sutton, & Co., Sanger, Hovendon, Newbury, Herron, Squire, and Francis; Bristol: Pearce & Co., Warren & Co.; Liverpool: Evans & Co., llaimes & Co., and John Thompson. 1522 Heb Dduw, heb ddim." Cymdeithas Llenyddiaeth Feiblaidd Cwm Rhymni. BYDDED hysbys y GOHIRIR Cyfarfod Cys- -L) tadleuol y Gymdeithas uchod o Ebrill 9fed i Ebrill 30ain. Hefyd. mae y prif ddarn wedi ei newid, gan osod "Then round about the starry throne," yn lie rely bftfa'r hydd," fel sydd ar y programme gwobr, 6p., a cbyfrol o Aberlh Moliant yn y Ûiwym- iad goreu i r Arweinydd. Caniateir i Goran y Plant ganu yn Saesneg neu Gymraeg. Rhocdir gwobrwyon teilwng am Draethodau, Barddoniaeth, Adrodd, Areithio, Darllen, Ateb Cwestiynau, a Chanu. Y Cyfansoddiadau i fod yn llaw y Beirniad erbyn Ebrill 16eg. Yr hon gystadleuwyr ereill i anfon eu ffugenwau i'r Ysgrifenydd erbyn Ebrill 23ain. J' J Llywydd :—Y Parch. D. EVANS, A.C., Pengam. Beirniad y C'O.HM .-—Mr. J. CLEDAN WILLIAMS, Rhymni. Beirniady Cyfansoddiadau, d-c.:—Watcyn Wyn.. Am bob manylion pellach, gwel y programme, yr hwn sydd i'w gael gan yr Ysgrifenydd am gein- iog yr un; trwy y post, ceiniog a dimai. J. D. MORGAN, Ysg., Trelyn, 1525 Maesycwmwr, via Cardiff. AT YMFUDWYRT TO EMIGRANTS. General Agent to all American and Australian Sailing Ships and Steamers. N M. JONES (CYMRO GWYLLT), Passenger Broker, 28, Union-street. Liverpool, Gor. wyliwr i'r Llinellau canlyuol :-Inman Line- Cunard Line, Guion Line, Allan Line, National Line, White Star Line, Dominion Line, State Line, and American Line. Gan fod yr Agerlongau uchod yn liwylio i wa hanol borthladdoedd yn y Talaethau Unedig, a', Tiriogaethau Prydeinig, gall yr ymfudwyr gael y cyfarwyddiadau gofynol drwy anion llythyr i'p cyfeiriad hwn. Caiff pawb a ymddiriedo eu gofaS ddo y sylw manylaf. Cynorthwyir y Cymro gan Mr. JAS. REES, brodor o Merthyr Tydfil. Dymunol gan y Cymro oMu hysbysu$ Cyhoedd fod ganddo y TY GYMBEIG eangaf a mwyaf cyfleus i Deithwyr as Ymfudivyr yn L'erpwl, a'r agosaf i'r Landing Stage.—Cofier y Cyfeiriad, N. M. JONES (CYMRO GWYLLT), 4 28, Union-street, Liverpool. D.S.-Gellir ymholi yn Aberdar a John Jainsv) Crown Hotel.